“Fedrach chi ddim mynd yn ddoctor y dyddia rheini heb fod ganddoch chi bwrs go dda...Os oeddan ni isho addysg coleg o’dd rhaid i ni fynd yn athrawon.”
Mary Vaughan Jones, Waunfawr, Arfon [Tâp 8970]



Aeth Avarina M. Edwards, Bronnant, Ceredigion [Tâp 9256] i Brifysgol Aberystwyth tua 1933 gan fanteisio ar y grantiau ar gyfer mynd yn athrawon. Bu’n aros yn Alexandra Hall a oedd yn ddrud iawn. Roedd wedi mwynhau’r profiad a “hefyd och chi’n teimlo ambell waith na ddylech chi ddim mwynhau achos odd ‘ch rhieni yn aberthu i’ch danfon chi ‘na. A wedyn och chi’n … trio neud ‘ch gore oherwydd hynny.” Bu’n astudio Lladin, Saesneg, Cymraeg ac Almaeneg.



Cliciwch yma i wneud yn fwy
 


DARLUN o Ddosbarth Anrhydedd yn y Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1945-6. {trwy garedigrwydd Elinor Imhof, Llanfair Pwllgwyngyll}



Disgrifiodd y Dr Eirwen Gwynn [Tâp 9464] y rhagfarn y daeth hi ar ei draws fel merch yng nghanol dosbarth o 120 o ddynion yn astudio Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor tua 1936 yn fyw iawn o dan y Thema : Gwaith – Dysgu Gwyddoniaeth ar y we-fan hon. Chwiliwch amdano a gwrandewch ar ei hanes.



Swoleg, Botaneg a Chemeg oedd pynciau Elinor Jones-Evans, cangen y Drenewydd [Tâp 9647] ond o Langybi, Ceredigion yn wreiddiol, ym Mhrifysgol Aberystwyth tua 1936 a bu’n lletya yn Carpenter Hall :
“Rheole – ie! on i fod mewn erbyn deg o’r gloch, och chi wedi seino’r llyfyr i weud ble och chi’n mynd a och chi fod dod nôl – oedd rhyw Miss...ar ben y drws yn watsho chi’n dod mewn – gêtio wedyn a chaech chi ddim mynd mas wedyn.”




Yn ôl siaradwraig o Bensarn, Môn a aeth i Goleg Prifysgol Bangor i astudio Cymraeg, Addysg a Llên y Beibl tua 1950 rhyw £100 o grant a gai a hynny i dalu am ei llyfrau a’i llety. ‘Felly, mi odd o’n mynd yn brin weithia’.



Adlewyrcha hanes Mary Wiliam, (née Middleton) cangen bro Radyr [Tâp 9164] ond yn dod o Dredegar, Mynwy, yn wreiddiol, falchder eithriadol ei mam yn ei gyrfa academaidd ganol y pumdegau yn ogystal â’r ffaith ei bod hi yn cael ei hystyried yn wahanol i weddill ei chyd-fyfyrwyr ar y pryd oherwydd ei chefndir ieithyddol. GWRANDEWCH arni’n siarad ag Eirlys Davies:

“Wel wedyn’ny cân fy Mam odd ‘When our Mary goes to Uni,’ a nhad yn gweud ‘You don’t know whether she’ll go yet’ ‘Oh well, when our Mary goes to Uni’. Wedyn dyna odd yr uchelgais a dodd ‘na ddim amheuaeth na fydden i ddim yn mynd.” …
I Goleg Prifysgol Caerdydd yr aeth Mary i astudio’r Gymraeg :
“…odd e’n gyfnod o flodeuo mawr yn ‘n hanes i. Ges i rhyddid am y tro cynta, nid mod i wedi cymryd penrhyddid , ‘nes i ddim, ond odd e’n wych o gyfnod, ysgubol o gyfnod yn ‘y mywyd i. … Nawr yn y flwyddyn gynta on i yna odd Saunders Lewis yna; a ‘Miss Middleton’ a ‘Miss’ hyn ac arall’ a fydde fe yn darllen rhyw gerdd neu rywbeth a wedyn bydde fe’n gweud ‘Beth yw ystyr hwn a hwn ‘te? Rhowch air arall i fi nawr yn lle hwnna.’ Wel dim ond gair Sisneg odd yn dod i ‘mhen i. Dodd gen i ddim gair arall yn Gymraeg. Odd gen i un – on i’n deall y gair yna ond dim ond ‘i gyfieithu e allen i neud nid aralleirio. … I weud y gwir on i’n eitha unigryw ‘na a ges i lot o sylw oherwydd ‘na. Wi’n gweld wrth edrych nôl achos odd yr Athro Gruffydd John Williams, odd ‘i lyged e wastod yn perlo, perlo, a wedyn tase fe’n ‘y ngweld i ar ffordd y coleg fydde fe’n sefyll i siarad a fydde T.J. Morgan yn sefyll i siarad a fydde Handel Morgan yn sefyll i siarad a wedyn fydden i’n mynd nôl i Aberdare Hall ac yn gweud yr holl hyn. ‘Wel pam on nhw’n sefyll i siarad ‘da ti te?’ ‘Wel wi ddim yn gwbod ond ma nhw!’ ‘Wel on nhw ddim yn neud hyn’na ‘da fi.’ A wedyn fe wedodd Gruffydd John ryw ddiwrnod, ‘Wrth gwrs ych chi y drydedd genhedlaeth : y genhedlaeth gynta gafodd yr iaith, yr ail genhedlaeth gollodd hi a wedyn ych chi yn dechre ail-afael’ ac wrth gwrs odd hynny iawn, on’d odd e?”



Athroniaeth oedd dewis bwnc Margarette Hughes, Hendy gwyn [Tâp 9104] yn y brifysgol yng Nghaerdydd tua 1960, cyfnod o newid a chwestiynu hen syniadau fel y gwelwn. Ble felly roedd hi’n aros?

“Aberdare Hall, virgin’s retreat, … Miss Howe oedd y warden ac amser bwyd odd top table i gal … odd e mor Seisnigedd a och chi’n cal ‘ch gwahodd bob hyn a hyn i ishte ‘da nhw – odd dim hawl ‘da chi i godi’ch cyllell a fforc nes bod hi’n codi’i chyllell a fforc! A on nhw’n siarad am bethe fel chamber music a dodd ‘da fi ddim syniad beth odd chamber music! … Ar ddydd Sul odd hawl ‘da chi gal ffrindie, bechgyn miwn amser te. … A och chi’n gorffod bod miwn erbyn deg bob nos ond trwy lwc a bendith odd ffrind ‘da fi o’r Tymbl a ffrind o’r Rhondda, Megan a Mary, a on nhw’n rhannu stafell ar y llawr isa. Wedyn och chi’n gallu dringo dros wal yr ardd a miwn trwy ffenest ‘u stafell nhw. … Ond odd mynd o gatre, chmbod, odd Caerdydd mor bell bryd’ny … Odd hireth mowr arno i. … Byth yn mynd i ddarlithie ch’wel. On ni’n gorffod gwisgo gown i fynd i ddarlith pryn’ny a trwseri tynn, tynn achos chi’n gwbod,oedd e’n gyfnod y beatniks a och chi’n prynu siwmper yn Marks and Spencers – rhai dynion, floppy mawr chmbod, a gwisgo minlliw pinc gole, gole, gole a llawer o golur du ar ‘n llyged ni a lliwio’n gwallte’n ddu. … A odd gramaphone gyda ni yn whare recordie roc ‘n rol a on ni’n dawnsio yn ein peisie ar brynhawn Sul – roc ‘n rol yn wyllt. … a wi’n cofio amser Rag week wedyn wisgon ni lan fel vestal virgins achos bryd ‘ny odd Ben Hur mlân yn y Park Hall sinema a on ni’n sefyll tu fas â tins bach yn casglu at y rag week. A wedyn benderfynon ni, odd hi’n amser y bom, odd y bom yn beth mowr yn ein bywyde ni, a mynd i beinto ffenest Miss Howe gyda gwyngalch – bom! …A odd y bwyd yn aflan! Wi’n cofio ni’n mynd ar streic a pallu byta bwyd ‘na.“



I astudio Cymraeg a cherddoriaeth yr aeth Carys Whelan, Penybont-ar-Ogwr [Tâp 9172] i Brifysgol Aberystwyth yn y chwedegau a chofia’r cymdeithasu :

“On i ddim yn mynd i dafarne ‘chwaith. On i’n mynd ambell waith i dafarn. Y caffes odd bywyd cymdeithasol y myfyrwyr adeg ‘ny ag och chi’n mynd i’r Home i gal paned o goffi. Os odd gyda chi ychydig mwy o arian och chi’n gallu mynd i’r Penguin – odd y coffi ychydig yn ddrutach yn y Penguin. A wedyn ambell waith on ni’n mynd mas i gal rhywbeth i fyta a odd egg, beans and chips yn un o’r caffes yn swllt a thair; so jyst nawr ac yn y man och chi’n gallu ffordo mynd mas i gal swper.”



Cyn mynychu Coleg i Fferyllwyr cynghorwyd siaradwraig o Foelfre , Môn [Tâp 9586] i wneud dwy flynedd fel prentis yn lleol ac felly, wedi astudio Cemeg, Ffiseg a Bioleg at Lefel A, treuliodd gyfnod yn dysgu’i chrefft yn siop ‘Boots’, Caernarfon yn y pumdegau cynnar. Yna cafodd ei derbyn i Goleg Fferyllwyr, Nottingham.
“Fues i’n lwcus ges i grant dda i fynd. … on i’n talu ty lodging allan o’r grant ac on i’n gyrru arian adra at Mam. … Odd nhad wedi rhoi arian i mi brynu llyfra, odd hynny’n golygu llawar ar y pryd. … Ac mi brynish i, choeliwch chi ddim, three piece, … on i ‘di hel arian.”



  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.