Doedd dim dwr yn rhedeg yn llawer iawn o gartrefi Cymru (yn enwedig yn y wlad) tan wedi’r Ail Ryfel Byd, a hyd yn oed tan ddechrau’r chwedegau. Golygai hynny fod yn rhaid cario dwr o bistyll, ffynnon neu bwmp yn y pentre er mwyn sicrhau digon o ddwr i olchi dillad, i lanhau’r ty, i ymolch y corff a’r gwallt ac i olchi llestri a choginio.

Yn wir yr oedd cario dwr yn llafurwaith caled, ac yn aml gwaith un o ferched y teulu fyddai nôl y dwr cyn neu ar ôl yr ysgol. Byddent yn casglu dwr glaw mewn casgenni ac roedd hwn yn ddigon glân ar gyfer golchi dillad ond nid i’w yfed nac i goginio. Doedd dim bathrwm, bath na chawod yn y rhan fwyaf o dai ychwaith ac felly unwaith yr wythnos, ar nos Sadwrn ar gyfer y Sul, gan amla, y byddai plant yn cael bath a golchi’u gwallt.

Mae’r llun hwn yn dangos gwraig yn cario dwr yn ardal Hendy-gwyn, Sir Gaerfyrddin tua 1920.

Disgrifia Megan Roberts o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, ei bywyd yn blentyn tua 1938. Roedd ei rhieni yn berchen siop ac felly roedd ganddynt dy mawr o frics coch a gafodd ei adeiladu gan ei thad a’i thaid. Eto, er bod bathrwm yn y ty, doedd dim dwr poeth na thy bach ganddyn nhw. Doedd dim trydan yn ei chartref tan 1956.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.