|
|
Disgrifia Ifanwy
Williams, Porthmadog, Dwyfor [Tâp 9196] y gwewyr
meddwl a gafodd wrth geisio cofrestru ei hun fel gwrthwynebydd
cydwybodol ac oblygiadau ei phenderfyniad :
“Odd Mam yn bendant yn erbyn rhyfel, yn ’de. Don i’m
’di clywed ’y Nhad yn deud cymaint...Odd un o mrodyr
yn C.O. . ...conscientious objector...Mi odd ’y chwaer hyna...mi
âth hi i’r Fyddin...Odd merched yn gorfod cofrestru
i’r rhyfel. Mi ddaru mi gofrestru yn wrthwynebydd cydwybodol...Oeddach
chi’n gorfod mynd o flaen tribunal os oeddach chi’n
erbyn rhyfel, wedyn oeddach chi’n cael eich anfon i’r
fan a’r fan. Ond wrth mod i’n weithiwr cymdeithasol
chesh i ddim. Ddaru mi ddim diodda, dim ond diodda efo ffrindia
yn synnu, yn ’de, mod i’n erbyn rhyfel...
Oeddach chi’n gwrthod mynd i ryfela. Oeddach chi’n
gwrthod lladd. Odd y dynion yn gorfod mynd o flaen tribunal, wedyn
oeddan nhw’n penderfynu os oeddan nhw’n naill ai’n
cael eu gwrthod a rhai’n mynd i’r carchar. Neu oeddan
nhw’n cael eu rhoi i weithio ar y tir...Odd rhai yn diodda
yn enbyd a deud y gwir gan bobol eraill. Odd y ffaith bod pawb
arall yn mynd ac oeddach chi’n un allan o filoedd. Odd ’na
lot o ragfarn yn erbyn. Hyd yn oed yn y capeli, chi’n gwbod,
pobol yn gas iawn wrth C.O.s. Lawar iawn ohonyn nhw wedi diodda
yn feddyliol ac yn emosiynol yn enbyd...Oeddan nhw ar wahanol
sail – odd ’na rai ar sail Cristnogol, odd rhai ar
sail, erbyn hynny, cenedlaethol. Oeddan nhw’n teimlo mai
rhyfel Lloegr oedd o. Odd ’na rai am wahanol resymau...
On i’n teimlo bod on erbyn yr hyn on i’n gredu ynddo
fo...Odd ’na sôn amdano fo hyd yn oed pan on i’n
byw yn Lerpwl – y Peace Pledge Union...Oeddach chi’n
cymryd llw...ac odd o’n gymdeithas...Cyn y rhyfel odd y
P.P.U.
Dwi’n cofio mynd i Wrecsam i gofrestru...dwi’n cofio
oeddan nhw’n gofyn manylion ac on i’n dweud ‘I
want to register as a conscientious objector’, bobol bach,
consternation yn ’de. Oeddan nhw ’m ’di clywed
sôn...i ferch...Beth bynnag oeddan nhw’n edrych yn
hyll iawn arna i..Pan oeddwn i’n y coleg, wedi mynd yn ôl
i Lerpwl, dwi’n cofio ni’n cael dipyn o wrthwynebiadau
yn fan’no – yn arbennig odd y ddynes odd yn warden
yn ein hostel ni...odd hi’n rêl bully.
Doedd hi ddim yn hawdd. Hynny yw, mae ’na rai efo mwy o
ddawn i fedru deud, i fedru esbonio be’ sy’n ’calon...don
i ’m yn ffeindio hwnna’n hawdd o gwbwl. Ond on i’n
gwbod o fewn fy hunan be’ o’n in gredu. Odd rywun
yn llwfr. On i’n teimlo mod i’n rêl llwfrgi
weithiau. Ond o ran cefnogi pethau oedd ynglyn â’r
rhyfel, dyna lle’r on i’n tynnu’n hun allan...Dodd
gen i mo’r ddawn i annerch a petha felly, ond on i’n
mynd i’r Friends’ Meeting House – dyna’r
ffordd, ffordd mwy distaw, mae’n debyg, ac yn llwfr. Ddim
digon o guts yndda’i.
Ar y pryd, on i’n ffeindio fo’n hawdd, achos on i’n
gwbod lle on i’n sefyll. Yn yr ystyr yna, odd hi’n
hawdd. Odd hi lawar mwy anodd i ddynion...Gan mod i’n gweithio
mewn ysbyty, on i mewn be’ oeddan nhw’n galw yn reserved
occupation…”
GWRANDEWCH
ar Pegi Lloyd Williams, Blaenau Ffestiniog, Meirionnydd {LLUN}
[Tâp 9306] yn egluro wrth Sharon Owen sut a pham y penderfynodd
hi sefyll yn ddewr fel gwrthwynebydd cydwybodol a sut y cafodd
ei thrin:
“Odd
hi’n adag y rhyfal ac on i ddim yn siwr iawn o nheimlada
adag y rhyfal. Dwi’n gwbod bod Hitler yn ddyn drwg felltigedig
ond on i’n … wedi bod yn darllan, a fedrwn i ‘m
gweld bod y wlad yma wedi bod yn ryw dda iawn yn ymdrin ‘chwaith
hefo’r bobol dduon yn Affrica. A sut oedd hi wedi trin pobol
yn yr India? A on i wedi clywad am y Black Hole of Calcutta. Ia,
ac on i’n mynd i capal ar y Sul, gwrando pregath bora a
nos a mi ddôth y gweinidogion yn ‘u tro i weddïo
ar Dduw ac yn gofyn iddo fo roid … gorchfygaeth i Brydain
Fawr a don i ddim yn gweld rheswm mewn peth fel’na achos
on i’n meddwl – milwr yn cwffio yn erbyn milwr –
bob un yn fab i rywun.
Odd gynna i frawd yn hun ac on i’n gwbod bod hwnnw dros
y dwr. On i’n gwbod bod o’n cwffio yn erbyn Rommel,
odd o’n ‘i chanol hi. Ond odd o’n cwffio yn
erbyn un a odd yr un mor annwyl yng ngolwg ei fam ag oedd Teddy
ni. Wedyn don i ddim yn cydfynd, don i ddim yn cydfynd â
chrefydd rwsut ar y pryd …
[Ochr 2]
Wel mi ddôth diwadd, mi ddôth hi – oedd rhaid
i mi gael fy ngalw i fyny. Ac fedrwn i ddim gweld ‘n ffordd
yn glir i fynd i’r Llu Arfog, fedrwn i ddim. Mi fyddwn i’n
fodlon mynd i’r merchaid, fel Byddin y Tir ynte, ond ches
i mo’n ffordd yn hun; on i ‘di bod o flaen tribunal
rwan ond on. Ac os on i’n meddwl mod i’n mynd i gâl
mynd i’r lle oeddan nhw – lle on i feddwl, wel odd
gynnyn nhw syniad arall ar yng ‘nghyfar i.
Ia, pam? -ar ba sail oeddach chi ddim isho mynd i’r Lluoedd
Arfog?
Sail cydwybod. Felly oedd hi a fuo rhaid imi sefyll a câl
‘y nghyrru ‘nes i i’r NAAFI a mi fydda ‘na
ddau fath o NAAFI, NAAFI BLUES, lle byddan nhw yn gneud te a coffi
a gwerthu hynny o dda-da a cigarettes odd yn bosib i rywun ‘u
gal, lle fydda’r milwr yn medru troi i mewn am gem o gardia,
panad o de neu rwbath, neu rwbath; mi fydda ‘na far yna
hefyd wrth gwrs yn gwerthu’r ddiod. Ond ddim yn y NAAFI
yna on i – on i yn y NAAFI GOODS – lle hollol ar wahan
oedd yn gyfrifol am yr holl fwydydd, pob peth fel’na oedd
yn dod i mewn i’r camp.
Oeddach chi’n deud bo chi ‘di, bo chi’n wrthwynebydd
cydwybodol a bo chi ‘di gorfod mynd o flaen tribunal. Fedrwch
chi ddisgrifo’r cyfnod yna i mi a beth ddigwyddodd? Be oedd
yn digwydd?
Odd o’n gyfnod annymunol. Och chi’n sefyll allan yn
wahanol. Odd ’na rai wrach yn mynd mor bell â gofyn
i chi ‘Pwy ti’n feddwl wyt ti?’. Eich criw chi’ch
hun, rwan.
Ond mi fydda’ch papurau chi’n dod ( papurau yn eich
galw i wasanaethu’r ymdrech ryfel) a wedyn fydda rhaid i
chitha atab. Ac wrth gwrs yr atab oedd, roedd rhaid i chi sgwennu
a deud nad oeddach chi’n cydweld â hwn. Dydw i ddim
am fod yn ufudd i’r gais. Ac felly oeddach chi’n cael
eich dwyn gerbron tribiwnlys. Odd hwnnw ddim yn beth hawdd o gwbwl.
Criw o ferchaid oedd yn sefyll o mlaen i, wrth gwrs. Digon cas.
Digon milain.
Oeddach chi’n disgwyl hynny. Dyna be oeddach chi’n
disgwyl gâl. A gan mod i wedi gwrthod, mi ’aru nhw
daflyd y matar allan a mi ’aru nhw nghael i’n ôl
wedyn hefyd mewn ryw fis a mynd trw’r un un peth wedyn.
Wel, on i’n mwy pendant tro ’ma. Cofiwch chi, pan
ydach chi’n ryw bedair ar bymtheg oed, ugain oed, doeddach
chi ddim wedi câl ych dwyn i fyny i fod yn hy ar neb, nag
oeddach? Gorfod i chi ddangos parch atyn nhw, ac wrth ddangos
parch atyn nhw, on i’n gobeithio ‘wrach bod nhw am
ddangos rhywfaint o barch tuag ata i. ’Swn i’n lecio
deud mod i wedi’i gael o, ond y gwir oedd fel arall, dim
y ffordd oeddan nhw’n ymddwyn te, naddo, naddo.
Ia,be oedd yn digwydd yn y tribiwnlys ‘ta, be ..?
Oeddan nhw’n trio’ch trapio chi, trio’ch dal
chi allan, trio’ch cael chi i – os fysa petha fel
hyn?, os fysa’r Germans yn dwad?, be fysa’n digwydd?
Oedd gen i chwiorydd â phlant bach ganddyn nhw? Be fyswn
i’n neud ’swn i’n gweld y Germans yn dod â
gwn yn ’u llaw?, neu gyllell yn ‘u ’llaw a lladd
y plant bach? Sut fyswn i’n teimlo? Be fyswn i’n neud?
Sefyll yna a gadal iddyn nhw? Wyddoch chi, be odd ‘ch atab
chi? ‘Sach chi’n deud, ‘O, naci wir’,
‘de?, wel lle oedd ych cydwybod chi ‘te? Pam na fedrwch
chi ddim mynd â cydiad mewn gwn amsar y rhyfal ‘te?
Ond y cwbwl fedran i ddeud oedd - ‘Ia, mae’n ddrwg
gen i, ma’n rhaid i mi dderbyn bod rhywbeth fel’na
yn digwydd, ond fedra i ddim mynd a meddwl mod i’n cario
arf yn ’y llaw i wneud drwg’ ...”
Ymdopi ag ymateb pobl yr ardal i’r ffaith fod ei brawd yn
wrthwynebydd cydwybodol fu’n rhaid i Erinwen Johnson,
Abergele, Colwyn [Tâp 9722 ] a’i theimladau amwys hithau
ynglyn â’r sefyllfa. Sharon Owen sy’n holi
“Chi’n gweld, adag y rhyfal, ‘de, odd `y `mrawd
yn Conscientious Objector. A dwi’n cofio mam a ‘nhad
yn deud wrtha i, ‘Rwan te, mae `na lot o bobol rwan yn mynd
i ddeud petha mawr am dy frawd. Ond mae’n rhaid i ti gau dy
geg yn dynn, a peidio ateb yn ôl, a peidio deud dim byd, achos
dydyn nhw ddim yn gwbod ddim gwell’, meddai. ‘Ond `dan
ni yn ei gefnogi o a chithau genethod yn `i gefnogi o (dim option
you know!), a wedyn felly mae’i fod.’
Dwi’n cofio hynny. A mi odd `na lot o bethe hyll yn câl
`u deud …
Beth oedd ymatab pobl yr ardal i’w benderfyniad o?
Odd rhai yn ffiaidd iawn. Mae genna i go` am fod yn y Post Office,
a bobol yn sôn ‘ O! Wili Bryn Iorwerth, cwilydd iddo
fo’ a pethe fel’ne. Ond on i’n mynd adre a deud
wrth Mam – ond don i ddim yn agor `y ngheg – mi odd
hi ‘di deud wrtha i am beidio ‘neud, so on i ddim yn
gneud.
Sut fath o betha oeddan nhw’n ddeud?
O, ‘Ofn mynd i rhyfal’ - `na be `san nhw’n deud
– ‘Ofn mynd i rhyfal’ – petha fel `na. A
meddwl y dyle pawb fynd i’r fyddin i ryfela, wchi. Mae o’n
understandable, wir, achos, chi’n gwbod, tasa pawb yn Conscientious
Objector, fasai’n ddigon sobor arnom ni, yn fasai? A Hitler
wedi dwad a martsio i fyny a lawr y stryd `ma, ond dyna fo.
Sut oeddach chi yn bersonol yn teimlo ‘ta, pan oeddach ch’n
clywed bobol yn.
O, on i’n reit upset. Fyddwn i’n mynd adre ac yn crïo
‘m bach. Ddim lot. S’gen i ddim cof o grïo lot
…`Nâth o ddim `mhoeni fi gymaint â hynny …Ond
mae’n siwr gin i bod e wedi brifo lot o mam druan, mae’n
siwr gin i ond fasa hi ddim yn deud.” |
|
|
©
Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved
/ Cedwir pob hawl.
|
|