Ar ôl gadael yr ysgol yn bedair ar ddeg oed âi llawer o ferched ifainc i weithio mewn siopau lleol, naill ai yn y pentre neu mewn tref gyfagos. Roedd yr oriau yn hir yn aml a’r cyflogau yn fach, ond ceid cyfle i gwrdd â chwsmeriaid ac roedd siop y pentre yn ganolfan gymdeithasol o bwys. Yn aml byddai siop o’r fath yn gwerthu popeth bron – bwyd, dillad, canhwyllau, bwyd anifeiliaid – fel archfarchnadoedd heddiw.

Aeth llawer o ferched i weithio hefyd mewn swyddfeydd post ac yma y byddai lwfans teulu, pensiwn a’r pwls yn cael eu dosbarthu. At hyn âi llawer o wragedd fferm â’u cynnyrch o wyau, menyn, caws, ac weithiau cacennau a ffagots, i’w gwerthu ar y farchnad leol yn y dref ar ddiwrnod marchnad. Roedd statws arbennig i weithio mewn siop ddillad neu siop esgidiau.

Darlun o gownter 'Siop Sowth' yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys sydd yma.

Gwrandewch ar Nancy Roberts o Lannerch-y-medd yn sôn am gadw siop y pentre. Bu’n gweithio yno am dros ugain mlynedd.

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.