A.
Y MISGLWYF :
Mae
pob un o’r siaradwyr bron yn disgrifio’u dychryn o gael
eu misglwyf cyntaf ac yn dweud na chawsent eu rhybuddio yn ddigonol
ymlaen llaw gan eu mamau, ond y gwyddent amdano trwy sgyrsiau eu
ffrindiau yn bennaf. Disgrifiant hefyd sut y byddent yn ymdopi â’r
embaras a’r anawsterau a ddeuai yn eu sgil yn y dyddiau cyn
y tamponau siop tafladwy.
1. Rachel H. Jones, Caerfyrddin (9514) am y tridegau
: pan ddeuai ‘periods’ byddai ei mam yn gwnïo ‘cwdyn
fflwr mân’ yr holl ffordd rownd ar ei chyfer. Yna cai
ei olchi a’i gadw tan y tro nesa.
2.
Yma mae siaradwraig o ardal Penrhyndeudraeth yn sôn am ddiwedd
y pedwardegau (9380) :
‘Doeddan ni’m yn cal gwbod ryw lawer am ryw `te. On
i’n ofnadwy o ddiniwed i gymharu â plant heddiw. Dwi’n
cofio ffrind yn deud wrtha fi, `lly, “Ti’n gwbod sut
ma nhw’n cal babis. twyt? Wyt ti’n cal cusan a ma’r
hogyn `ma’n rhoid `i dafod yn dy geg di `te”. A on i’n
credu hynny `de achos odd `na neb yn esbonio ddim byd fel `na `lly.
... A odd `na neb wedi deud wrtha i am y misglwyf `de. Ag on i’n
mynd ar y tren i Bwllheli, a ma’n rhaid mod i’n teimlo’n
anghyfforddus odanaf a dyma fi’n mynd i’r toilet a dyma
fi’n gweld golwg arna fi fy hun. On i’n meddwl bod `na
rwbath wedi digwydd i nghorff i. On i `di dychryn ... dyma fi’n
troi a ddoish i’n ôl ar yr un tren. ... A dyma fi’n
deud wrth `y Mam a ballu. “O”, medda Mam fel `na “mae
dy beriods di wedi dechra”. A don i ddim yn gwbod yn iawn
be oeddan nhw. Mae’n siwr bo fi’n ryw bedair-ar-ddeg
w’chi. Ag w’chi be ddeudodd hi wrtha i? “Rhaid
i ti fod yn ofalus rwan efo hogia”, medda hi. Ag on i’m
yn gwbod be oedd hi’n feddwl efo hynna `lly `de. On i mor
ddiniwad a di-glem a hynny!’.
3.
Profiad cyffelyb gafodd Doris Thomas, Treforys (9006) :
‘ Wi’n cofio dod lawr o’r gwely un bore a odd
Mam yn gwitho ... wrth y sinc fan’na a dod
lawr a mynd i’r ty bach `nes i a Mam yn galw fi pan ddes i
mas, achos mae’n debyg fod y misglwyf wedi dechre arno i –
on i ddim yn gwbod, on i ddim wedi teimlo dim ac on i wedi sarnu
`ngwn-nos, ond on i? A wi’n cofio Mam a Anti Sera yn mynd
â fi lan lofft ... a dysgu fi fel i roi - nid “sanitary
towel” odd e – ond clwte ... a dysgu sut i pino i gwaelod
y fest. A `na i gyd. A odd Mam yn gweud rhywbeth fel “Wel
chi’n gwbod beth sy’n digwydd” a finne’n
gweud “odw”. On i ddim yn gwbod ond on i’n “embarrassed”
... Wedodd neb dim byd wrtho i byth `to’.
4.
S. Eileen Williams, Hendy-gwyn (9075) eto yn y pedwardegau cynnar.
Allan o ‘muslin’ y gwnai hi’r padiau gan eu gwnïo
fel math o gewyn a’u pinio yn eu lle gyda ‘safety pins’.
Wedi’u defnyddio caent eu socian mewn dwr oer a’u berwi
mewn sosban arbennig gyda phowdwr golchi fel Persil. Deuent yn lân,
‘yn wyn, wyn neis’. Doedd neb yn siarad am y peth a
chan amla hi ei hun ac nid ei mam fyddai’n eu golchi.
5.
GWRANDEWCH hefyd ar dystiolaeth Buddug
Thomas o Lanfihangel Genau’r Glyn (9459) yn siarad
am ei phrofiadau hi, yn y tridegau, gyda Tegwen Morris :
Tegwen
: O ran iechyd wedyn,
ma fe’n rhywbeth ma lot o bobol ddim am sôn amdano o
gwbwl – iechyd menywod ac yn y blân, ond och chi’n
gweud bo chi’n cofio’r ‘period’ –
y probleme mowr?
Buddug : Oedd neb `rioed wedi deud wrtha
i am y peth i ddechre, felly ges i dipyn o sioc pan weles i bod
gwaed ar y `mhants i. A dw i’n cofio deud wrth Mam “O
popeth yn iawn”, medde hi, “Dwi wedi gneud clytie yn
barod i ti”, ac roedd hi wedi gweud rhyw glytie allan, dwi’n
meddwl ma allan o shîts oedd hi wedi golchi lawer gwaith oeddan
nhw - wedi’u gwneud yn sgwarie bach a têp bob cornel
a fel `se têp arall trwy’r peth `ma. Ond odd hynny ddim
problem gynna i heblaw bo fi’n ysgol Machynlleth. On i’n
mynd i ffwr’ fore dydd Llun fel oeddwn i’n deud ac oeddwn
i oddi cartre tan ddydd Gwener a oedd ‘na ddim cyfle i olchi
- on i’n lodgo efo’r tri bachgen `ma a dwy ferch –
`sen i ddim yn gallu golchi – doedd dim bathrwm yno p’run
bynnag – jwg a bowlen yn y bedrwm oedd i `molchi. Ac felly
roedd rhaid lapio rhain mewn papur a mynd â nhw adre ar nos
Wener ac oedd hwnna yn broblem ofnadwy. A rhoi nhw mewn bwcedaid
o ddwr dydd Sadwrn. A dwi’n cofio’r diwrnod ffindies
i allan y gallwn i, am chwecheiniog brynu paced o rai o’r
siop. Oedd hynny’n wych.
Tegwen : A rhyddhâd.
Buddug : Mae hwnna wedi bod yn broblem trwy’r
amser – yn yr ysgol, wedyn yn y coleg – o
bopeth. Roedd yr holl ferched `ma yn byw mewn hostel – doedden
nhw ddim yn rhoi dim
cyfarwyddiade i ni beth oedden ni fod i `neud â tywels brwnt.
Ac felly oeddan ni wrthi’n eu torri nhw, rhoi nhw lawr toilet
– dynion allan lle roedd y “cesspit” yn y coleg
byth dragwyddol yn cwyno bod y lle wedi blocio ac eto doedden nhw
ddim yn rhoi lle `u rhoi nhw. Dwi `rioed wedi gallu deall hyn.
6.
Doedd fawr wedi newid hyd yn oed yn y pumdegau yn ôl Gwenda
Wilcox, Dinas, Penfro (9504) a rhybuddiai ei mam hi i beidio a chael
bath na golchi’i gwallt pan fyddai’r misglwyf arni.
7.
Felly hefyd ym mhrofiad Margarette Hughes, Hendy-gwyn ( 9103) a
ddechreuodd yn gynnar, yn ddim ond deg oed, a byddai’n osgoi
gwersi ymarfer corff a chael cawod ar adeg y misglwyf gan fynd i
wersi ffidil yn lle.
8.
Ar wyliau yng ngwersyll Llangrannog y cafodd Mona Roberts, Llanfair-Pwllgwyngyll
(9659) ei misglwyf cyntaf a chofia grïo yn ofnadwy er bod ei
chwaer wedi hanner ei rhybuddio ymlaen llaw. Yn ffodus roedd mam
ei ffrind wedi’i pharatoi hi yn iawn a bu honno yn gefn a
chymorth iddi.
9.
Yn ôl Eirwen Jones, Llangwm (9714), er hynny, roedd cael y
misglwyf cyntaf yn gam mawr a merch yn teimlo yn ddynes wedyn ymhlith
ei ffrindiau.
10.
Soniodd ambell siaradwraig fodd bynnag am gael eu paratoi gan eu
mamau. Cawsai mam Nesta Jones, Llanelli (9076) (g.1916) y fath helbul
yn ifanc ei hun, gan iddi olchi ffrog a oedd wedi’i difetha
gan waed yn gyfrinachol a’i hail-wisgo yn wlyb diferol. Bu’n
ddifrifol wael a ‘fflamiodd’ y doctor ei mam hithau
am beidio â chynghori ei merch ymlaen llaw. O’r herwydd
cafodd Nesta ei hun gyngor iawn gan ei mam.
11.
Felly hefyd Beryl Hughes , Llandre (9452) ond y tro hwn gofalodd
ei mam ei pharatoi am ei bod hi ei hun mor wanllyd ac yn ofni na
fyddai’n byw yn hir. Roedd ganddynt eu henw cyfrinachol eu
hunain am ‘periods’ sef ‘flowers’.
12.
Yna erbyn y chwedegau, fel y soniodd siaradwraig arall o Lanfair-Pwllgwyngyll,
( 9639) cyrhaeddodd y tamponau cudd. Eto ‘doeddan nhw ddim
yn cael eu hargymell ar gyfer rhywun do’dd ddim yn briod,
faswn i’n deud. Ella bod nhw’m yn neis iawn, hynny ydi,
doeddach chi’m yn neis iawn os oeddach chi’u hiwsho
nhw, o bosib. Ond dwi’m yn cofio sôn amdanyn nhw nes
mod i dipyn yn hyn’.
B. ADDYSG RHYW
Yn
yr un modd prin oedd yr addysg rhyw. Doedd y cartre na’r ysgol
yn cymryd cyfrifoldeb llawn amdano er bod eithriadau wrth gwrs.
1.
‘Bron nag oeddach chi ofn siarad am y peth. Odd o’n
wrthun mewn ffordd, `toedd?’ medd siaradwraig o Lanrug (9321)
2.
Roedd Elizabeth Euron Owen, Dolgarrog (9707) yn teimlo iddi gael
digon o wersi canu yn ferch ifanc ond dim addysg rhyw!
3.
‘Synhwyro, pigo petha yma i fyny, o ia, a pigo peth arall
i fyny a rhoi “two and two together”. Odd gwers bioleg
– “reproduction of the rabbit” – odd hwnna
yn cal `i gyfri yn dipyn bach yn “blue”. ... Pan ddechreuish
i fynd efo hogia a rheini dipyn bach yn wyllt, argian on i’n
meddwl bod hi’n ddiwedd y byd!’ Gwyneth Williams, Morfa
Nefyn (8987) am y pedwardegau.
4.
‘Dwi’n cofio un yn dod â llyfr i’r ysgol
... Saesneg odd o ... Sbecian yn hwnnw a darllen. ...
Oeddech chi’n dysgu drwy siarad efo’ch gilydd fel genethod,
ag yn chwerthin mawr, ag yn
“disgusted” am y petha odd yn mynd ymlaen’. Cofia
weld copi o “Lady Chatterley’s Lover” yn yr
ysgol – dyna’r llyfr mawr! Roedd rhyw a’r misglwyf
yn bethau ‘budur’ a ‘hish hish’ ym
mhrofiad Eirwen Jones, Llangwm (9714) a hithau yn ysgol ganolraddol
Caledfryn, Dinbych yn y
pumdegau.
5.
‘Dwi’m yn meddwl bod nhw’n trafod fawr ddim efo
ni – ‘n rhieni. Oeddan ni’n gwbod os oedd buwch
yn mynd gyda tarw bod `na lo. Oeddan ni’n gwbod bod rhaid
cael un o bob rhyw `lly’. Siaradwraig o’r Gaerwen (9397)
am y pumdegau.
6.
Felly y gwelai Mary Hughes, Y Groeslon (8828) bethau hefyd oherwydd,
fel merch fferm, roedd hithau’n ymwybodol o’r broses
genhedlu. Pan oedd hi tua phedair-ar-ddeg oed yn y pumdegau ceisiodd
ei mam ei diddyfnu oddi ar y cylchgrawn “School Friend”
i ddarllen “Woman” ac arferent drafod hyd yn oed y dudalen
broblemau gyda’i gilydd.
7.
Yn blentyn credai Bethan Roberts, Llangrannog (9774) fod babis yn
dod mewn bag gyda’r nyrs a dwedodd doctor wrthi fod babis
yn dod o Fryste.
8.
Nid gartre y clywodd Mererid James, Beulah (9839) am y “facts
of life” yn y pumdegau ond gan fachgen lawer hyn na hi wrth
i griw ohonynt fynd am dro wedi’r cwrdd ar y Sul.
9.
A doedd pethau ddim o reidrwydd yn well i’r genhedlaeth nesa
`chwaith. Cyfaddefa Heulwen Jones, Llanrwst (9672) mae’r cyfan
ddwedodd hi wrth ei phum merch ( anwyd yn y pedwar- a’r pumdegau)
am ryw oedd ‘Cym’wch ofal’. Doedd hi ddim wedi
bod yn fwy graffig na hynny.
10.
Eto ceid ambell eithriad, megis mam Gwen Evans , San Clêr
(9072) a fu’n agored gyda hi ynglyn â’r misglwyf
ac ar sut i ymddwyn gyda bechgyn.
11.
A phrofiad Gwynneth Rowlands, Benllech (9418) -
GWRANDEWCH arni y trafod ei pherthynas efo’i
mam gyda Sharon Owen :
Sharon
: Pa mor agorad
oeddan nhw am ryw? ac am gynnal perthynas?
Gwynneth : Odd Mam wrth gwrs – nyrs
odd Mam, a wedyn odd hi’n reit agorad. Paratoi `y mrawd a
finna, achos mi ath o i’r Awyrlu pan odd o’n ddeunaw
oed, ag odd y Nhad wedi cal sgwrs reit hir efo fo ymhell cyn hynny,
`de. Ond cofiwch, dwi’n meddwl bod hefyd yn y cyfnod hwnnw
, dwi’n meddwl bod nhw yn unigryw yn trafod peth fel’na.
Oedd gin i ffrindia a `sa nhw byth yn medru sôn wrth `u rhieni
nhw am ddim byd fel’na `de. So fuon ni’n ffodus iawn,
dwi’n meddwl.
Sharon : Ia, sut oeddach chi’n teimlo
am hynny ar y pryd?
Gwynneth : Ar y pryd `lly? -dipyn bach yn
embaras dwi’n meddwl yn y dechra, ond unwaith oeddan ni’n
trafod petha – odd Mam yn pwysleisio na t’odd o ddim
yn beth i fod yn embaras amdano fo, a wedyn oeddan ninna’n
teimlo’n berffaith rhydd wedyn i’w holi hi yn `de. To’dd
hi’n yn deud y cwbwl `chwaith, cofiwch, ond odd hi’n
egluro gora’i gallu, `de’.
C. BEICHIOGI HEB / CYN PRIODI :
O
bryd i’w gilydd fel y gellid disgwyl, p’run ai oherwydd
diffyg addysg rhyw a phrinder dulliau atal cenhedlu neu beidio,
cai merched ifainc di-briod eu hunain yn feichiog. Cafwyd sawl hanesyn
am oblygiadau bod yn fam feichiog cyn priodi gan ein siaradwyr –
rhai yn nodi’r stigma a’r gwarth ac eraill yn diolch
am garedigrwydd teulu. Ym mwyafrif yr achosion a gofnodwyd yn y
prosiect hwn pan gaent eu hunain yn feichiog byddai’r mwyafrif
llethol yn priodi tad y baban cyn geni’r baban. Diddorol hefyd
gwybod am ymateb gweithwyr proffesiynol – yn fydwraig, gweithwraig
gymdeithasol ac eraill i’r ddilema hon.
Un agwedd anodd dygymod â hi ac a drafodwyd eisoes dan y thema
‘Hamdden : Y Llwybr Cul?’ oedd ymateb y capeli, y gweinidogion
a’r diaconiaid / blaenoriaid i’r fath scenario ymhlith
eu haelodau. Traetha sawl siaradwraig yn gryf yn erbyn y fath ddisgyblaeth
ragrithiol.
Ac yn olaf dyfynner ambell siaradwraig a anwyd dan y fath amgylchiadau
gan barchu’u hawydd i fod yn anhysbys a chan ddiolch iddynt
am rannu o’u profiadau a’u teimladau.
1.
Pan gafodd siaradwraig o dde Meirionnydd (9313) ei hun yn feichiog
a di-briod ddechrau’r rhyfel :
‘Gesh i row reit dda, w’chi, gen Mam amser hynny ...
Odd o’n beth ofnadwy amser hynny. wyddoch chi. Chaech chi
ddim mynd i olwg pobol na’m byd’. Eto doedd hi erioed
wedi cael addysg rhyw ac er bod ei mam yn ei siarsio i ‘fod
yn ddeche’ doedd hi ddim yn deall ei ystyr ar y pryd. Ond
pan anwyd y bychan gwirionodd pawb arno.
Yna cyfarfu â’i darpar wr a’i chael ei hun yn
feichiog ddi-briod yr ail dro. Y tro hwn priododd yn dawel mewn
Swyddfa Gofrestru.
2.
Stori gyffelyb gafwyd gan siaradwraig o dde Ceredigion (9213) a
feichiogodd yn 1945.
Oherwydd y stigma ni chaniatâi ei mam iddi ddod i olwg clos
y fferm rhag ofn y deuai ymwelwyr heibio. Yn hytrach, cai ei hanfon
draw i’r gweunydd i ‘drensho’ – agor rhewyn
dwr gyda rhaw a phicas gyda’r gwas. Na, meddai, ‘och
chi’n cal dim maldod, nag och, och chi’n cal eich erlid’.
Aeth hi ddim i’r capel o gwbwl pan oedd hi’n disgwyl.
Pan anwyd y baban gofynnodd ei mam iddi ‘Pwy yw tad y mwngrel
`ma?’
Yna cafodd ei hun yn feichiog yr eilwaith mewn dwy flynedd a hanner
a’r tro hwn fe’i gorfodwyd i briodi’r tad ‘ta
pwy odd e’.
3.
Yn yr un modd cafodd siaradwraig o Riwlas (8844) ei hun yn feichiog
wedi bod yn canlyn ei darpar-wr am ddwy-dair blynedd. ‘Don
`na’m byd ond priodi amdani’, meddai ac er nad oedd
ei rhieni yn hapus â’i chyflwr bodlonwyd hwy wrth iddynt
briodi.
4.
Wedi dechrau canlyn efo’i darpar-wr yr oedd siaradwraig
o Bencaenewydd (9277) hefyd pan ddarganfu’i bod yn feichiog.
‘Don i’m wedi meddwl fod y fath beth arna i’ meddai
wedi iddi fynd i’r ysbyty, ond ymatebodd ei rhieni yn dda
iawn. ‘Oeddan nhw’n stowt ofnadwy `de. Doeddach chi
ddim i fod i `neud petha felly, nag oeddach? ... Mi dderbyniodd
Dad o, `swn i’n deud, yn well na Mam `de. Ond mi ddoth Mam
rownd wedi i’r hogyn `ma gael `i eni a ballu ... Oeddach chi’n
meddwl os oeddach chi’n priodi eich bod chi’n cyfiawnhau
rywfaint ar y llanast oeddach chi ynddo fo, `de’.
5.
Fel bydwraig yn ardal Porth Tywyn yn y chwedegau cai Nan Hughes,
Pont-henri (8767) ei galw ryw 4-5 gwaith y flwyddyn at famau di-briod.
Y famgu fyddai’n trefnu ei hymweliad gan amla gan ofyn iddi
alw wedi iddi dywyllu fel na fyddai unrhywun yn ei gweld. Y famgu
fyddai’n penderfynu tynged y baban gan amla hefyd –
p’run ai i’w gadw ai peidio. Ai rhai o’r mamau
i hosteli yn Abertawe neu Gaerdydd i esgor a hi fel bydwraig fyddai’n
trefnu hynny fynychaf. Gwyddai hi am rai a wnai erthyliadau anghyfreithlon
yn yr ardal hefyd.
6.
Gweithwraig gymdeithasol yng Nghaerdydd oedd Ifanwy Williams, Porthmadog
(9196) a cheisiodd gynnig cyfle i famau beichiog wneud dewisiadau
ynglyn â’u dyfodol hwy a’r babi. Sefydlwyd ward
mewn ysbyty ar eu cyfer gan roi cyfle i famau newydd ddod i adnabod
eu babanod cyn penderfynu. Cai sawl merch ei diarddel gan ei theulu
mewn argyfwng o’r fath. Ond noda fod gwragedd priod yn syrthio
i’r categori o gael plentyn y tu allan i briodas hefyd yn
enwedig adeg y rhyfel gyda llawer o filwyr o gwmpas a’u gwyr
nhw i ffwrdd.
7.
Pan oedd Margaretta Hughes, Hendy-gwyn (9105) yn byw yn yr Eglwys
Lwyd, Penfro, ddiwedd y chwedegau roedd yn ffrindiau gyda gwraig
yr offeiriad lleol. Gofalai hi am famau di-briod ac un tro gofynnodd
i Margarette ei helpu a chynnig lloches i un fam a gawsai’i
hanfon o’i chartref. Cytunodd hithau a bu’r ferch gyda
nhw am chwe mis cyn iddi esgor ar faban yn ysbyty Hwlffordd a rhoi’r
plentyn i’w fabwysiadu. Bu sawl mam debyg yn aros gyda nhw
wedi hyn nes i’w teuluoedd eu hunain gyfarwyddo â’u
cyflwr. Cyfrannent at gostau bwyd ond ni chai Margarette dâl
am ei chymwynas.
8.
Disgrifiodd Laura Jones, Llanrwst (9685) yn ofalus sut y cai mam
feichiog ei thorri allan o’r capel:
Yn ystod cyfarfod pan oedd rhywun yn cael ei dorri allan codai’r
gweinidog neu’r blaenor ar ei draed a nodi fod hon-a-hon yn
feichiog ac na fyddai yn aelod o’r capel mwyach. Y cam nesaf
oedd gweld y ferch yn codi ar ei thraed ac yn gorfod cerdded allan
‘’i hun bach’. Yn aml iawn doedd teulu’r
ferch ddim yn mynychu gwasanaethau’r capel wedyn ‘chwaith.
Roedd ‘yn bechod anfaddeuol’ - yn golygu gormod o gywilydd.
Ni chofia Laura am dad y plentyn yn cael ei dorri allan –
dim ond y fam oedd yn cael ei chosbi yn gyhoeddus. Roedd pawb o’r
gynulleidfa yn ddigalon iawn yn ystod cyfarfod o’r fath ac
roedd amryw yn crïo. Byddai’r pâr yn aml yn priodi
wedyn ond chaen nhw ddim priodi yn capel “no way” –
“Registry Office” fyddai hi wedyn.
9.
Tystia siaradwraig o Langefni (9643) nad oedd enwad yr Annibynwyr
yn torri merched allan o’r capel ac mae Methodistiaid oedd
yn dueddol o wneud hynny.
10.
Cytuna Sarah Thomas, Llanfechell, (9553) mai Methodistiaid oedd
y prif gosbwyr a gofyn ‘ Pwy oedd gin hawl i wneud ffasiwn
beth `te? Bobol! Wyddoch chi, doedd `run ohonyn nhw ddim gwell na’i
gilydd, mae’n siwr’.
11.
Adleisia Eirwen Jones, Llangwm (9714) yr agweddau hyn ac mai ymysg
y Methodistiaid yr oedd yr arfer ar ei gryfa. Fe’u dysgid
am feichiogi cyn/heb briodi mai ‘Pechod oedd o’n `de.
Ew odd o’n bechod mawr. Oedd o’n bechod Duw. ... Wrth
edrych yn ôl arno fe, dim pechod Duw oedd o, pechod gin y
bobol oedd o, `de. Y bobol oedd yn towlu chi allan o’r capel
a ballu, nid Duw’.
12.
Ychwanega Mena Williams, Pen-y-groes, Arfon sylw tebyg : ‘Oeddwn
i’n erbyn ... Dwi’n meddwl ... nad oedd hynny yn Gristnogaeth,
`de’.
13.
Cofia Beti Isabel Hughes, Bwlchtocyn, Aber-soch (8989) yr arfer
hwn fel un creulon ac yn yr achos a welodd hi ‘’i thad
hi’i hun yn un o’r rhai odd yn symbylu’r peth.
... Oeddach chi’n teimlo yn ofnadwy drostyn nhw, doeddach?
Argian, odd o’n beth mor ddychrynllyd o greulon, a’r
genod `ma yn lladd `u hun crïo a ballu. ... yr hogyn, neb yn
sôn am be’ odd o `di’i wneud. `Mond y ferch odd
yn cal y gwarth i gyd. Odd moesoldeb ein rhieni ni’n gry iawn,
iawn, ma’n debyg. Ar y gwynab, beth bynnag’.
14.
Credai Nesta Jones, Llanelli (9077), o fod wedi byw yn y de a’r
gogledd, eu bod yn fwy trugarog at ferch oedd yn cael plentyn cyn
priodi yn y de. Yn y gogledd edrychid i lawr a gweld bai arni, ond
yn y de teimlent iddi gael ei thwyllo. Yn Ystalyfera, yr ymadrodd
oedd ei ‘bod hi wedi cael twyll’. Ar y llaw arall yn
ôl ei Nain os byddai merch yn cael rhyw cyn priodi roedd yn
haeddu ‘chwipio ei thin â dalan poethion’.
15.
Yn ddiddorol iawn, erbyn y cyfnod holi ar gyfer y prosiect hwn,
doedd dim llawer o’r siaradwyr a gawsai’u hunain yn
feichiog wedi cael y profiad o gael eu torri allan ond yn hytrach
yn cofio cael eu derbyn yn ôl wedi’r briodas neu’r
enedigaeth. Dyma enghreifftiau o’u tystiolaeth :
(i)
Pan briododd siaradwraig o Fynachlog-ddu (9523) a geni merch iddi
yn yr un flwyddyn ddechrau’r pumdegau gwyddai y byddai disgwyl
iddi fynd i’r cwrdd paratoad ar y nos Wener cyn y Cymundeb
‘i gal `ch lle nôl yn yr eglwys’. Digwyddodd hyn
iddi ar ôl iddi briodi a chyn cael y baban. Mynd i’r
cwrdd paratoad oedd un o’r pethau cyntaf a wnaeth ar ôl
priodi. Teimlai ‘dipyn bach yn soft ar y pryd ( chwerthin)
ond on i’n anghofio amdano e’n gloi’.
(ii)
Hanesyn tebyg a gafwyd gan siaradwraig o Fro Gwili (8870) : ‘On
nhw ddim yn dod a dweud wrtho chi bo chi’n cal eich torri
mas, ond odd e’n hint bach ‘chwel a on i’n mynd
nôl i’r cymun cynta ar ôl y geni’. Roedd
ei gweinidog hi yn ‘dda iawn’ a dwedodd ‘Pryd
ych chi’n dod nôl, dewch nôl i’r cymundeb
nesa. Bydd dim un ffys’. Roedd hi wedi derbyn y drefen yn
‘eithaf cysurus’.
(iii)
Cafodd siaradwraig arall o ardal Deiniolen (8797) ei hun yn feichiog
yn ddeunaw oed ac yn ddi-briod. ‘Toedd o’m yn gyfnod
braf, oedd o’n stigma `de ... Dwi’n cofio mynd i’r
seiat i gael `n ail-dderbyn fel aelod o’r capel. Oeddan nhw’n
deud toeddan nhw’m `di nhorri fi allan, `di torri fy hunan
allan on i. On i’n gwbod y rheola ... ma gin i go o fynd i’r
seiat, fi a’r gwr, a’r gweinidog , C.O.Lewis yn gofyn
i’r aelodau oeddan nhw’n `y nerbyn i’n ôl
a pobol yn codi llaw ... `swn i’m yn mynd rwan `de!’
(iv)
Cawn fwy o ysbryd gwrthryfela yn erbyn yr arfer gan ambell siaradwraig,
fel hon o ardal Aberhosan (9581) a gafodd ei hun yn fam sengl yn
16 mlwydd oed. Roedd ei mam hithau wedi marw eisoes ond derbyniodd
ei thad y baban â breichiau agored ac ni cheryddodd hi o gwbl.
Yna daeth gweinidog ei chapel heibio i ddweud fod y diaconiaid wedi
pasio i’w diarddel. Teimlai hi’n chwerw na chafodd y
tad ei ddiarddel er ei fod yntau yn aelod. At hyn ni allai ddeall
pam fod yn rhaid i’r ferch fynd i ddweud ei bod yn barod i’w
derbyn yn ôl. Cymerodd ddwy flynedd iddi hi benderfynu a oedd
am fynd yn ôl ai peidio. Ond yn y pendraw penderfynodd mai
pobl oedd wedi’i thorri hi allan a bod yr hyn y credai ynddo
yn uwch na dyn yn y pulpud.
(v)
Roedd ymateb siaradwraig o Lanrhaeadr-ym-Mochnant (9619) yn fwy
penderfynol fyth oherwydd pan briododd yn y pumdegau roedd yn disgwyl
ei phlentyn cyntaf. Aeth ag ef i gael ei fedyddio a dwedodd y pregethwr
wrthi ei fod yn ei derbyn yn ôl. Nid oedd hi’n ymwybodol
ei bod wedi’i thorri allan a’i hymateb oedd dweud wrth
y pregethwr am fynd yn ôl i gapel y Methodistiaid, Elim a
gofyn iddyn nhw faint ohonyn nhw oedd mor onest nes eu bod yn medru’i
thorri hi allan. Chlywodd hi ddim gair pellach am y peth. Noda er
hynny na chafodd hi wisgo ffrog wen i briodi am ei bod yn feichiog.
16. Gwelir hefyd fod sawl gweinidog yn ymwrthod
â’r ddefod ddadleuol hon erbyn y pumdegau.
(i)
Yn Beulah gwnai’r Parchedig Tegryn Davies cyn lleied o sylw
â phosibl o’r arfer. Meddai wrth y fam ‘Cymerwch
eich bod wedi cael eich derbyn yn ôl yn aelod i’r eglwys’
gyda gwen fach. Ni allai osgoi gwneud rhywbeth gan fod tad y ferch
yn aml yn gofyn iddi gael ei chosbi’n gyhoeddus. Honnai Margaret
Davies (9487) y gallai hi enwi wyth o’i chyfoedion hi a aeth
‘dros y ffordd’ fel hyn.
(ii)
Yn yr un modd pan symudodd teulu Eirlys Peris Davies, Ffynnon-groes
(9516) o Lanberis i Gastellnewydd Emlyn yn 1944 cafodd ei thad,
a oedd yn weinidog gyda’r Annibynwyr, (sy’n croes-ddweud
y sylwadau uchod i raddau) fod ei ragflaenydd e wedi bod yn llym
iawn wrth ferched beichiog o’r fath a gwrthodai’u priodi
hyd yn oed. Dull ei thad er hynny oedd eu croesawu’n ôl
i’r gymdeithas: ‘Dwi’n falch `ch gweld chi yn
ôl gyda ni heddiw’.
(iii)
Yn ôl Elen Jones, Rhostryfan (9741) gwelodd flaenor yn cael
ei dorri allan am ei fod wedi cael merch leol yn feichiog ond newidiodd
y drefn yn ei chapel hi tua’r 1960au wrth i’r Parch.
Dewi Wyn Williams gael ei alw i weinidogaethu yn y fro.
17.
Crisielir llawer iawn o’r pwyntiau hyn yngyd â’r
newid agweddau erbyn dechrau y chwedegau gan siaradwraig o ogledd
Penfro (9501) mewn sgwrs gyda Ruth Morgan. GWRANDEWCH
ar ei phrofiad a’i barn onest ar y pwnc :
Siaradwraig
: Wel, `chmbod, wê
tipyn o siarad `da pobun nawr wedyn bod rhywun yn mynd i briodi
a rheswm bo chi’n mynd i gal `ch torri mas o’r eglwys
ne’r capel a chmbod `na’r cynta mwy ne lai wên
i deall ambyti hynny achos wên i wedi cal gwbod na wên
i ddim fod mynd i’r Cymundeb. A wedyn mynd i’r cwrdd
wedyn i gal `n derbyn nôl a wêdd e, wê Mam yn
teimlo bo e’n warth arni hi, `run peth â teuluodd arall,
bo fi’n gorffod priodi. A mwy ne lai wêdd dim dewis
`da chi, och chi yn priodi’
Ruth : So odd rhywun wedi gweud wrtho chi
am aros bant? Ne odd `ch mam wedi gweud – beth odd y ?
Siaradwraig : Na, Dat a Mam wedodd na allen
i ddim mynd i’r Cymundeb achos on i’n mynd i’r
Cymundeb bob dydd Sul - a on i ddim fod mynd wedyn nes bo fi’n
cal `nerbyn nôl wedyn. Ond wê’r pregethwr pyrny
(af i ddim `i enwi e) wêdd e ddim yn credu yn torri mas. Wi’n
credu taw’r diaconiaid wê ishe torri mas pyrny wedyn
– wên nhw wedi cario mlân a `run hen ffasiwn.
... Fuodd ddim , dwi ddim yn gallu cofio, lot arall wedyn. Dwi’n
cofio rhei ond `sen nhw’n torri nhw mas wedyn fydden nhw ddim
yn mynd nôl, rhan fwya ohonyn nhw, achos wê’r
cred yn y capel yn dechre gwanhau.
Ruth : So ni’n siarad nawr am diwedd
y pumdege?
Siaradwraig : Ie, dechre’r chwedege
wedyn wêdd pethe’n altro.
Ruth : Odd rhwbeth yn cal i weud wedyn pan
och chi’n mynd nôl wedyn `ny `te?
Siaradwraig : Dim ond gwahodd ni nôl
i’r capel. `Na i gyd nath pregethwr bryd `ny. Nath e ddim
pwynt o weud bo ni wedi torri rhyw reol na dim byd – dim ond
estyn dwylo cymdeithas i ni a derbyn ni nôl i’r capel.
Ruth : A shwt och chi’n teimlo yn
yr holl beth hyn, chmbod?
Siaradwraig : Wêch chi’n teimlo
- Pam? – Pam - os wêch chi’n gwbod bod rhai arall
wedi neud `run peth - pam bo nhw’n pwynto bys atoch chi mewn
ffordd? Ond wêdd ddim y pregethwr yn pwynto bys on i’n
teimlo.
18.
Prin yw’r dystiolaeth am sut y teimlai’r plant a enid
o sefyllfa o’r fath. Diolch felly i’r ddwy siaradwraig
nesa am gofnodi’u teimladau a’r effaith arnynt hwy.
(i) Ni ddarganfu siaradwraig o Flaenau Ffestiniog
(9298) ei bod wedi’i mabwysiadu gan ‘ei thad a’i
mam’ tan ei bod yn 24ain oed. Yn blentyn roedd wedi sylwi
fod gwallt ‘ei mam’ yn gwynnu cyn gwalltiau mamau ei
chyfoedion a bu’n rhaid iddi gywiro sawl un a fynnai alw ‘ei
mam’ yn nain iddi. Ond ‘aru’n ffrindia i, na mamau’n
ffrindia fi – aru ‘na neb sôn erioed bo fi wedi
cael ‘y magu’.
Yn ddiweddarach deallodd mai merch o Gonwy oedd ei mam oherwydd
yn ystod y gwyliau bob haf arferai fynd i Gonwy efo’i ‘mam
a’i thad’ am ryw wythnos neu bythefnos – felly
roedden nhw yn ymdrechu i gadw cysylltiad efo’i mam fiolegol
go iawn. Eto nid oes ganddi deimladau yr un ffordd na’r llall
at ei mam fiolegol – rhywun yr arferai ymweld â hi yng
Nghonwy oedd hi a dim mwy. Teimlai’r angen weithiau i ddod
i adnabod ei thad biolegol, ond ar y llaw arall cred mai ei theulu
mabywsiedig ydy ei theulu iawn.
(ii)
Cafodd siaradwraig o Wrecsam (9658) ei geni cyn i’w rhieni
briodi ‘ac rydw i bob amser yn cysidro fy hun nad oeddwn i
ddim i fod yn y byd yma felly, mod i wedi dod i’r byd yma
yn anghyfreithlon’. Roedd trefniadau wedi’u gwneud iddi
gael ei mabwysiadu gan aelodau eraill o’r teulu ond mynnodd
ei mam ei chadw. Doedd ei mam a’i thad ddim wedi gallu priodi
yng nghynt am nad oedd ganddynt fferm deuluol. Cafodd ei thad ei
dorri allan o’r capel oherwydd hyn. Priodon nhw pan oedd y
siaradwraig yn bedwar mis oed. Ond trwy amryfusedd anghofiodd ei
rhieni newid ei henw hi a phan oedd hi’n yr ysgol bu’n
rhaid i’w thad ei mabwysiadu yn gyfreithiol. Teimla iddi gael
cam a chario pechod ei mam ar hyd ei hoes.
CH. ATAL CENHEDLU :
Un
o newidiadau mwyaf chwyldroadol yr ugeinfed ganrif fu darganfod
y bilsen atal-cenhedlu a chaniatau i fenywod priod a di-briod reoli
eu cyrff eu hunain. Cyn hynny, fel y dengys tystiolaeth y menwyod
a holwyd, amrywiol a mympwyol oedd y dulliau a ddefnyddid i atal
cenhedlu ac roedd hi’n anodd i ferch ddi-briod gael gafael
arnynt o gwbl. Ymysg y gwragedd priod dibynnai rhai ar eu gwyr ond
cymerai eraill eu penderfyniadau a’u camau eu hunain. Dyma
grynodeb o’u profiadau :
1.
Sarah E. Williams, Hendy-gwyn (9074) : Doedd hi’m gwybod fawr
ddim am atal cenhedlu – heblaw ‘nad oedd fod i wneud
dim – “full stop!”’.
2.
Alice Griffith, Dinorwig ( 8791) : ‘Odd `na ddim pil na’m
byd i gael yr adeg hynny. Odd `na’m byd i gael i nadu chi
gael plant yr adeg hynny, nag oedd?’
3.
Avina Jones, Pwllheli (9374) : ‘Oeddech chi’n gwbod
os oeddech chi’n mynd ar ‘ch drwg, w’rach gesech
chi fabi yn`de. ... Odd hwnna’n gweithio’n well o lawer
na’r un bilsen’.
4.
Rhiannon Jones, Tanygrisiau (9305) : Ni chynlluniodd ei theulu o
dri o blant, ‘Cal nhw oeddach chi’r adeg hynny –
doeddan nhw’m yn dwad “by orders”’.
5.
Mattie Lewis, Maenclochog (9224) : Gadawai atal cenhedlu i’w
gwr. Byddai wedi hoffi cael pedwar o blant ond ar ôl cael
tri gwelodd na allent fforddio rhagor. Dyna oedd yn eich dal yn
ôl.
6.
Felly hefyd y gwelai Gwladys M. Roberts, Llanbedrycennin (9710)
bethau oherwydd : ‘Dodd gen i ddim isho teulu mawr, mawr.
Odd rhyfel wedi bod a prinder pethe ... meddwl am y gwaith odd Mam
wedi’i gael – llafurio ac ati. On i’n meddwl,
na, dodd gen i ddim isho teulu mawr’.
7.
Elizabeth (Betty) Treflys Jones, Llanrhaeadr-ym-Mochnant (9620)
: Byddai ei mam yn dweud ‘beth sy ar dy gyfer di sydd i ti’
ac ni wnaeth hi na’i gwr ddefnyddio dulliau atal cenhedlu.
8.
Mair Wyn Evans, Porthmadog (9274) : Cred mai’r unig ddulliau
oedd ar gael oedd cydwybod – parch at bobol eraill a’r
gallu i atal ac i ddal yn ôl. Defnyddient hwy gondomau o ‘dan
y cownter’ a thalai ei gwr dri swllt naw ceiniog am dri ar
y tro.
9.
Mair Olwen Bowen, Tegryn (9502) : Wedi priodi yn unig y caech wybodaeth
am atal cenhedlu. Deuai hysbysebion wedyn drwy’r post ac anfonent
i ffwrdd am gondomau.
10.
Gwenda John, Blaen-ffos (9218) : Credai ei mam mai yn syth ar ôl
i’r misglwyf orffen yr oedd yr amser gorau i ‘ddala’
a chenhedlu. A’r unig ffordd i atal cenhedlu yn ôl ei
mam oedd trwy ‘dynnu nôl’. Ond defnyddiai hi a’i
gwr gondomau gan anfon amdanynt trwy’r post i ddechrau ac
yna prynai Gwenda ei hun nhw mewn siop fferyllydd yn Aberteifi.
11.
Mair Williams, Pont-iets (8814) : Oherwydd pwysau gwaed uchel iawn
penderfynon nhw beidio â chael plant. O safbwynt atal cenhedlu
roedd ‘gwr caredig iawn gyda fi’ ac roedd e’n
fodlon defnyddio condomau. Fe’u cai “very under the
counter and hush-hush” cyn dechrau anfon amdanynt trwy’r
post. Deuent ‘mewn pacyn brown a odd neb yn gwbod beth on
nhw’.
12.
Siaradwraig o Langennech (8854/5) : Cyn priodi aeth hi a’i
ffrind i glinig atal cenhedlu yn Abertawe ond ‘mawr oedd y
sïans’ wrth iddi orfod rhoi manylion dyddiad a lleoliad
y briodas a hyd yn oed enw’r offeiriad. Dim ond gweuniau a
jel oedd yn cael eu cynnig gan y clinig ac aeth hi ddim yn ôl
yno ar ôl priodi.
13.
Lona Jones, Llandudno (9338) : Trafododd Lona a’i gwr atal
cenhedlu cyn priodi a chofia fod cyplau yn mynd at y gweinidog cyn
y briodas i drafod yr addewid a’r gwasanaeth a thueddai ef
hefyd drafod dulliau atal cenhedlu gyda nhw.
14.
Sylwen Davies, Y Parc (8838) : ‘Dim ond rwbeth och chi’n
gallu brynu yn y siop – dyna’r unig help oeddach chi’n
gallu’i gael, ag odd pawb yn gwbod am rheini. ... Odd pawb
yn meddwl bod o’n iawn i chi wneud o os oeddech chi wedi priodi,
yn `de ...’
15.
Erinwen Johnson, Abergele (9723) : Pan oedd yn ifanc roedd yn rhaid
cael caniatâd ysgrifenedig ei gwr i fynd i glinig atal cenhedlu.
(Roedd yn byw yn Llundain ar y pryd) ‘Diolch i Dduw ei fod
o’n gallu ysgrifennu!’. Wedi geni’r ail blentyn
yn y chwedegau cafodd y “coil” a bu ganddi am 21 mlynedd.
Gorfu iddi gael gin and tonic cyn mynd i’r clinig i’w
gael allan!
16.
Siaradwraig o Groesor (9347) : Cofia un o’i ffrindiau yn mynd
i briodi o’i blaen ac yn sôn llawer am y ‘dutch
cap’ ar ôl bod mewn clinig atal cenhedlu. Penderfynodd
hithau roi cynnig arni a mynychodd glinig ddeufis cyn ei phriodas.
Cytunwyd, wedi archwiliad, y byddai’r ‘dutch cap’
yn addas iddi. Ond pan aeth yn ôl i’w ffitio roedd y
clinig wedi cau a chofia’r embaras o orfod crwydro’r
siopau yn gofyn amdano. O’r herwydd roedd dyfodiad y bilsen
yn rhyddhâd mawr a dechreuodd ei chymryd ar ôl geni’r
plant. Cyn hynny doedd hi ddim yn siwr a fyddai’r bilsen yn
effeithio ar eu hiechyd nhw.
17.
Beti Williams, Llangwyllog (9391) : ‘Oeddach chi’n mynd
i’r clinig ag oeddach chi’n cal cap. Cap. Ag oeddach
chi’n rhoid rhyw “cream” y tu fewn iddo fo. Odd
o’n well na dim, wrth gwrs, ond dwi’m yn meddwl bod
o’n beth dibynnol iawn `chwaith’.
18.
Margarette Hughes, Hendy-gwyn (9105) : “French-letters”
oedd y dull cyffredin yn ei chyfnod hi ac nid aeth ar y bilsen erioed.
19.
Eleanor Roberts, Eglwys-bach (9673) : Roedd hi’n dderbyniol
i wragedd priod ddefnyddio’r bilsen.
20.
Megan Rhiannon Jarman, Carno (9625) : Cafodd chwech o blant o 1956
ymlaen ac yna bu’n cymryd “smarties”. Doedd dim
stigma ynglyn â hynny.
21.
Olwen Lewis, Cwm Nantcol (9051) : A hithau’n byw yng Nghaerhirfryn
yn y chwedegau cofia fynd ar y bilsen heb yn wybod i’w gwr
am chwe mis. Pan ddaeth i wybod, pa salwch bynnag a gai hi, byddai
e’n rhoi’r bai ar y bilsen.
22.
GWRANDEWCH ar Beti Isabel Hughes, Bwlchtocyn,
Aber-soch (8990) yn sgwrsio efo Sharon Owen am ei phrofiad
hi o gael hyd i ddulliau atal cenhedlu yn y pumdegau :
‘Wel,
pan briodish i, odd gen i ffrind, oeddan ni’n byw yn Gaerdydd.
Ag odd gen i ffrind, Val, odd hi `di priodi dipyn o mlaen i. Odd
hi’n flaenllaw iawn – “O, rhaid ichi fynd, rhaid
ichi fynd i gal atal cenhedlu” - oedd yn rhywbath reit modern
mae’n debyg amsar hynny. Yn Gaerdydd odd `na fel rhyw “lady
doctor” odd hi yn arbenigo mewn atal cenhedlu. A wedyn oeddach
chi’n mynd yn breifat i ryw dy mawr yn edrach dros ben Roath
Park yn fan’na ag odd hi’n eich cynghori chi a ballu,
wyddoch chi – ffeindio oeddach chi isho teulu `ta ddim, `ta
be. Wedyn oeddach chi’n cal eich ffitio efo’r “dutch
cap” `ma. Hwnnw odd y ffasiwn. Ond weithiodd y “dutch
cap” ddim i mi efo Sian. (chwerthin) Naddo’.
23.
Ellen M. Evans, Blaenau Ffestiniog (9299) : Sonia am ddylanwad y
gweinidog, Mr Lake, a oedd yn wr blaengar a chwyldroadol ei agweddau.
Byddai’n cynnal cyfarfodydd cynllunio teulu i gyplau ar fin
priodi ac yn ennyn gwawd rhai o drigolion y dre. Yn ddiweddarach
erbyn i’w hail fab gael ei eni roedd clinig cynllunio teulu
ym Mlaenau Ffestiniog ei hun ac erbyn y saithdegau roedd hi ar y
bilsen. Beth olygai hynny iddi? ‘Wel, peidio poeni, `de’.
|