Roedd mynd yn
nyrs yn uchelgais gan lawer o ferched ifainc rhwng 1920 –1960
ac fe’i cyfrifid yn swydd barchus iawn. Roedd yn rhaid bod
yn 18 oed i ddechrau hyfforddi a chymerai dair blynedd i hyfforddi
yn SRN – State Registered Nurse (nyrs wedi’i chofrestru
gan y wladwriaeth) cyn mynd ymlaen i fod yn chwaer (sister) ar
ward mewn ysbyty, neu i weithio allan yn y gymuned fel nyrs ardal
neu fydwraig.
Proffesiwn i ferched oedd nyrsio tan ddiwedd yr ugeinfed ganrif
a doedd dim llawer o ferched yn mynd ymlaen i fod yn feddygon
nac yn llawfeddygon tan tua’r 1960au ymlaen. Daeth newid
mawr ym myd iechyd pan gafwyd Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ym
1948. Nawr roedd llawer mwy o bobl yn mynd i mewn i ysbytai i
gael eu trin a menywod i gael eu babanod.
Mae’r
llun hwn yn dangos ward yn ysbyty Casgwent tua 1952.
Gwrandewch
yn ofalus ar Ann Roberts yn sôn am hyfforddi i fod yn nyrs
ym Mangor tua 1941. Cafodd ei geni yn Llanwddyn, Powys ac mae’n
byw yn awr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn yr ysgol uwchradd gofynnodd
y prifathro iddi ystyried mynd yn feddyg ond doedd hi ddim wedi
astudio Cemeg, felly aeth yn nyrs. Roedd wedi gobeithio mynd ymlaen
i fod yn ymwelydd iechyd ond priododd yn 24 mlwydd oed a dim ond
gweithio rhan amser wnaeth hi wedyn.