Os oedd merch
ifanc wedi gwneud yn dda yn yr ysgol ond ddim eisiau, neu ddim
yn gallu fforddio, mynd ymlaen i hyfforddi fel nyrs neu i goleg
neu brifysgol, byddai sawl un yn dewis mynd i ysgol fasnach breifat
neu i goleg technegol i ddysgu llaw-fer a theipio. Byddai’r
sgiliau hynny yn ei chymhwyso i fod yn ysgrifenyddes neu yn glerc
mewn swyddfa.
Ar y dechrau gwneud te a rhedeg negeseuon fyddai gwaith ysgrifenyddes
fach newydd, ond gallai weithio ei hun i fyny i fod yn ysgrifenyddes
bersonol mewn cwmni neu sefydliad. Dyn fyddai rheolwr y swyddfa
bron bob amser.
Darlun
o swyddfa yn Hufenfa Meirion, ger y Bala, tua 1953 sydd yma.
Yn y darn
hwn mae Morfudd Evans, Bodffordd, Ynys Môn, yn disgrifio
gweithio yn y swyddfa yn chwarel gerrig y pentre. Dechreuodd yno
yn 17 mlwydd oed, bu’n gweithio yno am 6 mlynedd a gadawodd
yn 1950 i briodi. Dim ond dynion oedd yn gweithio yno nes cafwyd
merch arall i’w helpu. Gwrandewch arni yn siarad.