Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy

DARLUNIAU i groniclo arwyddocâd y diwrnod mawr :

(i) Cerdyn arholiad – i roi mynediad i sefyll yr ysgoloriaeth yn Llanfachreth, Môn, 1938

(ii) Cerdyn lwc dda at Miss Morfudd Edwards gyda’r neges ‘Pob lwc, a hwyl fawr i chi yn yr
exam. Oddiwrth Betty xxxx’; 1938
{trwy garedigrwydd Morfudd Roberts, Bodffordd, Môn}

(iii) Dosbarth y scholarship, Ysgol y Cyngor, Llanallgo, Môn, 1935

(iv) Adroddiad yn y Clorianydd yn nodi i Mair Williams ddod yn uchaf yn sir Fôn y y scholarship yn 1935.
{trwy garedigrwydd Mair Williams, Marian-glas}



Yn 1918/9 y safodd Margaret A. Griffiths, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin [Tâp 9064] y scholarship i fynd o’r ysgol gynradd bentre enfawr o 600 o blant i Ysgol Ramadeg Rhydaman :

“Odd nhad a mam yn awyddus, on nhw am i ni gal gwell gwaith a pethe na geson nhw – cyfle; on, yn awyddus iawn; merched a bechgyn chmbod, odd dim sôn bod merched yn mynd i briodi a phethe. Odd llawer o ferched itha da yn Pen-y-gros ond gethon nhw ddim cyfle achos odd ‘u rhieni (nhw) ‘n meddwl bydden nhw yn priodi yn gloi.”


 
“Ofn methu am wn i. Ofn fysa’r cwestiynau yn rhai calad ac yn rhai cas ofnadwy, ac ofn methu ateb yr un ohonyn nhw. Oedd hi’n banic a deud y gwir. A disgwyl am gael gwybod be oedd wedi digwydd wedyn ‘de. Y disgwyl hir ‘ma oedd yn beth cas. I wybod oeddach chi ‘di pasio ta oeddach chi ddim.”
Siaradwraig o Fryn-teg, Môn [Tâp 9422] tua 1925.



 
“Nesh i basio, jest pasio, crafu ’lly ’de, a ’sa rhaid talu ’da chi’n gwbod. …a mi odd ’na chwaer arall i mi – oeddan ni’n dwy yn trïo ‘run diwrnod. Odd hi ’di neud yn well, wedyn fedra nhw’m talu i ddwy fynd ’de...Ond don i’m isho mynd chwaith – isho gwnïo oeddwn i.”
Grace Jones, Chwilog, Dwyfor [Tâp 9330] tua 1925.



 
Darlunia siaradwraig o Borthaethwy [Tâp 9636] agwedd ei rhieni tuag at lwyddo yn y scholarship, tua 1925 ;

“Odd Nhad a Mam yn pwysleisio bod rhaid i mi weithio i gael scholarship. Oeddan nhw’n deud ‘Os gei di’r scholarship fydd dim isho i ni dalu a ma hwnna yn mynd i fod yn help mawr’. … Odd o’n bwysig i teulu ni achos doeddan ni’m yn lecio’r syniad o fynd i Central School. Na, odd o’m y peth i blant â dipyn yn ‘u penna fynd i’r Central School.”


 
“Oeddan ni’n bedair o enethod yn y teulu, a’r adeg honno ’da chi’n gweld odd arian yn brin … mi gath dwy ohonan ni fynd i ysgol ramadeg i Bryn’refail...a dwy arall wrth gwrs yn chwilio am waith … ac on i’n un o’r rheini...Ma’n debyg bod ni’n gymryd o yn ran o fywyd, mewn ffordd, ’te. Odd Tada’n cael cyflog digon isal yn y chwaral bryd hynny ’de, ag on i ’di colli fy mam cyn mod i’n bedair oed...Amsar calad, a deud y gwir.”
Siaradwraig o Lanrug, Arfon tua 1927 [Tâp 9320].



 
“Odd rhaid ishte rhywbeth o’r enw scholarship chi’n gweld. … Odd y papure hyn yn dod mas … on ni’n gorffod sgrifennu traethawd, a odd dewis : ‘You write an essay on “The monotony of breakfast dishes” or “Perils of the sea”.’ … Sgrifennes i ar “Perils of the sea”.” … (Doedd hi ddim yn deall y cwestiwn cyntaf!) “ond on i wedi bod ar ryw drip ar y trath gyda trip Ysgol Sul i Ferryside a on i wedi bod gyda mrawd â motobeic ar sands Pendein! … Fe ddath y canlyniade nawr ‘te a’n enw i nawr ar y papur – y Llanelli Star – rhestr o’r plant odd wedi paso chwel … Llanelly Intermediate School for Girls.”
Eunice Iddles, Caerdydd [Tâp 9169] am ei magwraeth yn Felin-foel, Llanelli, tua 1929.



 
“diwrnod mwya ofnadwy ar ‘y mhen i erioed. O! odd isho cerddad i lawr, toedd i ddechra, wedyn ddim yn gwbod sut le oedd yno na dim byd. Ag odd ‘ch meddwl chi’n mynd yn blank, doedd? Oeddach chi methu concentratio ar ddim byd, am wn i. Ag oeddach chi ofn, doeddach, gneud rhwbath yn rong. … Oeddach chi ryw ofn yn ych calon rywsut.”
Ceridwen Hughes, Llandwrog [Tâp 9377], tua 1930-31.



 
“Och chi’n trial arholiad scholarship … ac os och chi’n cal, gwedwch am wn i, tua 70% neu fwy och chi’n cal lle rhad, och chi ddim yn talu fees. Ond gesech chi fynd ‘sech chi wedi cal gwedwch hanner cant. … Och chi’n talu am ‘ch llyfre a talu am y cludiant. Odd y bys yn swllt y dydd … odd popeth yn ddrud a prynu llyfre a dwi’n diolch yn fawr i nhad bod e mor awyddus i ni i gal addysg. … Ceson ni ddysgu ‘Housecraft’ … (yn Ysgol Ramadeg Ardwyn) ac oedd e’n cynnwys gwneud pob math o fwyd. On i’n gorffod coginio pysgod a cig, neud cinio … a dysgu smwddio,golchi dillad a startchio nhw a smwddio – wi’n cofio dysgu smwddio serviette … a dysgu gwinio hefyd.”
Siaradwraig o Dre Taliesin [Tâp 9440] yn 1930.



 
“Nesh i fethu’r tro cynta … Ond nesh i fedru’r ail dro … yn ty ni odd o’n bwysig. ‘Dach chi’n gweld odd y pedwar arall wedi pasio yn syth. … Fysa fo wedi bod yn dipyn o stigma yn ty ni petawn i, y fenga, heb ddilyn camre fy mrodyr a’n chwiorydd i Fethesda. Drw’ lwc, mi nesh i… .”
Dilys Elizabeth Thomas, Betws-y-coed [Tâp 9653], 1938.



 
“Dau beth dwi’n gofio efo’r scholarship ydi bo fi ‘di cael beic am basio … a bo ni wedi cal mynd adra … i ddeud wrth ‘y Mam a Nhad, a gadal ffrind i mi ar ôl yn ‘r ysgol odd ‘di methu … a honno’n crïo.”
Mair Jones, Llanrwst [Tâp 9675] tua 1940.



 
“odd o’n rwbath mawr yn ych bywyd chi – mynd i drïo’r scholarship. Odd Mr Parry, y prifathro wedi deud, ‘Fydd Beti siwr o basio’r scholarship’. A wnaeth Beti ddim, naddo. Odd gin i ofn mynd adra, w’chi. Ofn cywilydd deud mod i wedi methu.”
Siaradwraig o Lanaelhaearn, Dwyfor tua 1939 [Tâp 9424].



 
“ On ni’n cal dod sha thre o’r ysgol i weud bo ni wedi paso, odd y newyddion wedi dod a wi’n cofio on ni’n mynd lan hibo’r Coop a odd pobol y pentre’n gwbod bod y plant yn cal dod sha thre, a on nhw’n llongyfarch chi bo chi wedi paso’r scholarship. A wi’n cofio faint o farcie ges i - 187 mas o dri chant a fi odd top y merched. … On ni’n cal gwisgo (y wisg) mas i ddangos bo chi wedi paso’r scholarship.”
Eurwen Bowen, Pontardawe, [Tâp 8877] yn y pedwardegau.


 
GWRANDEWCH ar Mary Owen, Bronnant, Ceredigion [Tâp 9261] yn sôn am ei phrofiad hi o’r
scholarship, a hithau’n ddisgybl yn ysgol gynradd Gartheli ac ar fin mynd i Ysgol y Sir,
Tregaron, a hynny yng nghanol y rhyfel yn 1942. Sian Lewis sy’n ei holi.

“A dwi’n cofio y diwrnod on i’n trial y scholarship, odd yn rhaid i ni gerdded o Lwyn-groes tair milltir i Langeitho ar fore dydd Sadwrn. A wi’n cofio ‘nhad y nosweth cyn hynny yn neud map i fi, gweud wrtho fi ble on i fod troi i’r dde a troi i’r whith a gofalu bo fi’n cerdded - dachre off am wyth o’r gloch. … Ond on i’n cerdded ar ben ‘n hunan a wi’n cofio yn iawn clywed tsyrns llâth yn cal ‘u bango ar y stands a clywed yr adar bach yn canu. A wi’n cofio mynd heibo lle o’r enw Heatherdene, siop bach fan’ny- odd Maggie a Dan yn arfer ‘i chadw hi. A odd ‘u mhab nhw, pryd odd hyn nawr – hyn yn 1942?- odd ‘u mhab nhw, Dewi, bachan bach ifanc, wedi dachre helpu gyda’r fusnes a odd fan fach gydag e, bron yn ffili siarade Sisneg, odd e wedi cal mynd i’r army a odd e newydd gal ‘i ladd yn Burma. Cofio mynd heibo Heatherdene a’r cwbwl yn dawel iawn.
Cerdded mlân wedi ‘ny i Langeitho wedyn a dath dau grwt i gwrdd â fi wedyn, on nhw ar ‘u beics a naethon ni’n tri martsio mewn i sgwâr Llangeitho at ty Miss Evans yr ysgolfeistres oedd gyda ni, a hi’n mynd â ni wedyn i’r ysgol. Cal cino gyda hi, cal te gyda hi a cerdded adre wedyn.
A wi’n cofio i fi ennill y scholarship Evan Morgan i fynd i Dregaron. Ond rhyw beder punt odd yr ysgoloriaeth pr’ynny a wi’n cofio ‘nhad ar ben y ford yn gweud ‘Wel wi ddim yn gwbod’, wedodd e, ‘Peder punt,’ wedodd e, ‘alla i fagu ti heb hwnna’, wedodd e; ac odd yr un odd wedi dod yn ail – odd e’n fab i wraig weddw a wedodd fel’ny, ‘Wi ddim yn mynd i gymryd arian’, wedodd e, ‘Ma mwy o angen e arni hi.’ A fel’ny fuodd hi.”


 
Soniodd Gret Evans, Cwm Ystradllyn, [Tâp 8978] sut y newidiwyd cwrs ei bywyd gan sefyll y scholarship yn 1943 oherwydd roedd ganddi uchelgais o ran gyrfa :

“Oedd, i fod yn athrawes. Dyna on i wedi’i feddwl cael bod, ond yr amser honno odd rhaid i chi drïo’r scholarship...mi ddaru mi fethu o ‘chydig o farcia...Odd rhaid i chi dalu...wedyn don ’na’m modd i chi fynd. A dyna sut na chefais i fynd, ond dwi ’di bod yn ddigon hapus. On i’n gwybod y byswn i ’di cal mynd tasa’r modd ganddyn nhw.”


 
Yn ysgol Llangoed, Môn, yn ôl un siaradwraig [Tâp 9358] roedd y prifathro, Mr John Lewis, ddechrau’r pedwardegau yn eu paratoi yn drylwyr at sefyll y scholarship :

“mi odd o wrthi hefo bob brawddeg, lot ohono fo yn Sisnag wrth gwrs, ond oeddan ni’n gwbod beth odd subject, predicate, ac yn y blaen. Odd o’n dadansoddi bob brawddeg ac oeddan ni’n gwbod bob peth. Ac wrth gwrs mi odd yr oral arithmetic … yn y bora hefyd yn bwysig. … Odd gynno fo fwrdd du yn llawn o rifa, wedyn oedd o’n pwyntio at ddau ac yn deud wrthon ni am luosogi’r ddau – 5 a 7, minus medda fo – … mental arithmetic yn syth ‘te. … Pymthag oedd yn y dosbarth yn cael trïo’r scholarship ac mi basiodd deuddag ohonan ni. A mi wnath tri wedyn … pasio over age ac mi basiodd y tri odd wedi methu yn y flwyddyn a wedyn oeddan nhw flwyddyn ar ein hôl ni ac mi ethon ni i gyd i’r ysgol yn Biwmaris. “


 
Hyd yn oed yn 1950, yn ôl H. Rowena Millward, Porthcawl [Tâp 9252], taflai’r 11+ ei gysgod dros flynyddoedd olaf yr ysgol gynradd :

“Wi’n cofio’r flwyddyn, odd lle i 112 o blant a odd 250 wedi ishte yn lle … yn y dosbarth le on i dim ond wyth o blant oedd wedi trial yr exam a odd byti 20 yn y dosbarth … Odd yr athrawon, … put down odd hi trw’r amser, … ‘Which is the girl who hasn’t done her homework? You’re taking the place of another child’.


 
“Odd o’n ddiwrnod mawr … ofn methu. Oeddach chi’n ymwybodol adeg hynny bod ych dyfodol chi, er mor ifanc oeddach chi, deg / unarddeg, … yn dibynnu pa ysgol oeddach chi’n mynd.”
Margaret Evans, Llangefni [Tâp 9398] tua 1950.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.