|
|
I
Ysbyty St Stephen’s yn Llundain yr aeth siaradwraig o Lanybydder,
[Tâp 9087] gynt o Sanclêr, i hyfforddi yn nyrs tua 1931
a gorfod dysgu :
“ golchi, glanhau, och chi ddim yn neud lot o nyrso ar dechre,
ond och chi’n gorffod mynd i gal lectures … och chi ddim
yn cal amser off fel ma nhw nawr. … Sgrwbo’r rubber sheets
‘ma, O wi’n gallu gweld nhw nawr, sgrwbo’r rheini
yn y bath. … Metron yn dod rownd a odd rhaid bod bob wheel bob
gwely yn straight; a odd hi’n mynd wedyn a’i bys, chmbod,
cal gweld a och chi wedi dysto … a’r bedpans tragwyddol.
… On i’n mwynhau e’n iawn achos odd y cwmni yn gwmni
hapus.”
Pan ddaeth
Eunice Iddles o Lanelli i Gaerdydd [Tâp 9169]
i ddysgu nyrsio yn 1937 cafodd fynychu Training School i ugain myfyriwr
: “on
i’n cal gwersi … fel sut i ddodi bandages arno, a on
ni’n cal Physiology a Anatomy … chi o flan eich gwell
a chi’n dysgu … Odd rhaid prynu dillad … fy rhieni
odd yn prynu dillad a wi’n cofio’r parsel ‘ma’n
dod, parsel enfawr, J.H. Bounds, Manchester a dillad nyrsio. A credwch
chi fi odd y dillad – on nhw’n strict ofnadw –
four inches from the ground odd y dillad i fod – streips,
… a leinings ‘da nhw a bwtwne, sleeves lawr hyd y garddwrn
a bwtwne nes y penelin a os byddech chi’n gwitho yn y ward
och chi’n gallu datod y bwtwne mawr hyn a rowlo y llewyse
lan; a’r coler stiff rownd fel hyn, a ar ben hwn wedyn ffedog
wen yn croesi tu cefen a och chi fod i neud e fel hyn a fel, O diar!
bydde’r Home Sister yn ynfyd … a wedyn cap mawr gwyn
ar ‘ch pen wedyn ‘ny … fel llien bord mawr sgwâr
a och chi’n dodi hwnnw’n deidi ar ‘ch pen, ‘Hide
that ginger hair!’ … ”
Yn y pendraw talodd ei rhieni £20 iddi sefyll yr arholiad
a gweithiodd hithau’n galed i ennill ei SRN.
“Ges
i fynd i Wrecsam, i’r War Memorial, ysbyty dda iawn â
trac record da … yn galed ofnadwy ond doedd neb yn cwyno’r
oes honno, neb yn cwyno … Odd raid i chi ddeud bo chi’n
mynd i aros yno am beder blynedd… - tair blynedd a hanner wedyn
oeddech chi’n cael mynd yn Staff Nurse wedyn, oeddech chi’n
meddwl bo chi’n bwysig ofnadwy. ... Yr oes honno oeddech chi’n
gorfod clanhau lot iawn. … Oedd raid i chi ddechre ar bnawn
Sul – golchi bedpans a’u sterilisio nhw - y flwyddyn gynta.
Yr ail flwyddyn fyddech chi’n cael gneud y trolis, y trydydd
flwyddyn fyddech chi wedi dod i neud y cwpwrdd drugs … a fyddech
chi’n cael mynd rownd efo’r meddyg. Ond fydden nhw’n
strict ofnadwy – oedd raid i chi sefyll i rywun mwy senior na
chi’ch pasio chi, agor drws os oeddech chi’n ymyl a hyd
yn oed wrth y bwrdd bwyd fyddech chi’n eistedd yn eich seniority
chi. Oedd fiw i chi fynd i dop y bwrdd … dweud ‘Syr’
wrth y consultants…. Oedd Metron yn edrych ar ein hole ni –
fydden ni’n mynd i fel ryw gwrdd gweddi ambell i noson …
oedd raid i chi fod i mewn erbyn ryw naw.”
Olive Rushton, Llanrhaeadr yng Nghinmeirch, Glyn
Maelor, tua 1944- [Tâp 9689]
Yn
Ysbyty Gyffredinol Hwlffordd y bu Iona Davies, Solfach,
Penfro [Tâp 9210] yn hyfforddi yn nyrs rhwng 1953-56.
“dachre am hanner awr wedi saith y bore, ar y wardie wedyn hyd
bod hi’n naw a wedyn o naw mlân on i’n mynd fel,
mewn i’r ysgol wedyn i gal Anatomy a Physiology … a cal
gwahanol ddarlithie trwy’r dydd wedyn nes bod hi’n hanner
awr wedi pedwar. … Och chi’n neud tri mish a wedyn mynd
nôl ar wahanol wardie wedyn i chi gal hyfforddiant ymhellach.
… On i’n hapus iawn. … Byw mewn yn Hwlffordd …
wedd rheole staunch pyr’ny. Wêdd rhaid i chi fod miwn
am ddeg bob nos … odd dim bechgyn yn dod miwn i’ch rwmydd
chi na miwn yn agos i’r cartre o gwbwl … y Nurses Home.
(Os och chi’n torri rheole) wi’n meddwl bo chi’n
gorffod neud stint fach o night duty, ‘na shwt on i gymint o
gwdihw siwr o fod!”
DARLUNIAU
o Iona Davies adeg ei chwrs hyfforddi yn Ysbyty Gyffredinol Hwlffordd,
1953-56
(i) Magu baban
(ii) Diwrnod gwobrwyo, 1957
{trwy garedigrwydd Iona Davies, Solfach}
Ddechrau’r
chwedegau aeth Rhian Llwyd Wynne Jones, Cerrig-y-drudion
[Tâpiau 9690-9691] i’r PTS – Preliminary Training
School yn hen blasty Strathalun, Rosset ger Wrecsam am dri mis. Roedd
tua 24 o ferched yno, dwy leian yn eu plith, ond dim un dyn. Treulient
hanner diwrnod yn yr Ysbyty Goffa yn Wrecsam er mwyn dysgu bod ar
ward. Rhaid pasio’r PTS a prelims cyn mynd ymlaen i wneud y
cwrs SRN.
“Oedd y wisg yn newid. Dwi’n cofio pan aethon ni i’r
PTS fel ‘tae och chi’n cael ffrog rhyw biws ysgafn oedd
hi ac oedd ‘na goler Peter Pan wen a belt gwyn. Ag oedd y ffrogie
‘ma, chmbod, yn rhei reit fawr achos oeddech chi ddim ond cael
rheini am dri mis - oedd rhaid iddyn nhw ffitio pawb … wedyn
ar ôl ichi basio PTS, oeddach chi’n mynd ar y ward, oedd
gynnach chi ffrog streip navy a gwyn, oedd gynnach chi goler Peter
Pan wen a belt gwyn ag oedd gynnach chi gap ag oedd ‘na gynffon
i’r cap ‘ma, oeddach chi’n neud o allan o fel rectangle
o liain … wedyn odd dipyn bach o grefft yn gneud hwnnw. Wedyn
ar ôl i chi basio’ch prelim … oeddach chi yn cael
coler fechan a belt, yn yr ail flwyddyn oedd belt du a gwyn neu navy
a gwyn yr un lliw â’r ffrog; a wedyn cap bychan oedd gynnach
chi wedyn … ac yn y drydedd flwyddyn oedd gynnach chi belt du
… ag oeddech chi cael ffrog lân, oedd gynnach chi dair
ffrog os ydw i’n cofio’n iawn ag oedd gynnach chi ffedog
lân bob dydd ynte ag oedd rheini’n cael ‘u startcho,
yn cael eu golchi yn laundry’r ysbyty. Ond dwi’n cofio
fydden ni’n mynd â’n coleri a’n beltie i lawr
i’r laundry Tseiniaid oedd i lawr yn Wrecsam … ag oeddach
chi’n cal nhw wedyn oeddan nhw wedi startcho lot caletach ac
yn edrych yn smartiach ond roedd yn rhaid i ni dalu am hynny ein hunain
… Cal y wisg … ‘ch llety … a bwyd. Dwi’n
meddwl … yn y flwyddyn gynta mai ryw £8 10s. y mis oeddan
ni’n cael. … Oeddach chi jyst yn ‘i dderbyn, …
a boch chi’n falch ‘ch bod chi mewn gwaith.”
Mae
stori Elinor Jones, Wrecsam [Tâp 9649] yn debyg
iawn a hithau hefyd wedi ymuno â’r Preliminary Training
School yn Rosset Hall tua 1960. Fodd bynnag yn gynta gadawodd ysgol
Sir Blaenau Ffestiniog a mynd yn cadet nurse yn Wrecsam. Dyma gipolwg
ar y cyffro a’r newid a ddaeth yn sgil hynny. GWRANDEWCH
ar ei stori :
“Dwi’n
cofio’r diwrnod yn dda, gadal adra, dau suitcase oedd gen
i a popeth oedd gen i yn y byd yn y ddau suitcase yma. A mae’n
rhaid bod Mam wedi bod yn hel dipyn o arian i gal dillad newydd
i mi. Ges i got newydd a mackintosh newydd a sgidia a mi ges i am
y tro cynta ‘rioed, dwi’n cofio ddresing gown –
doedd gynna ni ddim dresing gown adra nag oedd. Wel fasach chi byth
- fasach chi wedi rhynnu tasach chi’n eistadd o gwmpas y ty
mewn dresing gown yn ‘Stiniog, yn basach chi? … A mi
oedd ‘na wn i ddim faint o anrhegion efo fi hefyd –
cyfeillion, pobol y capal a chymdogion wedi dwad fesul un i roid
‘u cyngor a’u rhodd i mi fynd i ffwrdd efo fi. …
A dechra gweithio ar ward y plant (Ysbyty Goffa Wrecsam). Cael chwara
efo’r plant, ’u bwydo nhw ac yn y blaen. Fel cadet,
wrth gwrs, doeddan ni ddim yn gneud gwaith nyrs iawn felly ond yn
dysgu ac yn gwylio ac yn gwrando. A wedyn ar ôl dipyn bach
symud wedyn i wardia erill. Surgical ward es i wedyn os dwi’n
cofio’n iawn a wedyn ward gynea. A pan oeddan ni’n ddeunaw
oed , ag oen i’n ddeunaw oed ym mis Mawrth 1960, cael dechra
wedyn , dechra Ebrill felly, hyfforddi’n iawn yn y Preliminary
Training School ac mi oedd hwnnw yn Rosset. Pentra ydy Rosset rhyw
bedair – bum milltir o Wrecsam ar y ffordd i Gaer …
ty mawr oedd o mewn gerddi mawr, wel mi oeddan ni’n meddwl
bo ni wedi symud i fyw i Buckingham palas, coeliwch chi fi. Mi roeddan
ni’n gweithio’n galad yn yr ysgol trw’r dydd ond
ewcs roeddan ni’n cael lle da - gerddi hyfryd fel oeddan ni’n
deud a bwyd – bobol bach, dyna i chi beth oedd bwyd. Cael
edrych ar ein hola fel y byddigions oedd yn byw yn y ty.
A mi roeddan ni’n r’ysgol trw’r dydd dydd Llun
ac ar gyda’r nos Lun oeddan ni’n mynd i’r ysbyty
i neud dipyn bach o ymarfer gwaith. Ar nos Ferchar, dwi’n
cofio fyddan ni’n cal mynd allan i’r pentra neu gneud
beth lician ni, ond i ni fod yn ôl erbyn naw. A wedyn gadal
Rosset, Strathalun oedd enw’r ty, bore dydd Sadwrn, mynd i’r
ysgol yn Ysbyty Goffa – cael rhywfaint o wersi, wedyn ymarfer
corff a hanner diwrnod i ffwrdd a trw’r dydd dydd Sul a dod
yn ôl nos Sul – pawb yn cwrdd â’i gilydd
yn Ysbyty Goffa a fatha fan - fatha ambiwlans yn mynd â ni
draw wedyn i Rosset. … Ac wedyn gorffen yn Strathalun ym mis
Mehefin a symud wedyn i’r Ysbyty Goffa. Gweithio ar y wardia
a wedyn cal rhyw fis neu fwy nôl yn y dosbarth a nôl
yn y wardia ac felly am dair blynadd. …
Cael ein iwnifform wrth gwrs, toeddan, a cael cartra clyd a deud
y gwir a stafell wely i mi fy hun. … bobol bach ac wrth gwrs
mi oedd ‘na betha fatha teliffon yno toedd? a teledu –
doedd gin Mam ddim teledu’r adeg hynny; wel oeddwn i’n
meddwl bo fi wedi cyrraedd y nefoedd, coeliwch chi fi. Digon o bob
peth yno – oen i ‘rioed wedi gweld coffi o’r blaen,
Ovaltine a Horlicks, digonadd o lefrith – gallach chi gael
bath yno fo! Ew oeddan nhw’n edrych ar ein hola ni yn hynod
o dda. Y cyflog cynta dwi’n cofio ges i oedd £7 am fis
ond wrth gwrs doedd hynny ddim yn rhy ddrwg erbyn ichi feddwl.“
|