GWAITH
MERCHED - CEFNDIR
Mae bywydau menywod
wedi newid llawer iawn yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn 1900 doedd
menywod ddim yn cael pleidleisio, roedd mwyafrif y merched di-briod
yn gweithio fel morwynion (yn gwasanaethu / gweini) ar ffermydd
neu mewn tai preifat; ac ar ôl priodi byddent yn gorffen
gweithio am gyflog ac yn aros gartre i fod yn wragedd a mamau
llawn amser. Ond erbyn y flwyddyn 2000 roedd 23 allan o 60 o Aelodau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fenywod, ac roedd gan fenywod
priod a di-briod yr hawl i weithio mewn unrhyw swydd ac i gael
yr un cyflog â dynion. Oherwydd y newidiadau enfawr hyn
mae rhai haneswyr wedi dweud fod ‘chwyldro tawel’
neu ‘y chwyldro hwyaf’ wedi digwydd yn ystod yr ugeinfed
ganrif yng Nghymru.
Yn araf iawn y
digwyddodd y newid. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914-18) cafodd
menywod gyfle i lenwi swyddi dynion, gan ddangos eu bod yn gallu
ymdopi yn ardderchog, ond ar ôl y rhyfel aeth y mwyafrif
ohonynt yn ôl i’w cartrefi i fod yn wragedd a mamau,
neu i wasanaethu / gweini fel morwynion ty neu fferm. Byddai’r
gwaith yn drwm a threfn gaeth i’r wythnos. I wraig neu forwyn
fferm roedd llawer o waith o gwmpas y buarth, gyda’r godro;
gofalu am yr ieir a’r moch a helpu allan yn y caeau adeg
cynhaeaf gwair neu yd.
Yn 11 oed byddai rhai merched yn sefyll arholiad y ‘scholarship’
i fynd ymlaen i’r ysgol ramadeg leol. Ond pe baen nhw yn
methu, neu ddim yn ei sefyll oherwydd nad oedd y modd gan y teulu
i dalu am addysg bellach, byddent yn fynych (tan 1944) yn aros
ymlaen yn yr ysgol gynradd tan eu bod yn 14 oed ac yn dysgu coginio
a gwnïo i’w paratoi i fod yn wragedd ty a morwynion
da.
Rhwng y ddau ryfel
ac wedi 1945, i’r rhai oedd eisiau gyrfa, doedd dim llawer
o swyddi ar agor i fenywod. Y prif gyfleoedd oedd mynd i nyrsio;
dysgu (yn athrawon babanod a chynradd yn bennaf); gweithio mewn
swyddfa fel clerc neu ysgrifenyddes; mewn siop neu ar y farchnad.
Mae’n ddiddorol a phwysig i sylwi mai swyddi ym maes gofal
a ystyrid yn addas i ferched ac mai yn anaml iawn y cai menyw
gyfle i ddringo i swydd uwch, fel bod yn feddyg, yn brifathrawes
neu yn rheolwr swyddfa neu siop, er fod sawl un ohonynt yn berchen
siop.
Yna torrodd yr
Ail Ryfel Byd allan (1939-45) ac roedd yn rhaid i bob menyw a
allai wneud hynny helpu’r ‘ymdrech ryfel’. Unwaith
eto ymunodd menywod â’r Fyddin Dir, y lluoedd arfog,
gweithient yn y ffatrïoedd arfau, aent yn nyrsys, i weithio
gyda’r Groes Goch ac i helpu ar y bysys ac mewn sawl swydd
arall. Cawsant gyfle i ennill cyflogau reit dda, i ddangos eu
gallu a’u sgiliau ac i fwynhau cymdeithasu ac ehangu gorwelion.
Wedi i’r
rhyfel ddod i ben yr oedd hen ddiwydiannau trymion traddodiadol
Cymru, glo a dur, yn colli’u gafael a diwydiannau ysgafn
yn cynhyrchu pob math o offer trydanol a nwyddau pryn yn cymryd
eu lle. Credid fod menywod yn dda am ymdopi â swyddi undonog
a gwaith shifft mewn ffatrïoedd mawrion fel Hoover (Merthyr
Tudful) , Hotpoint (Llandudno) a Bear Brand yn y Bala. Cafodd
menywod gyfle i fod yn annibynnol ac yn raddol, erbyn yr wythdegau,
daethant i lenwi swyddi uwch ac i fynnu cyflogau cyfartal â
dynion am yr un gwaith a hawliau llawn yn y gweithle.