|
|
GELLIR GWRANDO AR DDYFYNIADAU AM
WEITHIO ADEG Y RHYFEL DAN Y THEMA ‘MENYWOD WRTH EU GWAITH’
AR Y WE-FAN HEFYD. GWRANDEWCH AR KITTY WILLIAMS, ABERTEIFI a NANCY
WILLIAMS, LLANDYSUL YN SÔN AM Y FYDDIN DIR; DOROTHY OWEN,
BETWS-Y-COED YN TRAFOD GWAITH GYDA’R COMISIWN COEDWIGAETH
( a cheir dyfyniad pellach ganddi hi yma) A WINIFRED OWEN, LLANRWST,
YN DARLUNIO, GYDAG AFIAITH, EI CHYFNOD GYDA’R LLU AWYR (y
WAAF : Women’s Auxiliary Air Force)
Cyffredinol :
“Odd ‘na lot o ferched – dim ond mynd allan
i weini basan nhw fel arall, ond mi roeddan nhw wedi dechra mynd
i...fel ffatri i wneud arfau. Ag wrth gwrs oeddan nhw’n
cymdeithasu fwy â dynion, ag oeddan nhw’n u efelychu
nhw. ‘Dach chi’n gweld y dirywiad yn dod yn naturiol.”
[Tâp 9357 Margaret Môn Griffiths,
Pensarn, Môn]
Sôn am y Call-up; ac edrych ar ôl faciwîs mewn
Cartref :
“Odd hi’n call-up. On i yn yr oed i’r call-up,
fasa rhaid i mi fynd i ‘neud rhywbath i’r forces, neu
i’r factories, i ‘neud yr hen betha rhyfal ‘ma.
Roedd lot fawr o’r genod o Lanfairfechan yn mynd i Hotpoint...
wnaeth ffrind i mi enlistio yn y Land Army, a phethe felly...Ond
odd well gen i efo plant. Odd Nurseries Llundain wedi dod lawr ffor`
`ma, odd o’n ideal i fi, ond oedd?...
Be oedd yn mynd trwy’ch meddwl chi pan ddôth y llythyr
‘call-up’?
Wel on i wedi dychryn really, ‘te, methu gwbod i lle ‘swn
i’n cael fy ngyrru, ‘te. Oedd rhaid i mi fynd, `doedd,
ond odd y swyddi hynny’n cael eu cyfrif fel call-up. Roedd
rhaid i bobl edrych ar ôl plant, ta, plant y faciwîs...”
[Tâp 9738 Catherine Williams, Llanfairfechan,
Aberconwy yn cael ei holi gan Sharon Owen]
Athrawes mewn ysgol ym Manceinion oedd Buddug Thomas,
Llanfihangel Genau’r-glyn, Ceredigion [Tâp 9458] ym
Medi 1939 a gorchmynnwyd iddi bacio’i bag a mynd â charfan
o faciwîs o’r ddinas i lochesu yn Blackpool. Bu’n
gyfrifol am ugain o famau beichiog a’u plant ond o fewn chwe
mis roedd y rhain i gyd wedi dychwelyd i Fanceinion. Aeth hithau’n
ei hôl a chafodd yr ardal ei bomio yn ddifrifol. Y profiad
mwyaf ingol oedd galw’r gofrestr yn y bore a chael yr ateb
‘They won’t come miss, they had a direct hit last night’.
GWRANDEWCH
AR NANCY WILLIAMS, Y Ffôr, Pwllheli [Tâp 9285] yn
dweud sut y bu’n gweithio ar fysys Crossville adeg y rhyfel.
EDRYCHWCH AR EI LLUN YN EI HIWNIFFORM. Gofynnodd Sharon Owen iddi
pam penderfynodd hi wneud y gwaith hwn?
“Wel am bod fi ddim
yn cael digon o gyflog ar y nyrsio ‘te. Os oeddech chi’n
gweithio rhywfaint o overtime oeddech chi’n cael tua chwech-saith
bunt weithia, wyth dro arall o gyflog yr wsnos. A odd hwnnw’n
gyflog mawr yn fanno’r amsar hynny wchi.
Faint o gyflog oeddech chi’n gael am nyrsio?
Dwy bunt a chweugain mewn mis, mewn mis cofiwch, ond bod ni’n
cael byw yna a chael bwyd yno ynte.
Be oedd ych gwaith chi ar y bysys ta?
Conductio a hel pres ‘te. O! odd o’n goblyn o job
‘te, amsar, wchi, RAF Dinas Dinlla, odd fanno’n llawn
o RAF ‘te. Fydda bysys yn llawn i’r top, weithia fyddan
ni’n cael plisman i ddod efo ni a fyddan nhw wedi meddwi,
yn enwedig ar nos Sadwrn. Doeddan ni ddim yn medru hel hannar
y pres ‘te.
Sut oeddach chi yn teimlo ‘ta achos bo chi’n hogan
yn gweithio yn ganol gymaint o ddynion?
Oeddach chi’n arfar efo fo wchi ond wchi odd o’n dipyn
o - Ond oedd ‘na lot ohonan ni, doedd, oedd ‘na lot
o genod wchi yn gweithio, oedd ‘na ddim un dyn yn conductio
bysys – dim ond dreifio oeddan nhw ag oedd rheini ddim yn
oed army wchi ne fasan nhw yn rhyfal …”
Bu Beryl Davies,
Caerfyrddin [Tâp 8910] yn gyrru bysys y Western Welsh ac
yn cario carchorion rhyfel Eidalaidd o Landdarog lawr i’r
dociau yn Llanelli
“Odd dim neb gyda’r Italians o Landdarog – dim
ond y fi a nhw. … Un bore, odd hi’n dywyll yn y bore,
bore bach. On i’n mynd â nhw, os na âth y bys
ar stop! A wir on i’n gofidio nawr, achos … on i ddim
fod i godi’r bonet lan o gwbwl, a ‘sen i yn ‘i
godi fe ‘sen i ddim yn gwbod beth i neud. Anyway odd dim
iws i fi ddangos i’r prisoners hyn nawr, bo fi ddim yn gwbod,
so ‘ma fi mâs, llawn busnes nawr bo fi’n gwbod
beth i neud a on i’n gallu gweld rhyw weier bach yn rhydd
yn rhywle … a ishe tynnu’r sgriw tipyn bach yn rhydd
nawr, a odd clip ‘da fi yn ‘y ngwallt a tynnes i fe
… sgriwes i fe nôl yn dyn. Wasges i’r botwm
a jiw dechreuodd e off!
O on i mor falch a wrth gwrs odd y prisoners yn meddwl bo fi’n
gwbod, ond on i ddim yn gwbod!”
Ond gyda’r Almaenwyr noda fel y byddai milwr â dryll
yn eistedd gyda nhw achos “on nhw ddim yn lico ni o gwbwl,
dim y Nazis.”
Gweithio yn ngorsaf Llanybydder yn ystod y rhyfel :
“Pwy siort o bethe o’dd yn mynd mlân yn yr orsaf,
te? Odd milwyr ambwyti’r lle?
Amser bisi ofnadw. Gynta i gyd, buodd y Marines `na, y Royal Marines,
am sbel, ond wedyn ‘te, nes mlaen, dâth yr Americanwyr,
i Plas y Dole, Highmead on nhw’n galw fe, Plas y Dole, a on
nhw’n gwersylla fan`na wedyn. A fan`ny buon nhw. Odd trafaelu
ofnadw `da’r train wedyn, rhynt bod y bwyd yn dod `da’r
train iddyn nhw, lori’n dod lawr bob dydd i hôl y bwydydd
bant o’r train
Yr orsaf, nawr, beth odd e fel i weithio `na yn ystod y Rhyfel?…
O, odd hi’n brysur ofnadw, achos – Ydw i wedi gweud
am y ceffyle?
Ma `da fi ddyddiadur…1944…Medi 28ain : ‘500 horses
entered for today’
A wedyn Tachwedd 27 - dydd Iau olaf y mis oedd y Mart Ceffyle …
llawer o’r rhain yn mynd i’r Express Dairies yn Llundain,
achos odd dim vans, dim petrol yr adeg hynny, wchi, a on nhw’n
gorfod cael cart a ceffyle i ddelifro llaeth a pethe, a’r
diwydiant glo, ceffyle odd…
Pa waith odd e’n dderbyniol i fenywod i `neud, a dim `neud?
O, on nhw ddim yn gallu dreifo trains a pethach fel `na, a dim bod
yn checkers a phethe, odd hwnna’n waith trwm, na porters …
booking clerk on i i ddechre a wedyn ces i’n neud yn goods
clerk. Yn y dyddiadur hefyd nawr ‘te, ma `da fi, Chwefror…
‘42 Yanks came off the last train.”
[Tâp 9083 Greta Walters, Llanfihangel-yr-Arth,
Caerfyrddin yn cael ei holi gan Ruth Morgan]
EDRYCHWCH AR Y LLUN O ANNE EVANS, NANT GWYNANT, DWYFOR, YNG NGWISG
Y FYDDIN DIR.
Yn y Fyddin Dir :
“On i’n gweithio’n galed, `dach chi’n
gwbod, chwara teg, rhaid i mi ddweud, dwi wedi gweithio’n
galed yn fy amser. Oddach chi’n gwneud pob peth ar y ffarm.
Odd gynnon nhw ddim llanc, fi odd yn llanc…On i ddim yn
gwneud dim byd yn y ty$, yn y Land Army, allan, ac oeddech chi’n
neud pob peth.”
[Tâp 9139 Beryl Jones, Llanelwy, Alun-Dyfrdwy].
Aeth Winifred Vaughan Jones [Glantwymyn, Powys
Tâp 9601] a’i chwaer o Aberangell yr holl ffordd i Worcester
i wasanaethu yn y Fyddin Dir ac oherwydd hynny cawsant dynnu eu
llun ar gyfer y County Times. Noda mai Lady Denman o Gaergrawnt
oedd Pennaeth y Fyddin Dir dros Gymru a Lloegr ac y deuai bob hyn
a hyn i’w harolygu. Byddai’n rhaid iddynt wneud parêd
‘dressed up to the top’ yn Worcester ar ei chyfer.”
Oherwydd nad oedd Dorothy (Dora) Owen,Betws y Coed
[Tâp 9651] eisiau mynd i ffwrdd oddi cartre gan fod ei gwr
yn dod adre ar leave o’r fyddin cynigiodd fynd i wneud gwaith
corfforol drwm gyda’r Comisiwn Coedwigaeth gerllaw. Sharon
Owen sy’n ei holi pa waith roedd hi’n ei wneud :
GWRANDEWCH
AR Dorothy Owen. "Plannu coed i ddechra – dyna’r
job gynta oeddan ni’n gâl. A wedyn fuon ni’n
mynd i fyny i’r forestry a torri branches, wchi, y branches
gwaelod oddi ar y coed. Oeddan ni’n gorfod ’u torri
nhw i fyny so-far ’lly. Dyna’r job wedyn. A wedyn
odd ’na rei ohonyn nhw’n llifio coed. Oedd ’na
ddwy, oeddan nhw ’di priodi, ond oeddan nhw’n gweithio
yn y forestry, ag oedd rheini yn llifio’r coed ’ma.
Eniwe, mi ath hi’n ffrae rhyngthyn nhw ryw ddwrnod efo’r
bos ’lly ’de, oeddan nhw’m yn gneud rwbath yn
iawn, a dyma fo’n dwad i lawr a dyma fo’n gofyn i
mi faswn i’n leicio trïo llifio coed. Wel, on i’n
medru llifio coed – on i ’di bod yn gneud adra lawar
gwaith ’de. ‘Yes, I can do it.’ ‘I’ll
get another one with you,’ medda fo, ‘`Cos you’ll
have to have two of you.’ Cross-cutting - hen betha mawr
hir, w’chi. A wedyn mi gâth yr hogan ‘ma, Lizabeth
oedd ei henw hi hefo fi, a ’dyn fuo ni’n llifio coed
’ma am hydion wedyn. Oeddan ni’n reit falch a deud
y gwir – odd o’n newid o job arall. A wedyn fuo ni’n
gneud hynny ar ochor y ffordd – odd ’na ffordd yn
mynd i fyny o Miners’ Bridge a ffor’ ’na, a
wedyn odd yr hogia yn torri’r coed i fyny yn top, ag yn
tynnu nhw i lawr i ni, wedyn oeddan ni yn mesur nhw a torri nhw’n
pit-props wedyn. Dyna be oeddan nhw – i’w gyrru i
ffwrdd i’r coalmines a petha, i ddal petha i fyny. Dyna
be oeddan ni’n neud. Wedyn oeddan ni’n gneud lot fawr,
wedyn o’dd yr hogia ’ma’n deud wrtha ni be i
neud. ‘O’s dim isho i chi neud gormod,’ medda
fo. Oeddan ni’n câl hyn-a-hyn am tua cant o’r
rhain, wedyn oeddan ni’n cael hyn-a-hyn o bres.
Os oeddan ni’n llifio lot, odd yr hogia yn deud ’tha
ni fysa nhw’n torri’n pres ni i lawr – fysa
ni ‘mond yn câl y standing wage ’lly. Dwy bunt
oeddan ni’n gâl bob wsnos am neud. ‘Peidiwch
â gneud gormod,’ medda nhw, ‘ne fyddan nhw’n
deud, wel, os ’da chi’n medru gneud hynna fysa rhaid
i chi neud bob tro wedyn.’. Wedyn oeddan ni’n trïo
cadw i hynny. Oeddan ni’n cowntio’r hen props ’ma
bob nos cyn dod adra a gweld faint oeddan ni wedi’i neud,
achos weithia o’dd hi’n bwrw fel hyn wedyn fedran
ni’m llifio allan ’de. Oeddan ni’n gorfod mynd
i ryw hen sied fawr os odd hi’n bwrw, wedyn oeddan nhw’n
torri rhisgl y goedan wchi. Oeddan ni’n gorfod gneud hynny
pan fydda hi’n bwrw. Argol, odd hynny yn fwy o job o lawar.
- well gen i llifio nhw ar draws a dyna fo. Oeddan ni’n
gneud hynny am hydion wedyn, wel, tra buon ni yno really.
Sut oeddach chi’n teimlo am y gwaith ‘ta achos oedd
lot ohono fo’n galad ar eich corff chi?
Odd o yn galed, achos oeddan nhw’n drwm, wchi, yr hen goed
’ma. Ond odd isho mesur bob un, wchi, bob un ohonyn nhw
fesur a bob un efo’i gilydd. Isho rhei yn fychan a lleill
yn fwy. Odd raid i ni gadw cownt o bob un, faint odd ’na
yn bob toman, wchi. Fydda’r foreman yn dod rownd ar ddydd
Iau, wedyn odd rhaid i ni gowntio faint oeddan ni wedi’u
gneud bob wsnos. Wedyn odd o’n mynd â hwnnw i’r
offis a clandro faint o bres oeddan ni i fod i’w gâl
wedyn …”
Ac eto mynna ei bod wedi mwynhau’r gwaith yn fawr, “yn
well na dim byd”
Gan fod gwisgo trowsus yn rhan o iwnifform swyddogol llawer o ferched
wrth eu gwaith adeg y rhyfel dechreuodd menywod fwynhau gwisgo trowsusau
y tu allan i oriau gwaith swyddogol hefyd. EDRYCHWCH
ar y darluniau o Meifod Rogers (gynt Jones), fferm Blaen-llan, Coed-y-bryn,
Llandysul a’i chwaer Molly yn eu trowsusau ar glos y fferm
adeg y rhyfel.
Athrawes a fu bron â gorfod
mynd i ffatri gwneud arfau :
“Mi briodes i ar ôl bod yn dysgu pedair blynedd, ac
mi oedd hi amser rhyfel…Roedd `na swyddfa yn Y Bala a dyn
yn anfon bobol ddi-waith i ffatrïoedd yn Lloegr i weithio
yn Munitions. A mi es i ar y rhestr i fynd i Munitions, er mod
i wedi priodi. Roeddwn i yn athrawes ond roeddwn i ar y rhestr
i fynd.
Ac roedd yn ffaith bo chi wedi priodi yn gwneud dim gwahaniaeth?
Dim gwahaniaeth. Dim gwahaniaeth. (ond) mi ddaru Dolgellau ddod
â prinder athrawes…a mi ofynnwyd i mi fynd yna yn
ei lle hi. Mi roedd mor gyfyng â hynny ar fywyd adeg hynny.”
[Tâp 9043 Meirionnydd].
Gweithio yn y ‘Food Office’ :
“A ges i swydd gyntaf yn y Food Office yn ysgrifennu…y
Ration Books cynta. Och chi’n rhoi enw o’r Electoral
Register, och chi’n rhoi enwau a cyfeiriad pobl odd yn y cartre,
ac on nhw’n câl `u dodi wedyn, gwedwch, mewn strydoedd
a wahanol cylchoedd. A chi’n gwbod shwd on nhw’n câl
`u dosbarthu?…On i’n dod allan i’r gwahanol gylchoedd
– bydden ni’n cymryd drosodd festrioedd…a Neuadd
y Plwyf, ag wedyn – Llansamlet, Treforys ac Abertawe - och
chi’n gorfod mynd i bobman i ddosbarthu rheiny…”
[Tâp 8995 Margaret (Peggy) Lloyd, Lon-Las,
Abertawe.]
Gweithio mewn ffatri:
“Oeddach chi’n gorfod dysgu weldio a phetha felly ’te,
a rivetio petha ar gyfar ’u roid wrth ’u gilydd. Oeddach
chi’n gorfod gneud syms, ryw divisions a ryw betha felly,
i weithio allan be oedd. Ond wedi i ni fynd i NECACO (North East
Coast Aircraft Company), fuo’m rhaid i ni ‘neud hynny
’de, achos odd bob dim wedi’i neud yn barod, ond bo
chi’n roid o at ’i gilydd. Mi gesh i ddyn reit gas i
weithio efo fo i ddechra. Jigs oeddan nhw’n galw nhw, ag oeddach
chi’n mynd i mewn i hwn ag odd rywun ar tu allan, wedyn oeddach
chi’n gorfod dal doli tu fewn i ddal ar y rivets. Odd y llall
efo gwn tu allan, a bob un rivet oeddach chi’n roid i fewn,
odd y dyn yma’n dod i mewn i edrach odd hi’n iawn.
Swllt a dwy yr awr oeddan ni’n gâl. Oeddan ni’n
dechra hannar awr ’di saith yn bora tan chwartar wedi saith
yn nos… yr hogyn odd ych partnar chi, mewn ffordd, ’te.
Ond mewn llefydd erill, dim ond y genod odd ’na yn gweithio
`te.” [Tâp 9742 Elen Jones, Rhostryfan,
Arfon]
Cynnig eu gwasanaeth cyn cael eu gorfodi i ymuno a wnaeth Gwladys
Burton o Lanbryn Mair, Maldwyn / Powys [Tâp 9608] a’i
chyfnither a chael eu hanfon i ysgol hyfforddi yng Nghaer cyn mynd
ymlaen i Warrington i weithio mewn ffatri oedd yn gwneud undercarriages
i awyrennau bomio yr Halifax. Roedd yn waith trwm, ddeuddeg awr
y dydd, ddydd a nos bob yn ail. Wrth weithio’r nos roedd hi’n
hawdd syrthio i gysgu ond teimlai’n falch iddi gael cyfle
i wneud gwaith o bwys i hybu ymdrech y rhyfel. Cofia fel y bu i’r
awdurdodau roi’r clociau ymlaen ddwy awr yn lle un, er mwyn
cael cyn lleied o oriau tywyllwch â phosibl. O ganlyniad bydden
nhw yn aml yn bwyta’u cinio am unarddeg o’r gloch y
nos a hithau’n olau dydd. Ar gyfer y gwaith gwisgai boiler
suit a band i ddal ei gwallt yn ôl.
Disgrifia Catherine (Kate) Thomas, Treboeth, Abertawe
[Tâp 9001] sut y cafodd hi ei hanfon yn erbyn ei hewyllys,
yn ferch ifanc 20 oed, i weithio yn stacio ‘shells’
dan ddaear yn nhwneli ogofâu Trecwn, gogledd Penfro. Bu’n
aros mewn hostel gerllaw a cherddent yn griw i lawr i weithio bob
bore “fel lot o ddefed” :
“On i ddim yn lico fe ‘na o gwbwl …Odd pob sort
yn aros ‘na. On i’n torri nghalon i lan‘na. Odd
hi’n ryff, (merched) o bobman, bob sort. … On i’n
gorffod cal dyngarîs a chmbod a dim smoco. Dim ar eich penne
–on i ddim ‘da’r powdwr; odd powdwr lawr rywle
arall…. achos odd rhai yn mynd yn felyn ‘chwel. O! no
on i ddim yn lico ‘na. O! odd e’n gomon. Dorres i nghalon
lawr fan’na … On i’n cal arian da ‘na. …
Odd wastad ofon arno i.”
Gweithio yn Ffatri ‘Cook’s Explosives’, Penrhyndeudraeth
“Es i i weithio i gwaith powdwr Cooks Explosives fan hyn,
‘de. Bues i’n gweithio yn adag y rhyfal fan’no
`fyd am gyfnod byr, do. Oeddwn i’n printio papur i lapio’r
powdwr ac yn rhoid o trwy saem poeth i wneud o, i gadw’r powdwr
yn sych, mewn ffordd. Ag roeddwn i’n gwneud hynny adag y rhyfel,
gweithio shifftiau, o chwech tan ddau, a dau tan ddeg. A buon ni
unwaith yn gweithio drwy’r nos, o ddeg tan chwech yn y bora.”
[Tâp 9340 Elizabeth Frances Williams, Penrhyndeudraeth,
Meirionnydd]
Cafodd Anna Eynon, Pontarddulais [Tâp 9147]
ei galw i fyny o’i chartref yn Llanddewi Felffre i ymuno â’r
WAAFs (Women’s Auxiliary Air Force) a’i hanfon gyntaf
i Gaerloyw, lle bu’n drilio neu’n square bashing am
chwe wythnos, yna i Stratford, yna nôl i Fairwood yn Abertawe,
i Talbenni ym Mhenfro ac yn olaf i Dunkerswell, swydd Dyfnaint .
Gofalu am gyfrifon yr oedd hi a bu wrthi am bedair blynedd. Tra’n
Fairwood daeth awyren i lawr ar ben y billet lle roedd hi un noson
a lladdwyd un o’i chydweithwyr. Un o’n hawyrennau ni
ydoedd a chadwyd y cyfan yn dawel iawn. Anfonwyd teligram at rieni’r
ferch yn nodi iddi ‘died on active service’.
EDRYCHWCH AR LUN ANNA EYNON YN YMUNO A’R LLU AWYR YNG NGHAERLOYW
Gweithio yn y banc a sôn am ddiffyg cyflog cyfartal:
“Ac wedyn wrth gwrs dâth y rhyfel, on’d do, yn
1939, a mi oedd y dynion yn mynd i gyd, un ar ôl y llall.
A pob un odd yn mynd, merch odd yn dwad yn eu lle, rhai ifanc, rhai
hynach. Yn y diwedd, dodd na’m ond y rhai hyna o’r dynion,
a merched.
Wel yn sydyn, ma nhw’n dweud wrtha i bo fi’n cael yn
symud i’r Banc ym Mhorthaethwy. Mae gen i syniad bod y teulu
wedi gofyn, am fod y bomio’n dechre yn Birmingham. Ac wrth
gwrs odd y merchaid yn gwneud gwaith y dynion. Pob dim odd y dynion
wedi `neud, odd y merchaid yn `u gneud nhw. Ond dodd `na ddim sôn
am equal pay, dim o gwbwl.
A dodd y merched ‘chwaith ddim yn sôn am gael cyflog
cyfartal?
Nag oedd. Glywes i neb yn deud. Hwrach fod rhywun wedi deud : ‘Wel,
dyw e ddim yn fair bo fi’n gwneud ‘run job â hwn
a hwn am gyflog cymaint yn llai, ‘te. Cofiwch, dodd y dynion
ddim yn cael `u talu cymaint â hynny, ‘chwaith.
Odd `na gyfrifoldeb yn câl `i roi ar bobol ifanc, felly, toedd?
Cyfrifoldeb mawr.” [Tâp 9808 Jennie Iforian Jones, Llandegfan,
Môn yn cael ei holi gan Gwyneth Morus Jones]
Nyrsio adeg y rhyfel :
“ Odd pethe’n brin iawn … on i yn yr operating
theatre … fel staff nurse … A on i’n gorffod –
y swabs ‘ma, ar ôl i chi iwso nhw on i ddim yn taflu
nhw ffwrdd, on i’n gorffod socan nhw mewn dwr ôr a hydrogen
peroxide a swilo nhw mâs, berwi nhw i gyd wedyn a’u
ail-iwso nhw, a bandages i gyd … a’r menyg … ail-neud
nhw i gyd. … Os deuai air-raid yn ystod y nos roedd disgwyl
i chi roi’r patients dan y gwely”.
[Tâp 9000 Sariann Ray Roberts, Castell Nedd
ond a oedd yn nyrsio yng Nghaerloyw adeg y rhyfel]
GWRANDEWCH
AR ARTUDFYL MORGAN, Genau’r Glyn, Ceredigion [Tâp
9462] yn sôn wrth Tegwen Morris am ymuno â’r
Queen Alexandra’s Military Nursing Service’ (QA’s)
yn 1943 i baratoi ar gyfer y Second Front a D Day :
“A wedyn aethon ni i Hatfield House (Hertfordshire)
a on ni’n câl training, chmbod, pob math o bethe –
shwt i ymdopi nawr o dan cynfas yntefe? … (cartref Dug a
Duges Malborough oedd e) … a odd hi, odd hi tua eighty chmod,
a odd hi’n dod rownd yn y bore a odd bag bach, fel Dorothy
bag chmbod, llawn o sweets a odd hi’n rhoi bobo un fach
i’r sowldiwrs. A odd e itha jôc chmbod, on nhw’n
cymeryd, ‘Thank you very much’ ‘There you are
my dear’ , odd hi’n mynd rownd.
… ( wythnos cyn cychwyn am Normandy) .. .”on i’n
gorffod neud ewyllys, on i’n gorffod mynd lawr i’r
Post Office ar waelod yr hewl i moyn ewyllys. A wedyn oedd un
o’r - neu ddwy o’r ffrindie yn arwyddo fe hefyd .”
… (yna croesi ar y môr a chysgu yn ei battledress
mewn hamoc am dair noson ar y llong ysbyty nes cyrraedd a glanio
yn ymyl Caen). “ A aethon ni nawr am dipyn o ffordd, cwpwl
o filltiroedd a troi mewn i’r câ ‘ma a odd milwyr,
rhai o’r milwyr, wedi bod yn paratoi - rhoi’r ysbyty
lan, chmbod, canfas wrth gwrs, fel ryw pabell anferth yng nghanol
y câ a’r wardie yn hwnnw a wedyn o gylch y câ
i gyd, odd ‘n pebyll ni, le on ni’n mynd i gysgu,
(pebyll bach wedyn) tair ohonon ni ym mhob pabell.
O ie, yr un digwyddiad mowr, yr unig amser i fi fod yn ofnus,
on i’n gwitho yn reception tent ar y pryd, odd pob un gorffod
mynd trwy’r reception tent, chi’n gweld. A excitement
mowr un bore, wedodd y Major Nasser ‘Come in here, bring
all the sisters to come in here. We’ve got some news for
you.’ On nhw wedi câl neges i ddweud bo nhw wedi -
‘They’ve captured a Panzer, SS Panzer Division of
the SS,- Germans and we’re having, I don’t know how
many, a few dozen walking casualties’. A on nhw’n
rhoi instructions i ni wedyn, on ni’n gorffod câl
un o’r medical orderlies gyda ni pan on ni’n trin
nhw, chmbod. Wel och chi ddim yn gwbod… a on ni gyd yn dechre
crynu nawr – Pan weles i nhw’n dod, on nhw’n
hercian – rhai wedi anafu’u coese a un yn dal y llall
fyny – on nhw mewn crocodeil , tri ar y tro. O! rhai anferth
mawr six footers a ddim wedi siafio ers wthnose chmbod, odd golwg
ofnadw arnyn nhw. … on nhw wedi câl shrapnel wounds
fwya, yn ‘u coese neu yn ’u breiche a wedyn on ni’n
gorffod rhoi local anaesthetic, chmbod chwistrelliad bach rownd
y croen yntefe a odd yr un odd ‘da fi nawr gynta, anghofia
i byth mono fe. On i jyst yn llanw’r nodwydd ‘ma nawr
a mynd i – ‘Nein‘ medde fe, ‘Nein’
( roedden nhw yn gwrthod yn lân â chymryd local anaesthetic
rhag ofn fod gwenwyn ynddo a bu’n rhaid trin y clwyfau hebddo).
… Odd byti chwech ohonyn nhw i gyd , ond odd un neu ddou
yn itha neis, chmbod.
Nyrsio yn Ysbyty Alderhey, Lerpwl yr oedd Margaret Owen,
Y Bermo [Tâp 9032] ddechrau’r rhyfel fel y dywed wrth
Llewela Edwards. Roedd rhan o’r ysbyty wedi’i neilltuo
ar gyfer milwyr clwyfedig a chofia fynd i lawr i’r Pierhead
i nôl milwyr wedi brwydr Dunkirk"
“Oeddan nhw jyst yn disgyn ar y gwlâu, oeddan nhw yn
rhy wan i ddeud be oedd eu henwa nhw nag o ble roeddan nhw’n
dod, lot ohonyn nhw ‘de. O! oedd o’n olygfa. Ac oeddan
nhw’n fudr a golygfa drist ofnadwy. Ond wyddoch chi, pan fydda
i’n sbïo nôl ynde, mae’n siwr eich bod chi’n
cael rhyw nerth o rywla i ddal ymlaen ‘te.” |
|
|
©
Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved
/ Cedwir pob hawl.
|
|