Roedd pob merch
yn dysgu gwau a gwnïo gartre, neu yn yr ysgol, 'slawer dydd
a dewisai sawl un fynd ymlaen i fod yn wniadwraig / gwniadyddes
wedi gadael yr ysgol. Byddai’n cymryd dwy flynedd o brentisiaeth
i ddysgu sut i wnïo â llaw a pheiriant a sut i wneud
cotiau, ffrogiau a siwtiau newydd ar gyfer y cwsmeriaid. Gan mai
dim ond ryw unwaith y flwyddyn (gan amla adeg y Pasg) y byddai
pobl yn cael dillad newydd ‘slawer dydd, rhan bwysig o waith
gwniadwraig oedd ‘altro’ hen ddillad, e.e. newid hen
ffrog yn sgert.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd dillad newydd a defnyddiau yn
brin iawn ac roedd yn rhaid cael cwponau i’w prynu. Roedd
y llywodraeth yn annog pobl i ‘Make do and Mend’.
Ond yna, ar ôl y rhyfel, roedd diddordeb mawr mewn ffasiwn
eto a daeth y ‘New Look’ yn boblogaidd dros ben yn
y pumdegau.
Yn y llun,
gwelir Margaret
Edwards yn dangos crefft gwnio i’w merch, ac ar y dde
gwelir
llyfryn a argraffwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Gwrandewch
ar Eleanor Roberts yn disgrifio dechrau gweithio fel gwniadwraig
mewn siop ddillad ym Mae Colwyn tua 1955.