Yn sicr roedd dilyn gyrfa fel athrawes mewn ysgol gynradd, yn enwedig i ddysgu babanod, yn hynod o boblogaidd ymysg menywod ifainc yng Nghymru gydol yr ugeinfed ganrif. Byddai merched galluog yn sefyll arholiadau Lefel A ac yna yn mynd ymlaen i un o golegau hyfforddi enwog Cymru (Y Normal a’r Santes Fair ym Mangor; Cartrefle, Wrecsam; Y Barri; Abertawe a’r Drindod, Caerfyrddin wedi 1957) i hyfforddi i fod yn athrawon. Roedd disgyblaeth yn y colegau hyn yn llym a’r merched yn cael eu trin fel plant yn aml, ond eto roedd llawer o hwyl wrth gymdeithasu â chyfoedion ifainc.

Ar ôl cwrs dwy flynedd roedd yn rhaid chwilio am swydd a llifodd cannoedd o Gymry i Loegr i weithio. Roedd statws arbennig i athrawon yn y gymdeithas yng Nghymru. Tan 1944, yn aml, byddai’n rhaid i fenywod ymddiswyddo pe baent yn priodi.

Dyma Deilwen Jones, athrawes fabanod yn Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog a rhan o’i dosbarth tua 1956.

Mary Charles o Bont-henri, Sir Gaerfyrddin, sy’n dweud ei hanes yma. Mae’n sôn am fod yn athrawes plant bach yn union wedi’r rhyfel. Yn 1946 aeth i weithio i Birmingham a dychwelodd i Bum Heol, Llanelli yn 1951.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.