Roedd
gan bob un o’r menywod a holwyd ddigon i’w ddweud
am eu profiadau addysgol. Er bod dyddiau’r ysgol gynradd
ar y cyfan yn dwyn atgofion hapus i’r helyw, yr oedd islais
o feirniadaeth fod yr addysg a gawsent wedi bod mor Seisn-ig ei
naws a’i gynnwys, bod y cosbi yn gallu bod yn llym a bod
disgwyliadau ac uchelgeisiau merched o reidrwydd bron yn isel.
Roedd diwrnod y scholarship, ac wedi Deddf Addysg 1944 yr 11+,
yn ddiwrnod tyngedfennol yn eu hanes bron yn ddieithriad. Tystiodd
sawl un, â hiraeth yn eu lleisiau, na chawsant na chynnig
na chyfle i sefyll yr arholiad bwysig hon ac felly fod eu dewis
o yrfa, gartre ar y fferm, yn gweini /gwasanaethu neu yn gweithio
mewn siop, yn hynod o gyfyng. Oherwydd diffygion yn y system addysg
droeon methodd sawl siaradwraig arall yr arholiad a’i thynghedu
i aros ymlaen yn yr ysgol gynradd tan yn 14 oed neu fynychu ysgol
ganolraddol. Yno cai ei thrwytho mewn pynciau ‘benywaidd’
fel coginio, golchi a gwyddor ty a’i pharatoi i fod yn wraig
a mam yn hytrach na dinesydd cyflawn. Wedi 1944 i’r Ysgolion
Eilradd Modern yr ai’r garfan hon a theimlo’r stigma
o’r gwahaniaethu rhyngddynt a’u cyfoedion.
O basio’r scholarship neu’r 11+ agorai drysau’r
Ysgolion Sir neu’r Ysgolion Gramadeg ar eu cyfer (os oedd
y teulu’n gallu fforddio’r llyfrau, y dillad a’r
teithio wrth gwrs) a chlywir balchder yn y lleisiau wrth iddynt
ddisgrifio manylder y wisg ysgol, chwerthin am ben y rheolau caeth
ac ymfalchïo yn y cwricwlwm academaidd. Unwaith eto, er hynny,
gresynnant at pa mor Seisnig oedd popeth ac nad oedd anogaeth
i ferched astudio pynciau gwyddonol. Adlewyrchir yn y sgyrsiau
hefyd ddechreuadau ysgolion cyfun a thwf graddol addysg cyfrwng
Cymraeg yn y cyfnod hwn.
Ac wedi pasio’r Senior neu Lefel ‘A’ yn 16 oed,
beth wedyn? Gadael wnai llawer i ddysgu llaw-fer a theipio mewn
coleg technegol neu breifat i’w paratoi ar gyfer gweithio
mewn swyddfa. Ond y ddwy yrfa fwya deniadol, derbyniol a pharchus
i ferch gydol y cyfnod dan sylw oedd hyfforddi yn nyrs neu’n
athrawes gynradd. Cafwyd llu o hanesion am y ddisgyblaeth lem
( a’r hwyl wrth ei herio) a’r gymdeithas ddifyr a
gaent mewn coleg hyfforddi a choleg nyrsio. Yr oedd carfan fechan
ond gynyddol o’r rhai a holwyd wedi mynychu prifysgol neu
goleg meddygol a gwerthfawrogent iddynt gael braint arbennig o’u
cymharu â chynifer o’u cyfoedion o ferched.
Yn y pendraw, er hynny, yn y cyfnod dan sylw, gwir uchelgais waelodol
y mwyafrif oedd cael gweithio yn eu dewis yrfa am rai blynyddoedd
cyn setlo i lawr i briodi a magu teulu.
Yn yr adran hon
cawn rai sylwadau cyffredinol yn gynta ac yna gyfle i droedio
trwy is-themau byd addysg i flasu ehangder ac amrywiaeth y profiadau
a ddaeth i ran ein siaradwyr. GWRANDEWCH
ar eu LLEISIAU ac EDRYCHWCH
ar eu LLUNIAU mewn ysgol a choleg a phrifysgol.
Cyffredinol
:
“
Odd disgwyliade mawr gatre. Odd Mam yn gredwr mawr, chi’n
gwbod, mai’r unig ffordd i ddianc rhag tlodi yw addysg ac
odd ‘i wastod yn pregethu hyn wrthon ni, ‘Allwch chi
golli’ch arian dros nos ond chollwch chi byth mo’ch
addysg’. Ac felly odd hi, am bod hi wedi gorffod gadel yr
ysgol mor ifanc, odd hi’n neud yn siwr bo ni’n cal
addysg. Wedyn odd disgwyliade mawr … Odd tri ohonon ni odd
yn ymladd am y man top yn y class. Os och chi’n dod yn ail
fydde hi’n mynd yn grac. ‘Be ‘nest ti i fynd
yn ail? Pam ot ti ddim yn gynta?’, … odd.”
Jen Davies, Llwynpiod, Ceredigion [Tâp
9782] yn sôn am ei magwraeth yn ardal Llanberis tua 1945.
“Odd
ddim uchelgais i gal i ferched yr adeg honno – yn enwedig
rhywun odd yn byw yn y wlad, heb gyfleusterau teithio nag arall.”
Siaradwraig o gangen Tryweryn, Meirionnydd am y dauddegau. [Tâp
8841]
“… do’n i’m yn licio’r ysgol. Dwi’n
difaru heddiw ’de na faswn i ’di gweithio yn galetach...Mae’n
lot o help, dydi? addysg, dydi? … Oeddach chi â’ch
bryd ar gyrraedd pedair ar ddeg, a ‘na fo – mynd.”
Mai Morris, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd; [Tâp
9335] am y tridegau.
Symudodd Eirlys Peris Davies, Trefdraeth [Tâp
9516] yn bymtheg oed yn 1944 o Lanberis i fyw i Gastell Newydd Emlyn
a sylwodd ar un gwahaniaeth mawr rhwng y ddwy gymdeithas :
“Y gwahanieth
mowr iawn welon ni odd pwysigrwydd chwarelwyr Llanberis i roi
addysg i’w plant. Odd pob chwarelwr eisie rhoi addysg i’w
blant fel na bo fe’n gorffod mynd i’r chwarel. …
Dod lawr wedyn i Gastell Newydd hollol wahanol agwedd –
y ffermwyr eisie i’w plant adel i ddod i helpu ar y ffarm
… ffermwyr yn rhoi dim pwys ar addysg i’w plant.”
CHWILIWCH am yr is-themau canlynol :
1. Yr ysgol gynradd
2. Y ‘scholarship’
3. Aros ymlaen yn yr ysgol gynradd tan yn 14 mlwydd oed.
4. Yr Ysgol Ramadeg
5. Ysgolion eraill
6. Mynd i’r Coleg : Colegau Hyfforddi
7. Mynd i’r Brifysgol
8. Addysg cyfrwng Cymraeg
9. Hyfforddi yn Nyrs