|
|
GWRANDEWCH
ar dystiolaeth Jennie Eirlys Williams, Deiniolen, Arfon [Tâp
9783]
ynglyn â’r diffyg dewis gafodd hi, fel merch, o safbwynt
cael mynd ymlaen â’i haddysg. Mae’n sgwrsio efo
Sharon Owen : “Fuo
fi ddim yn Ysgol Bryn’refail, a dweud y gwir fedran ni ddim
fforddio achos o’dd gin i chwaer oedd newydd fynd yno a mi
oedd yna ddau frawd yn mynd i ddod ar fy ôl i. Oeddan i’n
un o saith o blant, wedyn fedra pawb ddim cal. Ac yr amser hynny,
wel, y merchaid oedd yn bwysig - y dynion oedd yn bwysig, sori.
Y dynion oedd yn bwysig, dim y merchaid achos oedd merchaid i fod
i fynd i watsiad ar ôl y ty, toeddan? A’r dynion i fod
i ennill wrth gwrs ‘te; er mwyn iddyn nhw gael rwbath heblaw
chwaral, fel ma’n deud felly; oeddan nhw’n cael mynd
i’r ysgol yn hawddach
na fasan ni’n cal mynd i mewn wyddoch chi.
Sut oeddach chi’n teimlo am hynna, ‘ta?
Wel, fedra I ddim deud wrthach chi. ’Swn i ’di lecio
cael y cyfla, ond o’n i’n gweld rheswm – fedran
nhw ddim mo’i fforddio fo wrth gwrs ‘te.”
Roedd
presenoldeb plant hyn – yn enwedig ‘bechgyn mawr 14 oed’
yn gallu codi peth braw ar y plant llai. Cofia Nansi Hayes,
cangen Genau’r Glyn, Ceredigion [Tâp 9456] fel y byddent
yn gofalu cadw o ffordd y bois â’u clocs mawr wrth sleidro
ar y rhew ar y banc wrth yr ysgol yn Aber-banc ddiwedd y tridegau.
Arhosodd
Alice Morris, Rhuallt, Alun / Dyfrdwy [Tâp
9174] yn y ‘Church of England School’ Ysgeifiog tan ei
bod yn bedair ar ddeg oed yn y dauddegau hwyr. Saesneg oedd unig iaith
yr ysgol a chaent wersi Arithmetic, Algebra, a hanes brenhinoedd Lloegr,
pwytho, gwau a chrosio. A chai’r merched a’r bechgyn eu
dysgu i arddio.
Darluniodd
Sally Evans, Pontarddulais [Tâp 9144] yn fyw
iawn y golled aruthrol a deimlai am na chawsai fynd ymlaen â’i
haddysg er iddi basio’r scholarship yn ysgol gynradd Felindre
tua 1930. Daeth adre yn llawn afiaith ac yn y gobaith y cai fynd ymlaen
yn athrawes ond dwedodd ei thad wrthi fod gormod o waith iddi gartre
a hithau’r hynaf ond un o unarddeg o blant. Daeth cyfither lawr
i geisio dwyn perswâd ar ei thad ond doedd dim yn tycio. ‘A
ma hwnna ‘da fi … wedi bod yn pwyso arno i trwy’r
amser … cheso i ddim cyfle do fe?’ |