|
|
A
: BYWYD PRIODASOL : DECHRAU BYW
Dibynna hanesion y merched a holwyd am eu cartrefi cyntaf a dechrau
byw yn llwyr ar eu sefyllfaoedd personol, gwahanol. Aeth sawl un ohonynt
nôl i weithio ar fferm ei rhieni neu’i theulu yng nghyfraith
ac yn sicr gallai rhannu cartre â theulu yng nghyfraith fod
yn her mawr. Dro arall, os nad oedd cartre ar eu cyfer byddai’r
mab a’r ferch yn gorfod byw ar wahan, gyda’u teuluoedd,
am gyfnod. I lawer doedd dim gobaith cael eu cartref eu hunain a rhaid
oedd mynd i ystafelloedd neu ‘rwms’ mewn ty, lle rhennid
adnoddau fel cegin ac ystafell ymolchi gyda theuluoedd eraill. Tystia
nifer am anawsterau cyfnod y rhyfel a’r gorfoledd o gael cartre
‘pre-fab’ wedi’r ymladd iddynt eu hunain. Yn sicr,
petaent yn ddigon ffodus i gael hyd i gartref, byddent yn bur ddibynnol
ar haelioni teulu neu ar brynu celfi ail-law i’w ddodrefnu.
O ddarn i ddarn dros gyfnod y byddai’r pâr yn caffael
dodrefn newydd. Llwyddodd ambell un i fenthyg arian gan deulu a chydnabod
i brynu cartre tra bod eraill yn byw yn gwbl gartrefol mewn ty rhent.
Dengys y ffaith fod sawl un o’r menywod yn gallu cofio dyddiadau
prynu ambell ddodrefnyn neu offer trydanol mor allweddol bwysig yr
ystyrient hyn yn eu bywydau.
(i)
Siaradwraig o Lanybydder (9088) : Ar ôl priodi yn 1936 prynodd
y pâr ifanc dy newydd sbon gyda morgais arno yng Nghaerfyrddin.
Cafodd ford a stolion ar ôl ei mam fu farw ar ei genedigaeth,
cloc o deulu’r gwr, ‘sideboard’ a chelfi ystafell
wely i fastio gan rywun o San Clêr a chwpwrdd llawn llestri
hen iawn oddi wrth ei thad yng nghyfraith.
(ii) Eluned Evans, Blaenau Ffestiniog (9300) ;
Prynon nhw dy am £90 yn 1935 a chawsant fenthyg y swm enfawr
hwn ( fel y syniai hi) gan ei mam yng nghyfraith.
(iii) Siaradwraig o Abergwaun (9508): Dychwelodd
y pâr ifanc o’u mis mêl yn 1937 i ffermio. Prynwyd
celfi ail-law mewn ocsiwn. Prynodd hi ‘three piece suite’
am 12 gini yn Siop Eynon, Abergwaun. Rhoddodd ei thad hwch a moch
bach iddynt a’i thad yng nghyfraith dair buwch. Roedd ganddynt
£40 yn y banc.
(iv) Athrawes yn ysgol gynradd Llanfihangel-y-Creuddyn
oedd ein siaradwraig (8842) pan briododd hi yn 1938. ‘Ond
wrth gwrs, pan briodais i, dyna fi’n gorfod rhoi fyny’r
cwbwl. Yn Sir Aberteifi yr adeg honno odd dim un athrawes briod.
Os och chi’n briod och chi’n gorfod rhoi fyny eich gwaith
... hyd nes y rhyfel. On nhw’n ddigon balch eich cal chi’n
ôl adeg rhyfel’.
(v) Sarah Thomas, Llanfechell (9553) : Wedi priodi
yn 1940 aeth i fyw ar fferm ei gwr lle roedd ei mam a’i chwaer
yng nghyfraith yn byw hefyd. Buon nhw yn cyd-fyw am 12 mlynedd.
O edrych yn ôl fyddai hi byth yn gwneud hynny eto, ‘Na
faswn wir’. Y fam yng nghyfraith oedd y feistres. ‘Faswn
i byth, byth yn leicio gwneud yr un peth eto ... Mae pawb isho independans
tydyn?’
(vi) Nest Davies, Llanymddyfri (8903) : Priododd
Nest tua diwedd y rhyfel ond gan fod ei mam yn wael yn y gogledd
bu’n rhaid iddi dreulio deng mlynedd cyntaf ei bywyd priodasol
yn byw ar wahan i’w gwr. Gan ei fod ef yng nghlwm â’r
fferm dim ond teirgwaith y llwyddodd i ddo i fyny i’w gweld.
Pan ail-ymunodd ag ef yn 1956 bu’n rhaid iddynt ail-ddysgu
sut i fyw efo’i gilydd.
(vii) Elsa Jones, Bryneglwys, Rhuthun (9575) :
Priododd hi yn y pedwardegau ac aethant i fyw i Pool Park. Bocs
orenau oedd ganddynt wrth y gwely on prynon nhw ‘bedroom suite’
gydag arian y briodas. Cawsant ddreser am £37. Cafodd hi beth
dodrefn o’i llofft gartre achafodd ei gwr anifeiliaid gan
ei rieni.
(viii) Eirwen Gwynn, Tal-y-bont, Ceredigion (9465)
: Wedi priodi yn 1942 roedd Eirwen a Harri yn byw yn Llundain a
hithau’n gyfnod y rhyfel. Trigent i ddechrau mewn ystafell
fechan wedi’i dodrefnu yn Earl’s Court ond pan aeth
hi’n feichiog nid oedd caniatâd i aros yn y llety hwn.
Cawsant hyd i adeilad wedi’i fomio a symud i mewn cyn y Nadolig.
Roedd yn oer iawn a golau ddydd i’w weld rhwng styllod y llawr.
Chawson nhw ddim carped am flynyddoedd ond cawsant gwponau i brynu
dodrefn “utility” ar gyfer un ystafell. Dodrefn ail-law
ydoedd a phrynai Eirwen ddefnydd i’w orchuddio. Casglodd gwponau
dillad blwyddyn er mwyn cael defnydd i wneud llenni ar gyfer y tair
ffenestr Siorsaidd fawr oedd yno. Roedd yn rhaid crafu fan hyn a
fan acw am bethau fel sosban gan ei mam a sosban arall gan ei mam
yng nghyfraith. Roedd hi’n anodd iawn cael cyllyll a ffyrc
oherwydd y rhyfel.
(ix) Katie Williams, Llanystumdwy (8968) : Dodrefnwyd
eu cartref cyntaf wedi priodi yn 1944 trwy ddefnyddio cwponau. Roedd
eitemau fel tegell, cyllyll a ffyrc yn brin iawn. Ar eu mis mêl
yn Lerpwl bu’n rhaid iddynt giwio am dair awr i brynu tegell.
(x) Kitty Griffiths, Llangynyw, y Trallwng (9646)
: Wedi priodi ddiwedd y 40au bu hi a’i gwr yn byw ar wahan
am ryw dair blynedd oherwydd gwaeledd ei thad a bod rhieni ei gwr
yn dal ar y fferm. Yna, wedi symud i Benbryn, bob yn dipyn y cawson
nhw’r dodrefn, yn ddreser, cadeiriau, byrddau a gwlau. Rhoddodd
modryb gwpwrdd cornel bach a “warming pan” iddynt. Ar
ôl cael trydan yn 1953 cafodd beiriant golchi â mangl
ar y top ac yn 1957 cafodd Rayburn.
(xi) Siaradwraig o Gaerfyrddin (9515) : Cafodd
hi amser anodd iawn gan ei gwr a’i theulu yng nghyfraith.
Ni roddai ei gwr arian iddi i’w wario o gwbl. Cai fwyd i’r
teulu trwy’r Farmers’ Co-op, sef ‘28 pownd o reis,
bar mawr o halen, sached o fflwr a bocs dau bwys o de’. Ond
cadwai e weddill yr arian i gyd i brynu defaid. Dechreuodd ei bygwth
a’i phwno. ‘Lawer gwaith gysges i yn sied ffowls’.
Doedd e ddim yn fodlon iddi fynd i’r cwrdd ar y Sul nac ar
drip Ysgol Sul rhag iddi ddweud eu hanes wrth bobl eraill. Yna wedi
iddo gael salwch “diabetes” a cholli’i waith cyflawnodd
hunan-laddiad. Roedd hynny yn “big relief” iddi.
(xii) Dilys Clement, Llanddarog (8927) : Rhentu’r
fferm gyntaf wnaethon nhw ac roedd ei thad yng nghyfraith wedi rhoi
9 buwch, 25 dafad ac 1 ceffyl iddynt i ddechrau byw. At hyn cafodd
gelfi ar ôl ei mam yng nghyfraith. Y nhw oedd i fod i brynu’r
offer fferm. Cyngor ei mam iddi oedd ‘Cofia bod rhaid iti
fyw, paid â dod â dy glecs `nôl fan hyn’.
Gwnaeth hyn hi’n fwy penderfynol o lwyddo.
(xiii) Ann Jones, Aber-porth (9666) : Roedd Ann
wedi dweud ( tua 1947 ymlaen) na fyddai’n fodlon rhannu’i
chartref â theulu’i gwr wedi priodi ac na fyddai’n
priodi nes iddynt gael eu cartref eu hunain. O’r herwydd arhosodd
hi yn Coventry am ddwy flynedd nes iddynt gael cartref. Yr unig
ddodrefn oedd i gael oedd rhai â stamp “utility”
arnynt. Nid oeddynt o’r ansawdd gorau ac nid oedd disgwyl
iddynt bara.
(xiv)
Kitty Williams, Aberteifi (9239/40) : Yn syth wedi
priodi yn 1942 bu’n byw gartre gan nad oedd digon o dai yn
yr ardal oherwydd fod Aber-porth wedi datblygu gyda’r Weinyddiaeth
Amddiffyn. Roedd ei gwr yn gorfod byw i ffwrdd oddi wrthi yn Aberteifi
gan mai dyna lle roedd ei waith. Yna aethant i fyw mewn rwms mewn
ffermdy am flwyddyn a rhannu gyda dau bâr arall – roedd
ganddynt ystafell fyw ac ystafell wely iddynt eu hunain ond rhannent
y bathrwm a’r gegin. Dim ond yn y gegin yr oedd tân
â bwyler tu ôl iddo ac os oedd eisiau bath byddai’n
rhaid iddynt roi bwcedaid o lo i’r perchnogion. Roedd hyn
yn ‘lletwith, ych a fi, peidwch â siarad â fi’.
Yna cawsant gynnig ar dy ‘pre-fab’ – GWRANDEWCH
arni yn disgrifio ei phrofiad o fyw mewn ty o’r fath, mewn
sgwrs efo Ruth Morgan :
Ruth
: Och chi’n
gweud nawr ambyti’r pre-fabs – ethoch chi i fyw `na
– wedi cal e gyda’r cyngor, ie?
Kitty : Ie, roion ni’n enw lawr ar
y cyngor er mwyn cal ty cyngor whap ar ôl priodi `chwel, odd
raid i chi, ne byddech chi heb gartre. Wel wrth gwrs fe ddath. Wê
nhad yng nghyfreth nawr `chwel yn “surveyor” so odd
e ar y Council `ma wedyn on’d odd e. A odd e wedi gweud wrthon
ni, “Chmbod rywbeth”, wedodd e, “ma pre-fabs yn
dod nawr” wedodd e “ i’r dre `ma”. Ugen
wi’n credu wedodd e – wel, nawr gallen i feddwl mae
trw Aber-porth odd Council `ma’n `u cal nhw achos on nhw’n
folon i bois Cardigan i gal “fifteen” os gele bois Aberporth
bump pre-fab. A on nhw’n aloceto nhw mas i rheina odd wedi
bod yn rhyfel `chwel. ...
Ruth : A beth odd y pre-fab fel?
Kitty : ‘"Lovely”. Punt
yr wythnos, a pum punt deg ceinog, ie pum punt deg ceinog odd gwr
yn ennill, a punt am pre-fab – Wel, on ni’n “rich”’.
...
[Roedd yno ddwy ystafell wely, cegin a lolfa neis, trydan a dwr
twym a digon o gypyrddau.]
Ruth : On nhw’n gweud ma dros dro
odd ?
Kitty : Deg blynedd mynten nhw – gallen
nhw wedi para deg arall yn rhwydd.
Ruth : So faint buoch chi `na?
Kitty : “Thirteen years,” do.
Ruth : So beth naethon nhw wedi`ny â
nhw?
Kitty : Distrywo nhw. ... Wedech chi, o
weld nhw o fas, byddech chi’n meddwl, “O jiw `na beth
yw hen sied ond sech chi’n mynd miwn iddyn nhw - O!”
`
(xv) Mareth Lewis, Llanelli (8913) : Wedi priodi
yn 1949 aethant i fyw gyda rhyw hen ddyn ond cafodd hi ‘breakdown’
oherwydd y straen. Yna symudon nhw i fyw mewn rwms ond roedd hynny’n
waeth fyth. Byddai’n llefain yn ddi-stop ac aeth yn reit od.
Yna cawsant dy cyngor ac ‘On i’n credu bo fi wedi cael
Buckingham Palace’. Cafwyd celfi trwy dalu £1 yr wythnos
i siop Pughs’ Llanelli.
(xvi) Siaradwraig o Lanrhuddlad (9560) : Eu cartref
cyntaf ( tua 1950) oedd dwy ystafell mewn ty yn Stryd Edmond, Caergybi.
Yna daeth ty ar werth am £250 yn yr un stryd. Dim ond £100
oedd ganddynt ac felly anfonodd yr ocsiwniar nhw i weld Mrs Hughes,
B.M. talwyd cant i lawr a’r gweddill wythnos wrth wythnos
i brynu rhif 25. Cafodd y siaradwraig fenthyg £50 gan ei rhieni
(mabwysiedig) i gael dodrefn.
(xvii) Morfudd Jones, Treffynnon (9128) ; Wedi
priodi yn 1952 aeth Morfudd ac Ifor i fyw at fam Ifor a chafodd
hi ei derbyn yn llawn. Fu dim ffraeo a throsglwyddodd ei mam yng
nghyfraith holl ofal y ty iddi a’i gwneud yn gwbl gartrefol.
(xviii) Siaradwraig o Ros-y-bol (9678) : Bu’n
byw efo’i rhieni yng nghyfraith wedi priodi yn 1954 a ‘Dwi
ddim yn ei weld o’n beth doeth fy hun fod un genhedlaeth yn
byw efo cenhedlaeth arall’. Ai hi i weithio fel athrawes bob
dydd gan adael ei mam yng nghyfraith ‘yn ei chastell’.
Eto roedden nhw’n gwneud yn ddel efo’i gilydd.
(xix) Margaretta Cartwright, Cwm Nantcol (9050)
: Symudodd hi a’i phriod newydd i Lanidloes yn 1952. Doedd
neb yn meddwl cael ty bryd hynny dim ond ystafelloedd lle byddent
yn rhannu cegin a chanddynt ystafell eu hunain yn y cefn ac ystafell
wely. Talent £1. 15s o rent yr wythnos allan o gyflog wythnos
(£8) ei gwr.
(xx) Eirwen Jones, Y Bala (9045) ; Priododd Eirwen
a mab fferm o Lanfihangel Glyn Myfyr yn 1953 a bu’n rhaid
iddi fynd i fyw efo’i theulu yng nghyfraith am ddwy flynedd
a hanner. ‘Wnaiff dwy ddynes ddim dan yr un to’ meddai.
Gan na thalent unrhyw gyflog i’w gwr roeddent fel pâr
yn gwbl ddibynnol ar ei rieni ef am bob ceiniog.
(xxi) Eluned Williams, Glan Conwy (9327) : Priodasant
yn 1953 a phrynu ty tair ystafell wely yn Great Crosby, ger Lerpwl
am £2,400 – swm mawr bryd hynny. Roedd prynu’r
dodrefn, y carpedi a’r llenni yn bleser pur.
(xxii) Gret Evans, Cwm Ystradllyn (8978) : Bu hi
a’i gwr yn cadw ty capel o 1957-72. Bu hyn yn gymorth mawr
iddynt ddechrau byw am nad oedd yn rhaid iddynt dalu rhent. ‘Dan
ni’n llnau ein tai ein hunain yn lân, ond odd o’n
bwysicach llnau ei dy O, doedd? A cadw’i dy O yn lân
– felly on i’n sbïo arni’.
(xxiii) Beryl Hughes, Rhydypennau (9453) : Wedi
priodi ddechrau’r chwedegau aeth Beryl i fyw yng nghartre’r
gwr a theimlai Beryl fod cyd-fyw â’i mam yng nghyfraith
yn anodd – roedd y ddwy ohonynt yn ‘house-proud’.
Mynnodd Beryl gael peiriant golchi dillad a phrynodd ef am £60
o’i Chynllun Cynilo Cenedlaethol ei hun. At hyn prynodd ‘three
piece suite’ o’r Co-op am £39. Rhoddodd ei rhieni
stôf drydan iddi cyn fod ganddynt un eu hunain.
B: GENEDIGAETHAU :
Wrth
sôn am feichiogrwydd a genedigaeth clywn droeon, fel yr awgrymwyd
eisoes wrth drin diffyg addysg rhyw, am anwybodaeth y fam wrth i
gyfnod esgor ddynesu. Teimlai llawer yn ofnus iawn ond, er gwaetha
hyn, soniant hefyd am y wefr o eni’r baban. Doedd dim llawer
o gyfle i fynychu clinig cyn-eni cyn y rhyfel yn enwedig yng nghefn
gwlad Cymru ac yn aml ni fyddid yn hysbysu’r fydwraig neu’r
meddyg teulu fod baban ar y ffordd nes ei fod ar fin cyrraedd. Y
drefn gyffredin, yn wir doedd dim llawer o ddewis beth bynnag, oedd
geni’r baban yn y cartref o dan oruchwyliaeth bydwraig broffesiynol
neu , cyn 1936 a phasio Deddf Bydwragedd, gyda chymorth bydwraig
amatur ddi-hyfforddiant answyddogol. Gan fod yn rhaid talu am wasanaeth
meddyg neu fydwraig swyddogol dewisai llawer, o raid, ddibynnu ar
yr amaturiaid. Wedi sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol
a sicrhau triniaeth rad ac am ddim i bawb gwelwyd agor ysbytai a
wardiau mamolaeth pwrpasol ac yn raddol daeth geni mewn ysbyty yn
fwy poblogaidd na geni gartre. Yn annisgwyl braidd ymddengys nad
oedd hi’n arferol nac yn ffasiynol i fam fwydo’i baban
ei hun. Crybwyllir nifer o arferion geni a berthynai i’r cyfnod
(c.1930-70) er enghraifft y gred fod yn rhaid i fam newydd aros
yn ei gwely am 10-14 niwrnod a’r arfer o rwymo stumog y fam
a botwm bol y baban â bolster neu feinder. Mae’r sylwadau
am bresenoldeb y tad adeg genedigaeth yn adlewyrchu’r newid
a welwyd yn hyn o beth yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.
EWCH
i’r is-adrannau :
(a)
Beichiogrwydd :
Cuddio beichiogrwydd?
Disgwyl / erfyn babi
(b)
Yr enedigaeth :
Y geni
Profiadau rhai bydwragedd
Ar ôl yr enedigaeth : arferion ac eraill
Iselder ol-eni
Colli baban
Mabwysiadu plentyn
(a)Beichiogrwydd :
Cuddio
beichiogrwydd? :
(i)
Jane Jones Roberts, Abersoch (8991) : ‘Odd Mam yn ofnadwy
felly. Chaethech chi ddim gwbod os odd rywun yn disgwyl babi, na
dim byd ... Odd hi’n ofnadwy o strict’.
(ii) Dwynwen Jones, Llangadfan (9751) : Ganwyd
y merched yn 1959-60. Ond pan yr oedd yn disgwyl roedd ‘rhywfaint
o ledneisrwydd’. Gwisgai got fawr, lac ac er ei bod yn mynd
allan i bopeth doedd hi ddim yn ‘mynd i ben llwyfan’
i ganu gyda’r côr.
(iii) Carrie Prys Owen, Llan-rug (8803) ; ‘Ond
nath Mam `rioed ddeud bod hi’n disgwl wrtha i ... on i’n
filan achos on i yn yr oed yna ( tua deuddeg oed) ... Mam yn disgwl
– doedd o’m yn beth i fod, nag oedd? Doeddan nhw’m
yn siarad am betha fel’na, doedd “down below”
ddim yn cyfri’.
(iv) Molly ( A.M.) Rees, Penrhiwllan (9520) : (tua
1940) Roedd hi’n ffasiwn i guddio’r ffaith eich bod
chi’n disgwyl babi.
(v) Eirlys M. Owen, Rhydypennau (9455) : (tua 1947)
Credai ei bod braidd yn ffasiynol i guddio beichiogrwydd ond ni
wnaeth hi hynny. Doedd dim clinig cyn-geni ond roedd y doctor yn
byw ac yn bod yn ei chartre am ei bod wedi cael beichiogrwydd anodd.
(vi) Kate (C.A.) Thomas, Treboeth, Abertawe (9001)
: Wedi iddi ddechrau dangos ei bod yn disgwyl aeth hi dim i’r
capel tan ar ôl yr enedigaeth.
(vii) Margarette Hughes, Hendy-gwyn (9105) : Doedd
dim siopau yn gwerthu dillad i wragedd beichiog bryd hynny ( ganol
y chwedegau) ond darganfu “Just Jane” o’r diwedd.
Fel arall byddai’n gwisgo pyjamas o dan ei ffrog yn yr ysgol!
Disgwyl
/erfyn babi :
(i)
Mattie (M.L.) Evans, Pumsaint (8961) : Collodd faban chwe mis i’w
beichiogrwydd am ei bod, fel gwraig fferm, wedi mynd allan i grynhoi
cerrig yn ei ffedog yn y cae ac wedi rhoi gormod o bwysau ar ei
chefn. At hyn methodd â bwydo ei hail ferch am ei bod wedi
dechrau helpu ar y gwair a’i mam yn mynnu fod blas y chwys
yn mynd ar y llaeth.
(ii) Siaradwraig o Gaerfyrddin (8958) : Cafodd
amser caled tra’n cario’i phlant. Doedd ei gwr ddim
yn meddwl am ei sefyllfa. Disgwylid iddi gario ymlaen â’r
gwaith fferm fel arfer. Ystyrrid fod “menyw dan draed, ail
ore oedd menyw, dyn odd y bos yn y ty”. Ond gan na chai godi
am bythefnos wedi’r esgor deuai cymdoges ati dros y cyfnod
hwnnw. Cai hithau ei thalu. Yn ei hen gartref gyda’i thad
a’i mam y ganwyd ei phlentyn cynta am ei bod wedi treulio
blwyddyn gynta ei bywyd priodasol ( yn ôl yr arfer) gyda nhw.
(iii) Ellen Vaughan Ellis, Y Ffôr (9291)
: Ni fynychodd glinig cyn-geni o gwbl ( tua 1950) ond bu’r
Dr Pritchard, Pen-y-groes yn dda iawn wrthi yn egluro a gofalu amdani.
(iv) Alice Griffith, Dinorwig (8791) : Noda fod
y gwasanaeth ar gyfer mamau beichiog wedi gwella rhwng geni’i
dau blentyn (1948-1954) ‘Oedd pethau yn gwella wedyn ... oeddan
nhw yn fwy gofalus ohonach chi’.
(v) Siaradwraig o Ddinas Mawddwy (9315) : Arferai
fynychu clinig cyn geni yn Nolgellau bob pythefnos yn ystod ei beichiogrwydd.
(vi) Siaradwraig o Fangor (8799) : Ganwyd ei phlant
rhwng 1968-76 a mynychodd glinig cyn geni bob tro. Roedd y nyrs
yno yn pwysleisio na ddylai fynd i mewn i’r ysbyty yn rhy
fuan neu cai ei rhoi mewn ward gyda mamau â chymhlethdodau
a byddai hynny yn codi ofn arni. Yn ystod yr enedigaeth gofynnai’r
meddygon / nyrsys am grefydd ac enwad y fam.
(b)
Yr enedigaeth :
Y Geni :
(i)
Siaradwraig o Lanrhystud (9786) : Tystia na ddeuai bydwraig na doctor
at ei mam pan oedd yn cael plant tua 1930 – dim ond hen wraig
leol o’r enw Mari Jane a ffrindiau i helpu.
(ii)
Siaradwraig o Lanfechell (9361) : hen wreigan o’r enw Mari
Hughes, Penyrorsedd, ddeuai at ei mam cyn i’r nyrs gyrraedd
ar gyfer genedigaethau yn y dauddegau. Clywodd y siaradwraig hon
ddweud iddi gael ei geni â “veil” ar ei hwyneb
a bod hynny’n arwydd lwcus.
(iii)
Ann John, Bro Arberth (9229) : Clywsai hanes ei geni ei hun ar fore
niwlog iawn yn 1917. Bu’n rhaid nôl Mari Williams, Penrhos,
‘rhyw damaid o “midwife”’ filltir a hanner
i ffwrdd ond erbyn iddi gyrraedd roedd Ann wedi’i geni. Gan
na allai ei mam ei bwydo bu’n rhaid rhoi llaeth buwch iddi
yn fabi wythnos oed. Meddai modryb wrth ei mam ‘Galli di ffindio
enw iddi ond `sa i’n credu y bydd y babi `na fyw `da ti. Ma
hi lawer yn rhy fach’. Ond cafwyd bwyd Bengers a oedd yn helpu
treulio llaeth buwch.
Erbyn i Ann ei hun roi genedigaeth (o 1939 ymlaen) roedd nyrs ardal
a byddai yn dweud wrthi ryw ddeufis ymlaen llaw y byddai angen ei
help. Cofia fod llawer o famau yn dioddef yn enbyd, yn enwedig yng
nghenhedlaeth ei mam am fod y groth “wedi’i siglo o’i
blatfform”. Ai rhai i’r ysbyty i gael “ring rubber”
i’w ddal yn ei le. Collodd ann faban hefyd ag yntau yn saith
mis oed yn y groth. Bu farw a bu’n rhaid iddi ei eni yn naturiol.
Chafodd hi ddim gweld ei mab bach. Gwnaeth ei thad ‘focs bach
teidi neis’ a’i leinio ac aeth e a’i gwr i’w
gladdu yn un o feddau’r teulu.
(iv)
Siaradwraig o Lanybydder (9087/8) : Bu farw ei mam ar ei genedigaeth
yn 1913 a chafodd y siaradwraig ei bedyddio ar ei choffin. Yna ymhen
amser, yn 1939 ganwyd merch iddi hithau. Doedd dim clinig cyn geni
a welodd hi mo’r doctor am y byddai’n rhaid talu amdano.
Ganwyd ei merch yn Ysbyty y Prior yng Nghaerfyrddin a doedd y “gas
and air” ddim yn gweithio! Deuai merch i’w chartre wedi’r
enedigaeth i helpu am wythnosau gan lanhau a golchi ac ati. Byddai’n
rhaid ei thalu.
(v)
Ray Samson, Tegryn (9499) : Fel llysferch a’r hynaf o nythaid
o blant disgwylid i Ray weithio’n galed yn enwedig pan ddeuai
babi newydd i’r cartre tlawd, gan nad oedd arian i dalu am
help arall. Collai dair wythnos o ysgol bob tro y genid babi newydd.
Deallai lawer am esgor oherwydd hi fyddai’n gorfod golchi
shîts a chwiltiau’r gwely. Deuai widwith / nyrs o Alltwalis
i’r cartre ar gyfer yr enedigaeth ei hun. Wedi geni’r
baban newydd byddai’n rhaid i Ray gysgu ar waelod gwely ei
llysfam i fod yn barod i godi i nôl llaeth i’r baban
neu newid ei gewyn yn ystod y nos. Rhoddai ei llysfam gic fach i’w
deffro a’i chodi. Cofia hefyd eu bod yn cael sebon tar neis
o rywle (o’r plwyf?) pan enid baban newydd.
EDRYCHWCH
ar y llun o Ray yn ferch ifanc 12 mlwydd oed yn gorfod ymdopi â’r
baich gofal hwn (trwy garedigrwydd Ray Samson)
(vi)
Dilys Parry, Bethesda (8819) : ‘Dwi’n siwr bo fi tua
pedwar mis cyn mynd at y doctor ... ag oeddach chi dipyn bach yn
shei w’chi o achos y peth `lly. Odd o’n iawn, ond toeddan
ni’m yn gwbod dim byd ... Ton i `rioed `di gafal mewn plentyn
cynt, ond mae’n syn be fedrwch chi neud pan ma rhaid i chi
`tydi?’
(vii)
Siaradwraig o Lan Ffestiniog (8884) : ganwyd ei phedwar plentyn
gartre yn y pedwardegau ond bu farw’r hynaf yn flwydd a hanner.
Ni fynychodd yr un clinig cyn geni ond arferai’r nyrs ymweld
yn rheolaidd. Roedd nyrs efo hi ar yr enedigaeth a daeth ‘dynas
dendio’ i ofalu amdani a helpu efo’r gwaith o gwmpas
y ty. Am y profiad o esgor meddai ‘Odd gen i dipyn o ofn,
ynte, ond wedi i’r peth fod trosodd oeddach chi’n anghofio
fo’n syth’.
(viii)
Alice Morris, Rhuallt (9174/5) : Cafodd chwech o blant o 1947 ymlaen.
Byddai’n rhaid gofalu fod dau o bob peth o ran dillad ar gyfer
y babi : dwy goban, dwsin o glytiau am sofren, beinder i’r
babi a beinder i’r fam. Wedi’r enedigaeth deuai’r
nyrs i rwymo’r babi a’r fam er mwyn cadw’r stumog
i mewn. Ei gwr fyddai’n gofalu am y ty gan wneud y golch a
phopeth. Byddai’n bwydo’r baban am bedwar mis ac yna
caent, yn eu tro, laeth buwch tan yn chwe mis, cyn cychwyn efo bwyd
iawn fel bara-llefrith, tatws, pwdin reis neu gwstard. Collodd ei
phedwerydd baban yn bythefnos oed. Cafodd ei ruthro i ysbyty Bae
Colwyn yn las ei liw ond chafodd hi ddim gwybod beth oedd yn bod.
Aeth hi ddim efo’r babi oherwydd doedd hi ddim yn saff iddi
fynd allan cyn pen pythefnos wedi’r enedigaeth. Cofia ei mam
yn dweud os byddai baban yn marw heb ei fedyddio y dylid mynd ag
ef dros wal y fynwent i’w gladdu gyda’r nos.
(ix)
Sioned Penllyn, ( Margaret Janet Jones) Y Drenewydd (9630) : Er
ei bod yn cario efeilliaid doedd ganddi ddim syniad beth i’w
ddisgwyl wrth esgor ‘mwy na twrch daear yn yr haul’.
(x)
Siaradwraig o Lanrug (9321) : Er iddi fynychu clinig cyn geni yng
Nghaernarfon (c.1947) doedd hi’n gwybod ‘dim byd. Dim
byd. Na , dodd gin i’m syniad – gorfod dibynnu ar y
gweinyddesau yn yr ysbyty ... Na, don i’n gwybod dim byd’.
Felly teimlai’n reit ofnus. Ond eto roedd e’n deimlad
gwych cael dal ei babi am y tro cyntaf. Geni ei mab yw’r peth
gorau a ddigwyddodd yn ei bywyd.
(xi)
Blodwen Griffiths, Cwm Ystwyth (9271) : GWRANDEWCH ar Blodwen
yn adrodd ei hanes pan oedd yn forwyn fach yn gweithio i wraig y
bwtsiwr yn Nhregaron wrth Jane Jenkins. Roedd gan y wraig ddau o
blant ac yna ganwyd baban arall :
A
dyma’r plentyn yn cyrradd. Dau bwys odd y plentyn, dau bwys
a odd dim “incubator” na dim amser `ny chi’n gweld.
O flan tân, y pram o flan tân. A wedyn on i’n
gorffod codi bob nos wedyn i ffido’r tân – codi
bob tua awr i roi glo ar tân er mwyn bod yr un “temperature”,
yr un gwres, i’r plentyn bach. A erbyn hyn odd hi’n
bedwardeg saith, y gaea caled ofnadwy `na a wrth gwrs odd cig yn
dod mewn, a cig o dramor odd y cig i gyd – o Argentina a “New
Zealand lamb” odd yn dod `na a rheini fel craig yr oesodd.
A wedyn odd un cwarter o biff un ochor i’r tân a odd
y babi yr ochor arall i’r tân. A `na beth odd `ngwaith
i wedyn - on i’n gorffod codi bob byti hanner awr achos bydde’r
gwad, chmbod odd e’n toddi, bydde’r gwad yn mynd mas
i’r “street” yn Tregaron a on i’n gorffod
mopo’r - mopo hwnna lan’.
(xii)
Nans Jones, Ffostrasol (9214) : Wnaeth hi ddim bwydo’i baban
cyntaf a chan ei bod yn amser rhyfel doedd dim didennau (tethi)
ar gael. Felly bu’n bwydo’r baban o gwpan am gyfnod.
Cai laeth y fuwch heb ei ferwi a doedd dim sôn am lanweithdra.
Pan anwyd yr ail a’r trydydd plentyn llwyddodd i’w bwydo
ei hun. Ond gyda’r tri olaf (1964 -70) byddai’n godro
llaeth y fuwch yn syth i mewn i’w poteli. Dywedid wrthi nad
oedd hi i fod i roi ei dwylo mewn pridd o gwbl am fis wedi’r
enedigaeth. Caech roi eich dwylo mewn dwr ond ni chaech olchi’ch
gwallt. Byddai hi’n gorfod clymu casyn gobennydd am ei chanol
wedi’r geni i gael ei bola’n ôl i siap. Fu hi
ddim mewn unrhyw glinig wedi’r geni. Fyddai ei mam ddim yn
edrych ar ei hôl na’i chynghori, dim ond ceisio’i
chael yn ôl i weithio cyn gynted â phosibl. Cafodd Nans
enedigaeth Gesaraidd wrth eni’r ddau blentyn olaf a bu’n
dost ond roedd yn rhaid ail-gydio yn ei gwaith ar unwaith i gynnal
y lle bach.
(xiii)
A.M. (Mag) Williams, cylch y Mwnt (9093) : Ganwyd ei mab cyntaf
yn 1948 yng nghartre’i mam ac ni chai godi o’r gwely
am 14 diwrnod. Ni chai roi ei thraed ar y llawr ac roedd yn rhaid
defnyddio cadair comôd i fynd i’r ty bach. Unwaith neu
ddwy yn unig yr aeth hi i’r clinig cyn geni yn Aberteifi ond
cofia gael sudd oren a “cod liver oil” am ddim.
EDRYCHWCH
ar y LLUN o Mag (yn eistedd) a Joan Davies (Cylch y Mwnt,
Aberteifi) – dwy chwaer a recordiodd eu hatgofion ar gyfer
y prosiect.
(xiv)
Mary Evans, Nefyn (9289) : Fel sawl siaradwraig arall sonia am Mrs
Ellis, gwraig lawdde yn ei bro enedigol ( tua 1945) a fyddai’n
gofalu am wragedd beichiog, ar enedigaethau ac yn diweddu mewn tai
galar.
(xv)
Nan Jones, Glyn Nedd (9020) : Cafodd Nan naw o blant (o’r
pumdegau ymlaen) ac er nad oedd hynny wedi’i gynllunio teimlai
eu bod i gyd yn dod am reswm arbennig. Ganwyd yr wyth cyntaf yn
y cartre a dim ond bydwraig wrth law. Ni fu mewn clinig o gwbl a
fyddai hi ddim yn dweud wrth unrhywun ei bod yn disgwyl tan ei bod
‘bron â mynd i’r gwely’. Aeth hi ddim at
y meddyg rhag ‘gwneud ffys’ a bwydodd bob un ond yr
olaf ei hun.
(xvi)
Nia Roberts, Pen-y-groes, Arfon ( 8779) : ‘Doeddan ni ddim
yn gwybod bod isho dwr dorri cyn ni’r babi gael ei eni ...
on i’n yr hospital a dwi’n cofio dweud wrth y nyrs “Ma’r
gwely `ma’n socian”’.
(xvii)
Siaradwraig o Lanwnda (8824) : Yn ystod ei beichiogrwydd cynta (1956)
roedd hi’n teimlo ‘yn lloerig bost – yn iawn o
ran iechyd, ond ofn `de.’
(xviii)
Sylwen Davies, Y Parc (8838) : ‘Wel, i ddeud y gwir, on i’n
mynd i eni Gareth heb syniad o gwbl o be yr on i’n mynd drwyddo
fo ... A dwi’n cofio on i’n mynd i mewn i’r ysbyty
a clywed ryw ferch yn sgrechian ... dyna’r profiad cynta i
mi’i glywed. ... Odd gen i ddim ofn. Odd o’n rywbeth
odd rywun yn gymryd yn naturiol’.
(xix)
Ann James, Trawsfynydd (9055) : Fel gwraig i genhadwr wedi’i
alw i fynd i’r India gyda Chymdeithas Genhadol Llundain yn
y pumdegau cafodd ei hun ym mryniau Khasia. Yno ganwyd ei thri phlentyn
ond bu farw Huw Meirion o fewn pum awr o’i eni a chladdwyd
ef ar unwaith, yn unol â dull y wlad, yn y fynwent Gristnogol
yn Shillong, er nad oedd wedi’i fedyddio. Wrth esgor bu’n
ffodus i gael mynd i ysbyty yn Shillong. Cymraes, Lily Thomas, oedd
y fydwraig yno a bu’n rhaid iddi gael triniaeth Gesaraidd.
Gweithiai’r doctoriaid a’r nyrsys yno dan amodau dychrynllyd.
(xx)
Lona Puw, Y Parc (9387) : Cafodd bump o blant o’r chwedegau
ymlaen. Teimla fod y gwasanaeth iechyd i famau yn erchyll yn ei
chyfnod hi. Ni waeddodd hi allan o gwbl wrth esgor a phan gododd
a cherdded o gwmpas y gwely cafodd ffrae gan y nyrs. At hyn dymunai
fwydo o’r fron ond roedd y nyrsys wedi dechrau bwydo’r
baban â photel cyn i Lona gael cyfle.
(xxi)
Nesta Evans, Llan Ffestiniog (8889) : Ganwyd mab iddi yn 1965 a
chofia’r wefr yn fyw, ‘Dwi’n dal i gofio hyd heddiw
y wefr o’i eni fo ... dwi’n dal i’w gofio fo’n
dwad yn gynnes. dwi’n `i gofio fo’n gynnes yn dwad allan
ar `y nghoesau’. Ond doedd ei gwr, Alwyn, ddim yn bresennol.
‘Na, doedd `y ngwr i ddim yn agos yno a diolch byth am hynny
.... Mi fysa ar wastad ei gefn ar lawr – dwi’n argyhoeddedig!’
(xxii) Diana M. Roberts, Dinbych (9663) : Ganwyd
tri o blant iddi o 1967 ymlaen. Doedd ei gwr ddim yn bresennol yn
y ddwy enedigaeth gynta ond erbyn y tro olaf yn 1974 roedd agweddau
wedi newid. Eto doedd ei mam ddim yn meddwl fod hynny’n weddus,
‘Be haru ti, John, yn aros yna a’r wraig yn cael baban?’
Wnaeth hi mo’u bwydo ei hun. Byddent yn rhoi pilsen i famau
i sychu’u llaeth.
(xxiii)
GWRANDEWCH ar Marlis Jones, Llanbryn Mair (9612)
yn disgrifio ei phrofiad hi o roi genedigaeth i’w mab ddiwedd
y chwedegau. M.Davies sy’n ei holi :
M.Davies
: Ynglyn â’ch
beichiogrwydd cynta, ydach chi’n cofio sut oeddech chi’n
teimlo?
Marlis : Ydw. Oedd o ryw gymysgfa
od iawn o fod yn falch rwsut ag ofn hefyd. Mwy o ofn na dim byd
arall dwi’n credu. ...
M. Davies : A ble oedd yr enedigaeth? Oeddech
chi adre neu yn yr ysbyty?
Marlis : Na, yn yr ysbyty’n Fangor
- St David’s oedd hi’r adeg hynny.
M.Davies : A pwy oedd yna efo chi?
Marlis : Neb, dyna chi’r unigrwydd
mwya difrifol. On i yn y stafall yma – oedd Arfon wedi mynd
adra, wedi nanfon i yna. Wedyn on i’n yr ystafall led dywyll
`ma, ag oedd nyrs yn dod i mewn rwan ac yn y man ac oedd `na ferch
yn y stafall tu nesa `lly – ryw bartisiwn bach felly ag oedd
honno’n cael amsar go galad a oeddan nhw efo hi. Ag oen i
efo’r “air and gas” `ma ag on i ar ben fy hun
ag on i’n cymryd yr “air and gas” `ma. Wedyn fydda
nyrs yn dod i mewn “Oh! You don’t want that”,
a tynnu hwnnw i ffwrdd oddi arna i. A wedyn on i’n sal, on
i’n sic a oedd neb hefo fi a oedd gynna i ddim byd ac on i’n
andros o sic yn y gwely a nyrs yn dod i mewn “Oh! you’ve
been sick. Why didn’t you use...” – pam na faswn
i wedi defnyddio peth a - A deud y gwir on i’n unig iawn,
iawn ac oeddwn i’n teimlo nhw’n ddigon digroeso yna
a deud y gwir ynde. Oedd o ddim yn – nesh i ddim i fwynhau
o, mi dduda i fel’na ynde, ddim o gwbwl, naddo.
M.Davies : Ag oedd y gwr ddim yna efo chi
`chwaith?
Marlis : O nagoedd, nag oedd, nag oedd.
(xxiv)
Betty Williams, Brynaerau (8766) : Teimla fod genedigaeth ei mab
yn wyrth. Cofia ei ddal yn faban a’r teimlad bendigedig mai
‘Fi bia hwn a Brian’.
(xxv)
Elizabeth C. Morgan, Porthaethwy (9624) : Wrth edrych yn ôl
teimla mai geni’i mab (yn 1964) ydi’r peth gorau sy
wedi digwydd yn ei bywyd. Dyna’r profiad mwyaf unigryw ac
arbennig.
(xxvi)
Avrina Jones, Pennal (9374) : Cyfaddefa mai geni’r plant (1969-73)
ydi’r peth gorau sy wedi digwydd iddi. Mae magu plant yn rhoi
dimensiwn arall i fywyd.
Profiadau
rhai bydwragedd :
EDRYCHWCH
ar y darluniau o fydwragedd ddoe a heddiw :
(a) Ann Sandbrook, Trallwyn-uchaf, ( yn eistedd)
– widwith draddodiadol ardal Mynachlog-ddu yn y dauddegau.
(trwy garedigrwydd Beti davies, Mynachlog-ddu)
(b) Evelyn Wyn Jones , bydwraig wedi’i hyfforddi
yn gwasanaethu yn y Rhondda yn y tridegau a’r gyntaf i roi
“gas and air” wrth esgor yng Nghymru. (trwy garedigrwydd
Margaret Lon Jones, Caerfyrddin)
(i)
Olive Thomas , Porth Tywyn (8780-81) : Hyfforddodd Olive fel bydwraig
yn Ysbyty Sellyoak, Birmingham yn y tridegau a bu’n rhaid
iddi fynd, yn fyfyrwraig, i weithio yn slymiau’r ddinas fawr.
Yna, wedi Deddf Bydwargedd 1936, dychwelodd i Borth Tywyn –
roedd llawer mwy o alw yn awr am wasanaeth y bydwragedd proffesiynol.
I wneud y swydd honno roedd rhaid bodloni i Arolygwr ddod i weld
bod eich cartre yn lân. Bu’n rhaid iddi gael car i gario’r
“gas and air” o gwmpas ond dim ond doctoriaid a gai
ddefnyddio’r gefeiliau geni. Byddai’n rhaid i’w
chwsmeriaid dalu ymlaen llaw a chai’r arian ei anfon i’r
Cyngor Sir perthnasol. Wedi’r enedigaeth cai’r fam ei
golchi â dwr a oedd wedi’i ferwi ac yna’i oeri.
Cai’r brych ei losgi ar y tân yn y blynyddoedd cynnar
a’i gladdu yn yr ardd yn y cyfnod mwy diweddar. Dymunai’r
mwyafrif o’r mamau fynd allan i’r capel am eu tro allan
cyntaf. Cofia am rai a geisiodd erthynu’u babanod trwy gymryd
gin a chael bath twym neu ddefnyddio “slippery elm”
nes eu bod yn gwaedu. Cofia hefyd am faban yn cael ei eni â
nam difrifol iawn arno. Gofynnodd y doctor i’r fam a oedd
hi eisiau’r baban a gwrthododd hithau ef. Daliodd y doctor
e dan y dwr yn y bath i’w foddi.
(ii) Mary Williams, Llanilar (9259) ; yn ardal
Capel Bangor yn y pedwardegau genid rhyw 8-10 baban y flwyddyn a
bu’n lwcus na chollodd hi na baban na mam ar enedigaeth. Os
oedd unrhywbeth yn bod roedd yn rhaid iddi fynd i focs ffôn
i alw am ddoctor. Fel nyrs/bydwraig cai gyflog o £600 y flwyddyn
a llwyddodd i brynu car ar gyfer ei gwaith.
(iii) Eunice Iddles, Caerdydd (9169) : A hithau’n
fydwraig yng Nghaerdydd yn 1948, adeg dechrau’r Gwasanaeth
Iechyd Cenedlaethol cofia eni baban yn union cyn hanner nos ar y
dyddiad pwysig. Golygai hynny y byddai’n rhaid i’r fam
dalu £1 30 am y gwasanaeth – swm a oedd yn ddigon i
fwydo teulu am wythnos gyfan bryd hynny. Gan fod arian yn brin yn
y cartref cytunodd Eunice i ddweud fod y plentyn wedi’i eni
ar ôl hanner nos.
(iv) Nan Hughes, Ponthenri (8767-69) : Fel bydwraig
defnyddiai hi enimas o ddwr a sebon gwyrdd i ddechrau’r esgor.
Roedd ganddi gyflenwad o pethidine a “gas and air” i
leddfu’r boen ond chai hi ddim defnyddio “forceps”.
Hyd at ddechrau’r chwedegau dewisiai tua hanner y mamau i
eni gartre. O safbwynt bwydo o’r fron doedd e ddim yn ffasiynol
yn y 50au a’r 60au. Fel bydwraig byddai hi’n cynnig
cyngor ar atal cenhelu hefyd. Gwelodd Nan gynnydd yn yr achosion
o iselder ôl eni o’r 70au ymlaen.
Ar ôl yr enedigaeth : arferion ac eraill :
EDRYCHWCH ar y darluniau o gyfnodau hapus mam a’i
phlentyn :
(a)
Mary Ifor Jones a’i baban Dilys yn ei phram newydd, 1926 (trwy
garedigrwydd Elinor Imhof)
(b) Jane Eluned Pritchard, o Dremadog yn wreiddiol,
pan oedd yn gweithio fel nani i deulu o Iddewon yn Llundain yn y
tridegau – ar lan y mor yn ne Lloegr. (trwy garedigrwydd Glenys
Morris)
(c) Nan James, Emlyn gyda’i baban cyntaf
yn 1952 (trwy garedigrwydd Nan James)
(ch) Clinig babanod Tregarth, Bangor 1955. Fe’i
cynhelid unwaith y mis yn festri Eglwys y Gelli ac roedd Joan Morgan
(yn dal baban y y canol) yn gyfrifol am ddosbarthu sudd oren a fitaminiau
ynddo. Dr Slater, y meddyg plant, sy yn y got wen ar y dde eithaf.
(try garedigrwydd Ceridwen Lloyd Morgan)
(d) Betty Jenkins, Llangeler adeg bedyddio’i
baban, Ann, 1956. (trwy garedigrwydd Betty Jenkins)
(i) Gwenllian Jones, Treboeth (8885) : Wedi iddi
golli’i mam ar ei genedigaeth yn 1922, yn ôl traddodiad
teuluol, cafodd ei bedyddio ar arch ei mam.
(ii) Margaret M. Davies, Trefdraeth (9207) : Cyngor
ei mam iddi ( yn 1936) oedd i rwymo ‘cas pilw mawr’
rownd ei chanol mor dyn ag y gallai’i ddioddef fel ei bod
yn dod yn ôl i siap. Yn yr un modd byddai’n lapio’r
baban â rhwymyn ‘odd e fel borden jest’. ‘Odd
‘i drâd bach e yn y rhwymyn a hwnnw’n troi lan
ar y gwaelod ... i gadw fe’n dwym’. Gwlanen ddylai fod
nesa at groen y baban. Yna ceid siol fach a siol fawr i fagu’r
baban. Byddai rhywun yn aros gyda chi yn y cartre ‘nes bo
chi’n dod ar ben `ch trâd’.
(iii) Margaret Jane Morgan, Bronnant (9262) : Yn
y pedwardegau roedd hi’n arferol i aros yn y gwely am bythefnos
ond gan fod ganddi hi nifer o blant codai yn gynnar i ofalu amdanynt.
Anfonai’r plant hynaf at y giât i weiddi rhybudd arni
pan welent y doctor yn dod!
(iv) Llywela Morgan, Dre-fach, Caerfyrddin (8929)
: Chai hi ddim rhoi’i dwylo mewn dwr oed na chrasu bara wedi’r
geni. Byddai’n batho’r babi mewn dwr glaw – roedd
llawer o ffydd mewn dwr glaw.
(v) Olwen Parry, Llanymddyfri (8902) : Ar ôl
yr enedigaeth dwedodd y nyrs wrthi am beidio â chael cyfathrach
rywiol am chwech wythnos.
(vi) Betty (E.M.) Jones, Pump-hewl (8790) ; ‘Os
och chi’n mynd mas cyn bo chi’n fis (wedi’r geni)
on nhw’n teimlo’ch bod chi’n frwnt. A phan ddeuai
cyn-fydwraig i’w gweld `se’ch dwylo chi mas’,
byddai’n dweud ‘Cwat y dwylo `na i gal dod â graen
nôl’. ‘`Na’r lle cynta och chi’n cael
mynd odd capel’.
(vii) Dorren Davies, Llangyndeyrn (8944) : Dwedid
na ddylai’r fam newydd roi’i thraed ar lawr na chael
bath; ac na ddylai ochi’i gwallt na golchi dillad na’u
rhoi ar y lein o fewn chwe wythnos i’r enedigaeth. Os gwnai
hynny dwedid ei bod wedi ‘ail-foelyd’.
(viii) Lily Megan Roberts, Llanfair Caereinion
(9640) ; Cofia fod gwasanaeth yn eglwys Llanfairfechan (ddiwedd
y pumdegau) i fam ddiolch ei bod wedi dod trwy’r enedigaeth
yn ddiogel.
(ix) Nancy (A.S.) Jones, Porthaethwy (9578) : Cofia
fod pnawn Sadwrn yn amser pwysig oherwydd dyna pryd y byddai genod
y pentre (Rhostryfan) yn mynd â babis y pentre am dro.
(x) Ray Tobias, Ffostrasol (9216) : Wedi’r
enedigaeth ( yn y pumdegau) cafodd ei chynghori i beidio â
chodi pwysau na mynd allan am ddeng niwrnod rhag iddi gael niwmonia
ar y groth. Gwisgid y baban mewn dillad hir ac yna cai ei ‘dwco’
mewn dillad byr.
(xi) Ann Jones, Aber-porth (9666) : Gwelodd Ann
( yn ardal Tre’rddol yn y pumdegau) sipsiwn yn mynd â
baban newydd-anedig i’w olchi yn yr afon. Yn ôl ei mam
credai’r sipsiwn y byddai baban a olchid yn yr afon yn iach
am weddill ei fywyd.
(xii) Margaret Davies, Beulah (9488) : Wedi’r
enedigaeth yn 1956 cynghorai ei mam hi ‘Gofala di na fyddi
di’n hongian napkins ar y lein – fyddi di’n cael
fflamwydden (inflamation) ar yr wyneb ac yn waeth na hynny os byddi
di’n cael annwyd a oerfel byddi di’n cael fflamwydden
ochor isa’.
(xiii) Beti Williams, Llangwyllog (9391) : ‘eniwe,
oeddach chi’n cal i ryw stad os oeddach chi wedi cal un ne
ddau, oeddach chi mor ffond ac mor hapus yn edrych ar ôl `ch
plant, ag odd o ryw fyd bach `ch hun, yn enwedig pan oeddan nhw’n
dod dipyn dros y blwydd ... oeddach chi mewn ryw gocwn o fodlonrwydd’.
(xiv) Eirlys Phillips, Machynlleth (9498) : Cynghorai
ei mam a’i mamgu hi ( yn 1961) i roi colsyn mewn dwr berw
a’i adael i oeri a’i roi i’r babi i’w yfed
pan fyddai gwynt arno.
(xv) M. Iona Edmunds, Llanelli (8914) : Wedi geni’i
merch (tua 1963) ‘Gorffennes i weithio, fel on i ddwla’.
Iselder
ol-eni :
(i)
Buddug Thomas, Genau’r Glyn (9458) : Cafodd bwl drwg o iselder
wedi geni ei phlentyn cyntaf yn ysbyty Aberteifi ddiwedd y pedwardegau
ond nid oedd yn gwybod beth oedd yn bod arni. Teimlai yr hoffai
ei thaflu’i hun i’r afon ond ni allai feddwl am daflu’r
baban i mewn. Treuliodd gyfnod gartref gyda’i mam i wella
o’r iselder.
(ii) Margaret Davies, Llanpumsaint (8870) : Aeth
Margaret i deimlo’n “depressed” wedi geni’r
plentyn cyntaf yn 1950, yn wir teimlai fel ‘mogi’r babi’
am ei fod mor grintachlyd. Cafodd help gyda’r gwaith ty ac
yn raddol gwellodd. Fu hi ddim yn sal wedi geni’r ail blentyn.
(iii) Gwinnie Thomas, Aber-nant (8946) : Ar ôl
geni’r mab cyntaf yn 1951 teimlai yn bur isel. Galwodd ei
thad un diwrnod a’i chael hi a’r baban yn sgrechian.
Doedd ei mam yng nghyfraith ddim yn ystyried am foment fod angen
help arni. ‘Odd hi ddim yn meddwl bod ishe carco fi’.
Wnaeth Gwinnie ddim bwydo o’r fron - ‘buwch hesb on
i os gwedon nhw’.
(iv) Lona Jones, Llandudno (9337) : Dioddefodd
iselder difrifol wedi geni’i mab cyntaf yn 1955. Roedd ei
gwr yn gweithio i ffwrdd a hithau’n disgwyl cwblhau ei chartre
newydd. Ar y pryd doedd dim sôn am “post natal depression”
a chafodd hi ddim gair o gydymdeimlad gan ei meddyg. Meddai wrthi,
“You’re not the first woman to have a bloody baby”.
(v) S. Eileen Williams, Hendy-gwyn (9075) : Wedi
colli’i hail fab a bron â cholli’i bywyd ei hun
tua 1957 cyfaddefa Eileen iddi deimlo’n isel iawn am fisoedd
lawer. Ond roedd yn gorfod ymladd ar ei phen ei hun, heb unrhyw
help o gwbl.
(vi) Betty Williams, LLansannan (9727) : Cyfaddefa
iddi deimlo’n isel iawn wedi geni’r olaf o’i thri
phlentyn yn 1958 ac oherwydd yr holl waith ty. Bu’n gweld
doctor ifanc cefnogol iawn yn Ninbych a bu’i theulu yn hynod
dda wrthi yn y cyflwr hwnnw. Eto doedd iselder ôl eni ddim
yn cael ei dderbyn fel salwch bryd hynny. Yn y diwedd penderfynodd
ohoni’i hun bod yn rhaid iddi wella.
Colli
baban :
(i)
Siaradwraig o’r Bala (8842) : Collodd faban ar enedigaeth
yn ysbyty Aberystwyth yn y pedwardegau. Cofia yn arbennig agwedd
oeraidd staff yr ysbyty tuag ati ac na chafodd gymorth o gwbl i
ddod i delerau â’r golled. Bu’n dioddef o iselder
am gyfnod wedyn.
(ii) Eluned Jones, Bethesda (8821) : Collodd Eluned
dri o fabanod ac ‘oedd hynny yn siomedigaeth fawr i ni, achos
fysa Trevor wedi gneud tad bendigedig’. Bu’n rhaid bodloni
ar fwynhau plant eu cymdogion ac maent wedi bod yn Anti Luned ac
Yncl Trevor i lawer o blant y pentre. Cawsant lawer o gysur o warchod
plant pobl eraill.
(iii) Dilys Roberts, Llannerch-y-medd (9407) :
Er iddi golli’i baban dau ddiwrnod oed bu’n rhaid i
Dilys aros yn y ward famolaeth ac yng nghwmni mamau a’u babanod
iach a chred fod hynny wedi bod yn brofiad creulon dros ben. Cafodd
y farwolaeth effaith enfawr arni.
(iv) Eunice Iddles, Caerdydd (9169) : Cafodd Eunice
faban newydd-anedig yn y Cardiff Royal Infirmary ac er ei bod yn
fydwraig ei hun chafodd hi ddim gwybodaeth am y baban a pham y bu
farw. Chafodd hi ddim gweld y baban na chyngor i alaru. Ond daeth
y fenyw oedd yn glanhau y ward lle roedd hi ar ei phen ei hun i
mewn a dwedodd “I’ve seen the baby - ... it’s
lovely, it’s got black hair ... It’s in the bathroom
on a tray”. Ond roedd Eunice dipyn yn swil a ddim eisie gofyn
dim byd pellach. Nawr mae’r claf yn gallu gofyn mwy o gwestiynau
ond bryd hynny doeddech chi ddim i fod i ofyn cwestiynau. ... ‘Mae
pethach wedi gwella -Yr Ail Ryfel Byd wi’n credu a’r
“anaesthetics” sy wedi helpu fwya yn nagefe?’
Mabwysiadu plentyn :
(i)
Ruth Roberts, Trawsfynydd (9056) : Penderfynwyd mabwysiadu plentyn
am ei bod hi’n methu cario baban ac yn eu colli. Er mwyn i’r
plentyn ddeall ei sefyllfa byddai Ruth yn adrodd stori wrthi am
wraig arall oedd yn methu â chael plant ac a benderfynodd
fabwysiadu. Daeth i deall ymhen amser.
(ii) Siaradwraig o Langennech (8854/5) ; Er ceisio
am blentyn ac er cael profion ni thyciodd pethau ac yn 1966 mabwysiadwyd
baban. Ond roedd hynny’n reit anodd oherwydd ‘dim ond
yr eglwys a’r Baptist oedd â cartrefi yr amser `ny’
ond cawsant eu derbyn gan y “St David’s Diocesan Adoption
Society”. Y funud y clywodd ei bod yn lwcus ymddiswyddodd
o’i gwaith.
(iii) Laura Wyn Roberts, Morfa Nefyn (9280) : Ni
wyddai ei bod wedi’i mabwysiadu nes ei bod bron yn 18 mlwydd
oed. ‘Odd o’n andros o sioc, `de. Oedd. Odd o’n
andros o sioc, ond on i’n nabod `y nheulu fy hun, hefyd `de,
wedyn `nes i `mond i dderbyn o’n naturiol `lly’.
|