DARLUNIAU 
                o’r ysgol gynradd:
              
              (i) 
                Ysgol Pen-parc, Aberteifi, tua 1930 {trwy garedigrwydd Mag Williams, 
                Aberteifi}
                
                (ii) Tystysgrifau Presenoldeb 
                (a) Ysgol y Cyngor, Nefyn 1925
                (b) Cyngor Sirol Caernarfon 1931
                {y ddau trwy garedigrwydd Nancy Roberts Byrne, Nefyn}
                
                (iii) Parti Cyngerdd – Ysgol yr eglwys, 
                Llanddewi Felffre, Penfro, 1926.
                
                (iv) Ras Whilber, Ysgol yr eglwys, Llanddewi 
                Felffre, Penfro, tua 1930.
                { y ddau trwy garedigrwydd Anna Eynon, Pontarddulais}
              (i) Mynd 
                i’r Ysgol :
              I ysgol yn festri 
                capel Bontuchel yr ai Gwendolen Williams, Glyn 
                Maelor [Tâp 9557] yn y dauddegau, ac yna’n unarddeg 
                oed aeth ymlaen i ysgol newydd yn y Rhewl. GWRANDEWCH 
                ar beth o’i phrofiad wrth iddi sgwrsio efo Morfudd Jones 
                : 
                
                “Wel, be oedd yn digwydd 
                ar ddiwrnod gwlyb?
                Wel oedd raid rhoid – oedd ‘na ddim wellingtons adeg 
                hynny; oedd sgidie mawr a sane gwlan (a sgidie mawr); hefyd oedd 
                gynnon ni frat dros ein ffrogie adeg hynny i fynd i’r ysgol 
                ‘de. …
                
                A beth am ginio ysgol?
                Mynd â cinio efo ni fydden nhw. Ond oeddwn i’n mynd 
                - yn cael cinio mewn ty yn Bontuchal. Wedyn oeddwn i’n cael 
                gofal yn fan’no. …Wedyn pan oeddwn i’n mynd 
                i’r Rhewl oeddwn i’n mynd â cinio efo fi. A 
                don i ddim yn licio bwyd – cinio - wedi bod yn y bag trwy’r 
                dydd. A oeddwn i’n mynd adre a Mam yn deud ‘Wyt ti 
                ddim wedi byta dy ginio i gyd’. A wedyn dyma fi’n 
                dechra mynd â taten ambell i ddiwrnod a rhoid hi’n 
                y popty a rhoid hi amsar chware yn y popty a bydda hi’n 
                barod erbyn amser cinio. Ac mi roedd plant Rhewl wedi cychwyn 
                gneud - dod â taten efo nhw ond fuodd sgwlmistar yn rhoi 
                stop ar – oedd o’n ormod o hogla tatws. (chwerthin) 
                …
                
                Ym mha iaith fyddach chi’n gneud ‘ch gwaith?
                Yn Saesneg. A fyddan ni’n cael dwy wers yn Gymraeg yn y 
                pnawn – pnawn dydd Mawrth a pnawn dydd Gwener dwi’n 
                meddwl – fydden ni’n cael Cymraeg a fydden i’n 
                mynd i rwm yr infants dau bnawn i gal dysgu pwytho a’r bechgyn 
                yn mynd at y sgwlmistar i ddysgu i arlunio a gneud gwaith bechgyn, 
                am wn i. 
                
                A be am eich ffrindie chi? Ym mha iaith oeddach chi’n siarad 
                efo nhw?
                Cymraeg oeddan ni’n chware pan oeddan ni allan.
                A wedyn pryd ddaru chi adael yr ysgol?
                Oeddwn i’n gorffen yn bedair ar ddeg a dod adre i helpio. 
                Dyna beth oedd pawb yn neud adeg hynny, ran fwya ‘blaw rhei 
                oedd yn mynd ymlaen i’r ysgol i Ruthun. A ges i gynnig ond 
                fasa raid i mi aros ar ôl i gal homework ag oedd gynna i 
                ddim isho cerdded adre ar ben yn hun a ddaru mi wrthod.”
              
              
              I ysgol Trawsfynydd ‘â bwyd ar ein cefna’ yr aeth 
              siararwraig o gangen Cemaes, Môn, [Tâp 9364] tua 1918 
              ac os byddent yn gwlychu byddent yn : 
              “cael tynnu 
                ein sana a ballu yn yr ysgol, ac oedd ‘na dana mawr yn yr 
                ysgol a’r gard rownd; a rhoi ‘n petha fel’na 
                rownd y tân. … a gorfod tynnu ffrogia a sychu’r 
                rheini … o flaen y tân. … Ton i ddim yn hoff 
                o’r ysgol. On i’n gofyn bob dydd, ‘Ga i beidio 
                mynd Mam?’” 
              
              
              Roedd Winifred (Gwen) Jones, cangen Melindwr, Ceredigion 
              [Tâp 9434] yn mynychu ysgol gynradd Tregaron yn y dauddegau. 
              Byddai’n cerdded bob bore (o Lwynpiod) gan ddilyn yr afon 
              Teifi – yr holl ffordd; yna tynnu’i wellingtons i ffwrdd 
              a’u gadael yn y clawdd a gwisgo esgidiau o’r bag i fynd 
              i’r ysgol.
              
               
              
              
              Cof o fod ag ofn y ‘whipper in’ yn gweiddi ar ei rhieni 
              am ei bod hi wedi colli diwrnod o ysgol Gwernogle sy gan Lizzie 
              Ann Davies, Peniel, Caerfyrddin [Tâp 8900] yn y dauddegau. 
              Byddai’n ‘rhedeg i gwato i’r ty’ yn ei hofn.
              
               
              
              
              DARLUN ysgol o 1923 – pedair chwaer o ardal Llanrug 
              - Amy, Diana, Eirlys ac Enid yn cael tynnu’u llun ar iard 
              ysgol Bryn Eryr, Llanrug. Eu hoedran oedd 6,7,8,a 9 mlwydd oed. 
               
               
                
              
               
                
              “Aem ein 
                pedair i Bryn Eryr, oedd yn golygu cerdded i fyny’r allt, 
                gwaith ryw 5-10 munud. Fe glywid y gloch oedd ar do’r ysgol 
                yn canu. … ysgol fechan, dwy ystafell eang, a mwy nag un 
                dosbarth ynddynt. Nid oedd na chadair na desg ar ein cyfer. Eisteddem 
                ar risiau â llechen las ar ein glin i allu ysgrifennu efo’r 
                garreg nâdd. Yn y gaeaf byddai tanllwyth o dân glo 
                i gynhesu’r ystafell. Os oedd rhai o’r plant yn dod 
                o bellter ffordd, byddent yn dod â phiseraid o lefrith a’i 
                adael ar y pentan i gadw yn gynnes hyd amser cinio efo’u 
                brechdanau. … Iard fechan oedd man chwarae i ni. Y bechgyn 
                yr yr iard uchaf a’r genethod yn yr isaf, yn mwynhau chwarae 
                cortyn, cap mochyn a phêl dan ganu ‘One, two, three 
                a le-ra, four, five, six a le-ra, seven, eight, nine a le-ra, 
                Ten a le-ra catch the ball’. Ambell i ddiwrnod braf yn yr 
                haf, aed â ni am dro at Gastell Bryn Bras ( lle roedd miliwnydd 
                o’r enw D. Elliot Alvers yn byw) i hel blodau gwyllt …cawsom 
                bleser mawr o gael mynd i boncan Bryn Bras i chwarae ‘May 
                Queen’. Un o’r plant wedi cael gwisgo fel brenhines 
                efo darn o lace dros ei hysgwydd a choron wedi ei gwneud efo daisies; 
                roeddym yn meddwl ei bod yn grand iawn. … Y Nadolig oedd 
                pinacl y flwyddyn i ni. Byddai’r miliwnydd y cyfeiriais 
                ato, yn rhoi parti mawr i blant ysgol Bryn Eryr a phlant ysgol 
                Glanmoelyn … yn y Church Hall. … byddai presant i 
                bob plentyn ganddo … Cofiaf i mi gael bocs pink, a brwsh, 
                crib a drych ynddo.” 
                {tystiolaeth Enid Whiteside Thomas mewn llythyr i gyd-fynd â’r 
                darlun}
                
              
              
              (ii) Dysgu a chwarae : 
              Cofia Beti 
                George, Ystalyfera [Tâp 9015] fynychu ysgol Pan-teg 
                yn y tridegau a chwarae sgipio, chwip a thop a phrynu sialciau 
                bob lliw i wneud patrymau ar y ffordd. Caent ‘sgotshys’ 
                hyfryd o gerrig llyfn i chwarae sgotsh lan ar ben y Graig gerllaw. 
                Ond yn yr ysgol ei hun, erbyn cyrraedd yr iau roedd fel carchar 
                â’u ffenestri uchel. I agor y ffenestr roedd pwlyn 
                hir a phetai bachgen yn ddrwg cai ei roi yn sownd yn y pwlyn, 
                ‘Reit os wyt ti’n ddrwg wyt ti’n mynd lan at 
                yr elffins!’ meddai’r athrawes. Adeg y Nadolig, yn 
                nosbarth y babanod, caent orchymyn i ddod â phapur brown 
                a llinyn i’r ysgol ac yna caent barsel bach yn cynnwys pensiliau, 
                crayons a hysbysebion llyfrau bach Coleman’s Mustard, siocoled 
                a phethau eraill yn anrhegion. 
              
              
              Atgofion tebyg sy gan Eurwen Bowen, Pontardawe 
              [Tâp 8877] o’r dysgu a’r chwarae yn ysgol fach 
              yr Alltwen (tan ei bod yn saith oed) yn y tridegau hwyr. Nest Davies 
              sy’n holi : 
              “Whare gyda 
                tywod mewn bocs a pishyn o bren i neud patryme a dysgu neud llythrenne 
                a blocs bach … pren; on ni’n defnyddio rheini i neud 
                welydd a codi tai bach, wedyn ‘ny sialc a bwrdd du yn unigol 
                ichi a odd bwrdd du yn mynd reit rownd y dosbarth … lefel 
                plentyn, och chi’n gallu ysgrifennu neu tynnu llun … 
                ar hwnnw. Odd ceffyl ‘na a si-so, … a clai. … 
                A lle tân yn y stafell hefyd. .. Tymor yr haf cyn bo ni’n 
                mynd i’r ysgol fawr on ni’n cal pen a inc a odd mess 
                ofnadw ... a un peth on ni ddim fod i gal odd blots ar y papur. 
                …Cymrâg i gyd, bob tamed” 
                (Ond yn yr ysgol fawr) “popeth yn Sisneg ond un wers Gymrâg. 
                .. On i ddim yn dda yn gwnïo. Odd ‘n fam yn arfer gweud, 
                ‘Yn ni’n gallu gweld y pwythe o ben y mynydd – 
                o ben Gellionnen’. A odd y bechgyn yn cal paentio .. a lliwio 
                … a odd y merched ddim yn cal. … A on i wastad yn 
                genfigennus o’r bechgyn. …
                A pa fath o bethe och chi’n neud yn y gwnio?
                Nisied a stitches mawr mawr a pâr o nicyrs bron â 
                bod lawr i’ch trâd chi. Gwples i byth monyn nhw.”
              
              
              Cofia Margaret Davies, Beulah, Ceredigion [Tâp 
              9486] athrawes arbennig yn dod o amgylch ysgol gynradd y pentre 
              i roi gwersi hygiene i’r plant ddechrau’r pedwardegau. 
              GWRANDEWCH ar ei disgrifiad : 
              “ 
                … ag odd hi’n dod â dol gyda hi a odd hi’n 
                mynd mâs â’r merched a on ni’n dysgu shwt 
                odd golchi’r plentyn - y ddol ‘ma a shwt on ni fod 
                i gadw’n hunen yn lân dan y pwmp oer. Odd e’n 
                hygiene chi’n gweld. Odd hi hefyd yn gweud wrthon ni am 
                y peryglon o yfed. A odd dou wydyr ‘da hi a mwydyn yn bob 
                gwydyr a odd hi’n rhoi dwr a wêdd y mwydyn bach yn 
                mwynhau’i hunan a wêdd hi’n rhoi alcohol a wêdd 
                y mwydyn yn marw – o flaen ein llyged ni.” 
              
              
              “Un peth yn syndod yn ysgol … Talyllychau … oedd 
              gyda ni - mabolgampau Dolau Cothi oedd e’n cal ‘i alw 
              – cylch o ysgolion – a odd rhaid ymarfer ar gyfer y 
              mabolgampau ‘ma a oedd e’n rhyfedd iawn wi’n meddwl 
              heddi, on ni’n cal mynd mas i’r hewl tu fas yr ysgol, 
              odd ‘na ddarn syth, oedd e cwarter milltir, wi ddim yn siwr, 
              ac ar hwnnw on ni’n cal rhedeg. A chwedyn odd ‘na un 
              athro bob pen yn gweud os byse car yn dod! Meddyliwch am hynny byse 
              heddi yntefe?” 
              Joan Jones, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin, ganol y 
              tridegau [Tâp 8962].
              
               
              
              
              Gofynnodd Tegwen Morris i Buddug Thomas, Genau’r 
              Glyn [Tâp 9458] am ei hatgofion am fynychu ysgol elfennol 
              Pennant, Llanbryn Mair yn y dauddegau : 
              “milltir 
                o ffordd i gerdded yno a milltir adre. Ysgol un ystafell – 
                athrawes efo plant bech yn un pen ac athrawes y plant mawr yn 
                y pen arall. … smell – tân glo, tân coed, 
                sgidie plant wedi cerdded trwy’r baw, a’r ci’r 
                ‘ma oedd gan yr ysgolfeistres. … Oedd hi’n draddodiad 
                bron bod plant o bell bob amser yn gynnar. … (chwarae) hopscotsh 
                a chware bowler, hynny yw be ych chi’n galw yn rounders, 
                chware capie, sef capie yn rhes yn erbyn wal a bwrw pel i miwn 
                i hwnnw … a chware marbles a gwn tatws. … Odd hwnnw’n 
                rhyw dorri allan ym mis Chwefror (neu cyn hynny) ar ol pluo Nadolig, 
                oech chi’n cal aden gwydd a torri cwilsyn o aden yr wydd 
                a oeddech chi’n cael peg i ffitio i mewn … ac yna 
                oech chi’n gallu saethu pelet o datws allan ohono. .. oedden 
                ni’r merched yn saethu at y bechgyn wrth gwrs. … Yr 
                unig beth dwi’n gofio am ddillad ysgol elfennol oedd gynna 
                i bais wedi’i chrosio i ‘gadw’r lodes fech yn 
                gynnes’ … oedd gynna … i Liberty bodice cotton, 
                … os oen i’n tyfu rhywfaint oedd Mam wedi crosio pwt 
                arall (at y bais).”
              
              
              Er gwaetha’r ffaith fod yr athro yn ‘colbio’r 
              bechgyn’ a churo’r merched efo riwler cred Mari 
              Ellis, cangen Aberystwyth [Tâp 9432] iddi gael addysg 
              dda yn Ysgol y Cyngor, Llanfrothen, Meirionnydd tua 1920 ymlaen 
              : 
              “Oeddan ni’n 
                medru darllan cyn gadal yr ysgol, … ddeg-ddeuddeg oed - 
                oen i’n darllan nofelau Charles Dickens ac yn eu mwynhau 
                nhw. … Oeddan nhw yn dysgu Saesneg yn dda iawn, oeddan nhw 
                hefyd yn dysgu Cymraeg yn dda iawn i ni. … Oeddan ni’n 
                cael dysgu canu a lot o farddoniaeth. … Roedd Eifion Wyn 
                yn dal yn fyw ‘r adag hynny ‘da chi’n gweld 
                ac oedd o’n byw ym Mhorthmadog ag oeddan ni’n dysgu 
                ‘i Delynegion Maes a Môr o. …
                Ac wedyn pan aethon ni i fyny i’r dosbarth uwch oeddan ni 
                wedi cael prifathro newydd John Ellis Williams, ag oedd o yn ddyn 
                ifanc efo syniada newydd, oedd o y math o ddyn oedd yn ysbrydoli 
                plant, ac fe ddysgon ni wneud penillion i fyny, dysgu rhythm i 
                ni … a hefyd oeddan ni’n cael dysgu canu rhanna – 
                alto a soprano. …Ddaru o sefydlu llyfrgell yn yr ysgol, 
                oeddan ni’n cael mynd â llyfra adra i’w darllan, 
                Cymraeg a Saesneg ac felly oeddan ni’n cael llawer o amrywiaeth 
                … a hefyd mi ddaru sefydlu cylchgrawn ysgol. …
                …wedyn mi ddaru o sefydlu beth fasach chi’n alw yn 
                eisteddfod ddwli, eisteddfod ffwlbri – gorsedd ac archdderwydd 
                a ‘na’r tro cynta i mi erioed glywed sôn am 
                y fath beth. A mi wnaeth fy mrawd yn archdderwydd a rhoi gwenwisg 
                fy nhad amdano a canhwyllbrenni piano fy mam oedd gynno fo am 
                ei wddw … Wedyn oedd o’n gweiddi ‘Gosteg, gosteg, 
                gosteg’. … ac roedd rhywun yn cael ei gadeirio wrth 
                gwrs. …
                Oeddan ni’n cael dysgu ysgrythur hefyd … dysgu adnoda.“
              
              Cawn ddisgrifiadau 
                byw o sawl agwedd ar fywyd ysgol yn y tridegau gan Rhiannon 
                Parri Davies, Llansannan [Tâp 9724]. GWRANDEWCH 
                arni’n egluro wrth Sharon Owen i ble’r aeth i’r 
                ysgol a sut brofiad oedd e :
              “ 
                Ysgol Llan, Llansannan, odd o’n hen, hen adeilad, ysgol 
                eglwys ag oedd ’ne (ddechre’r ysgol y diwrnod oen 
                i’n bedair oed), dwy ystafell, ac wedyn oedd y plant yn 
                aros yn yr ysgol nes oedden nhw’n bedwar ar ddeg oed os 
                nag oedden nhw’n mynd i’r ysgol ramadeg. Un lle tân 
                yn y rwm bach ( wrth gwrs nid stafell ond rwm bach) a dwy stafell 
                yn y rwm fawr lle roedd y plant hyn … 
                Y tai bach reit yn pendraw’r iard, bwced, a wedyn yn y cefn 
                uwchben y bwced oeddan nhw wedi tynnu bricsen neu ddwy allan. 
                Ond be oedd yn anffodus oedd ‘na ardd y tu ôl i’r 
                tai bach 
                y merched ac oedd y bechgyn yn cael eu gyrru i’r ardd i 
                weithio yn yr ardd. A wedyn oeddach chi’n gorfod amseru’ch 
                hun a gweld oedd ‘na rywun yn yr ardd cyn bo chi’n 
                mynd – mi oedd y plant, y bechgyn yn deud – ‘O! 
                ha ha! dwi ‘di gweld dy ben ôl di!’. … 
                Wedyn oedd gas gen i hefyd y gwersi gwnïo, achos dwi ddim 
                yn dda am wnïo ag oeddan ni i ddim yn gneud petha diddorol 
                o gwbwl a fasach chi’n medru rhoi tair ohonan ni yn y ffrog 
                ‘ma. A’r peth gwaetha nesh i orfod gneud oedd – 
                mae’n debyg mai nicyrs fasech chi’n eu galw nhw efo 
                lastig yn top a rownd y coese, mewn winsiét piws. A wedyn 
                on i’n gorfod ‘i hemio fo efo ede wen oedd yn mynd 
                yn ddu am bo fi’n gorfod datod o gymaint am fod y pwytha 
                yn rhy fawr neu rhy fler a wedyn oedd yr ede yn mynd yn fwy llwyd. 
                A be oedd yn ofnadwy oedd, ar ôl i mi ‘i orffen oedd 
                rhaid i mi dynnu hwn a’i wisgo fo, a dwi’n cofio y 
                gwarth, chwarae ar y llan a syrthio a’n gymslip i’n 
                mynd i fyny a pawb yn gweld y nicyrs winsiét piws ‘ma.
                [Aeth Rhiannon yn ei blaen i Ysgol Ramadeg Abergele] 
                Sut brofiad oedd hwnna ‘te – symud i’r ysgol 
                ramadeg?
                O dipyn o brofiad, achos Seisnegedd iawn, iawn oedd ysgol Abergele 
                ac roedd y ddwy ohonon ni yn ddwy o’r wlad ag ‘n Saesneg 
                ni’n garbwl. Ag pawb – rhan fwya o bobol, pawb bron 
                yn siarad Saesneg; ‘chydig iawn, iawn, iawn o Gymry oedd 
                ‘na. Wedyn oedd ‘na athrawon , mae’n debyg bod 
                nhw’n siarad Cymraeg ond yn Saesneg fydden nhw’n siarad 
                efo chi ‘lly. Dwi’n cofio mynd am wersi piano a dyma’r 
                athrawes yn dweud wrth fy ffrind rwan, ‘Rhiannon’s 
                going to be late – could you ask Miss Wynn to excuse her?’. 
                Mi ath Heulwen, fy ffrind at y Miss Wynn ‘ma a deud ‘Mae 
                Miss Lewis yn gofyn i chi esgusodi Rhiannon, fydd hi’n hwyr’. 
                ‘Say that in English.’ Wedyn fu rhaid iddi ailadrodd 
                e wedyn yn Saesneg. ‘Now turn and face the class and say 
                it in English.’ … Cofio bo ni’n gorfod gweu 
                balaclafas i’r – wnaeth fy ffrind wneud un i rywun 
                yn y llu awyr a finne i un yn y llynges ac roedd ‘na ryw 
                batrwm, fel rhyw moss stitch oedd o. Ond oedd y balaclafa oeddwn 
                i ‘di weu yn moss stitch ac yn rib ac yn bob peth achos 
                on i yn gneud pwythe i fyny ac yn ‘u gyllwng nhw. Dyna fy 
                nghyfraniad i i’r rhyfel. … Dwi’n siwr mai Cymraeg 
                ail iaith gawson ni – i feddwl bod ‘n ffrind a fi, 
                wel, prin yn medru siarad, siarad Saesneg yn wael ac eto yn gorfod 
                gneud y Cymraeg hawdd ‘ma ynte.” 
              
              
              (iii) Cinio Ysgol : 
              “Wedyn oedd 
                ‘na ddim cinio ysgol ond dwi’n cofio’r rhieni 
                yn cael eu galw at ei gilydd ag yn gwirfoddoli i bartoi cawl os 
                oedd y brifathrawes yn fodlon berwi’r cig yn y crochan. 
                Wedyn mi roedd ‘na ryw fath o drefniant – ryw drefniant 
                answyddogol – oedd y ffermwyr yn prynu cig am yn ail … 
                ‘nhad yn arddwr campus … wedyn mi fydde fe’n 
                mynd â sach, car a poni yn mynd i’r ysgol a mi fydde’n 
                mynd â sached o datws, a sached o foron a swedj a pob math 
                o bethe. Wedyn fydden ni ferched yn yr ysgol yn gorfod treulio 
                amser chware yn amal iawn yn plicio’r llysie ‘ma;
                Toedd y bechgyn ddim?
                Nag on. A wedyn O! oedd y crochan ar y tân yn llythrennol 
                a gard mawr rownd y tân ac oedd yr athrawes wedyn yn pwyso’i 
                phen ôl yn erbyn y tân ar y gard ‘ma. … 
                A wedyn pan oech chi’n gneud Mathemateg tua unarddeg ‘ma 
                oedd ogle’r cig yn berwi a’r cawl – Wedyn mi 
                fydde hi’n stopio yng nghanol y wers ac yn rhoi’r 
                llysie ‘ma i gyd i fewn a rhoi ambell i dro iddo fe. O! 
                mi oedd o’n dda, ac oeddech chi â’ch basin a’ch 
                llwy – mi oedd o’n dda.”
              Dyna dystiolaeth 
                siaradwraig o Fro Radyr am gael cinio yn ysgol Llanddeiniol, Ceredigion 
                [Tâp 9163] tua 1940. Mary Wiliam fu’n holi.
              
              
              (iv) Cosb : 
              Wrth gael ei holi 
                gan Ruth Morgan cofiai Nesta Jones, Llanelli 
                [Tâp 9076] ei dyddiau yn ysgol yr eglwys Llandygái. 
                GWRANDEWCH arni’n adrodd ei phrofiad ac 
                yn sôn am un athrawes yn arbennig :
                “ O! ‘na hen un gas odd 
                hi, ag on ni i gyd yn y bore nawr yn cal ‘n rhoi yn rhyw 
                gylch a cal Mental Arithmetic. Os nag och chi’n gwbod yr 
                ateb och chi’n cal ruler ar draws ‘ch bysedd. 
                Faint o gosbi odd yn mynd mlân ‘na? 
                O! odd tipyn o gosbi yn mynd mlân. Odd y prifathro - un 
                o Dreorci odd e, hen lanc, ag odd e ddim yn siarad llawer o Gymrâg, 
                am y rheswm bod cymaint o wahanieth rhwng Cymrâg y de a 
                gogledd, a siarad Sisneg odd e fwya. Ond O! – bydde fe yn 
                jael heddi wi’n credu ‘se fe yn gneud y pethach odd 
                e’n gneud i’r bechgyn. … odd e byth yn cyffwrdd 
                y merched, ond y bechgyn, on nhw’n ‘i chal hi gyda 
                fe, yn enwedig os odd e wedi bod ar y pop y nosweth cyn hynny. 
                …
                Pwy odd yn dewish pwy odd yn eistedd y scholarship?
                Wel och chi’n mynd gartre a gofyn i’ch tad a’ch 
                mam … ‘Na’r peth mawr, ‘Sdim gwerth rhoi 
                addysg i ferch, dim ond priodi ma hi’. Gwmws fel ‘se 
                bechgyn ddim yn priodi! … Wi’n cofio whâr Mam 
                yn ‘i weud e wrth Mam. Odd Mam yn awyddus i fi fynd yntefe. 
                Ag ‘Wel, pam wyt ti’n ei gyrru hi, ‘neith hi 
                ddim ond priodi yn y diwedd.’ ‘Wel, ‘neith hi 
                well mam’, medde Mam yn ôl wrthi. …
                Pwy ysgol aethoch chi nesa?
                Bangor County School for Girls – odd y rhan fwya yn mynd 
                lan i Bethesda i’r mixed school am y rheswm odd dim rhaid 
                i chi gal, dim ond cap yn uniform ond ym Mangor odd rhaid i chi 
                gal y kit i gyd, ag odd gwell addysg yn dod o Fangor, medde ‘nhad.”
              
              
              Dechreuodd Nesta Edwards, cangen Llanfarian, [Tâp 
              9442] yn ysgol gynradd Llanllwchhaearn yn bedair mlwydd oed ( tua 
              1935) ac un diwrnod torrodd botel inc : 
              “Ac ma’r 
                sefyllfa ‘na wedi aros yn ‘nghof i trwy’r blynydde. 
                Miss Jenkins yn agor drws y stafell fawr ac yn gofyn i Mr Davies, 
                ‘Mr Davies dewch ar un waith.’ A Mr Davies yn dod 
                i weld beth odd wedi digwydd a dyma fe’n mynd nôl 
                i’r stafell fawr a dod â cansen nôl gydag e. 
                A fe ges i gansen – rhwng peder a phump (oed). A ma hwnna 
                wedi sefyll.”
              
              
              Yn ysgol gynradd yr eglwys, Llyswyrny, ger y Bontfaen yr oedd y 
              gosb, o bump oed ymlaen, a gofiai Eirlys E. Thomas 
              ddiwedd y pedwardegau, yn llym iawn. [Tâp 9249 – yr 
              holi gan Maryl Richards] 
              “On ni’n 
                cal cane am bob marc coch ar eich llyfr a bob sym sy’n anghywir 
                a popeth tmbod. O Duw, duw! Wham! wham! wham! …… Tri 
                strôc am bob marc coch ar dy lyfr di … dim gwahanieth 
                rhwng bechgyn a merched o gwbwl.” 
              
              
              Yn ysgol gynradd Llangennech y bu Mererid James, 
              cangen Beulah [Tâp 9838] yn y pedwardegau hwyr, ond does dim 
              atgofion melys ganddi am y profiad hwnnw : 
              “Roedd gyda 
                ni brifathro ofnadw o gas. Wi’n credu heddi bydde fe yn 
                jâl, odd e mor gas i ni.(Cofia brofion Mathemateg trychinebus 
                ganddo ac fel y byddai hi’n crynu pan ddeuai i mewn) A odd 
                e’n ‘n siglo ni chmbod. A on i’n cofio rhai 
                o’r bechgyn bydde fe’n towlu nhw o un pen y stafell 
                i’r llall chmbod. Odd e’n ddyn rial gas, odd e’n 
                ddyn cas.”
              
              
              Pan oedd Marlis Jones, Llanbryn Mair, [Tâp 
              9612] ond o Fethesda yn wreiddiol yng Ngholeg y Normal ddiwedd y 
              pumdegau y cyngor a gai’r myfyrwyr ynglyn â disgyblu 
              oedd :
              
              “ Peidiwch â smacio plentyn ar ei wynab rhowch smac 
              ar ei goes o neu ei ben ôl o’.
              
               
              
              
              (v) Bwlian :
              
              Cafwyd ambell hanesyn am fwlio hefyd fel yn achos siaradwraig o 
              Fryn-teg, Môn [Tâp 9422] yn blentyn yn ysgol gynradd 
              Llaneugrad yn y dauddegau. Bu dwy ferch yn gneud iddi wneud eu gwaith 
              cartref drostynt. ‘Oedd hynny’n ryw sort o fwlio mewn 
              ffordd toedd?’ Byddent yn cipio’i chap a’i daflu 
              i ben y lle chwech os na fyddai hi wedi’u helpu gyda’u 
              syms.  
              “Ond dwi’n 
                cofio hefyd bod ar y llwybyr yn mynd i’r lon fawr … 
                a cyfarfod y ddwy ar ôl mynd i ysgol Llangefni a dyma nhw’n 
                stopio fi, … isho i mi neud rhyw sym iddyn nhw a dyma fi’n 
                atab yn ôl am y tro cynta iddyn nhw i ddeud ‘Gwnewch 
                o’ch hunan’. … A’r argian annwl, fe ddaru 
                nhw weiddi lot o betha ar fy ôl i ond toedd o’m ots, 
                oeddwn i wedi mynd o’u gafal nhw erbyn hynny.”
              
              
              “Odd rhai yn wffto, chmbod, bo ni’n dlawd … yn 
              yr ysgol - plant yn bwlian. … Wi’n cofio amdana i yn 
              trio dod mas o’r ysgol a rhedeg gatre … a wi’n 
              cofio wedyn ‘ny, amser pan on i dipyn bach yn henach wedi 
              ‘ny, odd bachgen i gal yn Penrhiwllan a odd ei fam yn rhoi 
              ceinog i fi wedyn am edrych ar ‘i ôl e, … odd 
              hwnnw’n cal ‘i bwlian … fel ‘ma plant. …ar 
              y ffordd odd hi waetha.”Beryl Enoch, Llandysul 
              [Tâp 9091] am ei phrofiad braidd yn anhapus fel plentyn yn 
              Ysgol Aber-banc yn y tridegau. Roedd ei rhieni wedi gwahanu a bu’n 
              rhaid i’w mam ddibynnu tipyn ar y plwyf i’w magu hi 
              a’r wyth plentyn. 
              
               
              
              
              (v) Profiadau eraill o dlodi ymysg y plant: 
              Disgrifiodd 
                Rachel (Ray) Samson, Tegryn, Penfro, [Tâp 
                9499] y caledi mawr a welodd hi yn blentyn ym mhentre Alltwalis 
                dan law llysfam ddidoreth yn y dauddegau. Ray oedd yr hynaf o’r 
                plant a ganwyd saith o blant i’w thad a’i llysfam 
                newydd : 
                “Colli’r ysgol wedyn am dair wthnos bob tro bydde 
                babi’n dod a chwedyn bydde whipper in yn dod wedyn a‘n 
                llysfam yn gweud ‘O, cluste tost odd gyda hi’. … 
                Ond wêdd Mishtir a Miss (yn yr ysgol), on nhw’n garedig 
                iawn, iawn i fi. On i’n cal tamed o frecwast Miss bob bore. 
                Ond wên i’n giwt chwel, on i’n aros nôl 
                i’r plant fynd mas i whare a finne’n aros fan’ny 
                ar bwys y stôf i dwymo a wêdd Miss yn galw fi ati 
                ddi wedyn a on i’n cal tamed bach o fwyd. Shoes canfas am 
                y trâd wedyn i fynd i’r ysgol; chwedyn twll yn rheini 
                falle’n bore a gorfod tynnu nhw at ‘i gilydd gyda 
                unrhyw liw o ddafedd odd yn ty wedyn. A rhyw fore dyma Mistir 
                miwn i’r ysgol a pharsel o dan ‘i gesel a beth odd 
                yn y parsel ond pâr o glocs melyn pert i fi. … Cino 
                – gorffod mynd gatre i gino, a unrhyw beth fydde i gal wedyn 
                yntefe. A chwedyn ddim cal mynd nôl nes bo hi’r funud 
                ola … gorffod gwitho – hôl dwr … o’r 
                ffynnon. … On i wedi ennill yn y Western Mail, punt am neud 
                traethawd ar ‘Fy sir’ … a Mishtir rhyw fore 
                yn dod lan a llongyfarch fi, on i mas yn nôl blodyn bach 
                i roi yn ‘y mrat. … Odd hi’n ddiwrnod mowr iawn, 
                y diwrnod hynny yn Alltwalis, a’r placard mas o flân 
                y siop - ‘Alltwalis winner in essay competition contest’ 
                . … on i’n prowd iawn. A odd Mishtir yn prowd, odd 
                e’n prowd iawn, iawn. .. Wedd nhad yn falch iawn, iawn. 
                Sa i’n cofio am ‘n llysfam bo hi ‘di gweud dim 
                byd.” 
                
                
              
               
              DARLUN 
                o Ysgol gynradd Alltwalis yn y 1920au. Ray yw’r ail o’r 
                dde yn y rhes flaen
                {trwy garedigrwydd Ray Samson, Tegryn, Penfro}
              
               Roedd Marian 
                Morris, Merthyr Tudful [Tâp 9253] yn blentyn afiach 
                ac felly, pan oedd yn chwech oed, fe’i hanfonwyd i ysgol 
                breifat fechan. Oddi yno fe’i symudwyd i ysgol ‘ragged’ 
                Abermorlais lle’r ai rhai o blant tlotaf yr ardal yn y tridegau 
                :
              “doedd eu 
                dillad nhw ddim yn eu ffitio nhw ac on i’n methu deall pam 
                nad oedd eu mamau wedi prynu dillad i ffitio nhw. Rwi’n 
                cofio gweld plant yn cerdded yn droednoeth yn yr eira a Mam yn 
                dod â dau grwt bach mewn at y tân. [Roedd sgidie ganddyn 
                nhw ond â thyllau ynddynt] … Golchodd Mam eu traed 
                nhw a rhoi socs a sgidie arnyn nhw oedd wedi bod yn perthyn i’m 
                brawd oedd wedi marw.” 
              
               Bu Beti 
                Griffiths, Treforys [Tâp 9005] yn gweithio fel 
                ‘Nitty Nora’ yn ardal Abertawe yn y pumdegau gan ymweld 
                ag ysgolion i edrych pennau plant am lau. Petai’n darganfod 
                achos drwg iawn byddai’n rhaid iddi ymweld â’r 
                cartref a rhwystro’r plentyn rhag mynychu’r ysgol. 
                Gellid anfon plant i ganolfan arbennig i gael gwaredu’r 
                llau yn llwyr. 
              
               (vi) Atgofion 
                melys :
              Cai ysgol gynradd 
                Sirhywi, lle’r aeth Mary Wiliam, cangen 
                Bro Radyr, [Tâp 9164] yn ddisgybl yn y pedwardegau, ei hystyried 
                yn ‘rough’ a phlant o Ladies’ Row a Yellow Row 
                yn drewi ac yn frwnt, er eu bod ‘yn blant net’. Ond 
                eto, meddai :
              “Oedd ‘da 
                ni brifathro annwl iawn a wedyn … wi’n i gofio fe 
                … fe ddath e miwn ryw ddiwrnod a wedodd e ‘If you’re 
                ‘appy Mrs Evans is ‘appy, if Mrs Evans is ‘appy 
                I’m ‘appy and if I’m ‘appy, we’re 
                all ‘appy.” 
              
              (vii) Iaith 
                yr addysg gynradd :
              “Dwi’n 
                cofio sut dysges i ddarllen Saesneg … Oeddwn i’n y 
                gwely â Testament Newydd Cymraeg a Mam dwi’n meddwl 
                â un Saesneg (neu fel arall); wedyn oeddwn ’n ei ddilyn 
                o yn un iaith a hitha’n ei ddarllen o mewn iaith arall.” 
                
                Mary J. Davies, Y Foel, Maldwyn / Powys [Tâp 
                9596], yn y dauddegau.
              
               Mae sylw Elinor 
                Jones-Evans, cangen y Drenewydd, [Tâp 9647] am 
                ei haddysg yn ysgol gynradd Llangybi, Ceredigion, yn syfrdanol 
                ond fe ymddengys yn bur nodweddiadol o sawl bro Gymraeg yng Nghymru’r 
                dauddegau :
              “Wel a gweud 
                y gwir, yn yr ysgol – ysgol gynradd Llangybi, odd ‘na 
                ddim gair o Gymrâg i gal; chlywes i eriod neb yn gweud gair 
                o Gymrâg.”
              
               Felly hefyd yn 
                ysgol gynradd Llanfihangel yng Ngwynfa yn y dauddegau, lle roedd 
                y prifathro yn Sais a dim Cymraeg o gwbl yn y gwersi. Roedd Kitty 
                Griffiths, Llangynyw, [Tâp 9646] yn chwech oed 
                yn dechrau’r ysgol am fod yn rhaid iddi gerdded tair milltir 
                yno ac yn ôl bob dydd. Pan wlychent aent i gartre hen wraig, 
                Marged Arthur, i sychu’u dillad.
              
               Nid yw’n 
                gymaint syndod mai Saesneg oedd iaith y plant a’u haddysg 
                yn Aberdâr tua 1920, efallai, ond i Gymraes fel Nans 
                Davies, [Tâp 9178] bellach o gangen yr Wyddgrug, 
                roedd hi’n sefyllfa ddigon rhwystredig:
              “… 
                a rhyw ugain munud o Gymraeg oeddan ni’n cael yn yr ysgol 
                elfennol ar bnawn dydd Gwener. On i eisoes yn gwybod y wers oherwydd 
                oedd yr athrawes wedi bod yn ‘n ty ni yn cal gwersi efo 
                nhad – gwersi Cymraeg efo fy nhad a finna’n gwrando 
                wrth y drws.”
                O’r herwydd collodd ei Chymraeg yn gyfangwbl ond wedi mynd 
                ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched bu’n ffodus iawn i ail-ddysgu’r 
                iaith trwy ymdrech ei hathrawes, Kate Roberts. 
              
               “Dwi’n 
                cofio fo yn dysgu’r Beibl inni ‘nde, yr Ysgrythur, 
                a wedyn yn Saesneg a … dyna fo’n deud fel’na 
                rwan, ‘I want you all to learn the Beatitudes by next week’ 
                … Nefi wen! on i ddim yn gwbod beth oedd y Beatitudes yn 
                nag oedd? Odd hwnnw’n rhyw enw diarth iawn i mi. ‘Se 
                fo’n deud ‘gwynfyde’ fysen nhw’n gwbod 
                yn ‘de ac yn gwbod nhw’n Gymrêg ond on i ddim 
                yn gwbod nhw’n Saesneg. Ac wedyn dach chi’n gwbod 
                oeddan ni o dan anfantais fel ‘na mewn ffordd.” 
                Siaradwraig o Aberhosan, Maldwyn [Tâp 9580] (tua 1935)
              
               “Saesneg 
                oedd iaith yr ysgol ond y rhai bach … ond unwaith oen ni 
                miwn yn y dosbarth canol Saesneg oedd yr iaith i gyd, a Mishtir 
                - Saesneg - oedd yr iaith i gyd, mae’n rhyfedd i feddwl. 
                … Odd parch mwya ‘da fi i’r athrawon. On i’n 
                meddwl nag odd dim athrawon yn debyg yn unman.”Megan 
                Creunant Davies, Aberystwyth [Tâp 9605] ond a fynychodd 
                ysgol gynradd Aber-banc, Ceredigion ddiwedd y tridegau. 
              
              
              Yn ysgol Licswm, Alun/Dyfrdwy y bu Mary Roberts, 
              cangen yr Wyddgrug [Tâp 9182] ganol y tridegau. GWRANDEWCH 
              arni yn trafod y profiad : 
              “ 
                Ysgol o dri athro, y tri ohonyn nhw’n bobl dda, ac yn Gymry 
                da, ag on i’m yn dysgu gair o Gymraeg. Ddysges i erioed 
                ‘r un gân werin na dim byd yno, ond rhyw hen bethe 
                fel ‘Oh!, No John, no John, no John, no’ a ‘On 
                yonder hill there stands a creature’ a rhyw bethe Seisnigedd; 
                ac un wers yr wythnos mewn Cymraeg ‘Y mae’r pot inc 
                ar y bwrdd’. ‘Lle mae’r pot inc?’ ‘ar 
                y bwrdd’ a ninna’n Gymry!
              
               “Bob dydd 
                Iau chaethach chi ddim siarad gair o Gymraeg...Dwi’n cofio 
                ffrind i mi yn crio’n ofnadwy wedi cal y board ‘na’m 
                ’i phen – Welsh Not wedi’i sgwennu arno fo – 
                am na chaetha hi ddim siarad Cymraeg. Odd ’u Saesneg nhw’n 
                sâl ofnadwy, doedd. W’chi, ‘mond be oeddan nhw’n 
                ddysgu yn yr ysgol. Oeddan ni’n gweld ein hunain yn glyfar 
                yn medru siarad Saesneg.” Jane Jones Roberts, 
                Abersoch, Dwyfor, [Tâp 8991] yn y tridegau.
              
               “ Wi’n 
                cofio fi’n siarad Cymrâg ar iard yr ysgol a’r 
                athrawes yn digwydd pasio a rhoiodd hi gwpwl o glowts i fi am 
                hynny – bo fi’n siarad Cymrâg. On i ddim fod 
                i siarad Cymrâg, medde hi.”
                Dyna brofiad Dilys Clement ( cangen Llanddarog) 
                [Tâp 8927] am ei dyddiau ysgol gynradd yng Nghraig-cefn-parc, 
                Cwm Tawe tua 1928.
              
               Yn Ysgol fach 
                Mynachlog-ddu, Penfro, tua 1916, yn ôl May Lewis, 
                Tregynnwr, [Tâp 8925] er mai Cymry Cymraeg oedd y plant 
                i gyd caent :
                “ gwersi Saesneg ond ar brynhawn dydd Gwener on ni’n 
                cal gwersi Cymrâg – Geography, History a dates rhyfeloedd 
                a dyddiadau brenhinoedd, o diar annwyl! … y prifathro oedd 
                ‘da ni yn ‘r ysgol oedd e’n hoffi iwso’r 
                gansen hefyd. A oedd e’n neud, fel traethawd, ar y robin 
                a on i wedi gweud ‘And the snow will come and what will 
                the poor dab do then?’, a dodes e’r gansen am bo fi 
                wedi gweud ‘dab’ – oedd e’n rhegi.”
              
              
              Byddai pobl Llangadog, Sir Gaerfyrddin, yn chwerthin am ben merched 
              o’r ardal oedd yn mynd i ffwrdd i ‘Finishing School’ 
              yn Nghaerloyw ac yn anghofio’u gwreiddiau, meddai Maisie 
              Nitsch [Tâp 8925] wrth ddyfynnu pennill a wnaeth 
              ei thad am hyn : 
               “To Boarding 
                School goes Mary Jane
                Off by the train to Gloucester,
                But Mary Jane came home from school
                More of a fool than ever;
                ‘Oh! that horrid Welsh I hate’, said she
                ‘I like the English better!’
              ac â’n 
                ei blaen “amser odd Mam yn yr ysgol odd notis mowr ar y 
                board ‘I must not speak Welsh in school’ ac os on 
                nhw’n clywed nhw’n siarad Cymrâg on nhw’n 
                gorffod neud cant o linelle.” (roedd hyn tua 1900) 
              
              
              Dysgwraig yw Ann Rees, cangen Penrhiw-llan, Ceredigion 
              [Tâp 9489] ac fe’i magwyd yn Nhroed-y-rhiw ger Merthyr 
              Tudful yn y pedwardegau. Yn ysgol gynradd Troed-y-rhiw o safbwynt 
              yr iaith a’r diwylliant Cymraeg : 
              “Sa i’n 
                cofio dim byd. … Oen i’n teimlo fel Cymraes trwy’r 
                amser ond ddim wedi meddwl llawer am yr iaith, achos doedd dim 
                iaith (Gymraeg) yn yr ardal.”
              
               Cafodd Sylvia 
                Rees o Lon-las, [Tâp 8996] ac a fynychodd ysgol 
                gynradd Birchgrove, Abertawe, brofiadau ychydig yn wahanol yn 
                y tridegau. Yn y babanod byddai Enid Morgan yr athrawes yn dysgu 
                caneuon gwerin a darnau mawr o’r Ysgrythur iddynt yn y Gymraeg. 
                Yna, yn yr iau, cafodd ei thrwytho mewn barddoniaeth Gymraeg, 
                gan ddysgu darn newydd ar ei chof bob mis – darnau fel ‘Y 
                Sipsi’ gan Crwys neu ‘Gwenoliaid’ T. Gwynn Jones 
                - gan yr athrawes Doris Evans. 
              
               Felly hefyd yn 
                ysgol gynradd Cemais, Maldwyn ‘Cymraeg fwya’ oedd 
                hi yn y tridegau, yn ôl Enid Maud Jones, 
                Glantwymyn [Tâp 9597] 
                
                “ail iaith, rhyw iaith estron oedd y Saesneg. … a 
                Cymraeg oedd ‘n hiaith ni’n chware … oedd y 
                chwaraeon ‘ma, wn i ddim o ble oeddan nhw’n dod, oeddan 
                nhw’n dod yn ‘u tymhore a chware cwta haearn - hopscotsh'
              
               Erbyn dechrau’r 
                pumdegau yn Ysgol O.M.Edwards yn Llanuwchllyn, Meirionnydd, 
                yr oedd y sefyllfa wedi newid yn ddramatig. Yno, gyda Mr Ifor 
                Owen yn brifathro, yn y Gymraeg yr oedd pob gwers a dim ond digon 
                o Saesneg i basio’r 11+ gafodd siaradwraig o gangen Wrecsam 
                bellach. Caent wersi ‘hanes y Rhufeiniaid, hanes lleol, 
                hanes Syr O.M.Edwards, … hanes Cymru’. 
                Siaradwraig o Wrecsam [Tâp 9658].
              
               (viii) 
                Dylanwad Ysgolion yr Eglwys :
              Mae llawer iawn 
                o’r siaradwyr yn tystiolaethu iddynt fynychu ysgolion cynradd 
                yr eglwys (National Schools)– y mwyafrif ohonynt yn Seisnig 
                iawn eu hiaith a’u hethos. Ai anghydffurfwyr yn ogystal 
                ag eglwyswyr iddynt. 
              “ On ni’n 
                cwrdd â’r bishop a’r ffeirad. Am awr bob bore 
                on ni’n dysgu am y Beibl … a’r catechism. On 
                ni’n cal gweddi cyn dechre, on ni’n cal gweddi cyn 
                mynd gatre i gino, gweddi ar ôl dod … o gino a gweddi 
                ‘to i fynd. … Ces i ddim gwers Gymraeg eriôd 
                yn y myw, dim yn ‘y myw.”Siaradwraig o Sanclêr 
                am ddiwedd y tridegau.[Tâp 9070]
              
              
              Chai Beryl Jones, Llanelwy [Tâp 9139] ddim siarad Cymraeg 
              wrth chwarae hyd yn oed, yn ysgol yr eglwys Llanrhaeadr yn y dauddegau. 
              Wedyn daeth ysgolfeistr newydd iau. Ond, meddai ’naeth o ddim 
              drwg. Dyna sut ddaru mi ddysgu Cymraeg a Saesneg yn iawn, ynde.’ 
              
              
               
              
              
              I ysgol yr eglwys Llanddewi Felffre yr aeth Anna Eynon, 
              cangen Pontarddulais [Tâp 9147] yn blentyn yn y tridegau : 
              “ a Sisneg, 
                bach iawn o Gymrâg … Odd y ffeirad yn dod bob bore 
                , byti ddeg o’r gloch; dyma fe’n dod, â gwallt 
                gwyn ac yn ddyn pert, … ‘Good morning boys, good morning 
                girls, good morning little ones’; ‘Good morning Sir’ 
                oen ni’n gweud. A odd y bechgyn yn saliwto a ni’n 
                nodo’n penne.”
              
              
              Yn ôl Ann Roberts, cangen Penybont-ar-Ogwr 
              [Tâp 9247] ond a fynychodd ysgol eglwys Llangadfan, Powys 
              yn y dau-tridegau : 
              “Y dosbarth 
                cynta yn y bore oedd … ar y Common Prayer ac unwaith y flwyddyn 
                fydda’r Archddeon yn dod yna i roi fath o test arnon ni. 
                A fydda ‘na dystysgrif gwahanol lliw fyddach chi’n 
                gal – fyddach chi’n cychwyn efo gwyrdd dwi’n 
                meddwl ac os oeddach chi’n ysgol tan bo chi’n bedair 
                ar ddeg oed oeddach chi’n cael un aur.” 
              
              
              Canmoliaeth sy gan Myfanwy Jarman, Caerdydd [Tâp 
              9168] i’r addysg a gafodd hi yn ysgol yr eglwys LLangefni 
              yn y tridegau : 
              “ ysgol fendigedig 
                a dwi’n meddwl bo fi wedi cael sail ‘n addysg i gyd 
                … a mi wnes i adal yr ysgol yna yn ddeg oed yn gwbod dros 
                gant a hanner o englynion ac on i’n gwybod soneda. Ac oedd 
                ‘na addysg wych yn y Gymraeg yna. Ond wrth gwrs y plant 
                abal oedd yn cael addysg dda odd y plant oedd ddim yn gallu … 
                yn y cefn. … Ac oeddan ni’n mynd i’r ardd weithia 
                yn yr haf , … oeddan ni’n cael addysg natur … 
                gneud petha adeg hynny maen nhw’n meddwl sy’n dda 
                i’w gneud rwan.“ 
              
               Pan aeth Mary 
                Roberts, Llandeilo, [Tâp 8940] ei hun yn athrawes 
                yn ysgol eglwys, Llanddeusant ganol y pumdegau, cofia fod y plant 
                i gyd yn gorfod dysgu ac adrodd y Credo a rhyw dair – bedair 
                salm bob bore.
               Mynd 
                adre o’r ysgol
              Darlunia siaradwraig 
                o Fro Radyr [Tâp 9163] ei thaith ddyddiol o’i chartre 
                yn ôl ac ymlaen i ysgol fach Llanddeiniol, Ceredigion tua 
                1940 ag afiaith anghyffredin :
              “Fydden ni’n 
                cerdded dwy filltir a hanner – oedd o’n rhyfygus a 
                dweud y gwir pan dwi’n meddwl am iechyd a diogelwch, …bydden 
                ni’n croesi’r afon – cerrig y rhyd – neidio 
                dros rheini, gwlychu’n traed yn amal, … Fydden ni’n 
                treulio orie yn dod adre o’r ysgol, fydden ni yn hel cnau, 
                fydden ni’n cronni’r nant, fydden ni – roedd 
                ‘na rhyw hen furddun, fydden ni’n eistedd yn hen ardd 
                fan’ny ac yn bwyta fale, fydden ni’n cyrraedd adre’n 
                hwyr a neb yn gofidio – byth yn cael stwr.”