Mae tuedd i feddwl
mai dim ond yn ystod y ddau ryfel byd ac wedyn y dechreuodd menywod
weithio mewn ffatrïoedd. Mewn gwirionedd roedd llawer o ffatrïoedd
bach ledled Cymru ers y chwyldro diwydiannol yn y bedwaredd ganrif
ar bymtheg, ac yn eu plith y melinau a’r ffatrïoedd
gwlân a oedd mor bwysig i gefn-gwlad Cymru.
Roedd y gwaith yn gallu bod yn drwm, yn fudr / frwnt, yn beryglus
ac yn undonog. Byddai’r oriau yn hir iawn a’r cyflog
yn fach, ond ar y llaw arall câi’r gweithwyr gyfle
i gymdeithasu a chael hwyl o weithio mewn cwmni gyda merched a
dynion eraill.
Yn union cyn ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, er hynny, agorodd
nifer o ffatrïoedd mawrion yn cynhyrchu nwyddau trydanol
a moethus e.e. yn gwneud peiriannau golchi dillad ym Merthyr Tudful
a Llandudno; rayon yn Fflint, cotiau ffwr yng Ngorseinon a thuniau
metel yng Nghastell Nedd. Erbyn 1952 roedd 70,000 o fenywod yn
gweithio mewn ffatrïoedd o’r fath yng Nghymru.
Darlun
o ferched ifainc yn gweithio yn ffatri Bear Brand, yn gwneud sanau
neilon, yn Stryd Fawr, Corwen tua 1947 yw hwn.
Hanes ei
mam yn gweithio mewn dwy ffatri, un ohonynt yn ffatri wlân,
sydd gan Martha Roberts y Bala yma, ac mae’n mynd â
ni nôl i’r dauddegau.