Cyn yr Ail Ryfel
Byd doedd dim cinio ysgol yn cael ei baratoi ar gyfer y disgyblion.
Byddent naill ai yn mynd adre i ginio neu yn dod â phecyn
o fara a chaws, a the oer i’w boethi ar stôf lo yr
ysgol. Ond yn y pedwardegau dechreuwyd cyflogi staff cegin i baratoi
ciniawau poeth i’r plant i gyd. Byddent yn prynu’r
cig a’r llysiau yn lleol ac yn coginio popeth eu hunain
mewn ceginau ysgol newydd sbon.
Talai’r plant am y cinio ddechrau’r wythnos. Menywod
fyddai yn gwneud y gwaith hwn bob amser a daeth y swydd hon, a
swyddi tebyg yn coginio a glanhau mewn ysbytai, gwestai a chartrefi
plant a henoed, i gymryd lle gwaith y forwyn yn gweini neu wasanaethu'
slawer dydd.
Mae’r
wraig hon yn paratoi cinio blasus i blant mewn ysgol yng Nghroesoswallt,
ar y ffin â Chymru, tua 1954.
Gwrandewch
ar Ray Samson yn disgrifio ei gwaith fel cogyddes yn ysgol gynradd
Tegryn, Penfro. Dechreuodd weithio yn 1960 a bu yno am 25 mlynedd.