|
|
Ysgolion
Canol / Sir
DARLUN
o Gôr Ysgol Ganol Llanrug, 1929 a fu’n fuddugol yn Eisteddfod
Lerpwl.
Yn
ôl Enid Whiteside Thomas, Llanrug, mewn llythyr
i gydfynd â’r llun
“Diwrnod mawr yn fy hanes oedd cael mynd i Eisteddfod Lerpwl
yn y flwyddyn 1929 ... yn ychwanegol at hyn roeddym
newydd gael uniform newydd i’r ysgol am y tro cyntaf oherwydd
symud o Ysgol Bryn Eryr i’r ysgol newydd adeiladwyd yn y pentref.
Ysgol Ganol y’i gelwid. Fe gofiaf amdanom yn cerdded trwy
un o strydoedd Lerpwl yn ein dillad. Tunic brown, blouse lliw hufen
a chap brown a llun y genhinen Pedr wedi’i weithio yn gywrain
ar y blaen. Y bechgyn efo blazer brown ac ymyl lliw hufen rownd
y goler. Roedd hynny yn rhoi cymaint o bleser inni ag a wnaethcael
mynd i Eisteddfod Lerpwl yn y flwyddyn 1929 … yn ychawnegol
at hynny roed buddugoliaeth o enill y wobr 1af a chael y gwpan hardd.
Athro yn yr Ysgol oedd yr arweinydd o’r enw William Roberts
o Gaernarfon. Roedd yn gerddor gwych. … Cawsom groeso mawr
gan ein rhieni a’r pentrefwyr ar sgwâr y pentre, gyda’r
prifathro M.G.T.Roberts yn ein llongyfarch.”
“Ces
i nghicio mas o’r dosbarth Lladin am bo fi ddim yn deall gair
Saesneg. … Mi ddudodd y ddynas ‘I’m not going
to teach heathens!’ … Am bod hi wedi gofyn cwestiwn
am y Beibl a finne ddim yn gallu ateb hi’n Saesneg. …
Doedd gen i ddim digon o Saesneg i ateb hi’n Saesneg yn nag
oedd? … Roedd yr hen Richard Bennett (awdur llyfrau ar hanes
Methodistiaid Trefaldwyn) yn sefyll ar y ffald ac yn gweld fi’n
cychwyn i’r ysgol ac yn deud wrth fy mam, ‘Sdim sens
yn hyn, gneud hyn i lodes fynd i’r ysgol. ‘Sdim eisie
i ferched gael ysgol.’ ”
Buddug Thomas, Genau’r Glyn [Tâp 9458]
am Ysgol Ganol Machynlleth yn y tridegau.
“Wi’n
cofio fi’n cal dewis wedyn – odd coginio, Lladin neu
gwaith coed i’r bechgyn – ‘na beth odd y dewis
yn blwyddyn tri. So, on i ishe mynd i neud coginio … on i
ddim ishe neud Lladin a wi’n cofio’r prifathro yn gweud
wrtha i ‘You can learn how to cook at home girl, go and do
Latin’.”
Dyna
ddigwyddodd i Mererid James cangen Beulah [Tâp
9838] ond a oedd yn yr Ysgol Uwchradd ym Machynlleth, tua 1958.
DARLUN
o dim hoci High / County School Machynlleth, 1962
{trwy garedigrwydd Valerie James, Caerfyrddin}
Yn y cyfnod hwn cai’r bechgyn wersi gwaith coed a garddio a’r
merched eu paratoi ar gyfer eu priod rôl mewn cymdeithas, sef
aros gartre i fod yn wragedd a mamau da. Felly, pa wersi oedd ar eu
cyfer yn Ysgol Sir Botwnnog ganol y pedwardegau? “Housewifery
a choginio...bob peth – sut oedd llnau, gosod bwrdd,dysgu
sut oedd gwneud bob peth yn iawn, ’de...Odd raid i chi ddysgu
sut i llnau llwyau, y glasses...Dysgu sgwrio yn iawn, ’de.
Rhannu’r bwrdd yn bedwar...Dod â’ch dysgl a’ch
cadach llestri a brwsh sgwrio a sebon, wedyn cael bwrdd sgwâr
a wedyn dechrau yn y gongol bella, sgwrio efo dwr, rinsio wedyn
a’i ail-wneud o’n lân. Gwneud y bedair ochor ’lly.
Fydda pawb efo pride yn ’i waith, w’chi.”
Mair Eluned Price, Chwilog, Dwyfor; [Tâp
9282] tua 1930.
Ysgolion
Secondary Modern :
Methodd
Marina Davies, cangen Porthcawl [Tâp 9251]
yr 11+ o hanner marc y tro cynta ac o chwarter marc yr ail dro a
dwedodd wrth Rhiannon Price beth fu ei thynged wedi gadael Ysgol
gynradd Cwmllynfell tua 1946 :
“ Och chi’n mynd i’r Secondary Modern wedyn yntefe.
Wi’n credu bydden i’n well ‘se’n i wedi
trial e (y 11+) yn Gymrâg yn lle’n Sisneg. …
I le o’ch chi’n mynd wedyn?
Gwauncaegurwen Secondary Modern.
Beth am yr addysg yn fan’ny? Beth och chi …?
Wel on i’n cered trwyddo fe, on i’n gweld e rhy rwydd
a gweud y gwir yntefe? Etho i mewn i’r B stream. A on i ‘na
am un term – wel odd Jack Watkins ( ei hathro ysgol gynradd)
shwt athro da acha Maths on i ‘di neud pethach on nhw’n
neud yn y Bs amser on i yn Standard 4 . Ond Nadolig ‘ma’r
Mishtir yn galw fi mewn a medde fe ‘Fi’n cretu fod camsynied
wedi bod. Odd dwy yn dod o Gwmllynfell Marina a aethoch chi mewn
i’r Bs yn lle’r As.’ Etho i mewn i’r As
wedyn acha Nadolig … Fi odd top y class nes bo fi’n
gadel ysgol.”
Cafodd gynnig wedyn i fynd i Ysgol Ystalyfera ond bellach roedd
hi wedi ymgartrefu lle’r oedd hi a ddim eisiau gadael.
Wedi
addysg gynnar yn ysgol fach wledig un athrawes Capel Seion ger Aberystwyth
safodd Beryl Hughes, Rhydypennau yr 11+ yn 1950 [Tâp
9451]. Mae ei sgwrs â Sian Hayward yn crisialu teimladau llawer.
GWRANDEWCH ar ei geiriau onest :
“Siom
fawr i fi odd yr 11+ - methu - a mynd i Ysgol Eilradd Dinas. …
dim ond cofio bo fe wedi bwrw fi fel ergyd o wn … wi’n
cofio’r trafod gatre. ‘Nhad yn fwy siomedig na neb achos
bod e’n gwbod bod diddordeb ‘da fi mewn darllen a pethe
.. odd e’n siom fawr i fi’n bersonol. On i’n teimlo’r
siom yn unarddeg oed a fe sefodd y siom ‘na gyda fi, wel wi’n
credu bod e’n siom i fi hyd heddi. … Er ‘dyn ni’n
gweld heddi bod y plant ath i’r ysgol uwchradd, yn amal iawn
ma’r ysgol eilradd wedi cyflawni lawer mewn bywyd yn enwedig
i gymunede lleol, yn fwy; achos mae’r ysgolion uwchradd wedi
mynd dros Glawdd Offa ac wedi anghofio am ‘u gwreiddie. …
Ta p’un, y diwrnod cynta ‘ma yn Ysgol Eilradd Dinas
on i’n aros wrth ochor y wal – wedi dod o ysgol, gweda
‘nawr tua ugen o blant, i ganol pumpcant o blant a dim ond
plant, ar goncrit – dim coeden na glaswellt yn unlle. On i’n
aros wrth ochor y wal a ‘dryches i lawr ryw ddauddeg pump
llath oddi wrtha i odd Cynthia yn aros a ‘drychon ni ar ‘n
gilydd a closion ni at ‘n gilydd a buon ni’n ffrindie
mowr o’r diwrnod ‘na mlân. Rhyfedd o fyd, Sian.”
Ysgolion preifat
I
‘Cartref, Private School for Girls’ Bynea ger Llanelli
yr anfonwyd Tilly Peters,cangen Emlyn, [Tâpiau
9101-02] o’i chartre yn Llangennech tua 1935 – ysgol
fechan i ryw 50 o ferched yn canolbwyntio ar y celfyddydau, mathemateg
a shorthand. Nid oedd yn teimlo bod snobyddiaeth ynglyn â’r
ysgol o gwbl. Lliw y wisg oedd brown a melyn, blowsen liw hufen
a gymslip frown. Aeth yn ei blaen i Pagefield College, Llanelli
i gymhwyso ar gyfer gweithio mewn banc.
Gyrfa
addysgol debyg gafodd Elsie Nicholas, Pontarddulais
[Tâp 9146], yn Cartref a Pagefield College cyn iddi gael swydd
fel ‘Comptometer operator’ yn ngwaith tin Clayton, Pontarddulais
tua 1940.
“ pan ddes i’n unarddeg od, er bod Dadi a Mam a ninne’n
lot o blant, erbyn hyn oedd Dadi wedi mynd i weitho yn cwarre Tanrallt
… a odd e wedi penderfynu y bydden ni’n cal addysg ..
bod ‘da ni rywbeth i gal a pido aros yn yr ysgol fach tan bo
ni’n bederarddeg a gadel yr ysgol. A ges i fynd i Ysgol Bryn
Road, Llanbed. … Edrych nol ar yr amser ‘ny odd …
Mam a Dadi wedi neud ymdrech galed i bob un ohonon ni gal rhywbeth
yn wahanol i’r ysgol gynradd. “
Letitia Vaughan, Y Dderi, Ceredigion [Tâp 9793]
Roedd Ysgol Dr Williams, Dogellau yn hanner ysgol ramadeg a hanner
ysgol breswyl ac er ei bod ychydig bach yn wrth-Gymreig ac na chai
hi a’i chwiorydd siarad Cymraeg gyda’i gilydd os oedd
Saeson o gwmpas, teimlai Eryl Llwyd Jones, Wrecsam
[Tâp 9657] iddi gael addysg ragorol yno yn y pedwardegau hwyr,
gyda thair gwers ymarfer corff, dwy wers o ddawnsio, awr o gemau bob
dydd ym mhob tywydd. Saif un athrawes allan yn ei chof, Miss Dorothy
Davies, yn dysgu Saesneg ac yn gwneud yn siwr eu bod yn darllen llyfrau
da o’r llyfrgell bob wythnos. Cai bechgyn ddod i’r ysgol
pan oedd y Bangor Trio yn ymweld â’r ysgol ond caent eu
rhoi yn y cefn ymhell o’r genod! Eto bu’n rhaid i Eryl
fynd i Ysgol Ramadeg y Bechgyn i gael gwersi Daearyddiaeth Lefel A
oherwydd diffyg athrawes. Roedd y rhan fwya o’r day-girls yn
gadael yn nosbarth 4-5.
Yn Llundain y trigai Eira Rowley, y Bontfaen [Tâp
9171] wedi’r rhyfel a chafodd ei hanfon i ffwrdd yn boarder
i’r ysgol Gymraeg uwchradd i ferched yn Ashford yn ddeg oed.
Roedd llawer o ferched o blith Cymry Llundain yno ac o Gymru ei hun.
Doedd dim gwersi Cymraeg o gwbwl, dim ond y canu, ond fod nifer o’r
merched yn siarad Cymraeg ‘fel rhyw élite’.
Oherwydd iddi fethu’r 11+ anfonwyd Eirlys Thomas,
Pen-y-bont [Tâp 9484] o Ysgol Fodern Llanilltud Fawr i ‘Bridgend
Preparatory Commercial school’ ond teimlai i’w rhieni
gael eu siomi ynddi, yn ei hystyried yn ‘write off’ a’i
bod fel petai ar ‘rubbish dump’. ‘Dwi wedi methu
trwy mywyd i’, meddai.
Ysgolion cyfun
Sir
Fôn oedd y sir gyntaf yng Nghymru i sefydlu ysgolion cyfun
i gymryd lle’r ysgolion gramadeg ac eilradd a chofia Eleri
Wyn Jones, Benllech [Tâp 9584] i Ysgol Ramadeg Llangefni
newid yn ysgol gyfun pan oedd hi’n yr ail ddosbarth.
“Yn y flwyddyn neu ddwy gynta o’r ysgol gyfun roedd
y dosbarthiada fel gradd A,B,ac C yn blant oedd wedi dwad o’r
ysgol ramadeg i’r ysgol gyfun. … roedd y graddfeydd
yn mynd lawr ‘te – A,B.C,D, …E,F,G ac mi roedd
‘na H hyd yn oed – y dosbarthiada, achos mi chwyddodd
y niferoedd - ohonan ni. Yn yr ysgol ramadeg o’r flwyddyn
gynta i’r ail flwyddyn y chweched – cyfnod o saith mlynedd
o oed ysgol felly – rhyw bedwar cant o ddisgyblion oedd yna
i gyd, ond efo’r ysgol gyfun … fe chwyddodd y niferoedd
i yn agos i fil.”
Addysg
Bellach
Am
iddi fethu’r scholarship yn y pedwardegau penderfynodd ei
mam anfon Beryl Thomas, Llangynog, sir Gaerfyrddin
[Tâp 8919] i’r ‘Central College’ yng Nghaerfyrddin
i ddysgu llaw fer a theipio yn hytrach nag i ysgol arall yn Sanclêr.
Bu’n rhaid i’w mam weithio’n galed i’w chynnal
am y pedair blynedd y bu yno.
Wedi gadael ysgol Ganol Machynlleth, tua 1941 cafodd Enid
Maud Jones, Glantwymyn [Tâp 9597] ei hanfon i Goleg
Radbrook, ger yr Amwythig :
“I
chi ymarfer mynd oddi cartre ac i gymysgu â pobol erill oedd
o fwya dwi’n meddwl. Ond gwaith ty, Domestic Science, oedd o.
Fues i yna am flwyddyn … boarding school oedd hi … oeddan
ni ddim yn cael mynd allan na dim byd … dim ar benne’n
hunen, dim ond mynd allan efo’n gilydd i gyd ag athrawes efo
ni.”
Chafodd Olwen Williams, Abergele, [Tâp 9701]
ddim cyfle i sefyll y scholarship yn Ysgol Cyngor Gwytherin, tua 1930,
er, meddai ‘Dwi’n ffrind i lyfrau’ ac felly roedd
wrth ei bod pan gafodd fynd i Goleg Amaethyddol Llysfasi i ddilyn
cwrs Gwyddor Ty am ychydig fisoedd. Ac iddi hi
“roedd o fel rhyw holiday mewn ffordd i fynd o’r fferm
am newid. …doedden i ddim yn gymryd o’n rhy ddifrifol
‘chwaith. … Oeddach chi’n teimlo fod o’n ehangu’ch
gorwelion chi wir.”
Mynychodd A. M. (Mag) Williams, Aberteifi, [Tâp
9092] ddosbarthiadau i ddysgu gwneud menyn am fis yn 16 oed, tua 1937
a chafodd dystysgrif i nodi’i llwyddiant ar ei ddiwedd.
Edrychwch
ar y DARLUNIAU o ddosbarthiadau ‘dairy class’ yn y cyfnod
hwn :
(i) ‘Dairy Class’, Felindre, 1912 {trwy
garedigrwydd Joyce Phillips, Ffynnongroes}
(ii) ‘Dairy Class’, Aberteifi, 1931
{trwy garedigrwydd Mag Williams, Aberteifi}’
(iii) ‘Dairy Class’, Aberteifi, 1937
{fel (ii)}
Gan nad oedd iechyd ei mam yn dda pan oedd yn 16 mlwydd oed, penderfynodd
Margaret R. Lloyd Jones, cangen
Cylch Aeron [Tâp 9779] ond o Lanrhystud yn wreiddiol, adael
yr ysgol yn 1960 i helpu ar y ffarm. “
Ddechreues fynd i wersi gyda gwyddor ty a pethe fel’na, yn
Canolfan Addysg Bellach yn Felinfach a fues i’n istedd profion
medrusrwydd fan’ny a ges i’r badge aur, bathodyn aur,
a mynd i Lunden i gal hwnnw. … A bues i’n gwneud Gwobr
Dug Caeredin wedyn.”
|