|
|
Pa
goleg?
“Mae’n
siwr mod i’n gwbod yn ddigon buan na faswn i ddim yn cal cyfla
i fynd i goleg. … Oedd Mam ar ei phen ei hun erbyn hyn …
Ma’ rhywun yn aberthu lot a deud y gwir ar gyfer ei deulu
weithia tydi?”
Siaradwraig o Frynteg, Môn [Tâp 9422]
“
Oedd bechgyn y Rhos yn cael eu hybu i fynd i brifysgol ond doedd
e ddim yn rhan i ferched. ‘Chydig iawn, iawn o ferched oedd
yn mynd i Brifysgol – aros i’r chweched dosbarth ond
wedyn, y genethod, wel gaen nhw fynd yn nyrs, neu gawn nhw fynd
i Manweb i weithio (swyddfeydd mawr efo trydan oedd hynny), neu
gawn nhw fynd i’r Coleg Normal i fod yn athrawes.”
Diana M. Roberts, Dinbych [Tâp 9663]
“Wi
wastad yn cofio Dad yn dod gatre o’r gwaith, fi’n sôn
ambyti mynd i’r coleg a pethe fel’ny a (Jane odd enw Mam)
a Dad yn gweud ‘Jane ti’n gwbod odd so and so wedi gweud
ar y spêc yn dod lan o dan ddaear bore ‘ma, “Diyr
Tom Dyer ych chi’n ffol iawn yn hala’ch merch i’r
coleg, priodi wneith hi.”’ Ateb Mam odd, ta p’un,
‘Paid â gweud wrtho i pwy wedodd wrthot ti. Pan fydda
i’n moyn menthyg arian wrtho fe fydd hawl ‘da fe i holi
pyr’ny. Gadwa i lodger bach arall. Os yw Eirwen yn moyn mynd
i’r coleg ma hi’n cal mynd.’”
Eirwen Hopkins, Rhydaman [Tâp 8948] ac yn wir
aeth Eirwen rhwng 1933-38, ymlaen i Goleg Technegol Caerdydd am flwyddyn
i ddysgu bod yn fferyllydd, yna gwneud tair blynedd o brentisiaeth
a gorffen ei chwrs yn Llundain. Eto pan yn prentisio gwelodd beth
rhagfarn yn ei herbyn fel menyw gan nad oedd dim llawer o ferched
yn mynd i fod yn fferyllwyr. Byddai un neu ddau o’r fferyllwyr
yn dweud ‘Oh! no, if she’s a girl I don’t want her.’
“Odd
y dosbarth on i ynddo fo, oeddan nhw i gyd yn ryw griw reit uchelgeisiol,
wedyn oeddach chi’n teimlo os ydi hi yn mynd i’r coleg
mi a inna ’fyd, ’te. … Wel, on i’n llances
iawn yn mynd. W’chi fel oeddach chi’n ddeunaw oed, ‘o
’na fo, dwi’n mynd’. Y tymor cynta on i’n
hollol iawn, wedyn ddes i adra Dolig...a phan esh i’n ôl
y mis Ionawr hwnnw, mi gesh i’r hiraeth mwya ofnadwy...Oeddan
ni, criw ohonan ni, yn reit ryw hiraethus yr ail dymor...Odd y novelty
’di gwisgo i ffwrdd, ma’n siwr.”
Beti Isabel Hughes, Bwlchtocyn [Tâp 8990] am
goleg Edge Hill, Ormskirk, tua 1948
.
Coleg
Hyfforddi y Barri
Mae
atgofion rhyfeddol o fyw gan Beti George, Ystalyfera
[Tâp 9015] o fynychu Coleg Hyfforddi’r Barri yn y pedwardegau.
GWRANDEWCH arni’n sgwrsio â Nest Davies
ac yn disgrifio’r Pennaeth yno ar y pryd :
“O!
Ellen Evans, yr enwog Ellen Evans a pawb yn crynu pan oedd Ellen
Evans yn dod. A gweud y gwir fydde pawb odd yn Coleg y Barri rownd
y cyfnod ‘na ( wel on i ‘na diwedd y pedwardege yntefe)
odd pawb fydde ‘na yn gweud yr un peth am Ellen Evans - martinet
fydde’r gair yntefe? Wel, odd fwy o ryddid, gad i fi weud
e, odd fwy o ryddid gyda chi yn yr ysgol na beth oedd gyda chi yn
Coleg y Barri. Oech chi’n gorfod bod miwn yn y nos am hanner
awr wedi saith yn yr wthnos ac ar y penwthnos am hanner awr wedi
wyth. Ond och chi’n cal bod mas yn hwyrach ar nos Sul os och
chi’n mynd i Ysgol Gân y Tabernacl. A’r arweinydd
odd Dan Evans, tad Gwynfor Evans, a odd e’n ryfedd faint o
ferched odd yn sydyn iawn â diddordeb mawr yn mynd i ganu
a on ni’n mynd i ganu achos bo chi’n cal awr fach extra
mas. A chmbod ar nos Sadwrn fydden ni’n mynd i’r pictures
jyst lawr yr hewl o’r tyle yn y Barri a’r plant, falle
fyddech chi wedi bod ar ymarfer dysgu yr wthnos cyn’ny, yn
ishte fan’na yn mwynhau y ffilm a ni i gyd yn gorffod raso
mas lan y tyle achos odd hi’n dod dros hanner awr wedi wyth!
A ‘na beth odd y profiad o fod yn y Barri pryd’ny o
dan Ellen Evans.”
“Pan
on i yn y coleg, chi’n gweld, odd Ellen Evans gyda’i ethics
yn pregethu yn erbyn y ddiod. A dyna beth odd hi’n ddweud …
ar nos Lun pan fydde hi’n gweud y gwirionedde mawr wrthon ni,
medde hi, ‘If you meet your husband in a pub, don’t expect
him not to go to the pub when you’re married’.”
Nid yw Margaret yn cofio gweld unrhyw ferch yn y coleg eisiau mynd
i dafarn nac yn smocio ar y slei hyd yn oed. A fyddai dim diod feddwol
yn y midnight parties ‘chwaith. Margaret
Davies, Beulah, Ceredigion [Tâp 9486] (ddechrau’r
pumdegau)
DARLUNIAU o fyfyrwyr Coleg Hyfforddi y Barri
: (i)
Merched ‘Dorm 5’, Neuadd Gwent, 1950
(ii) Cwmni y Ddrama Gymraeg yn actio Hamlet
{trwy garedigrwydd Margaret Davies, Beulah}
Doedd
dim grant o fath yn y byd i helpu Mair Garnon James,
Llandudoch, Penfro [Tâp 9478] i dalu am ei haddysg yng Ngholeg
y Barri adeg y rhyfel, a hithau wedi colli’i dau riant. Sut
fyddai hi’n ymdopi yn ariannol felly? ‘Bod hebddo’.
Gofalai fod ganddi arian i deithio nôl a mlaen a chai bunt gan
hwn a phunt gan arall o’i pherthnasau, oedd ‘yn lot o
help’.
Dewisodd fynd i’r Barri lle roedd yr arloeswraig Norah Isaac
bellach yn ddarlithydd ‘a wê bwrlwm yndy hi’. Bob
nos Sadwrn byddent yn cynnal Nosweithiau Llawen i godi arian at yr
ysgolion Cymraeg newydd oedd yn cael eu hagor yn y cyfnod hwn. Clywodd
trwy’r Arolygwr Ysgolion, Miss Cassie Davies, fod Coleg y Barri
bellach ar agor i ferched o’r tua allan i Forgannwg a Gwent
ac y cai ddiwylliant a Chymreictod yno, ‘a ges i fwy o ddôs
nag on i wedi feddwl, glei, yn y ddwy flynedd ‘na’.
Coleg
Hyfforddi y Drindod, Caerfyrddin
Yn
groes graen y cafodd Mererid James, cangen Beulah,
ei hun yn hyfforddi yn athrawes gynradd yng Ngholeg y Drindod [Tâp
9839] tua 1962 a hynny am fod ei rhieni yn credu fod yn rhaid mynd
i goleg y gael ‘jobyn saff’. Ni fu’n gyfnod hapus
iddi.
Coleg
y Normal, Bangor
Eglura
Buddug Thomas, Genau’r Glyn, [Tâp 9458]
ei llwybr hi o Ysgol Sir Machynlleth i Goleg y Normal, Bangor ddiwedd
y tridegau :
“Nid
y fi oedd yn penderfynu! Mam oedd yn penderfynu pethe felly! Ac
am ryw reswm neu gilydd fe benderfynon gallwn i wneud chwe mis o
ddysgu mewn ysgol yn Llanbryn Mair cyn mynd i’r coleg. Oedd
hynny’n wych. … Rhannu dosbarth efo gwraig oedd erioed
wedi bod mewn coleg ei hunan, dim ond un o’r rhai oedd wedi
cadw ymlaen i ddysgu ar ôl gadael yr ysgol – a dyna
un arall - roedd hi’n wych, yn ardderchog.
(Yn yr hostel yn y Normal) – merched yn unig os gwelwch yn
dda. Os oedd bechgyn yn dod â ni adre oedden nhw’n gorfod
gadael ni wrth y llidiart oedd yn dod i mewn i’r ardd. …
Lot o sbort! … Oeddech chi’n cael loan, council loan,
benthyciad gan y cyngor i fynd i’r coleg, £15 am un
flwyddyn a £10 am yr ail flwyddyn. Oeddech chi’n gorfod
seinio papur i ddweud bo chi’n talu e nôl, fair enough,
ond bo chi hefyd fel merch yn gorfod deud nad oeddech chi ddim yn
mynd i briodi am bum mlynedd. … Fel digwyddodd hi dorrodd
y rhyfel allan ac oedden nhw eisie gwragedd priod yn ôl, felly
diddymwyd y rheol yna. … Sir Drefaldwyn – ‘Ewch
i ffwrdd am dipyn o brofiad fy merch i’. … Roedd Llunden,
Manceinion, Birmingham a Lerpwl – roedd eu prif arolygwyr
nhw yn y colege, yn St Mary’s ym Mangor ac yn y Normal –
roedden nhw yna yn gynnar yn y flwyddyn yn dewis y rhai gore ac
yn cynnig jobs iddyn nhw.’”
“’Aru
o erioed groesi’n meddyliau ni ein bod ni’n Gymry ac yn
Bleidwyr a bob peth felly, oedden ni’n derbyn y status quo mai
Saesneg odd iaith gweinyddol y coleg a phetha felly. ’Aru ni
erioed feddwl, fel ddaru cenhedlaeth ar ein holau ni, y dylen ni frwydro
am statws y Gymraeg ... Doedden ni ddim yn teimlo ein bod ni’n
cael ein bygwth yr adeg honno.”
Llinos Jones, Caernarfon [Tâp 8975] am y Coleg
Normal, tua 1947.
“Athrawes
on i isho bod ers erioed, erioed, erioed. Nesh i erioed feddwl am
fynd yn DDIM byd arall, ond athrawes. Odd cwrs y Normal yn ddwy flynedd
… ag odd y Normal yn fwy na digon i mi.“
Dilys Elizabeth Thomas, Betws-y-coed [Tâ9653]
tua 1947.
“Adeg
hapus ofnadwy. Oeddan nhw’n strict ofnadwy fan’ny wedyn,
oedd rhaid i ni fod yn ôl yn ein ystafelloedd, oedd rhaid i
ni fod mewn cwarter i ddeg bob diwrnod o’r wythnos ac ar ddydd
Sadwrn oeddan ni’n cael aros allan nes ugain munud wedi deg.
Ag oeddan nhw’n cal dawnsfeydd yn y Brifysgol ac wrth gwrs mi
roeddan ni’n mynd wedyn, popeth yn gorffen am ryw ddeg munud
wedi deg a oeddan nhw’n deud ‘Reit, merched bach sydd
yn y Coleg Normal, well i chi fynd i’ch gwlau’, ac oeddan
ni’n teimlo’n ofnadwy pan oedd pawb arall yn cael aros
allan tan
hanner nos. Ond dyna fo. … Oedd bob ffenest yn y gwaelod â
bariau arno fo ac oedd ‘na rhai merched yn dengid allan trwy’r
baria yma. A dwi’n cofio yn y dyddie hynny oen i lot teneuach
nag ydw i rwan, dwi’n cofio dangos i grwp o ffrindia sut fysan
nhw’n gallu mynd allan trwy’r barie yma a mi ges i nal
yn do – a wedyn gorfod i fi gal aros mewn am wsnos – ddim
yn cael mynd allan ‘run min nos.”
Eryl Llwyd Jones, Wrecsam [Tâp 9657] ond o
Ddolgellau yn wreiddiol; tua 1955.
DARLUNIAU
o fyfyrwyr Coleg y Normal :
(i) yn 1946 {trwy garedigrwydd Mary Evans, Nefyn}
(ii) Neuadd Môn, 1952-3 {trwy garedigrwydd
Deilwen Jones, Dre-fach, Llanelli}
“On
i’n teimlo ers on i’n yr ysgol gynradd bod on wrthun bod
rhaid i fi wneud bob dim trwy gyfrwng y Saesneg, … On i’n
ffodus,...1956 odd y flwyddyn ddaru’r Coleg Normal ddechre gwneud
cwrs i athrawon trwy gyfrwng y Gymraeg...wedyn nes i fanteisio ar
y cyfle yna...On i’n falch bod fi’n cael y cyfle, ac yn
meddwl bod on ddyletswydd arna’i i fanteisio ar y cyfle yna...”
Megan Roberts, Caernarfon [Tâp 8971].
Dechreuodd
Gwenda John, Blaen-ffos, Penfro, [Tâp 9218]
hithau yn y Coleg Normal yn 1956 -cyfnod pan roedd rhai agweddau yn
dal yn hen ffasiwn a rhai ar fin newid yn sylweddol. GWRANDEWCH
arni’n adrodd yr hanes wrth Ruth Morgan : “
Mynd i Fangor : Odd rhywun yn hebrwng fi , neu on i’n mynd
gyda bys, i Aberteifi; mynd gyda bys i Aberystwyth; on i’n
mynd ar y tren yn Aberystwyth, on i’n newid yn Dyfi Junction,
on i’n newid yn Afon-wen, a on i’n cyrradd Bangor yn
hwyr yr un diwrnod. Wedi cyrradd Bangor – y stesion lawr yn
gwaelod y dre cerdded yr holl ffordd, y cesys a chwbwl lan i Bangor
Ucha. …
Wedi mynd i’r Coleg wedyn odd dewis gyda ni os on ni ishie
neud ‘n cwrs trwy gyfrwng y Gymrâg a ni odd y flwyddyn
gynta, ni odd yr arloeswyr yn neud …a, chmbod, neud yn holl
bethe fel Addysg, Iechyd, Ymarfer Corff, y cwbwl ‘ma trwy
gyfrwng y Gymrâg a odd ddim terme i gal. A dwi’n cofio
yr adeg ‘ny odd rhywun yn prifysgol Aberystwyth yn bathu geire
a bob hyn a hyn on ni’n cal rhester faith o beth odd cyfieithu
, gwedwch fel, ‘Jumping with a rebound’, dwi’n
gallu cofio ‘na a bathu geirie Iechyd, yntefe. A fuodd e’n
dipyn o waith. …
Beth am y rheole yn ‘ch Neuadd chi ‘te. Odd rheole?
O on, gaeth. Odd bars, bars tu fas i’r ffenest ar y llawr
- cal neud yn siwr bo neb yn dod miwn a mas ond on nhw yn! …
Och chi ddim fod i fynd mas. Os och chi’n mynd mas och chi
fod seino, arwyddo llyfyr a och chi fod gweud ble och chi’n
mynd a pryd byddech chi nôl a pan fyddech chi nôl och
chi fod arwyddo bo chi wedi dod miwn. On ni’n cal fel epilog
erbyn nos. Och chi’n galler mynd mas nos Fercher a nos Sadwrn.
Os odd rhai merched, os on nhw’n clywed y gloch a os bydde’r
drws wedi’i gloi cyn bo nhw wedi cyrradd lan on nhw’n
cal ‘u ‘gêto’, hynny yw cal ‘u cau
miwn a on nhw’n gorffod aros miwn am wthnos a mynd at pennaeth
yr hostel bob awr i ddangos bo nhw’n y ty. Ges i’n gêto
un waith, ethon ni i gerdded yr Wyddfa, criw ohonon ni, a ‘na
pam gethon ni’n gêto achos bo ni ddim wedi arwyddo bo
ni ddim yn codi fore dydd Sul. Os och chi’n aros yn gwely
ar fore dydd Sul och chi fod arwyddo nos Sadwrn ac os nag och chi’n
arwyddo och chi fod codi. Ond ath criw ohonon ni i ben yr Wyddfa
a cerdded milltiroedd a milltiroedd achos yn hytrach na talu bys
- a cerdded nôl. A pan ethon ni’r gwely, on ni wedi
blino gymint a benderfynon ni - son ni’n codi fory er bod
ni ddim wedi arwyddo a gethon ni’n gêto am wthnos.
Odd dim neb fod yfed. Odd dim bechgyn i fod dod ond beth odd yn
digwydd - odd yr ail flwyddyn – odd pob un â col-mother
a col-daughter a os odd y fam yn un o’r rhai gwyllt ‘ma
yn caru gyda rhywun odd hi’n neud yn siwr bod hi’n col-mother
blwyddyn nesa i un odd hi’n gweld odd yn cysgu ar y llawr
cynta, ar y llawr a odd y col-mother wedyn yn gallu rheoli a gweud,
yn dodd hi?, bod hi fod mynd lan ‘i gwely hi a odd hi’n
dod miwn trwy’r ffenest y llawr. Odd hynna’n mynd mlân.
Dwi ddim yn gwbod faint on nhw’n gwbod, ond, chmbod ‘to,
on i’n hollol disgusted ‘da fe, yntefe, on i’n
meddwl bo fe’n warthus bod bachgen yn dod mewn trwy’r
ffenest i fod yn y gwely ‘da’r ferch. Ond ‘na
beth odd yn digwydd.”
Coleg
Hyfforddi Abertawe
Yn
groes graen iawn yr aeth siaradwraig o Gorseinon [Tâp 8892]
i hyfforddi yn athrawes yn Abertawe yn y dauddegau. Roedd wedi gobeithio
mynd i’r Coleg Gwyddor Ty yng Nghaerdydd ond fe’i cynghorwyd
gan ffrind i’w thad na fyddai swydd ar ei chyfer petai’n
gwneud hynny a bod angen athrawon. ‘Fi’n cofio bod yn
ynfyd’ am hynny meddai.
Chafodd
siaradwraig o ardal Llanddeiniol,Ceredigion [Tâp 9163] ddim
llawer o ddewis ynglyn â mynd yn ei blaen i goleg ychwaith a
chan iddi gael salwch penderfynwyd ar ei rhan mai i hyfforddi’n
athrawes y dylai fynd. Sut fyddai merch o’r wlad yn ymdopi yn
Abertawe ddechrau’r pumdegau?
“Os oedd ‘na ddawns – bobol bach! - dwi’n
cofio gweld y ffrog gynta ar draws un ysgwydd a’r ysgwydd arall
yn noeth. Doen i ddim wedi gweld ffasiwn beth yn ‘y mywyd ‘te!.
… oen i jyst yn gegrwth! … A wedyn rhyw ffrogie hir i
ddawns ac yn y blaen. … Dwi’n cofio prynu rhyw fra crand
ofnadw. Oedd siop yn Abertawe, Madam Fauner, .. a dwi’n cofio
Erica yn mynd efo fi a dyma ni’n penderfynu prynu bra newydd,
bobol bach! - oen ni erioed wedi cael dim byd mor bigog, (chwerthin)
… A wedyn sgert syth, dwi’n gweld hi nawr – lwyd,
dau shade o lwyd a rhyw streipen bach lliw mwstard a wedyn prynu top
lliw mwstard, bobol bach! doen i ‘rioed wedi bod mor smart.
A mynd adre wedyn a gwisgo honno i ryw bethe gartre. … Dwi’n
credu fod Mam yn browd ohonon ni. … Ar ddydd Sadwrn gwlyb fydden
ni’n dweud ‘Reit dan ni gyd yn mynd i gael perm’
… Fydden ni’n prynu ‘Tony’ mewn bocs. …
Fydden ni gyd fanno’n chwerthin. ( Roedd ystafell y pennaeth
reit dan eu dormitory nhw ac felly byddent yn cael stwr am fod y draen
yn llawn o drochion gwyn ac wedi gorlifo!). Roedd hi ( y pennaeth)
yn berson anaddas, faswn i’n meddwl, Fictorianaidd, i fod yn
bennaeth ar goleg merched.”
DARLUNIAU
o fyfyrwyr Coleg Hyfforddi Abertawe
(i) Merched ‘Dorm 9’, 1955 {trwy garedigrwydd
Iona Edmunds, Llanelli}
(ii) 1956; Pennaeth : Miss Smith
(iii) Ruby Salmon gyda myfyrwraig o Nigeria tra
ar Ymarfer Dysgu o Goleg Hyfforddi Abertawe yn Solfach 1946. {trwy
garedigrwydd Ruby Salmon}
Coleg
y Santes Fair, Bangor
Bu
Margaret A. Griffiths, Pen-y-groes, sir Gaerfyrddin
[Tâp 9064] yn helpu fel myfyrwraig ddi-dal am ryw flwyddyn
yn ysgol gynradd Pen-y-groes cyn cychwyn ei hyfforddiant yn Ngholeg
y Santes Fair, Bangor ganol y dauddegau :
“
On i wedi cal ‘n nerbyn i fynd i Abertawe ond on i’n
meddwl - odd Abertawe yn costio £40 y flwyddyn a odd y Santes
Fair yn costio £25 ac on i’n meddwl wedyn chmbod gelen
i, allen i, fynd i’r Santes Fair a bydde’r pymtheg punt
‘na’n talu am y trafaelu nôl a mlân achos
odd whant arna i weld y byd tipyn bach. … Yn y Santes Fair
Saeson odd ‘na fwya. Coleg yr eglwys odd hi a mynd yna ar
ddamwain nes i …Odd dim rhaid i fi fynd i’r eglwys cofiwch
… ond on i’n mynd bob bore a nos, odd ‘na wasanaethe.
Odd e’n goleg bach cynnes iawn.”
Yn
y pumdegau y bu Margaret Lloyd Hughes, Y Garth [Tâp
9242] ond o Gwmystwyth yn wreiddiol yng Ngholeg y Santes Fair, Bangor
. Erbyn hyn cai cariadon ddod i mewn i’r lolfa ond “wi’n
meddwl o ddifri ein bod ni’n eitha bodlon ar gal ‘n
trin fel plant ysgol. … Odd dim cymdeithasu mewn tafarne’r
adeg hynny o gwbwl, odd e ddim yn digwydd … cofiwch odd ‘da
ni ferched o’r de … tipyn o gymeriade o’r cymoedd,
a on nhw, on i’n ystyried bo nhw wedi gweld bywyd hollol wahanol
a on nhw’n llawer mwy streetwise nag on ni o ganol y wlad….
On nhw lawer mwy agored na ni. … Ces i siawns i gymryd un
o’r prif ranne yn un o ddramau Christopher Fry – ‘Thor
with Angels’ – fi oedd yn cael ‘nghroeshoelio.
… A wi’n cofio nawr, ma hwn yn aros, , ma rhaid i fi
weud hwn nawr, ar ôl y noson gynta fe ddath ‘na ddyn
ata i a gofyn i fi a oedden i erioed wedi ystyried actio yn broffesiynol
a finne’n gweud ‘NO’.“
DARLUNIAU
amrywiol o Goleg y Santes Fair, Bangor :
(i) y Llyfrgell Dawel tua 1949-51
(ii) y Neuadd Ymlacio tua 1949-51
(iii) Trip y National Union of Teachers 1951
(iv) Taith Maes i ymweld â bedd Lloyd George
yn Llanystumdwy, 1951.
{trwy garedigrwydd Nancy Thomas, Llangefni}
ERAILL
Atgofion
am aros mewn hostel a llety sy gan siaradwraig o Faelog, Môn
hefyd [Tâp 9629] a hithau wedi mynd i Goleg Hyfforddi Crewe
yn ifanc, yn ddwy ar bymtheg a hanner oed, oherwydd y rhyfel :
“Yr
ail flwyddyn oeddan ni yn yr hostel a oedd ganddon ni stafall ‘n
hunan a oedd rhaid i ni gadw’r stafall yn hynod o dwt, bydda’r
principal yn dwad o gwmpas bob hyn a hyn i weld bod hi’n dwt.
… Dwi’n cofio unwaith, dwi’n siwr fod ganddon
ni dipyn o dwrw (mewn parti) dyma’r sawl oedd yn dysgu Saesneg
i ni, dipyn o snob oedd hi a dyma hi mewn a dyma hi’n deud
‘You’re acting like some factory girls!’. …
Pan oeddan ni yn y lodgings oeddan ni’n gorfod bod i mewn
erbyn hannar awr wedi wyth, … Dwi’n cofio unwaith eson
ni i Crewe ac oedd ‘na ffilm eithriadol o dda, ‘Gone
with the Wind’. Ac oedd y ffilm yma yn para am dair awr ac
oedd ‘na giw mawr a oedd Margaret a fi yn benderfynol bo ni’n
mynd i’w gweld hi. A dyma ni mewn. A … mi ath yn naw
o’r gloch. Rhedag am y bys ac fel oeddan ni’n cyrradd
odd y bys yn mynd. Fuo raid inni gerddad yr holl ffordd yn ôl
i Welsh Green a sleifio fyny grisia rhag ofn i Mrs Barnes ‘n
clywad ni. .. Beth nesa, dyma Mrs Barnes yng ngwaelod y grisia,
‘I’ve heard you girls and I’m ringing the Principal
first thing tomorrow morning. Come for your supper’. Dyma
ni lawr. O! Methu cysgu y noson honno. Ond wrth gwrs ddaru hi ddim
riportio ni ‘te. Naddo. … Coleg i ferchaid yn unig.
.. Ac os bydden ni’n gweld dyn fyddan ni’n gweiddi ‘There’s
a man in hostel’ Odd hwnnw’n rhwbath amheuthun!”
Atgofion
melys sy gan Eluned Mai Porter, cangen Y Canoldir,
[Tâp 9752] hithau o fynychu Coleg Madeley yn swydd Stafford
i wneud cwrs gradd mewn Gwyddor Ty yn y pumdegau ac roedd wrth ei
bodd yn astudio ymhlith llawer o Gymry ac yn dilyn oedfaon y Capel
Cymraeg lleol yn Hanley. Ond cyfaddefa hefyd fod rheolau’r coleg
yn llym ac iddynt wrthryfela yn eu herbyn : “ond
dwi’n cofio un ferch, oedd hi’n dod o’r cymoedd,
ag oedd hi wedi ffaelu dod nôl ar nos Sul ac ar fore ddydd
Llun mi ddaru nhw holi iddi adel y coleg. Dyma ni i gyd yn dod at
ein gilydd, … dwi’n cofio hefyd yr un amser roedd ‘na
ferched o Fangor – roedd ‘na yn union yr un fath yn
digwydd ym Mangor a Caerdydd a colege erill yng Nghymru, achos roeddan
ni gyd yn cymysgu â’n gilydd, dwi’n cofio ni gyd
yn mynd at ein gilydd a gneud y swn mwya dychrynllyd ac yn cerdded
o gwmpas y campws a baneri a bob dim. Ac yn wir mewn mis o amser
mi ddoth y ferch yn ôl. Ddaru ni ddangos sut oeddan ni’n
teimlo.”
|