Dewisai rhai merched ifainc, am eu bod yn alluog iawn neu am fod ganddynt gefnogaeth eu teulu, fynd ymlaen, ar ôl gwneud eu harholiadau Lefel A, i astudio am radd mewn prifysgol. Ar ôl gorffen yn y brifysgol âi llawer o'r rhain yn eu tro i ddysgu mewn ysgolion gramadeg, neu ar ôl 1944, mewn ysgolion modern. Tan 1944 roedd hi bron yn amhosibl i fenyw barhau i ddysgu ar ôl priodi, ac felly roedd rhai menywod yn dewis peidio â phriodi o gwbl er mwyn gallu parhau â'u gyrfa.

Yn yr uned hon mae pwyslais ar ymateb merched i wyddoniaeth fel pwnc ysgol, a gwelwn mor anodd oedd hi iddynt frwydro yn erbyn rhagfarn i ddilyn eu hoff bynciau. Eto llwyddodd sawl merch i fynd yn wyddonydd a meddyg. Erbyn diwedd y chwedegau roedd agweddau yn newid a châi merched a bechgyn eu hannog i ddilyn yr un cyrsiau yn yr ysgol a chaent eu trafod yn gyfartal.

Llun o wers wyddoniaeth yn ysgol Brynhyfryd, Rhuthun yw hwn. Mae’r merched ynddo yn dilyn gwers Fioleg yn y chweched dosbarth.

Dr Eirwen Gwynn, gwyddonydd, awdur a gwraig fferm yn eu tro, sy’n siarad yma. Mae’n son am yr anawsterau a gafodd wrth gesio dilyn y cwrs addysg o’i dewis yn mhrifysgol Bangor. Gwrandewch arni yn dweud ei hanes.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.