|
|
DARLUN
o YSGOL RAMADEG y MERCHED, Penybont-ar-Ogwr, ddiwedd y pedwardegau
{trwy garedigrwydd Mair Williams, Marian-glas}
DARLUN o DIM HOCI, YSGOL RAMADEG PORTHMADOG, 1951
{trwy garedigrwydd Glenys Morris, Llanbedr pont Steffan}
Dechrau’r ysgol fawr : Dim
ond rhyw ddwsin o blant oedd yn ysgol gynradd y Gors ger Aberystwyth
pan fynychai siaradwraig o Lanfarian [Tâp 9443] hi ddechrau’r
pumdegau ac felly cafodd sioc ofnadwy wrth symud i Ysgol Ramadeg
Ardwyn :
“odd hi’n
ddwrnod ofnadw mynd i Ardwyn tro cynta a gweld yr holl blant ‘na
a wedi bod mor ‘chydig. O oedd! Wi’n siwr ‘se
rhywun yn tynnu’n llun i y dwrnod ‘ny bo nheg i ar agor….
A’r holl bwncie ot ti’n gal yn wahanol.”
I Ysgol Ramadeg
y Merched yn Rhuthun yr aeth Sarah E. Jones, Rhiwlas,
Glyn Maelor [Tâp 9602] yn 1923:
“Ysgol Seisnig,
ac oedd ‘na boarders yno, term boarders, weekly boarders a
daily boarders ond day-girl oen i’n ‘de? Mynd â
bwyd i’n canlyn oeddan ni. Roedd gynnon ni rwm i fwyta’n
cinio ac mi roedd dwy o’r merched hyna yn mynd yno i roi tegell
ar y tân yn brêc ac i roi llieinie ar y bwrdd ac estyn
llestri allan. … Dim ond merched oedd hi’n ‘te.
Roedd ysgol y bechgyn ar draws y ffordd – y Grammar School
‘nte? – ac oedd ‘u cae chwarae nhw am y gwrych
â ni … wedyn oeddan nhw’n ofalus iawn nad oedd
amser chwarae yn cyd-redeg.
… Miss Parry oedd yn dysgu Cymraeg, ond ychydig iawn oedd
yn cymryd Cymraeg, a’r rhai oedd yno – oedd o’n
druenus, druenus … Dwi’n cofio Miss Hammond oedd yr
athrawes Saesneg … dwi’n ei chofio hi rwan yn darllen
Hiawatha i ni – Wel, roedd o’n fendigedig ‘de.”
Cafwyd disgrifiad
manwl gan Gwenllian Jones, Treboeth, Abertawe [Tâp
8885] o wisg Ysgol Ramadeg y Merched, Delabeche yn Abertawe yn y tridegau
hwyr ynghyd â darlun hoffus o ddylanwad y brifathrawes, Miss
Naylor ar ei bywyd hi. Dywed mai caeth iawn oedd y wisg – “blowsys
gwyn, twll gwddwg sgwar, pinafore dress … four inches from the
ground when kneeling, cardigan glas tywyll a blazer i wisgo mas a
tam. Odd rhai yn cal nhw wedi‘u teilwra ond prynu nhw odd y
rhan fwya. Odd dwy siop, Sidney Heath a Archie Jones. Sane gwlan du
a sgidie fel pumps i wisgo’n yr ysgol. Och chi’n newid
ych sgidie am sgidie i wisgo mas. Och chi ddim hyd yn oed yn gallu
gwisgo clip yn eich gwallt - dim ond llinyn - ‘Take that prong
out of you hair’. Cefnogodd Miss Naylor, Gwen i wneud Cymraeg
a Ffrangeg yn yr ysgol – roedd wedi rhagweld y byddai angen
athrawon Cymraeg at y dyfodol.
Pan ddaeth yn amser penderfynu ar ei gyrfa :
“Odd mam wedi mynd lawr iddi gweld hi ( Miss Naylor) ac …
odd hi’n gwbod fod pethe lled fain. ‘What do you think
she will do?’ medd hi wrth Mam. ‘Oh! I expect she will
go into an office’ medde Mam chi’n gweld. ‘Oh no
she won’t’ medde hi, ‘she’s a University girl’.
Mam yn gweud ‘Oh I could never afford that’ medde hi.
‘Oh yes there will be grants’ medde hi. ‘Well if
she can do it, I’ll do my best to help her do it.’ A ‘na’i
gyd fu.”
Disgrifia Valmai
Owen, Aberystwyth [Tâp 9435] rai o’r athrawon
a fu’n ddylanwad ar ei haddysg yn Ysgol Tregaron tua’r
tridegau hwyr : “S.N.Powell
achos mae gen i ddiddordeb mawr mewn hanes lleol , … a D.
Lloyd Jenkins … odd neud Shakespeare gyda D. Lloyd Jenkins
fel mynd i weld drama Shakespeare ar lwyfan. Odd e o flân
y dosbarth yn acto pob cymeriad.”
Hoffai Margaret
A. Griffiths, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin [Tâp 9064]
bob un o’r pynciau newydd yn Ysgol Ramadeg Rhydaman yn y dauddegau
cynnar :
“Gethon ni
gymryd Chemistry am un flwyddyn ond odd dim llawer o gymell i ferched
i neud sciences bryd hynny. On nhw ddim yn cal cyfle, gorfod ni
ddropo fe wedyn am winio. … Och chi’n gorffod dewis
ch’ wel, Ffrangeg neu Cymrâg. ‘Wel’ on i’n
meddwl ‘Wi’n gwbod Cymrâg’. … Bydden
i wedi hoffi mynd i’r Brifysgol ond chi’n gweld bu farw
nhad pan on ni yn gwneud … yr Higher. … A wedyn on i
ddim yn gweld llawer o obeth … odd dim cymorth i widwod …
na phlant … bydde dwy flynedd yn hen ddigon.”
Roedd Ysgol Sir Tregaron saith milltir o gartre Avarina M
Edwards, Llanilar, Ceredigion [Tâp 4256] ac felly,
yn y dauddegau hwyr : “a
wedyn odd rhaid neud beth odd rhan fwya o blant yn neud bryd hynny
– lodgo – yn Dregaron am dros yr wythnos a mynd bore
dydd Llun a dod adre ar nos Wener. Rhan amla cerdded fydden ni’n
neud i Dregaron ar ddydd Llun a cerdded adre wedyn nos Wener. Digon
lwcus ambell waith i gael cynnig lifft. … Odd lot o bobol
yn Tregaron yn hanner byw wi’n credu ar gadw … plant
ysgol. On ni’n talu 4swllt am wthnos (cael) gwely, on ni’n
dod â’n bwyd ‘n hunen.”
I Ysgol Tregaron
yr aeth Eleanor M.Lewis, Llanafan, Ceredigion [Tâp
9450] hithau yn y tridegau cynnar ac meddai wrth sgwrsio efo Ceridwen
Lloyd Morgan :
“ Odd ysgol
dda yn Nhregaron a yn ysgol Gymrâg; well ei hiaith na fydde
Ardwyn … ysgol Ramadeg yn Aberystwyth. Achos pan fydden ni,
on i’n digwydd bod yn y tim hoci, fydde neb yn tim Ardwyn
yn siarad Cymrâg â ni. Fe fydde Llandysul a’r
ysgolion erill. Odd dim un athro yn siarad Cymrâg â
chi … yn y gwersi ond yn y wers Gymrâg ond on nhw i
gyd yn Gymry. …
Oeddech chi’n gweld hynny’n lletchwith ar y pryd?
Dim o gwbwl. Nag oen. Ond oen ni ddim yn siarad Saesneg ‘da’n
gilydd. … Arhoses i ‘na i neud Lefel A a wedyn …
mi ddoth y rhyfel. A odd Mam ddim yn dda a odd Nhad wedi’i
gladdu - odd arian yn brin. On i am fynd i Goleg Aberystwyth i neud
Lladin a gweud y gwir. Odd y prifathro yn begian arna i wedyn i
fynd i Goleg Abertawe i fynd yn athrawes … ac odd yr athro
Cemeg am i fi fynd i Aberystwyth i neud Cemeg a es i ddim i un i
neud dim ohonyn nhw.”
Gwrthododd Mary
Ellis, cangen Aberystwyth [Tâp 9432] ddilyn ei dwy
chwaer i ysgol breswyl ym Mangor yn y dauddegau ond dewisodd yn hytrach
fynychu Ysgol John Bright, Llandudno.
“ Oedd ysgol
John Bright Llandudno yn llawn o Saeson … o Loegar, oedd eu
rhieni nhw yn cadw siopa yn Llandudno. … Oen i’n clywed
Saesneg o nghwmpas ac am y tro cynta erioed yn gorfod siarad Saesneg
trwy’r dydd ac oedd o’n brofiad anodd iawn i mi. Mi
roedd yna rai athrawesau gwrth-Gymreig yno, oeddach chi’n
medru gweld, oeddan nhw’n sgornllyd iawn o ffordd oeddach
chi’n siarad.”
Bu’n rhaid i Sylvia Rees, Lon-las, Abertawe
[Tâp 8996] ddewis rhwng Cemeg a Chymraeg yn Ysgol Llwyn-y-bryn,
tua 1946. Roedd ei thad yn mynnu iddi wneud Cymraeg. “Odd
yn enw i wedi dod mas ar Cemeg. … ‘Pwff ‘ wedodd
Dad, ‘Os os Cymraeg ych chi’n mynd i’r dosbarth
Cymraeg … Os os Cymraeg ar yr amserlen ych chi’n mynd
i’r Cymraeg’. … Ma fi’n ishte miwn ‘da’r
rhai odd yn cymryd Cymraeg. .. On i ar goll … yn Cemeg, ..
ges i’n hwpo nôl yn y Cemeg. … Etho i gatre a
wedes i wrth Dad ‘Sdim ots .. chi’n mynd i Cymraeg fory
eto’. … Ac fel’ny buodd hi am sawl diwrnod nes
bod y brifathrawes yn grac iawn. (Nawr trefnodd ei thad gyfweliad
â’r brifathrawes) a pan aethon ni miwn ma’ hi’n
codi lan a dweud y drefn - bo fi wedi cal ‘n newis fel un
intelligent oedd yn cal mynd i gymryd Cemeg … Fe arhosodd
Dad … a pan odd hi wedi gorffen, … medde fe ’Sit
down Miss Cameron, you’ve had your say, now I’ll say.
We are Welsh and if there’s Welsh on the timetable …
my child goes to Welsh’.” … Ac yn y diwedd odd
rhaid iddi roi miwn – fe gymres i Gymraeg.“
Atgofion cymysglyd
iawn am ryddid a phenrhyddid sy gan Erinwen Johnson,
Abergele [Tâp 9722] am ei haddysg yn Ysgol Sir Llanrwst yn y
pedwardegau :
“ Dwi’n
cofio eistedd yn yr English lessons … ag odd ‘y mhenaglinia
bach i yn crynu rhag ofn iddo fo ofyn i mi ddarllan yn Sisnag, achos
fedrwn i ddim. .. ac oedd gynna i ofn. … Odd bob peth yn Saesneg.
Ag wedyn oeddan ni’n gorfod lodgo yn Llanrwst - dim ond ryw
wyth milltir oedd o … a fydda Mam druan yn rhoid y pres yma
i ni brynu bwyd a pres i dalu am ein lle – O! oeddan ni’n
ddrwg. Oeddan ni’n cal dim supervision o gwbwl – dwi
ddim yn meddwl mod i ‘di rhoid ‘n llyfr Saesneg i mewn
i farcio erioed, erioed! … Oeddan i’n smocio beth on
i’n alw yn Cravana, Woodbines, pan oen i’n ddeuddeg
oed. … Oedd o fatha child abuse bron ychi. Oeddan ni’n
enjoyo’n hunen cofiwch. … (Yn wir rhedodd ei chwaer
Marian i ffwrdd o’r ysgol a hithau Erinwen heb ddweud wrth
unrhywun – fe’i cafwyd mewn tair wythnos ym Metws-y-coed).
Doedd neb yn poeni amdanon ni.”
Roedd ei Mam yn awyddus iawn i roi addysg iddi hi a’i chwaer
:
“Dwi’n cofio ryw dro, … Mam a’i ffrindie
, .. oeddan nhw’n sôn am ddillad … a dyma hi’n
deud wrthi, ‘Mary’, ( dyna beth oedd enw Mam), ‘Mary,
pam na brynwch chi got newydd yn lle rhoid addysg i’r merched
yma? Mae’n iawn i chi roi addysg i Wili, mae o’n hogyn,
ond y merched yma; wn i’m be ‘dach chi’n trafferthu,
gneud ych hun yn dlawd rhoid addysg iddyn nhw’. ‘Wel
ie’, medde Mam ‘Ond mi fydd o werth iddyn nhw ryw dro’.
‘Na fydd wir, wnan nhw ddim byd ‘blaw priodi a chal
babis, dydy o dda i ddim byd iddyn nhw’. A dyma Mam yn deud,
‘Wch chi be, mi wnan nhw well rhieni’. “
I Ysgol Ramadeg
y Merched, Caerfyrddin yr aeth Meinir McDonald, cangen
Aberystwyth [Tâp 9438], a daeth yn bryd iddi (tua 1953) ddewis
ei phynciau Lefel A :
“ Mathemateg
odd ‘n hoff bwnc i. Ond chmbod, y peth sy’n rhyfedd,
bysen i wedi hoffi neud Mathemateg i Lefel A ond wedodd Mam yn bendant
‘Na’. A dyma’i rheswm hi – ‘Ti byth
yn gwbod, ti’n gweld, falle byddi di â’r mislif
pan fydd yr arholiad a falle wnei di ddim yn dda iawn ti’n
gwbod. Falle fyddi di ddim yn teimlo’n dda y diwrnod ‘na.’
… a wedyn ‘ny wrth gwrs, Cymrag, Saesneg a Lladin wnes
i yn y pendraw.”
A beth am wersi
rhyw? Oedden nhw’n cael eu dysgu am ffeithiau bywyd yn yr ysgol?
“...Ew annwl
nag oeddan. Synhwyro, pigo peth yma i fyny, o ia, a pigo peth arall
i fyny a rhoi two and two together...Odd gwersi bioleg – reproduction
of the rabbit – odd hwnnw yn cal ’i gyfri dipyn bach
yn blue.”
Gwyneth Williams, Morfa Nefyn, Dwyfor [Tâp
8987] am Ysgol Ramadeg Pwllheli yn y pedwardegau a dechrau’r
pumdegau.
GWRANDEWCH ar ddisgrifiad Carys Whelan,
Penybont-ar-Ogwr, [Tâp 9172] mewn sgwrs gyda Marian Lake o’i
dyddiau ysgol yn Ysgol Ramadeg y Merched, y Porth, y Rhondda yn y
pumdegau : “Buon
ni’n lwcus ofnadw achos hanner ffordd drwy ngyrfa ysgol ramadeg
i mi ddath Mair Kitchener Davies ar y staff ag yr unig beth odd
merched odd yn siarad Cymrâg yn neud tan hynny odd ‘Easy
Welsh’ sef O2 … ond mi ddâth Mair ac fe fynnodd
hi bo ni’n neud Iaith a Llenyddiaeth y Gymrâg. A buon
ni’n aros ar ôl ysgol unwaith yr wthnos drwy gydol y
flwyddyn i astudio Parry Willams a Williams Parry a Kate Roberts
– odd e’n gyfoeth mawr i ni.
Och chi’n gweud taw ysgol i ferched odd hi. Faint o gyswllt
odd rhyngddoch chi ag ysgol y bechgyn?
O, jiw, jiw, dim o gwbwl. Odd y bysys yn rhedeg ar wahân a
odd ffens ddur rhwng y ddou ga, rhwng y ddwy ysgol. …Mi welwyd
dwy ferch yn siarad ‘da dou fachgen un tro a yn y gwasaneth
bore trannoth dyma y brifathrawes, Miss Hudd, yn dweud, ‘Girls,
there’ll be nappies hanging on that fence if you’re
not careful.’ ”
“y
flwyddyn gynta och chi’n subprefect a cyfrifoldeb plant newydd
,chmbod dosbarth, a wedyn full prefect, … yn y Neuadd Fawr
odd galeri ac odd ystafell tu ôl i’r galeri, y lower
sixth room oedd e, a ‘na le nes i ysmygu gynta. Ffenest ar
agor rhag ofon bod yr athrawes yn dod …. Odd bron pawb yn
– falle fydde un odd person ddim yn.”
H. Rowena Millward, Porthcawl [Tâp 9252]
tua 1956 am Ysgol Ramadeg y Merched, Llanelli.
|