|
|
Y Faciwîs yn cyrraedd
“Odd rywun yn gwbod bod nhw’n dwad, a wedyn odd pawb
wedi tyrru at y capal ’da chi’n gwbod, i’w gweld
nhw rwan. A nhwythau’n dwad â’r labels ’ma
ar cotia nhw a gasmasks rownd ’u sgwyddau nhw. Pan ma rywun
yn meddwl rwan am y peth, odd o fel tasa rywun yn pigo anifal
’lly – pawb yn mynd ‘Mi gymera i hwn’
a ‘mi gymera i hwn’... Odd ganddoch chi be oeddan
nhw’n alw yn billeting officer. Oeddan nhw’n gwbod
pwy oedd yn dwad, ag oeddan nhw’n gwbod pwy fasa’n
cymeryd y plant ’ma, wedyn oeddan nhw’n trïo
cadw teuluoedd efo’i gilydd. Odd rei yn deud ‘mi gymera
i un’. Wel, os oedd yna un plentyn, odd yr un plentyn yna’n
mynd yno. Just pick-and-choose odd hi wedyn.”
[Tâp 9400 Olwen Owen, Llannerch-y-medd,
Môn.]
“Dwi’n cofio nhw’n dwad yn iawn. Y petha bach,
bocsys o’u blaena a ryw bobol y W.R.V.S. ’ma rownd...Odd
o’n ddiwrnod rhyfadd. Odd o fatha ryw ddwrnod carnifal ’lly,
wchi. Odd pawb yn troi allan. Y petha bach yn dwad off y trêns
‘u labels arnyn nhw. Wrth gwrs, oeddan ni’n lwcus, doeddan;
Oeddan ni adra. Fuo ’na ddim yn ty ni...Ath ’na rai
i ty nesa, teulu oeddan nhw o Coventry – Arthur a Ronnie a
William. Oeddan nhw’n hiraethu yn ofnadwy, y petha bach.”
[Tâp 9707 Elizabeth Euron Owen, Dolgarrog,
Aberconwy]
Newydd ddechrau yn y coleg yn Loughborough yr oedd Eirlys
Lewis Evans, [Y Rhyl, Alun/Dyfrdwy Tâp 9311] ar y
pryd :
“Pan aethon ni i Loughborough, on i wedi bod yno rhyw bythefnos
ac mi ddawd â faciwîs o Lundain yno. A gorfod i mi fynd
rownd, yn bileto’r plant `ma. Doeddwn i ddim yn nabod y dre
yn dda iawn, a’r pethau bach, ac wi’n cofio, dyna brofiad
ofnadw oedd hwnnw, mynd â’r plant bach `ma rownd y tai,
chi’n gwbod, a bobol ddim isho nhw, wir, de.”
Gweithio mewn Swyddfa Bost yn y Creunant, yr oedd Elizabeth
Ann Davies [Abertawe, Tâp 9029] ddechrau’r
rhyfel :
“Odd y bobol odd yn cadw’r faciwîs `ma, on nhw’n
câl `u talu am `u cadw nhw. Wi ddim yn cofio faint –
7/6d…yr wythnos. So on nhw’n dod bob wythnos wedyn i’r
Post, ar bore Dydd Llun, i gael yr allowance am gadw’r faciwîs
`ma. A wedyn och chi’n talu allowances wedyn i rai teuluoedd
oedd â’u teuluoedd nhw wedyn yn y fyddin.”
Yr effaith ar y bobl a’r ardaloedd a’u derbyniodd :
“Daeth faciwîs i ardal Crymych – daeth dosbarth
i Ysgol Tegryn o Hyde yn Kent, ac yn y pentre yn Crymych wedyn daeth
lot o blant lawr ‘co o ardal Abertawe, achos oedd un merch
fach gyda ni, dwi’n cofio ni’n dwy, odd bobo wely ‘da
ni yn yr un room, odd y ddwy o ni gyda’n gily, te, buodd hi’n
byw ‘da ni...am bwyty dwy flynedd...Dwi’n meddwl mai’r
amser ‘na ddechreues i siarad Saesneg, achos dwi’n cofio
odd ei phais hi’n dangos dan ei ffroc hi neu rhywbeth a dwi
wastad yn cofio dweud wrthi hi : ‘Your peish is peeping at
me.’ Dwi wastad yn dweud ‘na achos wê hynny’n
joc fowr gartre am flynydde ar ôl hynny, os wêdd rhywbeth
yn hirach na wêdd e fod, wêdd e wastad yn ‘peeping
at you’.”
[Tâp 9210 Iona Davies, ger Tyddewi, Penfro.]
GWRANDEWCH
ar MARY PRICE, Bryngwran, Môn. [Tâp 9618 ] . Mae hi
yn dangos pa mor wahanol yn aml yr oedd bywyd yng nghefn gwlad
Cymru i’r hyn roedd y faciwîs o drefi mawr Lloegr
wedi arfer ag e
“A pheth arall ddôth, yng nghorff y flwyddyn
gynta, odd isho cymeryd plant - plant o Lerpwl. A dwi’n
cofio fod Mam wedi câl un. Oeddan ni’n mynd i’r
Neuadd Goffa, ac roedd ‘na gerbyda (roeddan nw’n câl
petrol i hynny), i fynd i’r stesions i nôl plant bach
o Lerpwl - ddôth i Fodwrog, wel ddôth i lot o ranna
o Sir Fôn ‘ma. A dwi’n cofio enw yr hogyn bach
gymon ni, Hughie Macgivern. Odd ‘na ddau neu dri …
âth na dri a rheiny yn hogia bach lliw, oeddan nhw yn ddu,
ond o Lerpwl oeddan nhw’n dod ac mi âth y tri i gartra
fy narpar teulu yng nghyfrath i. Ac mi gâth fy mam yng nghyfrath
wedyn waith mawr efo nhw. Toedd ganddyn nhw ddim help ond mi oeddan
nhw, petha bach, oedd gwalltia nhw yn llond nhw o bryfaid. A fuo
Mrs Price wrthi am ddiwrnoda yn ymgeleddu nhw. Oedd dda iddyn
nhw gâl dwad am wn i, ‘te?
Ond y peth oedd, oeddan nhw ddim yn leicio bwyd ni. Toeddan nhw
wedi’u codi ar ryw tsips a ryw betha felly a wedyn pan oeddan
nhw’n cal bwyd maethlon oeddan nhw’n troi trwyna.
Wedyn oeddach chi’n poeni.
A pheth arall odd rhan fwya ohonyn nhw yn Gatholics. Dwi’n
cofio y Sul cynta a Hughie Macgivern wedi codi yn o fora, a Mam
yn darparu brecwast iddo fo. O, na, doedd fiw. Fydda fo ddim yn
sbïo ar y bwyd, odd o isho cerddad i Walchmai, a ninna yn
deud wrtho fo ffordd i fynd. Odd ‘na wasanaeth i’r
Catholigion yng Ngwalchmai ben bora ac oeddan nhw’n mynd
i fan’no heb ddim tamaid o fwyd, y petha bach.
A peth arall odd yn ‘i boeni o, odd o wedi câl ‘i
fagu, fel roeddan ni’n dallt wrtho fo, efo’i Nain,
ac odd o jyst â chrio isho i’w Nain o wbod …
lle o’dd o wedi mynd a bod o wedi cyrradd yn saff. A minna’n
deud wrtho fo, ‘ Look here’, medda fi, ‘Come
with me to the shop and I’ll buy you a card and you can
write to your Granny to let her know’. A mi odd o wedi ffronsio
drwodd a mi aethon ni a mi sgwennon ni bostcard i’w Nain
o. Ar ôl hynny mi odd setlo lawr ac oeddan nhw’n câl
mynd i’r Neuadd Goffa i gâl gwersi yn Bodwrog –
odd honno yn dod i fewn yn hwylus, a mi oeddan nhw’n câl
cwarfod â’i gilydd a wedyn dwad o wahanol gartrefi
’te?
Ond fel odd yr wsnosa yn mynd ymlaen oeddan nhw hirath a wedyn
oeddan nhw’n mynd yn ôl fesul tri – bedwar,
yn ‘u hola . Roedd mama rhai ohonyn nhw, wrth bod nhw’n
ifanc, wedi dod hefo nhw, a wedyn toedd y Germans ddim wedi dechra
‘mosod ar Lerpwl amsar hynny ond mi wnaethon. Mi arhosodd
Hughie yn un o’r rhai dwytha un i fynd yn ôl. Ond
mi fu’n rhaid i hwnnw gâl mynd yn ôl. A wn i’m
be ddigwyddodd. Wyddoch chi mi oeddan nhw’n cael eu bomio
wedyn yn ddi-drugaradd ‘te. Mi fasan well bo nhw ‘di
aros.”
“Mi ddôth y faciwîs. A wedyn odd `na ffraeo!
O lle daethon nhw?
O Lerpwl. A druans ohonyn nhw, mi oedd `na waith eu cael yn lân.
Ond, roedd `na rhai ohonyn nhw yn annwyl dros ben. Ond ddaru nhw
ddim aros yn hir iawn…A be nethon nhw yn yr ysgol, oedden
nhw’n `u cadw nhw rownd y tân, a ddaru ni gael ein symud,
fel bod plant y pentre, yn y cornelau, a plant y faciwîs yn
cael eistedd o gwmpas y tân. Wi’n cofio bod hynny ddim
yn plesio. Mae’n debyg fod mwy nag un ffeit.”
[Tâp 9182 Mary Roberts, Yr Wyddgrug, Alun/Dyfrdwy
yn cael ei holi gan Catherine Richards]
“Daeth dipyn o glefydau efo’r plant o Lerpwl, yn anffodus,
y scabies, impetigo a rhai chwain. Ond yn waeth, mae’n debyg,
pryfaid y pen. A gorfod diodde mam yn turio trwy `ngwallt i, yn
chwilio amdanynt, ac yn gwasgu rhwng ei winedd…a hyn bob nos.”
[Tâp 9325 Mary Ceinwen Roberts, Glanconwy,
Aberconwy.]
“Ath ‘na lawar iawn ohonan ni i ddechre siarad Sisneg
efo acen Lerpwl ychi, ynte! Cyn belled a dwi’n cofio doeddan
nhw ddim wedi cael llawer o effaith. Roeddan nhw’n cael eu
cynnwys yn bob peth – yr un oedd yn aros yn lle nghnither,
dwi’n cofio hi yn cael cynta am ganu yn Steddfod yr Urdd a
’lly. Oeddan nhw’n ymdoddi yn dda, rhan fwya ohonyn
nhw ynde, i’r gymdeithas yn Llan … ac oeddan nhw yn
mynd i’r capel ac yn deud adnode ac ati ynde … a’r
Ysgol Sul.”
[Tâp 9724 Rhiannon Parri Davies, Llansannan,
Colwyn.]
Sôn am ddwy faciwî a ddaethai i gartref Beti
Wyn Thomas yn ardal Glanyrafon, y Bala o Benbedw. [Tâp
9042]. Dysgodd y fechan lawer iawn o Gymraeg
“achos oedd Mam yn dangos pethe ar y bwrdd bwyta ac yn siarad
Cymraeg ac fe bigodd hi yr iaith Gymraeg i fyny. Ac yn ystod y cyfnod
hwnnw … Miss Cassie Davies oedd yn Arolygwr Ysgolion ac oedd
hi wedi sylwi mor dda yr oedd nifer o’r faciwîs wedi
dysgu Cymraeg yn y cylch ac mi aeth â ryw wyth i ddeg ohonyn
nhw i Fangor i fynd ar y radio i ddangos fel oedden nhw wedi dysgu
Cymraeg mor rhwydd.”
“Ydych chi’n cofio’ch cariad cyntaf?
“Yndw. Roedd o’n dod o Lerpwl, ac odd o’n faciwî,
ac odd `i enw fo yn Sydney Swanston. A dwi’n cofio cael llythyr
ganddo fo i ddweud wrtha i am gyfarfod efo fo o dan y bush yn yr
ardd. Mae hynny’n wir…jyst ffrindie…”
[Tâp 9603 Margaret Roberts, Llangollen, Glyn
Maelor yn cael ei holi gan Carys Evans]
GWRANDEWCH
ar GWINNIE THOMAS, [Abernant, Caerfyrddin. Tâp 8945 ] yn
darlunio yn fyw iawn wrth Ruth Morgan ei phrofiad hi a’i
theulu o gadw faciwîs
“Och chi’n gweud ambyti’r rhyfel nawr,
chi’n cofio faciwîs yn yr ardal?
O, pidwch â siarad ‘da fi! – ‘na beth
odd tribe. Odw. Dâth faciwïs ‘da ni i Plas Parce,
pan on i gatre nawr. On i gatre nawr ‘da Nhad a Mam; a Mr
Evans schoolmaster yr Alma, fe odd fod ‘u dilifro nw. Ma
menyw yn dod aton ni – dwy fenyw a dou blentyn yr un ‘da
nw. Odd un menyw fach – odd ‘i’n olreit; ‘sa
i’n gweud odd y ddwy yn olreit. A reit o, on nw’n
dod aton ni. A fe gofynnodd un o’r menywod i nhad, ‘What
about taking the pram out to the road, main road?’, wedodd
hi fel’na. ‘Well’, wedodd Dat wrthi, ‘You’ll
have to push it or I can put a horse in front of it!’. On
nw’n mynd lawr i’r pentre, i’r tafarn BOB dydd,
on, BOB dydd; on nw ddim yn misso.
A odd Mam yn berwi cawl … on ni’n berwi cawl wedyn
a chi’n dodi popeth, vegetables yn cawl, a ‘na beth
wedodd un fan’na ‘This is do...pigs’ food’,
wedodd hi fel’na. ‘Reit’, wedes i, ‘You
can go’.
Wel, wedyn on nw’n fed-up. On nw ddim yn lico, on nw mynd
gatre, a odd isie mynd nôl â nw ( odd ‘da nw
ddim cês i gâl, dim ond sache odd ‘da nw yn
cario pethe). A wedodd Dat fel’na, ‘Gei di fynd lawr
nawr’, wedodd Dat fel’na wrtho i, ‘i erbyn y
bys i Lansiedfa’. ‘Beth ych chi’n hala fi lawr
â nw?’ wedes i fel ‘na, ‘cerwch chi lawr
â nw’. ‘Cer di lawr â nw, ti’n siarad
mwy ‘da nw na fi’. A fel’ny fuodd hi. Cart a
ceffyl, car gist nawr a ceffyl a fi odd yn dreifo’r ceffyl.
Lawr â’r ddwy fenyw a un plentyn yr un, chi’n
gweld. Odd dou wedi sefyll ar ôl, achos on nw yn ‘r
ysgol chi’n gweld a odd raid iddyn nhw, fel’na. A
mynd lawr a wedes i ‘ Wel, bois bach!’, - odd gas
‘da fi fynd lawr, siarad am byti gas, odd gas ‘da
fi fynd lawr â nw i erbyn bys. Dympes i nw lawr yn Lansiedfa
a droies i nôl a away home.”
Mae gan Gwinnie Thomas DDARLUN hyfryd ohoni hi a’i thad
gyda faciwî , Dennis Ford, ar Fferm Plas Parce, Meidrim
adeg y rhyfel.
Cwbl wahanol oedd profiad siaradwraig
o ardal Llanddeiniol, Ceredigion [Tâp 9163] a gyfareddwyd
gan ddieithrwch y plant o bell.
GWRANDEWCH ar ei hanes :
“Nhad oedd yn trefnu a dosbarthu ( y faciwîs).
A dwi’n cofio deud wrtho, ‘Cofiwch bo ni’n câl
faciwî’ A fe’n deud, ‘Ma ‘na bedwar
‘ma’n barod’. O! – a mi gliries y drôrs
yn y cistddrore oedd gen i’n llofft. On i’n rhannu
ystafell wely – dwy chwaer; a wedyn fydden i’n dweud,
‘O! ma’ ‘na le, wir, ma’ ‘na le
– dwi wedi clirio’r drôr yn barod a dwi wedi
neud lle yn wardrob – plîs gadewch i ni gâl
un’. A Nhad yn mynd lawr i’r pentre i gyfarfod rhain
a ninne yn edrych at giat i weld e’n dod. Ac odd dim un
i ni, achos, wrth gwrs, odd ‘na bedwar yno’n barod
yn doedd?
Ond mi ddôth rhai i’r ysgol ag oeddan ni ddim yn gallu
siarad Saesneg. Dwi’n cofio deud wrth un, on i ‘di
gweld hi mewn angladd rhywun yn y pentre, ‘I saw you in
the ….’ a fedrwn i yn fy myw, on i ddim yn gwbod beth
odd y gair am angladd, ‘I saw you … ‘. A fedrwn
i ddim eto ddod o hyd i’r gair ‘funeral’ –
don i erioed wedi glywed e. Ond mi ddaethon nhw – Beryl
Jakes a Diana Gem – dwi’n cofio’r ddwy a odd
hyd yn oed yr enwe i ni yn bethe rhyfeddol a dwi’n cofio
nhw’n dod a mi gaethon nhw le da. Fuon nhw yn dal cysylltiad
am flynyddoedd mawr …”
Disgrifia Elizabeth Addie Evans [bro Radyr, de-ddwyrain
ond o Aber-cuch, Penfro yn wreiddiol. Tâp 9162] sut y llwyddodd
hi i oresgyn problem yr iaith. Daeth nifer o faciwîs i aros
i ardal Abercych ac anfonwyd un, Peter, at hen wraig yn byw yn y
coed. Roedd ofn arno a gofynnodd i Mrs Evans, ‘Will you be
my mother?’ Aeth hithau adre i ystryied sut y gallai ymdopi
:
“A wedes i wrth Mrs Davies, ‘Shwt alla i beido? Dewch
lan i’r lofft i chi gâl gweld’. A odd gwely dwbwl
‘da’r merched, ych chi’n gweld … O fe ddaethon
nhw mlân fel … wel, fel tops. A fuodd e gyda fi am ddwy
flynedd. A wedodd hi pan dath hi ata i – Mrs ..’i fam,
odd hi wedi dod lawr i ofalu am ddouddeg o nhw yn growd. On nhw
i gyd wedi’u gwasgaru yn gwahanol gartrefi. A dâth hi
i’r drws a wedodd hi ‘I’m Peter’s mother’.
‘Oh! come in’, wedes i fel ‘na wrthi a dangoses
i’r gwely iddi a dangoses i bod … ‘Oh, I’m
so pleased’, wedodd hi, ‘but I don’t want him
to learn / speak Welsh.’ ‘I beg your pardon’,
wedes i, ‘in Rome you’ve got to do as the Romans do’.
… “ (a dysgodd y bachgen siarad Cymraeg yn dda iawn)
“Pa mor anodd oedd derbyn faciwîs i’ch ty$?
Wel, wedi i mi benderfynu `mod i’n mynd `u cymryd nhw, on
i’n teimlo hi’n anodd iawn. Efo bwyd rodd `na extra
gwaith wrth gwrs, extra golchi a popeth. Na, na, oeddan nhw’n
iawn efo Cledwyn [ei mab]; roedd Cledwyn yn fychan iawn. On nhw’n
hawdd iawn gwneud efo nhw.”
[Tâp 9719 Dinah Elinor Roberts, Llanfair
Talhaearn, Colwyn yn cael ei holi gan Sharon Owen]
Bod yn faciwî ( yn dod i aros at dylwyth yng Nghymru o berygl
y bomio )
“Oeddan nhw’n câl dipyn bach o hwyl am ’y
mhen i yn dechra, on i’n cymysgu’r ddwy iaith ’swn
i’n meddwl, ag wedyn dodd ’y Nghymraeg i ddim cystal
â plant Pen-y-groes. Oeddan nhw’n câl dipyn o
hwyl ynglyn â cymysgu’r ddwy iaith, ond buan iawn nesh
i ffrindiau.”
[Tâp 9735 Nesta Thomas, Y Groeslon, Arfon
a ddaeth yn faciwî o Benbedw.]
“Oeddach chi’n meddwl am adra, meddwl am Mam, sgwennu
adra a ryw betha a Mam yn gyrru parseli i ni.”
[Tâp 9733 Ellen Herbert, Pen-y-groes, Arfon
a ddaeth yn faciwî o Lerpwl.]
“On i’n cael fy mwlio…am bod fi’n wahanol…tynnu
`ngwallt i. Gwahanol bethau, gangio i fyny yn erbyn chi…ddim
yn cael chwarae efo nhw…Och chi isho crïo ond doch chi
ddim isho dangos iddyn nhw bod nhw’n gwneud chi grïo.”
[Tâp 8964 Ann Doreen Thomas, Dolgellau, Meirionnydd
a anfonwyd o Winchester at ei theulu yn Nhalsarnau ]
Mae Gwynneth Rowlands, {LLUN} Benllech, Môn
[Tâp 9418] yn cofio’n dda yr argraff a wnaeth cael ei
symud o ganol cynnwrf y rhyfel yn Lerpwl i dawelwch cartre Taid
a Nain ym Mryntwrog, Môn arni hi yn blentyn chwe mlwydd oed
:
“Odd o’n ryw le rhamantus iawn i ni’r adeg honno
– ag yn bell. Efo trên oeddan ni’n dwad o Lerpwl
i stesion Llangwyllog
Odd rywun yn teimlo i ddechra fatha ’sa rywun yn mynd ar ’i
wylia, ag yn braf cael rhyddid, achos yn amal iawn toeddan ni’m
yn cael noson o gwsg yn ein gwlau. Oedd y seiren yn mynd a wedyn
mi fydda Mam a Nhad yn ein codi ni’n dau, wedyn yn twll dan
grisia fydda ni. Un waith ‘rioed y buo mi mewn air raid shelter,
ag fel o’dd petha yn gwaethygu, mi ddaru Mam neud gwely i
ni yn y twll dan grisia. Wedyn i fan’no oeddan ni’n
mynd i’n gwlâu ’de. Odd o ryw …, sut medra’i
ddeud ’tha chi, ryw deimlad dwi ddim yn sicr iawn oeddan ni’n
ymwybodol iawn o’r peryg go iawn ’de. Ond odd o ryw
deimlad o ryddhâd mawr câl mynd o’na – er
bod gan rywun hiraeth, a cholli ffrindia wrth gwrs...Dwi’n
meddwl ma’r profiad mwya odd bod am gyfnod heb rieni, ond
mi fuo fy modryb a f’ewyrth yn eithriadol o dda hefo ni ’de
Odd ’na lot o lefydd wedi cael ’u bomio, a petha felly,
adeilada wedi’u malurio, a’r hen falwns ’ma i
fyny. Barrage balloons dwi’n meddwl oeddan nhw’n galw
nhw – i fyny yn yr awyr. Oedd, mi oedd o ryw deimlad o ryddhâd
cael dod o’na, achos toedd ’na’m byd felly ffordd
yma ’de
… odd pobol yr ardal a pobol y pentra yn, fuo nhw’n
ardderchog yn ein cynnwys ni efo nhw yn bob dim – fatha ’sa
ni’n byw yno ’lly…
Odd ’na deimlad o ofn i ddechra, ’de. A wedyn mi ddôth
yn beth oeddan ni’n dderbyn na fasa ni ddim yn medru byw yn
Lerpwl oherwydd y rhyfal, y peryg ’ma. Wedyn am bod ni’n
gwbod bod nhw’n iawn, fydda ni’n câl llythyr bob
dydd Llun ’de – odd hwnnw yn rheolaidd, oeddach chi’n
disgwl am y llythyr ’ma...rhedag adra o’r ysgol dydd
Llun a disgwl y llythyr ’ma ’de, a wedyn sgwennu yn
ôl a ryw betha felly. Wedyn odd rywun yn dderbyn o mewn ffordd,
achos oeddan ni’n ymwybodol bod ’na blant yn ‘r
ysgol odd yn faciwîs odd ddim mor ffodus â ni …
Sgwennu llythyra, wedyn mi fydda Mam a Nhad yn dwad pan fydda nhw’n
medru. Weithia Mam ar ben ei hun, am ryw benwythnos neu rwbath felly.”
Gorfod dianc oddi wrth y bomio at deuluoedd cwbl ddieithr yn y wlad
fu ffawd y siaradwyr nesa:
Roedd Gwenllian Jones, Treboeth, Abertawe [Tâp
8885] yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Delabeche pan fomiwyd
y dre :
“Anghofia i byth, cael carden oddiwrth y brifathrawes i weud
‘Will you come down to rescue the books?’ a aethon ni
gyd lawr. Odd Ysgol Dinefwr wedi cael hi’n wael. Odd Ysgol
Delabeche – odd y llawr dop wedi mynd ...achos odd y llawr
‘na’n do, a felly odd dwr yn mynd i ddod mewn, a odd
hi’n fis Chwefror, 1941, ethon ni mewn ... a cario bob tamed
o offer, wel, popeth, y llyfre i gyd, i mewn i’r Gym.
`Na’n flwyddyn olaf i yn yr ysgol. Cyn diwedd y flwyddyn,
odd Miss Naylor yn meddwl bo fe ddim yn deg i blant i fod yn sefyll
arholiade ag yn gorfod cael nosweithi di-gwsg ... ac fe etho i fel
faciwî i Narberth. Fi odd yr unig un yn y chweched dosbarth
i fynd. On i’n neud Cymraeg, Ffrangeg a Sbaeneg. Cymraeg on
i’n hoffi fwya … a oedd yr athrawes yn mynd i Narberth.”
Unarddeg oed oedd Sylvia Rees, Lon-las, Abertawe
[Tâp 8996] pan ddi-wreiddiwyd hi a’i hanfon i Ysgol
Ramadeg y Gwendraeth i barhau â’i haddysg uwchradd.
Ymgartrefodd ym Mhontyberem achos ‘oedd popeth yno’
: sinema a’r rheolwr pwysig ‘â’i gansen
hir i gadw rheolaeth ar y plant’ ac wedi’r sinema byddai
pawb yn tyrru i siop tsips Mrs Samuel “a’r ciws enfawr
ac odd e’n beth cymdeithasol yno, a och chi’n cwrdd
â phawb ac yn sgwrsio … a odd sete, a och chi’n
ishte fan’na tra bo chi’n aros. … a risols gore
Cymru odd risols Mrs Samuel!” |
|
|
©
Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved
/ Cedwir pob hawl.
|
|