'Y Llwybr Cul?'
‘Odd capal yn bwysig
iawn i ni. Pwysig iawn, argol oedd. … Oeddan ni’n byw yn
capal jest, doeddan?’
[Megan Morris, Dinorwig]
‘Capel bach, unllawr, ond
– oedd e’n bopeth i ni. On ni’n cal magwrfa fan’ny
– eithriadol. On ni’n byw a bod `na. On ni’n mynd
`na fel `sen ni’n mynd gartre.’
[Valerie James, Brynaman / Caerfyrddin]
‘… Odd rhaid i chi
fynd i’r capal, `doedd? Dyna oedd `ch byw chi `nde? Odd byw yn
dda yn bwysig iawn , doedd? … Yn y cyfnod hwnnw odd pawb yn mynd
wchi, ac os nag oeddach chi’n mynd oeddach chi allan ohoni.’
[Ellen Vaughan Ellis, Y Ffôr]
‘Yn Llanelli - ar nos Sul
gweld y cannodd at gannodd o bobol yn dod mâs o’r capeli
hyn. Odd tua mil yn dod mâs o Seion, capel y diweddar Jubilee
Young; Moreia; Tabernacl – odd y lle’n ddu.’
[Mareth Lewis, Llanelli ar ‘Barclod Ffedog a Brat’, Radio
Cymru – Medi 2002]
Dyna rai dyfyniadau o’r miloedd
a gasglwyd trwy’r Prosiect Hanes Llafar ar
thema’r adran hon – sef dylanwad crefydd a’r capel
ar fywydau menywod oedd
yn siarad Cymraeg yng Nghymru rhwng 1920-60. Fe dystiodd bron bob menyw
a
holwyd fod y capel (neu’r eglwys) wedi chwarae rhan gwbl ganolog
a chreiddiol
yn ei bywyd.
|
|
Ysgol
sul Capel Nasareth, Pontiets c.1954 |
Chwiorydd
Capel Nasareth Pontiets c.1954 |
Mae’r darluniau o
YSGOL SUL CAPEL NASARETH, PONTIETS a CHWIORYDD CAPEL NASARETH, PONTIETS
yn cyfleu peth o’r bwrlwm a fu.
Ond mae tuedd heddiw, â’r cof am y bwrlwm mawr hwnnw yn
graddol bylu, i ystyried mai profiad cul a chaethiwus oedd crefydda
i fenywod `slawer dydd, ac mai ar hyd ‘llwybr cul’ y troedient.
Bydd y cyflwyniad hwn yn cwestiynu dehongliad simplistig o’r fath.
Er
bod pob siaradwraig bron yn tystio i bwysigrwydd y capel roedd
y profiadau’n amrywio yn fawr o siaradwraig i siaradwraig,
o gapel i gapel ac o enwad i enwad. |
|
|
Capel
Rhydwilym, Sir Gaerfyrddin. |
Cofia
Ann John o gangen Beca, Penfro, y tynnu coes ymhlith plant am
y gwahanol enwadau. |
|
|
|
A beth am :
Methodistiaid creulon cas
Mynd i’r capel heb ddim gras
Gosod seti i bobl fawr
Gadael tlodion ar y llawr.
neu : Eglwys, eglwys, penne sofft
Bildo eglwys heb ddim lofft.
[Beryl George, Capel Newydd]
Er ein bod ni wedi holi sawl eglwyswraig
bybyr a chadarn mae’n rhaid cyfaddef fod yr anghydffurfwyr wedi
dominyddu’n harolwg ni. Wedi holi’r cwestiwn pryfoclyd ,
‘Fyddech chi’n dweud fod gwahaniaeth rhwng y rhai oedd yn
mynd i’r capel a’r rhai oedd yn mynd i’r eglwys?’,
fe gawson ni ambell ateb pryfoclyd a dadlennol; fel disgrifiad Doreen
Davies o Langyndeyrn o wraig y ficer: :
‘A chwedyn bydde fe a’i wraig yn dod wedyn bob dwedwch ryw
dri mis i gâl te ar ddydd Mowrth. Odd diwrnode arbennig ‘da
nhw chwel. A odd Mrs Williams shwt lady – diar diar odd hi’n
swanc, real swanc a menyg bach gwyn ar ‘i dwylo hi; a mam wedyn
yn ‘neud te iddyn nhw yn y gegin ore …. odd chauffer ‘da
nhw … a morwn … odd y forwn yn gwisgo ffedog lês a
cap lês ar ei phen… morwn ficrej – odd hi’n
substantial.’
Mae’n ddiddorol nodi hefyd
fod llawer o’r siaradwyr yn dweud nad oedd enwad yn bwysig iddynt
mewn gwirionedd ac mai dilyn arfer teuluol a wnaent wrth fynychu lle
arbennig o addoliad. Prin iawn oedd y siaradwyr hynny , fel Mari Wyn
Jones, y Parc, a deimlai iddi brofi rhyw fath o drobwynt personol yn
ei bywyd wrth wrando ar Doctor Martin Lloyd Jones yn pregethu yng Nghapel
Mawr, y Bala.
Wrth holi, wedyn, pwy oedd y bobl
oedd yn cael eu parchu fwya yn y gymdeithas, deuai’r gweinidog
a’r ficer i’r brig – gyda’r ysgolfeistr –
ac ymhell uwchlaw y sgweier neu’i wraig. Ac yr oedd parch, statws
ac urddas arbennig yn perthyn i wraig gweinidog gan amla – a chai
ei thrin weithiau bron fel petai’n jwg ar seld , gan ddyfynnu
un a gafodd y profiad, Nan Lewis, Nantgaredig :
‘Roedd `na brotocol pendant,
a hefyd roedd `na ofynion pendant i fod yn wraig gweinidog. Yn sicr,
roedd `na ddisgwyliadau bo’ chi’n wahanol. Ac on i’n
ffindio hi’n anodd iawn bo fi wedi mynd o fod yn ‘Nan’
i bawb i ‘Mrs. Lewis’. A fues i’n Mrs. Lewis siwr
o fod am ddeng mlynedd ar hugen.’
Roedd sawl un yn hynod ddiolchgar
am arweiniad gwraig y gweinidog – yn yr Ysgol Sul, gyda’r
chwiorydd; gyda’r ieuenctyd ac yn y blaen. Un agwedd a gafodd
ei phwysleisio droeon yw’r addysg a geid trwy fynychu capel neu
eglwys. Er nad oedd sawl un o’r menywod a holwyd wedi cael fawr
o addysg ffurfiol roeddent yn gwybod eu Beiblau, yn gallu adrodd adnodau,
penodau, salmau, ac emynau ar eu cof - yn cofio sefyll dwy awr o arholiad
Ysgrythurol yn y festri
ac yna’r pleser o lwyddo a chael llyfr Cymraeg fel ‘Teulu
Bach Nantoer’ yn wobr.
Ac roedd y cyfan yn y Gymraeg
orau bosibl – y ddwy elfen – crefydd ac iaith yn annatod
ynghlwm. Yn wir, bu’r capeli Cymraeg a’u gwasanaethau yn
fodd i gadw’r iaith yn fyw mewn dinas fawr fel Abertawe neu dref
dwristaidd fel y Rhyl. Ac i’r rhai y bu’n rhaid iddynt adael
Cymru i weithio yn Lloegr roedd cymdeithas y capel Cymraeg yn lleddfu
peth o’r hiraeth, ac yn gartre croesawgar oddi cartre. Dyma dystiolaeth
Mair Roberts, Dinas, Llyn :
‘Ma’ capel Cymraeg
mewn dinas yn Lloegr yn brofiad bendigedig, ‘de. Bendigedig. ‘Sgen
pobol sy’n byw yng Nghymru ddim syniad … ma’ miloedd
a miloedd o Gymry yn mynd i Loegr … mae ‘na rai sy’n
trafaelio tri-deg o filltiroedd i gapel a tri-deg o filltiroedd nôl
adra wedyn … ma’n nhw’n pasio peth wmbreth o addoldai
Saesneg, ond ma’n nhw isio crefydda yn Gymraeg’
Fe gafwyd llawer o hwyl wrth holi
am nodweddion arbennig y Sul Cymreig – a oedd yn dechrau, wrth
gwrs, ar y nos Sadwrn cynt gyda’r holl baratoadau : golchi’r
pasej; sychu carreg yr aelwyd; cario dwr i’r ty o’r ffynnon;
glanhau ‘sgidiau; crafu tatws a llysiau a choginio’r cig,
‘achos odd y Sul i gadw’r Saboth’. Doedd wiw gwneud
unrhywbeth ar y Sul. ‘Dim ond beth oedd raid’, sef bwydo’r
anifeiliaid a godro, oedd hi ar ffermydd,. Wnai menywod ddim meddwl
am wau , na gwnïo – dim codi siswrn na phwytho botwm hyd
yn oed; a chai plant ddim chwarae allan na chwarae pêl; ond fe
gaen nhw chwarae capel neu angladd. Doedd dim fod chwibanu na darllen
‘sothach’ fel papur newydd ‘chwaith (er y gellid ei
ddarllen e ar ddydd Llun) – dim ond y Beibl neu Drysorfa’r
Plant a hwnnw yn llawn marwnadau i blant a babanod bach.
Eto cofiai siaradwraig
o’r Bala, sut y byddai hi a’i mam yn dianc i orffwys ar
eu gwlâu brynhawn Sul – ymhell o lygad barcud caeth ei nain
– y naill i ddarllen ‘Rainbow’ a’r llall, ‘Woman’s
World’!
Mae’n debyg ei bod yn anodd
iawn i’r faciwîs a ddaeth a’u diwylliant Seisnig a
threfol ’w canlyn i gefn gwlad Cymru adeg yr Ail Ryfel Byd i ddirnad
nac amgyffred natur y Sul Cymreig. Dywed Mair Garnon James hanesyn sy’n
darlunio’r bwlch diwylliannol a fodolai bryd hynny - rhwng y plentyn
o Kent a gwraig grefyddol o Landudoch. Gofynnodd y faciwî yn ddiniwed
ddigon , a hithau’n nos Sadwrn a gwraig y ty wrthi’n prysur
baratoi ar gyfer y Sul, ‘When are you going out?’ A’r
ateb fel bwled i’r tlawd di-glem oedd ‘Out where?’.
Unig WAITH y Sul felly, oedd cerdded
(filltiroedd yn aml) yn ôl ac ymlaen i’r cwrdd dair gwaith,
er y byddai mam yn aros gartre i wneud y cinio yn aml yn y bore. A’r
cinio hwnnw yn un arbennig – yr unig dro y ceid cig ffres ar y
menu mewn wythnos. Ac y mae traddodiad y cinio dydd Sul - yn gig a thatws
a llysiau a grefi yn dal yn fyw heddiw er bod y pwdin reis wedi’i
danseilio mewn llawer cartre bellach. A beth am y jeli, y blancmagne
neu’r tun ffrwythau a’r Ideal neu’r condensed milk
i de dydd Sul fel watsh? Roedd y profiad a ddisgrifia Beryl Hughes.
Rhydypennau yn un gweddol gyffredin hefyd. Yn sicr roedd mynychu’r
ysgol Sul yn addysg ac yn brofiad cymdeithasol-grefyddol holl-bwysig
ym mywydau mwyafrif llethol y rhai a holwyd.
|
|
|
Dosbarth
ysgol sul Capel Newydd y Betws, Rhydaman c.1955 |
|
Rhwng bob cwrdd roedd yn
rhaid newid dillad – rhag difetha’r dillad parch, y dillad
dydd Sul gorau – y got neu’r ‘gostume’, y menyg,
y ‘sgidiau a’r het :
‘Dwi’n cofio sbïo ar wahanol hetia fydda ni –
ew! a phobol efo hetia neis. A ffansïo hwn a ffansïo llall’.
[Beryl Roberts, Trefor]
‘Fysa chi ddim yn meiddio mynd i capal heb ddim het … hyd
yn oed y plant’. [Mair Eluned Price, Chwilog]
a’r merched yn gwisgo fersiynau llai o ffasiynau eu mamau. Efallai
bod edrych o gwmpas ac edmygu’r ffasiynau yn helpu i basio’r
amser mewn oedfa faith. Yn sicr gallai oedfa ymddangos yn hir a diflas
i sawl un o’r siaradwyr pan oeddent yn blant :
‘Odd o’n boring, cofiwch. Odd ‘na ryw bregetha hir,
wchi, yn mynd dros ein pennau ni, ‘de? Oedd, Odd o’n sobor
o boring!’ [Beti Williams, Llangwyllog]
Ond gwyddai sawl un, fel Nan Lewis
o gangen Nantgaredig yn iawn sut i ddifyrru’i hun.
A
dw i’n cofio ‘chmbod mynd i’r capel i Oedfa’r
Nos a gwbod ‘mod i ‘di cysgu ‘mhell cyn bod
y bregeth yn dod a ma hynny’n golygu ‘mod i’n
mynd i’r capel yn gyson ac yn ffyddlon ymhell cyn bo fi’n
saith. A dw i’n cofio pethe fydde’n ni’n neud
yn capel – yn y cyfnod hynny och chi’n gneud llygod
bach mâs o nisied ‘chmbod, whare â llygod bach
ar y set. A wedyn ‘ny, O! cofio wedyn ‘ny bydde Fox
Fur gyda Mama rownd ‘i hysgwydde a whare â ceg y Fox
Fur.
Fydden ni ddim yn cal mynd a losin, ag on i’n berffeth dawel,
dw i’n gwbod bo fi’n berffeth dawel, nid bo fi ddim
yn blentyn bisi, achos on i, ond rhywbeth, och chi’n synhwyro
bo chi i fod yn dawel yn y capel ac os nag och chi’n dawel
och chi’n gwbod mai pinshed gaech chi. [NAN LEWIS, Cangen
Nantgaredig, Sir Gaerfyrddin] |
|
Yna, nos Sul, a’r
diwrnod prysur di-waith yn dirwyn i ben, cofia sawl siaradwraig am fynd
allan am dro yn yr haf. Cerdded yn dyrfa, lan a lawr y prom wnai pwysigion
Aberystwyth; ac yn y gaea – ymgasglu yn deuluoedd o gwmpas y piano
i ganu mewn harmoni.
Er mor gyfyng a chaeth yr oedd y rheolau ynglyn â’r Sul
yn y cyfnod hwn doedd y mwyafrif ddim yn meddwl gwingo yn erbyn y symbylau.
Roedd dylanwad y capel yn llywio
holl weithgareddau’r wythnos; fel y clywn gan Deilwen Jones o
gangen Drefach, Llanelli, ond yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog.
Yn sicr yr oedd yr elfen
berfformio a chystadlu yn gryf a bron bob capel yn cynnal cyrddau cystadleuol
ac eisteddfodau. Ac roedd yn rhaid ymarfer tuag atynt fel yn Eisteddfod
Chwe Chapel Brynaman. At hyn roedd cymryd rhan mewn dramàu, operàu,
cantatas a chyngherddau yn elfennau byw i’r aelodau. Ceid addysg
gerddorol yn ogystal trwy’r dosbarthiadau tonic solffa a llwyddiant
i rai mewn arholiadau.
Er nad oedd cymaint o weithgareddau
wythnosol ar gyfer plant a menywod yr eglwys, roedd cymdeithasau fel
Undeb y Mamau a’r Girls’ Friendly Society yn denu a rhai
capelwyr yn eu mynychu, er eu bod yn cael eu cynnal yn aml yn Saesneg.
At hyn, yr oedd GWYLIAU pwysig yn ystod y flwyddyn. Roedd y te parti
neu’r social adeg y Nadolig yn hynod boblogaidd, ac roedd y TRIP
YSGOL SUL yn uchafbwynt wrth gwrs. Fe barhaodd y trip yn ei fri yn sicr
drwy’r chwedegau ac erys yn atyniad mewn sawl capel hyd yn oed
yn yr unfed ganrif ar hugain.
Roedd y GYMANFA hithau,
adeg y Pasg neu’r Sulgwyn, yn uchafbwynt cymdeithasol –
yn gyfle i arddangos niferoedd a dillad newydd, ac i fartsio yn dalog
â baneri, fel yn ardal Rhydaman.
Un o effeithiau yr holl fwrlwm yma yn y capeli oedd bod plant yn dysgu
cymryd rhan yn gyhoeddus, y merched yn ogystal â’r bechgyn.
Ac yna deuai yn amser i’w derbyn yn aelodau cyflawn o’r
capel, ‘Och chi’n teimlo bo chi wedi tyfu lan rywffordd’
meddai un siaradwraig. Ac roedd y capeli YN cydnabod effaith tyfu lan
– cofia Rachel Thomas o’r Groeslon sut roedd hi yn
edrych ymlaen at fod yn 14 oed er mwyn cael ymuno â’r Gymdeithas
Lenyddol. Y drefn wedyn oedd bod y bechgyn a’r merched yn cael
eu gwahanu ac yn mynd i ddosbarthiadau ar wahân yn yr ysgol Sul,
ac yn y capel byddai’r merched yn suddo nôl i’w seddi
ac yn derbyn fwyfwy y rôl draddodiadol ddisgwyliedig.
Ond er bod y merched a bechgyn hyn ar wahân yn eu dosbarthiadau
ar y Sul, roedd digon o gyfle i bobl ifanc gymysgu, a chwrdd â’i
gilydd, fel y clywn gan siaradwraig o gangen Tryweryn.
Fyddai rhywun ddim yn gor-liwio
petaen ni’n dweud fod yr addoldai bryd hyn yn gweithredu fel ‘marriage
bureaux’. Yn sicr, roedd orielau’r capeli yn fannau cyfleus
iawn i lygadu ambell fachgen golygus, fel y dengys stori Sali Evans
o’r Felindre ger Pontarddulais. Sonia hefyd am yr arfer o fynd
ar y ‘MONKEY PARADE’ wedi oedfa; arfer a elwir mewn rhannau
eraill o Gymru, yn llyfnu, sodli, neu’r ‘bunny run’
yn Nhreforys. Yn achos Sali aeth hi yn ei blaen i briodi ei chymar ar
y ‘monkey parade’.
Yn y Gymru Gymraeg treiddiai’r
gwerthoedd ymneilltuol a ddysgid trwy gymdeithas y capeli trwy holl
ymarweddiad y menywod a holwyd. DISGYBLAETH, DARBODAETH a DEFOSIWN –
dyna dri gair oedd yn crisialu’r gwerthoedd anghydffurfiol hynny.
DEFOSIWN : oherwydd roedd hi’n arfer i ‘gadw dyletswydd’
ar yr aelwyd yn ogystal ag addoli yn y capel; fel y disgrifia Grace
Jones, Chwilog.
Ac mae stori hyfryd gwraig
o Lanfaelog, Môn, yn profi pa mor bwysig y cyfrifid dweud gras
cyn bwyd ‘slawer dydd.
DARBODAETH : roedd bod
yn ddarbodus yn sicr yn rhinwedd Gristnogol, anghydffurfiol amhrisiadwy;
gyda chapeli yn trefnu clwb cynilo mewn ambell ardal, yn ôl disgrifiad
siaradwraig o’r Bala. Ac mae cynilo trwy’r ‘Penny
Bank’ yn dal yn ei fri hyd yn oed heddiw.
Cyfarfod
gweddi ar nos Lun, cyfarfod y plant o’i flaen o, a cyn hynny,
roedd `na bobl yn hel arian, Clwb Cynilo, capeli’n rhedeg
– ma nhw’n dal, dwi’n meddwl, i redeg Clwb Cynilo,
o’dd o’n bwysig yr oes honno, achos dyna sut oedd
bobl yn talu rhenti ac ati bob hanner blwyddyn, roedden nhw’n
hel yr arian, a’r capel yn cadw’r Clwb Cynilo `ma
iddyn nhw, te. Oedd hwnna i gyd ar nos Lun.
[Siaradwraig,
ardal Y Bala] |
|
Ac yna DISGYBLAETH –
yr agwedd fwya dadleuol o ddylanwad y capel a gwerthoedd ymneilltuol.
Dechreuai’r trwytho yn gynnar yn y Band of Hope, lle disgwylid
i blant bach bledio achos dirwest a thyngu llw i fod yn llwyr ymwrthodwyr.
Gwrandewch ar Sara Owen,
Pentre Tafarnyfedw, Llanrwst yn adrodd y llw hwnnw ar ei chof.
Ar y llaw arall i Urdd
yr Eirlys y perthynai Sylwen Davies o ardal y Parc, y Bala:
Oeddan nhw ‘n rhoi lot o bwyslais ar ddirwest, wchi, wedyn oeddach
chi’n pledio bod chi ddim yn mynd i dwtsiad diod gadarn o gwbl,
ac oeddan ni’n canu ryw ganeuon ‘Dwr, Dwr ..’ oeddan
nhw wedi gwneud duw allan o ddirwest. A dw i’n credu bod hynny
wedi gwneud lot o ddrwg
i grefydd … cystal â dweud nad och chi ddim yn Gristion
os nad och chi’n ddirwestol … On i’n teimlo eu bod
nhw wedi gwneud dirwest yn grefydd’.
Does dim rhyfedd fod cymaint o’n siaradwyr yn chwerthin yn hygoelus
pan fydden ni’n gofyn a oedden nhw yn mynd i dafarn o gwbwl pan
oedden nhw’n ifanc ! ‘Byth!’ yw’r ateb bron
bob tro. ‘Fydde merched ddim yn meddwl mynd i dafarn bryd hynny’.
Ond yn sicr yr agwedd fwya dadleuol oll o’r ddisgyblaeth gapelyddol
(achos doedd dim cyfundrefn debyg gan yr eglwys) oedd yr agwedd at ferched
di-briod a gai eu hunain yn feichiog. Pechod oedd hynny a rhaid oedd
cosbi. Mewn seiat, ar g’oedd – o flaen yr aelodau eraill
cai ei thorri mâs / ei diarddel o gymdeithas y capel – ei
gyrru yn llythrennol allan o’r adeilad a’r gymdeithas. A
beth am y tad? – fe gai yntau ei gosbi a’i dorri allan -os
oedd ei enw e’n hysbys wrth gwrs. Disgrifiodd Olwen Owen o Lannerch-y-medd
yr effaith y gallai profiad o’r fath ei gael nid yn unig ar y
ferch oedd wedi tramgwyddo ei hun ond ar ei theulu hefyd.
Weithiau’r gweinidog
fyddai’r pennaf disgyblwr; dro arall blaenor neu ddiacon neu dad
y ferch ei hunan. Soniodd Gwladwen Ann Jones o Abertawe sut y bu’n
rhaid i’w thaid o weinidog dorri ei ferch ei hun allan o seiat
yn Nhreletert, Penfro, am fynd i drwbwl o’r fath. A disgrifiodd
siaradwraig arall sut y byddent hwy yn blant yn sbio i lawr dros y galeri
i weld pa fechgyn neu ferched newydd briodi oedd yn absennol o’r
cwrdd am gyfnod. Yn wir honnodd un siaradwraig fod gwybod am y gosb
gyhoeddus hon yn well dull atal cenhedlu na’r un! Penderfynu aros
i ffwrdd o’r cwrdd o wirfodd wnaeth un siaradwraig a diolch iddi
am fod mor onest a didwyll wrth adrodd ei phrofiad.
Syndod er hynny oedd deall
y cai menywod oedd wedi cael ysgariad eu trin yn yr un modd. Disgrifiodd
Marlis Jones o Fethesda ( bellach o Lanbryn Mair) sut y gwelsai flaenor
ei chapel yn cerdded heibio modryb iddi, a gawsai ysgariad, adeg gwasanaeth
y Cymundeb, heb ei hydnabod a gwrthod y cwpan iddi. Ymateb y fodryb,
a oedd wedi dioddef ymosodiadau corfforol difrifol gan ei gwr cyn ysgaru
oedd codi a gadael y capel cyn y Cymun o hynny allan i arbed embaras.
Does ryfedd na ddychwelodd sawl un o’r pechaduriaid honedig hyn
fyth yn ôl i gymdeithas glos y capel. Ond cai’r mwyafrif
llethol eu derbyn yn ôl mewn cwrdd paratoad ymhen ychydig, a chai’r
digwyddiad anffodus ei roi o’r neilltu – os nad ei anghofio.
Condemnio’r arfer siofinaidd hwn a wnaeth bron pob un o’r
siaradwyr a holwyd a hynny yn ddiflewyn-ar-dafod, gan echrydu rhag y
fath ragrith Anghristionogol a’r ddisygyblaeth lem a barhaodd
hyd at ganol pumdegau’r ugeinfed ganrif. Deilliai rhywfaint o’r
agwedd siofinaidd hon mae’n siwr o’r ffaith nad oedd gan
fenywod rôl ganolog yn ngwasanaethau na gweinyddiad y capeli yr
oeddynt yn aelodau mor werthfawr ohonynt fel y tystia gwraig o Lanrwst.
Eithriad oedd i wraig fod
yn ddiacon neu flaenor tan y gwelwyd prinder dynion yn y pump a’r
chwech degau.
Gweithient yn ddygn yn y cefndir yn paratoi bwyd a gweini teboteidiau
diri o de ** (yn eu bratiau cotwm lliwgar); yn glanhau ‘Ty’r
Arglwydd’** neu yn cynnal ffair, ‘bring and buy’ neu
bazaar ** i glirio dyled a hyrwyddo’r achos.
Eithriadau prin oedd y
menywod hynny a gymerai ran yn gyhoeddus, fel y dengys tystiolaeth Enid
Jones, Caerfyrddin am yr argraff a wnaeth ymweliadau cenhades arni.
Ac ymateb greddfol y diweddar
Mary Beynon Davies o Bwllheli (a changen Aberystwyth) i effaith Diwygiad
1904-05 ar ddull ei mam o weddïo.
Oedd hi’n
grefyddol iawn a dim crefyddol, hynny yw, dwi’n gwybod fod
Iesu Grist a phethe fel `na yn golygu beth wmbreth mwy i mam, te,
achos dwi’n cofio sôn wrth fy mrawd rhyw dro fod e’n
golygu llawer mwy iddi hi nag i ni, ynte… Ag wrth gwrs, roedd
hi’n cymeryd rhan, fel o’n i’n `i alw fo, gweddïo’n
gyhoeddus, a dylanwad y Diwygiad i glywed yn amlwg ar `i gweddïo
hi, chi’n gweld, roedd hi’n gweddïo’n reit
emosiynol, roedd hi’n cael ei chario i ffwrdd efo hwnna, ond
o’n i, am nad oedd mam neb arall yn cymryd rhan yn ein capel
ni – roedd `na ddynes arall ond hen ferch oedd honno –
ac roedd gas gen i fod mam yn gweddïo. [Y diweddar MARY BEYNON
DAVIES, Aberystwyth, g. Pwllheli] |
|
Rhaid cofio wrth gwrs nad
oedd pob un a holwyd yn grefyddol ac ambell un yn anffyddwraig gadarn.
Ond eithriadau prin oedden nhw a’r teimlad cyffredinol oedd fod
rhywbeth mawr wedi, neu yn, mynd i fynd i golli o ddiflaniad y capeli
a’u gwerthoedd unigryw. Mae’n ffasiynol ymysg rhai o haneswyr
Cymru heddiw – nifer ohonynt yn fenywod disglair yn eu meysydd,
yn sosialwyr ac ynghlwm â thraddodiad y de –diwydiannol
i anwybyddu, i ddilorni neu i feirniadu dylanwad pell-gyrhaeddol y capel
ac anghydffurfiaeth yn hanes Cymru ac yn arbennig wrth drafod hanes
menywod. Honnir mai dylanwad negyddol, a oedd yn llesteirio datblygiad,
cyfyngu dewisiadau a gormesu menywod ydoedd.
Ond, ac ar sail yr ymchwil ar gyfer y prosiect hwn mae’n gwbwl
amlwg nad felly yr oedd pethau mewn gwirionedd. Er condemnio’r
arfer o ddiarddel merched diniwed, soniodd yr un wraig am gael ei gormesu
na’i chaethiwo gan ddylanwad y capel a’i gymdeithas.
Iddynt hwy, yn ddios, dyma OES AUR Y CAPELI a phrofiad bythgofiadwy
oedd cael byw yn ei bwrlwm a’i hafiaith.
‘Y capal oedd canolbwynt y gymdeithas … a dyna pam fod y
capeli wedi mynd mor wag, achos does `na ddim angen nhw ‘rwan,
nag oes?, yn yr ystyr gymdeithasol …’ [Brenda Wyn Jones,
Tregarth]
(Y ffaith) ‘ … bod ganddoch chi rywun `da chi’n medru
bwyso arno fo. Ma’ rhaid i chi feddwl bod `na rywun gwell na chi
eich hun, neu `da chi’n unig iawn, dydach?’ [Agnes Edwards,
Blaenau Ffestiniog]