Mae gwaith menywod
ar ffermydd wedi newid llawer iawn yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Cyn sefydlu’r Bwrdd Marchnata Llaeth ym 1933 ar ffermydd
oedd yn cadw gwartheg godro, byddai’r llaeth yn cael ei
ddefnyddio i wneud menyn a chaws i’w werthu ar y farchnad
bob wythnos i sicrhau ‘arian y fasged’ i’r ffermwraig.
Menywod fyddai’n godro fynychaf, yn aml iawn allan ar y
clos/buarth i mewn i fwced agored, gan eistedd ar stôl drithroed
a symud fel y byddai’r fuwch yn cerdded yn ei blaen.
Ar ôl 1933 byddai’r llaeth yn cael ei oeri, ei arllwys
i ganiau mawr a châi’r rhain eu rhoi ar ben y ffordd
i’r lori laeth eu cario i ffwrdd i ffatri laeth i wneud
menyn, caws a llaeth powdwr. Er bod peiriannau godro wedi’u
dyfeisio ers blynyddoedd, yn ystod ac ar ôl yr Ail Ryfel
Byd, y daethon nhw yn boblogaidd.
Sylwch
ar Leah Roberts, Nant Gwynant yn godro â llaw ar fuarth
y fferm, c.1939.
A
Morfudd James, San Clêr, gyda’r peiriant godro cynta
ar ei fferm, c.1950.
Gwrandewch
ar Joyce Phillips o Ffynnon-groes, sir Benfro yn sôn am
ddiwrnod gwaith arferol ar fferm tua 1950.