Ag oriau gwaith yn hir ac oriau hamdden yn brin roedd yn rhaid i bobl ifainc `slawer dydd fanteisio ar bob cyfle posibl i gwrdd â darpar gariadon. Ond, ar y cyfan, roedd bywydau y menywod a holwyd yn bur gyfyng a’u rhieni yn warchodol iawn ohonynt rhag iddynt ‘fynd i drwbwl’. Dengys yr hanesion cyntaf a ddyfynnir fod y siaradwyr, yn ferched ifainc, yn ddibynnol ar galendr y flwyddyn amaethyddol ac ar weithgareddau’r capel i roi cyfle iddynt gwrdd i garu. Ond yna, yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn union cyn a fwyfwy wedi’r Ail Ryfel Byd, gwelwyd newid pwysig wrth i gwlt yr ifanc ddechrau datblygu, gyda chlybiau ac adloniant penodol ar eu cyfer. Bellach roedd ganddynt fwy o amser a thipyn mwy o arian i’w wario ar hamddena a mwynhau. Erbyn y chwedegau daeth yn arferol iddynt herio safonau a moesoldeb eu rhieni, er mai prin iawn yw’r dystiolaeth fod gwrthryfel y ‘swinging sixties’ wedi cyrraedd Cymru mewn gwirionedd yn ei gyfnod.

Ewch i’r is-thema briodol :
A. Ble i gwrdd
B. Rhybuddion Rhieni
C. Merched comon
CH. Cael cariad

A. BLE I GWRDD :

(i) Ffeiriau : Tystiodd sawl siaradwraig am bwysigrwydd y ffeiriau lleol yn eu calendr carwriaethol, e.e. ‘Rhoddodd e winc arni’ yn ffair Aberteifi meddai A. Mag Williams, Cylch y Mwnt (9093) am ei chariad; yn ffair Llambed y cwrddodd C.E.(Kitty) Evans, Felin-fach (9667) â Bertie; ac felly hefyd y soniai Lizzie Mary Evans, Aberaeron (9776) am ffair y Sulgwyn yn y dre; Mary Llywelyn, Login (9235) am ffair Maenclochog; Dorothy Davies, Pontyberem (8807) am ffeiriau Calangaea a Gorffennaf yng Nghaerfyrddin a dwy ffair Llanybydder a Mair Garnon James, Llandudoch am ffair Eglwyswrw. Bu hithau Mary Jane Davies, y Foel yn dilyn ffeiriau, yn enwedig ‘Ffair Ffyliaid’ Llanerfyl ar Fai 7fed ac ‘os na gelech chi gariad yno, roedd hi’n ddrwg iawn arnoch chi’. Hyd yn oed yn y pumdegau roedd Ffair Llanllyfni yn lle da i ‘wneud points’ yn ôl Mary Hughes, Y Groeslon (8828).

GWRANDEWCH ar Ellen Vaughan Ellis, Y Ffôr (9291) yn dwyn i gof yr hwyl yn ffair Cricieth, yn y pedwardegau, mewn sgwrs gyda Sharon Owen :

Sharon : Be oeddach chi’n licio am fynd i ffair Griciath `ta?
Ellen : O chwilio am gariad oedd peth mwya ‘te, yr adag honno. Ie, a mi ges i un ylwch. Mi fues i’n lwcus `do?
Sharon : Oeddach chi’n teimlo ar y pryd fod `na ryw bwysa i drïo ffindio gwr.
Ellen : `Radag honno? Na, allach chi gael digon o gariada adag honno.
Sharon : Be oedd yn sbesial am Mr Ellis `de?
Ellen : O hogyn del oedd o, `de. Odd ganddo fo gar, doedd – odd hynny’n bwysig iawn, cofiwch â hwd arno fo (chwerthin).
Sharon : Ia, pa mor bwysig oedd hynna `ta? Pam fod hynna’n bwysig?
Ellen : Wel i chi gael dangos i’r lleill `de bod gynnoch chi gariad â car. O diar ia, ia.
Sharon : Am faint fuoch chi’ch dau yn canlyn `lly cyn i chi briodi?
Ellen : O llawar iawn – “off and on” w’chi – felly buon ni. Lawar iawn hefyd .

(ii) Adeg cneifio : Mae Sylwen Davies, Y Parc (8838) yn disgrifio arfer arbennig iawn adeg y cneifio pan oedd hi’n gweithio ar fferm Pant Neuadd, Y Parc yn y pumdegau, arfer efallai a oedd yn rhyw fath o ddefod tyfu’n fenyw neu yn ddefod ffrwythlonedd tebyg i ffocso neu dwmlo merched yn y gwair yn y de-orllewin.
GWRANDEWCH arni’n trafod manylion yr arfer :

‘Oedd hi’n arferiad efo’r cneifio, efo merched, i’w taflu nhw i mewn i’r barcloth, chmbod, fel rhyw ddarn mawr lle oedden nhw’n cadw’r gwlan ydi’r barcloth – ag oeddan nhw’n taflu nhw fewn a’u hysgwyd nhw fel hyn. Wel y flwyddyn gynta, oeddwn i’n feichiog erbyn hyn efo Gareth on’d on – diwedd mis Mehefin oeddan ni wastad yn gneud – y dydd - y dydd Mawrth ola ym mis Mehefin bob amser. Ac erbyn y flwyddyn wedyn mi oedd Carys - oeddwn i’n feichiog efo Carys ac erbyn y flwyddyn rhwng y ddwy oeddan nhw wedi anghofio mod i heb fod yn y barcloth w’chi – so dyna un peth ddaru o ddim digwydd i mi o gwbwl. `Aru fi ddim gorfod mynd i’r barcloth o gwbwl ynde’.

(iii) Mynd i gnoco : Cofia May Lewis, Tregynnwr (8926) ond yn wreiddiol o Fynachlog-ddu yr arfer o ‘gnoco’ am gariad, trwy i’r cariad daflu pridd at y ffenest i’w deffro wedi i’w rhieni fynd i’r gwely. Yna cai’r cariad ei adael i mewn am “chat” a dyna’i gyd. ‘Odd e’n arferiad ... “chat” odd hi fwya’. Ond ‘os och chi’n gwbod bo fe wedi bod yn London neu’r Crymych Arms, y ddou dafarn, odd e’n cal mynd ... dim gweld rhagor wedyn’.

(iv) Yn, neu wedi’r, cwrdd : Eisoes, wrth ymdrin â phwysigrwydd y capel yn y gymdeithas nodwyd fod pobl ifanc yn fynych yn mynd i’r tai cwrdd gwaahnol i chwilio am gariadon. Mynychent gyrddau gweddi (Ray Samson, Tegryn [9500]); cyrddau pobl ifainc ( May Jenkins, Hwlffordd [9495]); a chyrddau Beiblaidd ( Mella Jenkins, Capel Newydd [9512]) i’r perwyl hwn.

Dyna’r awgrym hefyd yn narlun Jane Gwladys Evans, Y Parc (9107) pam yr ai hi i’r seiat bob nos Fawrth yn y pedwardegau : ‘Dw i ddim yn siwr oeddan ni’n mynd i’r seiat am y rheswm iawn bob amser. Oedd `na ryw fan yn gwerthu nwydde yn dod o Lanuwchllyn i’r Parc ar nos Fawrth a fydde hogie’r ardal i gyd yn dod yno i gwfwr y fan wrth gwrs a mae’n fwy na thebyg mae –oeddan ni’n mynd er mwyn gweld rhai o’r hogia erbyn hyn achos dyna’r unig “chance” oedd gyn rhywun i gal caraid a deud y gwir ynde. Ac i’r eisteddfode hefyd – fyddech chi ddim yn cystadlu ond fydde rhywun yn mynd i’r eisteddfode `ma er mwyn cwfwr hwn a’r llall ynde’.

Cofiwn fod y trip ysgol Sul yntau yn gyfle amheuthun i bobl ifainc fod mewn cwmni, fel y nododd Mary Hughes, Y Groeslon (8828)

Eisoes hefyd soniwyd am boblogrwydd mawr y ‘mynci parêd’, fel y’i gelwid, yn yr Adran : Hamdden (ar y we-fan) a dyma ragor o enghreifftiau o’i atynfa :

(a) Ray Morris, Tre-boeth (8893) : yn dweud mai “bunny run” oedd yr enw am yr arfer yn Nhreforys.

(b) Margaret May Davies, Trefdraeth (9207) : Yn yr haf deuai bechgyn a merched yr ardal lawr i lan y môr, ‘cwato daps neu sgidie cerdded yn y claw’ a gwisgo rheini am eu traed ar ôl dod mas o’r cwrdd cyn dechre cerdded.

(c) Margaret Jones, Rhydaman (8950) : Roedd yr hewl rhwng Rhydaman a Llandybïe ‘yn dew o bobol ifanc bob nos Sul’ ar gyfer y ‘monkey parade’. Byddai merch yn clico gydag ambell i fachgen ond ar y cyfan roedd y peth yn ddigon diniwed.

(d) Margaret A. Griffiths, Pen-y-groes, Caerfyrddin (9065) : Doedd hi ddim yn rhy hoff o’r mynci parêd yn Cross hands. Doedd hi ddim eisiau cael ei dewis o griw fel’na am ei bod ‘dipyn yn fwy stansh na `na’. At hyn, gan ei bod yn bwriadu mynd ymlaen i’r coleg, doedd hi ddim ‘ar y farcad’.

(e) Ar y llaw arall ar nos Sadwrn y gwelsai Mary Evans yr arfer o ‘lyfnu’ yn Llangefni (9566) a hynny er mwyn cael ‘clic’ efo bachgen neu ferch. Chafodd Mary ei hun ddim mynd i lyfnu nes roedd wedi dechrau gweithio yn 16 oed.

(v) Eisteddfodau : Yn ôl Eleanor M. Lewis, Llanafan ( 9450) ai hi a llawer arall i eisteddfod Ysbyty i gwrdd â phobol ifanc oherwydd mai ‘dim ond eisteddfodau oedd i gal’.

GWRANDEWCH ar Gwyneth Evans, Cwm-ffrwd (8899) yn trafod agwedd ychydig yn wahanol o gymdeithasu mewn eisteddfodau tua diwedd y pedwardegau. Wedi dweud nad oedd rhyw yn chwarae rhan ganolog yn eu perthynas fel bechgyn a merched, meddai :

‘Ond ar yr un pryd, on i siarad â ffrind i mi diwrnod o’r blaen – amdanon ni’n mynd i eisteddfode chmbod – yn Sir Feirionnydd oedd hyn. A parti merched ag yn y blaen o’r Aelwyd a phethe. Fyddan ni’n mynd i ryw lefydd fel Rhydymain, dwi’n cofio, a ryw le arall wedyn – Melin-y-coed yn nyffryn Conwy – rhyw lefydd go wyllt fel yna – rhyw griw o fechgyn digon gwyllt. Wel, tasa’r pethe odd y bechgyn `na’n neud i’r merched `na’n digwydd heddiw fe fydden nhw i gyd o flaen eu gwell chi’n gwbod yntefe. Ond oedd `na ryw ryddid fel `na chmbod, odd `na , beth alla i ddweud wrthoch chi, odd `na ryw ryddid i fechgyn ’i thrïo hi, (chi’n gwbod), mas yn fwy na sydd heddiw falle. Falle bydden nhw’n cael dod o flaen eu gwell am ymosodiade anweddus ne rywbeth heddiw. Ond dwi’n cofio fyddan nhw’n aros tu fas i’r dryse `ma chmbod – eisteddfode `ma am i’r merched ddod mas yntefe. Ag yn rhuthro amdanyn nhw pan oedden nhw’n dod mas, chmbod. Ma hynny – ma `na ryw wahanieth wedi bod fel `na chmbod; ond rywbeth i ymladd yn `i erbyn ac i roi cic iddyn nhw chmbod, neu i redeg o’u gafel nhw odd y peth ar y pryd. Dim rywbeth och chi’n weld fel rhyw sen fawr arnoch chi fel merch nag yn rhywbeth i fynd i gyfraith ynglyn â fe, chi’n gwbod’.

(vi) Y sinema / y pictiwrs : Nod Edna E. Williams, Llanrhuddlad (9563) wrth fynd i’r pictiwrs yn Amlwch ar nos Sadwrn, ddiwedd y pedwardegau, fyddai ffindio rhyw ‘foi bach hurt’ i dalu drosti a llwyddai yn aml hefyd. Yna ymlaen i Landdeusant i ddawnsfeydd gyda phawb yn cyfrannu hanner coron at y tacsi. Aent fel criw o ffrindiau i geisio ffindio partner.
Eirwen Jones, Llangwm (9715) : Aent i lawr ar y bws pump nos Sadwrn i Ddinbych i’r pictiwrs i ‘chwilio am gariad’. Gwisgai hi ffrog a chôt smart bob amser ar gyfer hyn.
Valerie James, Idole, Caerfyrddin (9079) : Tra’n ifanc ym Mrynaman ai pawb i garu ‘bach diniwed’ i seddau cefn y sinema. Ai’r parau i mewn ar wahân ond wedi i’r golau ddiffodd byddai’r seddau yn clatshan i gyd wrth i bawb newid lle!

(vii) Y Clwb Ffermwyr Ifainc : Dechreuodd y rhain yn y pedwar-/ pum-degau a buan iawn y daethant yn ganolfannau hynod o ddeniadol ar gyfer ieuenctyd bro. ‘’Na le odd caru yn mynd mlân odd yn Clwb Ffermwyr Ifainc’, meddai Letty Vaughan, Y Dderi (9793) a hithau wedi bod yn aelod yn Felin-fach, Cellan a Llanfair a byddai eraill, fel Elen Evans (8976) ac Ann E. Pierce Jones (8979) o Garndolbenmaen yn ategu hynny yn bendant, ynghyd â Mary Owen, Bronnant (9261) a gyfarfu â’i darpar-wr yng nghlwb Lledrod tua 1950 ac Anne Evans, Nant Gwynant (8980) yn 1948.

(viii) Gyrfâu Chwist : Dyma ddenai Kitty Williams, Aberteifi (9240) ac ni fyddai hi fyth gartre ohonynt tan 12 yr hwyr.

(ix) Aelwydydd yr Urdd :

EDRYCHWCH ar y lluniau hyn :

Cliciwch yma i wneud yn fwy
Cliciwch yma i wneud yn fwy

(a) Aelwydydd Ffynnon-groes a Chylch Teifi yn eu parti Nadolig yn festri isaf Capel y Tabernacl, Aberteifi; 1952.

(b) Glenys Williams (Lewis nawr), athrawes yn ysgol Llwynihirion a Lyn Rees o Gastell Newydd Emlyn yn mwynhau tipyn o hwyl diniwed yn y parti.
(trwy garedigrwydd Mair Garnon James)

(x) Unwaith eto roedd apêl y rhain o’r tridegau yn arbennig ymlaen yn aruthrol. Cofia Margaret Valerie Jones, Brynaman (9159) fod rhywbeth ymlaen a hynny yn rhoi cyfle i ganu ac i gwrdd ag eraill bob nos yn yr Aelwyd ym Mrynaman yn y pedwar/pum-degau.
Sioned Penllyn ( Margaret Janet Jones), Y Drenewydd, (9630) : cyfarfu hi â’i gwr ar un o fordeithiau poblogaidd yr Urdd i Fôr y Canoldir yn y tridegau.
Siaradwraig o ardal y Bala (8841) (yn y dauddegau) : ‘odd e’n golygu mwyniant mwy na dim. ... fe ddoth yr Urdd â ryw ddimesiwn gwahanol i ni – rhyw ddimensiwn iach iawn. I ddechre on ni’n perfformio gyda bechgyn, a’u hystyried nhw nid fel bechgyn ond fel cystadleuwyr. ... Nath e wahanieth mawr i ni, yr Urdd , yn Aberteifi. ... Deimlon ni’r adeg honno bo ni’n Gymry’. O safbwynt cymdeithasol ‘gyrfa chwist odd y peth mwya cyffrous odd `na, ac on i ddim yn cal mynd i hwnnw bob amser – cardie’r diafol on nhw’n `de?’
Tystiodd eraill iddynt gael mwyniant arbennig wrth fynychu’r gwersylloedd yn Llangrannog a Glanllyn.

(xi) Ar feiciau ( modur) : Arferai Mella Jenkins, Capel Newydd (9511) fynd ar gefn beic i garu bob nos Fawrth, Iau a Sadwrn yn y pedwardegau cynnar ond roedd yn rhaid bod i mewn gartre erbyn 10 yr hwyr.
Ann Rees, Penrhiw-llan (9490) : ar feiciau modur y bu hi a’i chariad yn caru yn y pumdegau ac arferent fynd ar wyliau i Ddyfnaint ac i ogledd Cymru arnynt. Doedd hi ddim yn arferol i bâr a oedd yn caru fynd ar wyliau gyda’i gilydd bryd hynny a doedd ei mam ddim yn hapus ynglyn â’r peth.

Cliciwch yma i wneud yn fwy

(xii)Dawnsfeydd : Ar y cyfan doedd dawnsio ddim yn gymeradwy o gwbl gan rieni tan ymhell wedi’r rhyfel a chai mwyafrif ein siaradwyr mo’u mynychu.
Ond newidiodd agweddau yn raddol :

GWRANDEWCH ar siaradwraig o ardal Porthaethwy (9636), ond yn sôn am Flaenau Ffestiniog yn y tridegau cynnar , yn egluro wrth Sharon Owen beth oedd ddim yn dderbyniol i ferch ifanc ei wneud bryd hynny :

Siaradwraig : Oedd o ddim yn dderbyniol i fynd i ddawnsio. Adeg hynny odd y dawnsfeydd yn dechra, a ddoth `na ryw ddosbarth dysgu dawnsio hefyd i `Stiniog, ag on i’n sal isho mynd i hwnnw ‘te. Ond oedd `n Nhad yn deud “Na, dim mynd i ddysgu dawnsio”, ag on i’n deud “ Ond pam? Be sy’n rong ar fynd i ddawnsio?” “Ma dawnsio’n iawn”, medda fo, “Ma hynny’n iawn, ond be sy’n digwydd ar ôl y dawnsfeydd yma sy ddim yn iawn”. A dyna fo – dyna ddiwadd ar hynny.
Sharon : A sut oeddach chi’n teimlo am hynny ar y pryd?
Siaradwraig : On i’m yn fodlon ond on i’n gweld `i boint o `te, yn gweld ‘i boint o. Ie’.

Megan Wyn Phillips, Bethesda (8822) : ‘Oeddan ni’n mynd lot pan oeddan ni’n byw yn Borth radag rhyfel, mynd lot i ddawnsio, bron bob nos w’chi. Oeddan ni’n mynd i Baronhill pan oedd sowldiwrs yno, i Biwmaris oeddan ni’n mynd rhan fwya i Smokey Joe oeddan nhw’n alw fo. ... Doeddan ni ddim isho cariad radag hynny. Na, odd well gynnon ni gael dawnsio efo gwahanol rai a mynd adra wedyn a dyna fo, `te. A mynd wedyn noson wedyn a gweld rhywun arall wedyn, `te’. Gwisgai sgert, blows a sodle uchel i fynd i’r dawnsfeydd hyn.
Siaradwraig o Langennech (8854/5) : Wrth weithio yn y Royal Naval Armaments Depot wedi’r rhyfel cafodd gyfle i gymdeithasu â 1000 o gydweithwyr. Roedd bwrlwm yn y bywyd cymdeithasol rhwng y Clwb Ieuenctyd, dawnsfeydd yn y Ritz a thripiau i Gaerdydd ar ‘utility buses’ â’u seddau pren.
Dora Griffiths, Hwlffordd (9494) : Roedd hi eisiau mynd gyda’i chariad i “Police Ball” yn y Barracks, Caerfyrddin (yn y 40au), ond i osgoi ei thad bu’n rhaid iddi fynd â’i ffrog i dy ei brawd a threfnu aros gyda merch o’r gwaith. Roedd bar yn y ddawns ond yfodd Dora ddim byd meddwol.
Siaradwraig o Gaerdydd (9243) : am y chwedegau cynnar – pan ai i ddawnsfeydd yn ei harddegau, os oedd bachgen yn ei cherdded adre cerddai ei thad y tu ôl i’r ddau.
Meirwen Davies, yr Wyddgrug (9131); Cyfarfu â’i gwr Alistair mewn dawns yng Nghaer ac yna aethant i Quaint Ways am fwyd. Gwisgai hi mini a stilettos i fynd i ddawnsfeydd yn y chwedegau.

(xiii) I’r dre : Elsa Jones, Bryneglwys, Rhuthun (9575) : Fyddech chi ddim yn cyfarfod eich cariad o gwmpas eich cartref ddechrau’r pedwardegau. Yn y dre nos Sadwrn byddech chi yn ffindio cariad gan gerdded rownd a rownd a rownd. ( tebyg i’r mynci parêd)
Gwyneth Williams, Morfa Nefyn (8987) : I fynd allan i Bwllheli ar nos Sadwrn yn y pumdegau arferai Gwyneth wisgo “costume”, handbag a stilettos. ‘Oeddan ni am hydoedd yn gwisgo i fynd efo bws Cae-lloi i dre a pawb am y gora! A “seams” yn y sanau. Wel, sawl gwaith sbïon ni i edrach os oedd y “seams” yn “straight”?’

(xiv) Mewn tafarn (?) : Os oedd un tabw llwyr, fel y nodwyd wrth drafod y thema ‘Hamdden’ mynychu tafarn oedd hwnnw a thystia bron bob siaradwraig na fydden nhw BYTH yn meddwl mynd i mewn i dafarn nac yfed. Eto dechreuodd pethau newid yn y cyswllt hwn hefyd yn ystod y chwedegau.
Betty Williams, Llansannan (9726) : ‘On i wastad yn meddwl os mai mewn tafarn oeddech chi’n ffeindio gwr, fydd o’m llawar o wr `de’.
Beti Bebb-Coleman, Tal-y-wern, Maldwyn (9746) : Dwedai ei thad wrthi ‘Cer di mewn i dafarn un waith, fe fydd yn hawsach i ti fynd yr ail waith’.
M. Iona Edmunds, Llanelli (8914) : yn sôn am ddechrau’r chwedegau – wedi dechrau caru byddai hi a’i chariad yn mynd i ambell i dafarn.

B. RHYBUDDION RHIENI :

(i) Siaradwraig o ardal y Bala (8841) : Roedd ‘Nhad a Mam yn dipyn o ddylanwad arna i. Dylanwad negyddol, dylanwad paid – paid neud hyn a paid neud llall, ac on i’n derbyn hynny’. ( diwedd y dauddegau)

(ii) Rachel Thomas, Y Groeslon (9194) : ‘Oedd Mam yn deud “Cofiwch chi na ddewch chi â trwbwl i’r ty `ma’. Doeddach chi ddim yn gwbod yn iawn be’ oedd trwbwl yn feddwl’. ( y dauddegau)

(iii) Margaret May Davies, Trefdraeth (9206) ; cai’i rhybuddio i ‘pido dod â babis ffor hyn neu yn yr aseilam fyddi di’n lando’. (20au)

(iv) Nesta Jones, Llanelli (9076) : Pan ai allan byddai ‘hen, hen holi, “Ble ti’n mynd? erbyn pryd? efo pwy? sut ti’n mynd i ddod nôl?” ac wrth gwrs merch oedd yn mynd i drwbwl bob amser! Doedd dim sôn fod bachgen yn mynd i drwbwl’.

(v) Nans Davies, yr Wyddgrug (9178) : Cynghorai ei ffrind hi wrth iddi fynd ar ddêt, “Keep your hand on your halfpenny”. (y tridegau yn ardal Ferndale)

(vi) Winifred Owen, Llanrwst (9697) : ‘Mi roedd ‘na lein, a doeddach chi ddim i’w chroesi ... doeddach chi ddim i fod i aros allan yn hwyr ... doeddach chi ddim i bonsho efo hogia yn rhy fuan. Bob math o betha fel’na. Odd `na lein. Ond odd hi’n bosib dod drostyn nhw `de’. ( adeg y rhyfel)

(vii) Rhiannon Parry, Bro Ilar (9255) : ‘Alla i ddim gweud bod hi’n strict ond oedd hi’n dweud wrthon ni am fod yn ferched glân, merched glân, na’r unig beth glywes i Mam wastad yn dweud wrthon ni, bod yn ferched glân, ta beth odd hi’n meddwl wrth ferched glân’.

(viii) Mary Llywelyn, Login (9235) : Cofia un ferch a oedd yn disgwyl babi yn gorfod mynd i’r wyrcws ac roedd ei mam yn ei rhybuddio mai yno yr ai hithau hefyd os na fyddai’n byhafio. (40au hwyr)

(ix) Betty (E.M.) Jones, Pump-hewl (8790) : Cyngor ei thad iddi oedd ‘chwilia am gystal â ti, a well na ti ond paid â mynd gyda dy waeth’.

(x) Lona Jones, Llandudno (9338) : ‘Odd o’n gymaint o warth ar deulu os odd `ne blentyn yn cael ei eni heb i’r rhieni briodi ... dwi’n cofio ... hogyn yn mynd â fi adre rwy dro, ma’n rhaid mod i’n ryw bymtheg oed, a finne ddigon diniwed yn mynd â fo i fyny i ddrws y ty. A Nhad yn y `ngweld i ... nefi bliw!, mi roedd o `di gwylltio, a fewn i’r ty a chael coblyn o ddrwg. A deud wrtha i “Curfew! Curfew!” ... Fuo rhaid i mi fod i mewn bob nos am hanner `di wyth o hynny mlaen am hir iawn’.

(xi) Beti Bebb-Coleman, Tal-y-wern, Maldwyn (9746) : Pan oedd hi’n gadael cartref am Goleg Cartrefle, Wrecsam tua 1950 aeth ei thad â hi i gwrdd â’r tren ac meddai ‘To thine own self be true’. Mae Beti wedi cadw at y cyngor hwnnw.

(xii) Siaradwraig o Lanybydder (9491) : rhybudd ei rhieni oedd ‘Ta beth `nei di paid â dod nôl fan `yn â Catholic’. Tase hi’n gwneud hynny ‘`na’i diwedd `i’!.

(xiii) Eirlys Peris Davies, Ffynnon-groes (9517) : Dechreuodd garu gydag un o aelodau’r capel ond cofia ei thad a oedd yn weinidog yn dweud wrthi ‘Paid byth â mynd efo un o’n aelodau i eto’. Pan orffennodd y garwriaeth pwdodd y teulu.

(xiv) Gwen Redvers Jones, Llangyndeyrn (8771): Cyngor ei nain iddi cyn mynd i’r coleg oedd ‘Paid â gadael i ddim un dyn fynd dan dy bais di cyn ti `di priodi’. (chwedegau)

(xv) Gwenda John, Blaen-ffos (9218) : Byddai ei mam yn ei rhybuddio i beidio â ‘dechrau dim byd’ ac i beidio mynd allan gyda bechgyn oedd â “reputation”.


C. MERCHED COMON :

Yn sicr roedd gan y mwyafrif farn ar y testun hwn. Roeddent yn gyfarwydd â’r term a’r hyn a gynrychiolai, gan arswydo rhagddo.

(i) Dilys Clement, Llanddarog (8927) : Os gwisgai lipstick i fynd allan yn ardal Clydach yn y tridegau dwedai ei thad wrthi ‘Tynna hwnna “off”, merched y “streets” sy’n iwso hwnna’. Arferai llawer o’r merched a weithiai yn y gwaith tun yng Nghlydach smocio ac yfed a chyfrifid y rhain yn gomon eu ffordd.

(ii) Margaret May Davies, Trefdraeth (9206) : Credid bod ambell ferch oedd yn gwisgo’n wahanol yn enwedig “ear-rings” a mynd i dafarn yn gomon.

(iii) Elsa Jones, Rhuthun ( 9575) : Ystyrrid rhai yn “common jacks”. Byddai un yn dweud “Have another look, you’ll know me better next time”.

(iv) Margaret Jones, Rhydaman (8950) : Ystyrrid merched “loose” a oedd yn cael cyfathrach rywiol yn go ifanc yn gomon. Ar y llaw arall roedd smocio (fel y gwnai hi) yn “the done thing”.

(v) Elizabeth Tynno Morris, Llanrhaeadr-ym-Mochnant (9615) : Cyfrifid nad oedd merched oedd yn lliwio’u gwalltiau, yn gwisgo llawer o golur a chanddynt ewinedd coch, coch ac yn gwisgo trowsus ddim yn barchus.

(vi) Rhiannon Jones, Blaenau Ffestiniog (9305) : ‘odd hi’n gomon ... merched drwg odd yn mynd i dafarn. Merched drwg odd yn chwilio am ddynion, ma’n siwr’.

(vii) Glenys Owen, Mynachlog-ddu (9524) : Os oeddech chi’n mynd i dafarn och chi’n “disgrace” i’r gymdeithas. Doedd e ddim yn cael ei gyfrif yn beth neis i ferch smocio `chwaith – dim ond merched y Land Army neu rai mewn iwnifform wnai hynny. Ni chai fynd i ddawnsfeydd o gwbwl a rhybuddiai ei thad hi “Watshwch chi’r bechgyn’.

(viii) Eirlys Peris Davies, Ffynnon-groes ( 9517) : ‘Hen ferched comon oedd mas ar ôl deg’.

(ix) Beti Eurfron Hughes, Llanaelhaearn (9425) : Odd “make-up” yn tabw adra – doeddan ni ddim i fod. Os fydda isho rhoid “make-up” on i’n denig wedi rhoi peth’. Doedd neb yn lliwio’u gwalltiau oherwydd cyfrifid hynny yn beth comon i’w wneud.

(x) Eleanor Roberts, Eglwys-bach, ger Llanrwst (9673) ; ‘Dwi’n cofio cal helynt efo ‘Nhad pan on i isho gwisgo slacs. “Ew, na”, medda fo, “hen ferched comon odd yn gwisgo slacs”’.

CH. CAEL CARIAD :

(i) Ray Samson, Tegryn (9500) : Doedd merch fferm ddim fod i briodi gwas, a morwyn ddim i fod i briodi mab fferm. Doedd neb yn torri’r rheol hon. Bu hyn yn rhywfaint o broblem iddi hi pan aeth i wasanaethu ar fferm lle roedd y mab fferm yn ddi-briod. Y cwestiwn mawr gan deulu’r darpar briodfab oedd ‘Beth sy `da ti tu ôl i ti?’, h.y. faint o arian sy gan rywun i’w gyfrannu at y briodas.

(ii) Ann John, Clynderwen (9229) : Byddai yn ei chael hi gyda’r bois amser y gwair. Byddent yn dweud wrth ei chariad ‘’se werth dim byd i ti fynd ar ôl roces ‘na, fydd hi werth dim byd – dim ond ar gefen ceffyl ma hi’. A phan grybwyllwyd ei henw wrth ryw gariad posibl arall dwedodd ‘O na, dwi ishe rhywun sy’n gwisgo ffedog sach a ddim yn car bob dydd’.

(iii) Margaret May Davies, Trefdraeth (9207) ; Roedd hi a’i darpar-wr yn byw yn agos at ei gilydd a dwedid ei fod ‘wedi cael gwraig ar claw’r ardd’. Buon nhw’n caru am dros ddwy flynedd ond chai e ddim dod i’w chartre o gwbl a phe gwelai ei rhieni byddai’n rhedeg i ffwrdd. Ryw chwe mis cyn y briodas y daeth i’r ty gynta.

(iv) Gwen Owen, Pencaenewydd (9278) : Cyfarfu â Idris Owen yn Ffair Gwyl Ifan, Cricieth. Buont yn canlyn am dipyn ond wedi i fam Idris ddeall fod T.B. yn ei theulu rhwystrodd y pâr rhag parhau â’r berthynas. Yna cyfarfu Gwen â morwr a chafodd ei hun yn feichiog. Penderfynwyd priodi ond fe’i boddwyd ef ar y môr. Cafodd Gwen gynnig erthyliad gan ei meddyg gan fod y teulu mor uchel ei barch yn yr ardal ond gwrthododd ‘Dim o’r fath beth doctor,’ meddai ‘Os dwi’n cymryd ‘y nghwymp, dwi’n gymryd o’. Ail-gydiodd Gwen yn ei pherthynas gyda Idris, penderfynasant briodi a magodd ef ei merch fel ei ferch ei hun.

(v) Jane Jones Roberts, Aber-soch (8990) : Cofia’r Gwyddelod (rhyw 200 ohonynt) yn dod draw i weithio yn chwarel Trefor, tua 1930, a merched Caernarfon yn dod draw i chwilio am gariad.

(vi) Margaret Jean Jones, Bethesda (8817-8) : ‘Odd genod yn mynd allan efo hogia ag os oeddan nhw’n gafal amdanoch chi a rhoi sws i chi odd o’n beth mawr `de. Odd ganddoch chi newyddion mawr i ddeud bora dydd Llun. ... Doedd ganddon ni mo’r pil, nagoedd, na dim byd, a wedyn toeddan ni jest ddim yn gneud petha felly. Odd gynnon ni ormod o ofn , ma’n siwr, cal plant ... Oeddan ni, ( ei darpar-wr a hi) yn mynd efo’n gilydd am flynyddoedd, wyth mlynadd cyn, ac ma’n siwr fe alla rwbath fod wedi digwydd, ond na, oeddwn i’n teimlo ma rhaid i mi barchu fy magwraeth ... a felly wnath o ‘rioed ddod fewn i’m meddwl i’. (yn y pedwardegau)

(vii) GWRANDEWCH ar Beti Williams, Llangwyllog, Môn (9391) yn egluro beth oedd y ‘rheolau’ anysgrifenedig wrth fynd i garu :

Cliciwch yma i wneud yn fwy

‘Ond oeddach chi’n ryw wbod bod raid i chi fyhafio’ch hun. `da chi’n gweld. A’r gair pwysig oedd “Na”. Gair pwysig iawn odd “Na” adeg hynny. Mi oeddach chi’n edrach ar ôl eich hun, achos todd o’m yn dderbyniol i fod fel arall `da chi’n gweld. Oeddach chi’n meddwl am `ch teulu a odd `na ryw , be `di’r gair dwch? – odd `na ryw – balchdar hefyd `lly `te. Oedd `na ryw falchdar. Oeddan ni’n dlawd a balch, ... Ond mi odd y balchdar `ma, oeddach chi’n edrach ar ôl eich hun, odd pawb yn edrach ar ôl `i hun; ne mi odd yn ffwl `da chi’n gweld. Ia, a toeddach chi’m isho cal `ch galw’n ffwl, nag oeddach?. Wedyn odd pawb yn “toe the line”, dwi’n meddwl, odd y gair’.

(viii) Meinir Beech, Bryneglwys, Corwen (9590) : Roedd ei ffrind yn gyrru a chaent fenthyg hen fan fawr gario moch i fynd allan i’r Bala i gwrdd â chariadon. ( hyn tua diwedd y pumdegau) Roedd ganddynt gariad yr un a chaent ‘dipyn o snog’ ar y ffordd adre. Yn arferol byddent yn cwrdd yn y Milk Bar, yna’n mynd i’r pictiwrs ac yna am dro bach o gwmpas y llyn. Yn yr haf eisteddent ar y meinciau a chael snog. Roedd y rhan fwya o’r caru yn reit ddiniwed.

(ix) Laura Wyn Roberts, Morfa Nefyn (9281) : Doedd cyd-fyw cyn priodi ddim yn opsiwn yn y chwedegau. Doedd hi ddim wedi cysgu gyda’r un o’i chariadon blaenorol na chyda’i dyweddi cyn priodi. Roedd y gwerthoedd hynny wedi cael eu dysgu ers oed cynnar iawn.

(x) Siaradwraig o Wrecsam (9658) : Bu’n caru’r un bachgen am ddeng mlynedd ond roeddent yn perthyn yn agos a doedd hynny ddim yn dderbyniol i’w teuluoedd. Fel ffermwyr roeddent yn ymwybodol o bwysigrwydd cyfnewid gwaed. At hyn roedd ei chariad eisiau gwraig ar gyfer ei fferm a ‘doeddwn i ddim eisiau bod yn rhyw wraig fach wrth y sinc yn gwneud bwyd i ffermwrs i mewn ac allan trw’r dydd’. Cofia hefyd y “Swinging Sixties” yn y Bala a Dolgellau a chred fod pobl ifanc yn barod iawn i arbrofi â chyfathrach rywiol yn y cyfnod hwn.



  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.