Sefydlu Ysgolion Cymraeg

Ysgol gynradd dan nawdd Urdd Gobaith Cymru yn Aberystwyth oedd y gynta i gynnig addysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig i’w disgyblion, a hynny yn sgil dyfodiad y faciwîs i’r dre yn 1939. GWRANDEWCH ar y brifathrawes gynta Miss Norah Isaac [Tâp 9069] yn disgrifio’r paratoadau tyngedfennol a’r diwrnod cyntaf arloesol hwnnw. Roedd hi newydd dderbyn rhybudd fod ei swydd gydag Urdd Gobaith Cymru wedi’I dileu oherywdd y rhyfel :

“Trideg naw oedd y flwyddyn, a mis Medi dath y rhyfel. Cyn bod y mis wedi dod i ben - on i wedi mynd â popeth lawr nawr i fod yn barod, odd hi’n ofnadw – y milwyr yn Aberystwyth, odd y noddedigion, y faciwîs, o bob man yno – o Lerpwl. A dyma fe (Syr Ifan ab Owen Edwards) yn gofyn i mi ddod draw ar fore Sadwrn i’r swyddfa. ‘Chi’n fodlon? O fedrwn ni ddim gadel i hyn ddigwydd’, medde Syr Ifan, ‘Fydd y Gymraeg yn mynd.’ On nhw nawr wedi llanw’r ysgolion â’r ifaciwîs ‘ma ‘a fydd dim Cymraeg i gael. Ma rhaid i ni ‘i hachub hi’ (A chi’n gweld odd Owen bryd ‘ny yn bump oed) ‘Chi’n fodlon gofalu am y plant nes bo chi’n gorffen ‘ch rhybudd.’ Wel on, wrth gwrs, y rhybudd.
Ond fel on i’n gweud, ‘Dechreuwn ni fore dydd Llun. Wi wedi gofyn i hwn a hwn a geith y plentyn yma a’r plentyn arall.’ Odd dim arian yn y busnes. Ofynnes i ddim beth odd y cyflog ac wrth gwrs yn anffodus ofynnes i ddim a odd pensiwn a ces i ddim pensiwn yn naddo? Ma gwitho dros y Gymraeg i fi wedi costi, mae’n dal i gosti. A ta beth dyma bore dydd Llun … a on i’n meddwl fysen nhw’n dod nawr i stafell fach yn Swyddfa’r Urdd i ddechre, ond on ni ddim yn barod, ac odd Syr Ifan yn llifio bord, trestle table, a odd e’n rhoi Owen i sefyll reit yn ymyl y trestle table i gal gweld faint o’r coese odd ise’u llifio chmbod - a wedyn ‘na’r ddesg fawr gynta. Ac mi ddechreuon ni’r ysgol yn y prynhawn. On ni ddim yn barod yn y bore.
A’r wers gynta, ddylen i fod wedi methu, on i ddim yn gwbod dim byd, es i chware siop ‘da nhw – plant bach. A chi’n gwbod on i mor dwp, on i mor dwp. On i ‘di neud basgedi – odd stapler gyda fi – on i’n meddwl bo fi’n glyfar iawn, on i wedi neud basged i bob plentyn mas o bapur a gwahanol siape o ffrwythe – peren, oren, banana ac yn y blân, a wedyn odd un o’r plant i fod yn siopwr a’r lleill yn dod i brynu. A on nhw’n gofyn am hyn. A wedyn fi odd y siopwr cynta wrth gwrs i ddangos iddyn nhw. ‘Nawr te ma banana yn ddwy a dime, mae’r oren yn geiniog a thri ffyrling’. Meddyliwch amdana i’n gweud pethe fel’na! ‘A nawr faint sy arnoch chi i gyd?’. Wel odd plant bach fel’na – on nhw ddim yn gallu adio – on nhw ddim yn gwbod beth i neud. Ond dyna’r wers gynta.”



I Lon-las Council School yr aeth Ann Rosser, Abertawe [Tâp 8915] adeg y rhyfel a dyma’r ysgol a drowyd yn Ysgol Gymraeg yn 1949. Cofia Trebor Lloyd Evans yn dod i festri’r capel i sôn am ddechrau’r fenter newydd. Ond doedd pawb ddim yn gefnogol a byddai pobl leol –Cymry Cymraeg yn eu plith - yn taflu cerrig at y bysys yn cludo’r plant i’r ysgol newydd oherwydd nad oedden nhw am i’w plant hwy deithio i ysgol arall.
“Cofiwch wi ddim yn credu fod digon o Gymrâg ‘da nhw i fynd i’r ysgol achos odd y rheole ar gyfer ysgol Lon-las yn dynn iawn, iawn; odd rhaid bo chi’n siarad Cymraeg cyn bo chi’n mynd ‘na.”




Ers Deddf Addysg 1944 roedd ymgyrch yn ardal y Rhondda i gael ysgolion Cymraeg, fel y dywed Carys Whelan, y Bontfaen, [Tâp 9172]. Cyn hynny roedd hi a’i brawd a’i chwaer yn mynd i ysgol y Ton. Ond

“roedd ‘nhad ymhlith y bobol hyn oedd yn gweithredu tuag at hyn gyda Kitchener Davies a Emrys Jones a nifer o Gymry’r ardal. Ag mi geson ni ysgol Gymraeg yn Ynys-wen yn 1950 ac on ni’n tri wedyn ymhlith y 36 o ddisgyblion ath ar ddiwrnod cynta’r ysgol yna. … Ond pan es i i’r ysgol Gymraeg dim ond plant odd yn Gymry-Cymraeg odd yn mynd yna; a’r brifathrawes – Olwen Jones o Bontrhydygroes. … odd yr awyrgylch yn yr ysgol Gymraeg mor wahanol achos odd hi fel teulu. Odd hyd yn oed y fenyw odd yn neud bwyd – athrawes y cinio oedd hi - Mrs Ralph.”



Mary Roberts [Tâp 8940] oedd athrawes gyntaf y ffrwd Gymraeg yn Llandeilo yn 1958. Bu ymgyrchu mawr am ysgol gyflawn. Yn 1966 aeth Mary â’r plant allan i weld gorymdaith geir Gwynfor Evans wedi iddo ennill sedd Caerfyrddin dros Blaid Cymru. Roedd cryn ddrwgdeimlad ymhlith y staff ac meddai un wrthi ‘Is there a circus going by?’.
Cliciwch yma i wneud yn fwy

DARLUN o Mary Roberts a’r ffrwd Gymraeg gynta yn Ysgol Llandeilo, haf 1959.
{trwy garedigrwydd Mary Roberts}.



  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.