Cyffredinol:

“Odd pawb yn gwneud ’i ran, yn doedd? wedyn doeddach chi ddim yn meddwl dim byd...” [Tâp 8980 Anne Evans, Nant Gwynant, Dwyfor]



“Odd rywun yn byw mewn ofn bob dydd.” [Tâp 9316 Esther Griffiths, Mallwyd, Maldwyn/Powys]



“Ofn dychrynllyd...on i’n dychmygu bod yna Germans yn y wardrob a phetha gwirion felly...” [Tâp 8823 Arfon ]



“Doedd e ddim yn golygu ryw lawer, dim ond dyna oedd bywyd. Y rhyfel – doedd dim arall. Roedd pob dim roedd pobol yn neud yn mynd tuag at rywbeth efo’r rhyfel”. [Tâp 9662 Gwynfa Adam, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd]



“Odd hi’n amsar pan oedd pawb yn dod at ’i gilydd, ’da chi’n gweld. Yr un perygl, yr un ofn, a’r un rheswm i ni gyd-weithio ’te.” [Tâp 9662, Môn]



“Ethon nhw i smygu, ethon nhw i yfed, odd rhai menwywod wedi câl cyment o ryddid, on nhw wedi gwneud ffyliaid o’u hunain, ddim yn gallu defnyddio’u rhyddid. Ond chwel, on nhw’n gwitho yn ffatrïoedd, odd arian mowr `da nhw – arian mowr i beth on nhw wedi arfer, wel on nhw’n gallu ‘neud beth a fynnen nhw.” [Tâp 8853 Lilian Myfanwy Bowen, Dre-fach ger Llanelli]



Yn ôl Lilian Smith, Llanddarog, Caerfyrddin [Tâp 8937] os oeddech yn smocio cyn y rhyfel ‘of course you were considered very daring’ ond :
“Pan ddâth y rhyfel fe newidiodd popeth … och chi’n cymysgu fwy, och chi’n mynd i bethe wedyn odd bechgyn a merched … a mwy o bobl diarth ambyti’r lle. Odd ‘da ni Americans, odd ‘da ni Italians, odd gyda ni Poles, odd gyda ni bob iaith ambyti’r lle ‘ma”



Roedd tad Margaret Lloyd Hughes, [Y Garth, de-ddwyrain. Tâp 9241] yn ben-garddwr ar stâd yr Hafod, Cwm Ystwyth, Ceredigion yn ystod cyfnod y rhyfel :

“On i wedi câl `y ngeni a’n magu a wedi whare yng nghanol y coed mwya hyfryd `ma, achos dyna baradwys Thomos Johns … Ac mi gethon ni weddillion y baradwys `ma. Ac ron ni’n byw yng nghanol y coed a’r llwybrau hyfryd `ma oedd o amgylch y lle.

A beth welon ni, cyn symud o’r Lodge (fe symudon ni o fan `ny am ryw bum mlynedd yn ystod y rhyfel a dod nôl wedyn i adfeilion y Plas) – fe gwympwyd y coed i gyd achos y rhyfel. A, i ddweud y gwir, odd e’n dorcalonnus, achos y llunie o’n i’n gweld o’r rhyfel, a dinistr y rhyfel yn y papure. Wel, odd y dinistr rownd i ni hefyd achos odd popeth yn cwmpo rownd i ni, y coed `ma i gyd yn cael eu llifio â’u cario i ffwrdd. Dyna’r War Effort, chi’n gweld.

A fe aeth Paradwys Thomos Johns mewn ychydig. Wel, mewn rhyw flwyddyn odd e wedi mynd.”



Y Mygydau Nwy:

Cofia Beti George, Ystalyfera [Tâp 9015], a hithau yn ysgol gynradd Panteg ddechrau’r rhyfel gael ffitio mwgwd nwy ac i’w chwaer fach gael un Mickey Mouse. Yn y wers wnïo roeddent yn dysgu gwneud casyn i’w gadw mewn bocs. Ond doedden nhw ddim wedi gorfod eu defnyddio o gwbl er gwaetha’r bomio mawr ar Abertawe gerllaw.



“Odd raid i ni gâl gasmasks a odd dril bach ‘da ni. Wi’n cofio hwnna’n iawn. Odd athrawes yn dod mâs a gweud ‘nawr, ‘One whistle, get your bags; two whistles, gasmasks on; third whistle’ lawr i’r shelter yn yr ysgol’” [Tâp 9491 Gwenllian Jones, Llanybydder ond a fagwyd ar y Bryn, Porth Talbot]



Effaith y dynion yn mynd i ffwrdd i ymladd (a chael eu lladd)

Ymunodd gwr Eluned Jane Morgan, Minffordd, Meirionnydd [Tâp 9348] â’r fyddin : “Odd o run fath â phawb arall. Odd raid i chi...Odd pawb arall yn gorfod mynd, ‘doedd?”

“Doeddan ni ddim yn unigryw, mae’n debyg, yr amser hynny. Amser rhyfel odd hi, odd tad un neu ddwy o’n ffrindia fi i ffwrdd ar y môr...Na, doedd o ddim yn rwbath oeddan ni’n meddwl amdano fo, a deud y gwir. Falch ofnadwy pan fydda fo’n dod adra efo ryw bresanta bach i ni o wahanol wledydd.” [Tâp 8990 Beti Isabel Hughes, Bwlchtocyn, Dwyfor]



Collodd Mair Owen [ Llanfair Talhaearn, Colwyn, Tâp 9721] ei gw$r yn ystod y rhyfel, a’i gadael yn weddw ifanc â phlentyn bach.

“Y trydydd D-Day âth o drosodd. Chwech wsnos fuodd o drosodd a gâth o’i ladd. Odd Gareth, un-mis-ar-hugain odd Gareth ... Wel, oeddach chi jest yn gorfod cario mlaen, yn ’de? Fedrech chi neud dim byd arall, a disgwyl am yr amser iddi stopio.

Odd o’n ddiwrnod ofnadwy, y diwrnod hwnnw. Cofio fi’n mynd adra’n ôl, beth bynnag, on i’n torri nhalon ’de a Mam yn deud yn drws ‘Be sy ’di digwydd rwan?’ medda hi, ond dyna fo’n ’de...Odd raid i mi gario mlaen er mwyn Gareth.”



Cafodd Lilian Myfanwy Bowen [ Dre-fach, Caeryrddin. Tâp 8853] brofiad ingol tebyg. Roedd Elwyn yn navigator yn Ardal y Llynnoedd pan gafodd ei ladd mewn damwain awyren yn 1944. Roedd Elin, ei merch, yn chwech mis oed a phenderfynodd Fanw aros gartre gyda’i mam am bedair blynedd, fel y dywed wrth Ruth Morgan :

“aroses i gatre, a … yn ôl mam on i’n câl arian mawr – achos on i’n câl war pension ag odd e’n naw punt yr wthnos. A o’dd mam yn gweud, ‘Ti’n gwbod faint on i’n gâl amser odd dy dad yn gwitho? - £2 6s.
Shwt odd yr holl beth wedi effeithio arnoch chi?
O, och chi’n berson arall, … odd gwenu wedi mynd, odd y plentyn yn denu chi … ond mor gynted ag och chi wrth ‘ch hunan … odd popeth yn cau”



Priodasau adeg y rhyfel neu yn ei gysgod :

Gwelwyd llawer iawn yn priodi yn ystod y rhyfel dan amodau anodd : prinder amser gyda’i gilydd, ofn colli cyfle, ofn colli cariad a phrinder dillad a bwyd oherwydd y dogni.

Priododd Margaret (Peggy) Lloyd, Lon-las, Abertawe [Tâp 8995] ei gwr Cecil ar Hydref 26,1945 er mwyn osgoi cael ei galw i fyny i ymuno â’r ‘ymdrech ryfel’ dan y Gorchymyn Gwaith Gorfodol. Erbyn Tachwedd roedd y rhyfel ar ben.



EDRYCHWCH AR LUN PRIODAS Lyndon ac Anna Eynon [Pontarddulais] yng Nghapel Bethel, Llanddewi Felffre, Penfro yn 1946. Sylwch fod y priodfab yng nghrandrwydd ei iwnifform filwrol


Cliciwch yma i wneud yn fwy



Effaith y milwyr o bant :

“Yr unig adeg fuodd hi’n o ddrwg rhyngthon ni (hi a’i rhieni) , odd ’na gamp milwrol lawr yn Llanfrothen – yr Iancs a’r petha ’ma’r adeg rhyfal. Ag oeddan ni’n apt i gerddad i lawr i Llanfrothen i edrych i lawr ar y camp ’na. Oeddan ni’n cal row yr adag hynny, am grwydro, achos pedair ar ddeg oeddan ni, ’de...Mewn lle bach fatha Croesor a cael ffasiwn growd o soldiwrs o gwmpas rywun. Odd rywun yn trïo tyfu i fyny o flaen ’i amsar, doedd?” [ Tâp 9335 Mai Morris, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd]



“Odd ’na lot o sbort i’w gael. Odd tad. Yn enwedig pan odd rhai diarth, rhai newydd, yn dod i mewn...Câl lot o ryw sbort hefo nhw. Chydig iawn oeddan ni’n mynd allan fel cariadon efo nhw. Ddim llawar. Oeddan nhw ddim ar y lle yn hir, wchi. Pasio mlaen oeddan nhw, wchi. Mynd a dwad.” [Tâp 9295 Laura Williams, Pwllheli, Dwyfor]



Ymunodd Alice E. Langdon (gynt Jones) [Brynaman Tâp 9158] â’r WAAFs yn Angle, Penfro a bu wrthi’n gwnïo cyrff awyrennau am gyfnod cyn cael ei hanfon i Bwllheli i ddysgu gyrru fan Ford ac yna ambiwlansys. Dychwelodd wedyn i Angle cyn cael ei symud i Port Reith yng Nghernyw. Yno gwelodd awyren Lancaster wedi disgyn a chyrff yr awyrenwyr marw. Cariwyd y rhai oedd yn fyw i ysbyty Truro. Yn Truro y cwrddodd Alice â’i chariad a oedd yn Americanwr. Buon nhw yn caru am fisoedd ac erbyn mis Mawrth 1944 gwyddai Alice ei bod yn feichiog. Yn anffodus cafodd ei chariad ei drosglwyddo o Port Reith yn fuan wedyn ac er bod ganddynt gynlluniau i briodi, roedd hi’n amhosibl gwireddu’r bwriad.

Felly aeth Alice at ei brawd yn Barnets ger Llundain ac ym mis Awst 1944 ganwyd merch, Mary Lyn, [Tâpiau 9154-5 yn cael ei holi gan Eiry Thomas, Brynaman]. Cadwodd y tad mewn cysylltiad a chan ei fod ar fin mynd allan ar D Day trefnodd i adael pensiwn i Alice a’i baban. Ond ni fu priodas. Yn y pendraw dychwelodd y fam a’r baban at ei theulu ym mhentre Cwmllynfell ac ni ddwedwyd hanes ei thad wrth y fechan o gwbl.
Pan oedd Mary tua deg oed ac yn chwilmentan un diwrnod yng ngwaelod y wardrob cafodd hyd i fag yn llawn llythyron at ei mam gan rywun o’r enw Johnnie Carruthers. Wrth sylwi ar y dyddiadau a’r cyfeiriadau ynddynt at boeni am y babi, daeth iddi fel fflach pwy ydoedd. Penderfynodd daclo ei mam am yr hanes a chafodd wybod peth o’r cefndir ond doedd hi ddim eisiau ymhelaethu.

Yna, un diwrnod, gwelodd Mary hysbyseb y gymdeithas ‘Trace’ sy’n cynorthwyo plant milwyr GIs i gael hyd i’w tadau. Teimlai fod bwlch mawr wedi bod yn ei bywyd erioed a phenderfynodd geisio mynd ar ei drywydd. Gwyddai fod ei thad yn dod o Alabama ond gan nad oedd ganddi ei rif milwrol gwrthodai llywodraeth America ei helpu rhag tarfu ar ei breifatrwydd e.

Erbyn 1995 roedd yr agwedd wedi newid rhywfaint at hyn a hithau bellach yn awyddus iawn y wybod y gwir. Ond roedd y llythyron caru wedi’u hen losgi a bu’n rhaid ymchwilio yn fanwl cyn cael hyd o’r diwedd i lungopi o slip pai ei thad, yn Nhachwedd 1998. Yr oedd Mary wedi bod yn camsillafu ei enw – Carothers ydoedd. O’r diwedd cafodd hyd i berson oedd yn cyfateb i’r enw a’r lleoliad ac anfonodd lythyr a llun ohoni ei hun ato.

Daeth yr alwad am 1.30 y prynhawn a llais dyn o’r America yn dweud wrthi ‘I think my dad is your dad’. Cyn bo hir roedd Mary ar yr awyren i America a chafodd groeso bendigedig gan ei thad, er ei fod wedi cael strôc, a chyda’i deulu. Meddai wrthi ‘This is an answer to my prayers’ a dangosodd ei fod wedi cadw llun ohoni yn wyth mis oed yn ei waled ar hyd y blynyddoedd.

Teimla Mary yn falch heddiw fod tipyn o ddyfnder ym mherthynas ei thad a’i mam ac nad dim ond ‘swagger and sweet talk’ oedd wedi denu’i mam i ymserchu mewn milwr GI.



Cofia Olive Tamlin, Casllwchwr, gorllewin Morgannwg [Tâp 9031] iddi hi a’i mam a ffrind gael cynnig life saver, (losin), gan ddau filwr Americanaidd a oedd yn gwersylla ym Mhengelli gerllaw yn 1944. Roedd cannoedd o filwyr duon yno. Cafodd un ferch leol ei hun yn feichiog ond roedd y milwr bellach wedi’u symud i Southampton. Dilynodd y ferch a’i mam ar eu hunion ar ei ôl ac arhoson nhw yno nes iddo ef ei phriodi. Ond aeth ef allan ar D Day a dyna’r diwetha y gwelodd y ferch ohono. Felly cafodd ei hun yn wraig, yn fam ac yn weddw o fewn ychydig fisoedd i’w gilydd.



“Dwi’n cofio’r Americanwyr, y GIs ’ma ’te, yn pasio, a ninna’n gweiddi, ma rhaid ein bod ni wedi deall wchi gan ein rhieni eu bod nhw wastad yn cnoi y gum ’ma, ag oeddan ni’n gweiddi, ‘Any gum, chum?’, ag oeddan nhw’n taflyd y chewing gum ’ma i ni, ’te.” [Tâp 9396 Môn]



Wrth sôn am y dawnsfeydd gyda’r milwyr Americanaidd : “wê lot o hwyl chmbod achos, wel, wê nhw’n rhoi bwyd mâs …rodd hwnna’n dynfa mowr. A wrth gwrs wê big bands pyr’ny … dim records wêdd e; wê band ‘i hunan ‘na… falle bydde crowde’n mynd ‘na. Falle bysen ni’n mynd dwy neu dair gwaith yr wthnos ond on i’n gorffod bod gatre erbyn hanner awr wedi deg. …On nhw’n dod â’r donyts ‘ma a pethe neis, pethe odd ddim i gâl amser rhyfel. … Wêdd ddim cwrw na dim byd fel’na ‘na.” [Tâp 9224 Mattie Lewis, Maenclochog, Penfro ond yn sôn am ei bro enedigol, Castell Nedd]



Cofia Marion Thomas filwyr Prydeinig, y ‘Searchlights’ yn gwersylla gerllaw ei chartref yn Hendy-gwyn, Caerfyrddin [Tâp 8921 ], fel y dywed wrth Ruth Morgan :

“Faint och chi’n gweld o nhw?

W, on ni’n gweld llawer o nhw. On nhw’n dod i aros gyda ni achos odd yn fam yn gweithio yn y cantîn, yn `neud bwyd iddyn nhw… Odd mam yn trefnu Welcome Home Concerts a on i’n canu yn rheini.

Daeth Americanwyr tua diwedd y rhyfel; odd camp gyda nhw ochor arall y pentre. Rhai tywyll on nhw…on i’n gweld tipyn o nhw…Odd pobol Hendy Gwyn wedi’u croesawu nhw’n dda iawn – rhy dda, bydde rhai’n dweud [chwerthin]. On nhw wedi gadael sawl un ar ôl. Ambell waith odd Americanwyr gwyn yn dod lawr o Gaerfyrddin – lle rhyfedda yn y pentre wedyn. Fi’n cofio unwaith on nhw mâs ar y stryd yn saethu mewn jeep - yr Americanwyr gwyn a’r rhai tywyll, y rhai du, ‘te, yn cwmpo mâs. Odd y lle rhyfedda ar sbele `ma, odd hi ddim yn sâff mynd mâs…Gâs un dyn bach – rhedon nhw’r jeep mewn iddo fe a torrodd e `i ddwy goes...Y rhai gwyn oedd yn achosi’r trwbwl. On ni ddim yn cael dim trwbwl `da’r rhai tywyll.”
  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.