(i)
Ray Tobias, Ffostrasol (9216) : Dywed iddi gael “tough time”
gyda’r menopôs. Nid oedd yn gallu ymdopi mwyach â
gofalu am saith o bobl a rhedeg siop llawn amser. Gallai fod wedi
torri allan i lefain. Teimlai fel cydio mewn cornel lliain bwrdd
a dymchwel y llestri arno i gyd. Yn ffodus roedd ganddi feddyg teulu
cydymdeimladol a dwedai ef fod 10% yn ei gael yn wael, 8% o’r
rhain yn wael iawn a 2% yn wael iawn, iawn. Honnai fod Ray yn un
o’r 8% gwael iawn. Dim ond cyffuriau gwrth-iselder oedd yn
cael eu cynnig bryd hynny ac aeth yn gaeth iddynt. Bu’n frwydr
hir i ddod oddi arnynt ond llwyddodd yn y pendraw.
B. Ysgariad :
Tan
ddiwedd yr ugeinfed ganrif does dim amheuaeth nad oedd, chwedl Glenys
Morris, Llanbedr Pont Steffan ‘tipyn bach o stigma o gael
ysgariad’. Soniodd ein siaradwyr am y gofid o gael rhieni
a oedd wedi gwahanu, am briodi cymar oedd wedi ysgaru ac hefyd am
fynd trwy drawma ysgariad eu hunain.
Dioddefodd eraill fywydau priodasol anhapus am nad oedd gadael eu
plant yn opsiwn real iddynt. Oherwydd sensitifrwydd y defnydd ni
enwir y siaradwyr yn yr adran hon dim ond rhoi blas o beth o’r
defnydd.
(i)
Siaradwraig o Landysul (8777) : Gwahanodd ei rhieni pan oedd hi’n
naw oed, digwyddiad ‘whithlyd ofnadwy’. Rhannwyd y plant
rhwng y rhieni a chollodd hi gyfle i ddod i adnabod ei thad yn dda.
Oherwydd yr amgylchiadau cawsant hwy eu magu ar y plwyf. Wnai dyn
y plwyf ddim dod at y ty am ei fod yn rhy bell ac roedd yn rhaid
mynd i aros amdano ar ‘ben yr hewl’.
(ii) Edrydd siaradwraig o Lanbryn Mair (9612) hanesyn
am ei modryb a oedd yn byw ym Methesda. Cafodd ei modryb ei thorri
allan o gymundeb y capel gan un o’r diaconiaid am ei bod wedi
ysgaru. Cerddodd heibio iddi gan wrthod y cwpan cymun iddi. O ganlyniad
arferai ei modryb gerdded allan o’r capel wedi’r digwyddiad
hwn cyn gweini’r cymun a mynd adre. Gadawsai ei gwr am ei
fod yn ei chamdrin yn gorfforol.
(iii) Siaradwraig o Fallwyd (9317) : ‘odd
hi fel hyn bryd `ny – gwedwch chi bod chi ddim yn hapus `da’ch
gwr, och chi ishe mynd odd wrtho fe, wel, le och chi’n mynd
i fynd? ... Odd raid chi feddwl ddwyweth cyn mynd yn doedd? Wi’n
credu bod e’n beth da `fyd achos ma lot heddi fel `se nhw
ddim yn trïo’.
(iv) Siaradwraig o Gaerfyrddin (8958) : Roedd ei
gwr yn hynod gybyddlyd ac o’r herwydd bu bron â’i
adael sawl tro. Ei gwr fyddai’n siopa am fwyd hyd yn oed a
dim ond dwywaith y flwyddyn, i brynu dillad i’w chwe phlentyn,
y cai hi fynd i’r dre. Dechreuodd hi ar ei thaith (i’w
adael) sawl gwaith ond, oherwydd y plant, dychwelodd bob tro. Ceisiodd
sicrhau ei hincwm ei hun trwy werthu nwyddau ar y farchnad a thrwy
wau sanau. Mae sawl un wedi dweud wrthi y dylai ysgrifennu’i
hunangofiant ond byddai yn llefain gormod wrth gofio’r cyfnod
hwnnw. Dyma pam fod y siaradwraig hon yn cydfynd â chyd-fyw
cyn priodi.
(v) Siaradwraig o Bwllheli (8981) : Penderfynodd
hi a’i gwr wahanu wedi ugain mlynedd o briodas a chanddynt
ddau blentyn. Roedd yn benderfyniad anodd iddi gan fod gwahanu ac
ysgaru yn bethau prin iawn yn y pumdegau.
(vi) Siaradwraig o Ben-y-groes (8777) : Priodas
fechan gafodd y siaradwraig hon am fod ei gwr wedi bod yn briod
o’r blaen ond eto roedd y briodas mewn capel ac roedd hynny’n
bwysig iddi.
(vii) Siaradwraig o’r Bont-faen (9171) :
Pan gafodd ysgariad roedd ei theulu yn gofidio yn fawr am y peth
gan mai hi oedd y cyntaf o blith ei holl gyfnitherod a chefndryd
i fynd trwy’r profiad. Teimlai y tu allan i’w theulu
am gyfnod.
(viii) Siaradwraig o Gastell Nedd (9002) : Wedi
ugain mlynedd o briodas, a chanddi deulu ifanc yn dibynnu arni,
bu’n rhaid i’r siaradwraig hon ysgwyddo baich ail-hyfforddi
yn ei swydd er mwyn gallu cynnal ei theulu heb ei gwr. Bu ei theulu
hi ei hun yn gefn mawr iddi trwy’r dyddiau anodd. Yn ôl
ei mam nid fyddai Duw yn rhoi iddi yr hyn na allai ei oddef.
DIWEDDGLO
:
Mae
sylwadau Mair Lloyd Davies, Pwllheli (9588) ond
o Borthmadog yn wreiddiol yn crisialu llawer o’r agweddau
at garu, priodi a byw ers lawer dydd. GWRANDEWCH
arni siarad â Sharon Owen: