Mae golchi a sychu dillad wedi newid llawer yn ystod yr ugeinfed ganrif. Er bod y peiriant golchi dillad wedi’i ddyfeisio ers 1910, dim ond yn y 1950-60au y daethant yn gyffredin yng nghartrefi Cymru. Cyn hynny dydd Llun oedd diwrnod golchi a byddai’n rhaid cario a berwi dwr (Thema 2) a defnyddio sgrwber, sebon bloc a bliw (lliw glas) i gael dillad gwyn yn glaerwyn.

I gael y dwr o’r dilledyn cai ei roi trwy’r mangl , offer â roleri mawr pren, a ddefnyddid hefyd i arbed smwddio dillad wedi iddynt sychu. Rhoddai rhai menywod eu dillad allan i sychu ar y llwyni, ond lein hir wedi’i threfnu yn daclus oedd gan y mwyafrif. Pan fyddai’n wlyb tasg anodd oedd sychu’r dillad.

Eira Taylor o Feddgelert (1950) a Mary Llywelyn o Login (1970) sy yma yn rhoi dillad ar y lein.

Gwrandewch ar Rhydwen James o Gwm Tawe a Valerie James o Frynaman yn disgrifio sut y byddai eu mamau yn golchi dillad yn y pedwardegau, cyn bod ganddynt beiriant golchi.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.