|
|
Cwpons da-da/ losins
/fferins:
“Fydda ’na siop fach yng ngwaelod yr allt o’n
ysgol ni, Siop Bren, a munud oeddan nhw’n gwbod bod ’na
dda-da wedi dod i mewn i Siop Bren oeddan ni’n mynd yno
amsar chwara a ciw mawr tu allan, ac ella mai lozenges odd rheini
a Victory Vs, ag oeddan ni’n gneud iddyn nhw bara’n
hir iawn. A rhannu. Ew, odd ganddoch chi fwy o ffrindia pan oedd
ganddoch chi gwpons.” [Tâp 9627 Glenys Pritchard,
Porthaethwy, Môn]
“Doedd ’na’m gwerth o da-das, fferins a phetha
felly, ac wedyn be oeddan ni’n neud, a deud y gwir yn onast,
odd mynd drosodd i gae odd yn tyfu moron. Oeddan ni’n mynd
dros y wal i fan’no, tynnu’r moron ’ma a’u
golchi nhw a torri nhw. W, oeddan nhw’n fendigedig.”
[Tâp 9735 Nesta Thomas, Y Groeslon, Arfon]
GWRANDEWCH
AR ANN ROSSER, Lon-las, Abertawe, [Tâp 8915] yn cofio’r
prinder siocoled a’r banana cynta welodd hi wedi’r
rhyfel :
“Wi’n cofio’r banana cynta yn dod i’r
stryd a fuss fawr am hwnna a mewn ffordd on i’n siomedig
– on i ddim yn gweld lot yn yr holl beth ar ôl yr
holl fuss. Wi’n cofio – chi’n gwbod y bocsys
Black Magic, wel yn ty ni … odd ‘na focs hyfryd â
rhuban coch arno fe a wrth gwrs dim chocolates yn y bocs. A odd
llun y siocledi gwahanol ‘ma ar y clawr a wi’n cofio
ishte ac edrych am orie ar yr hen glawr ‘na a dychmygu beth
fydde câl chocolate orange cup a coffee cream a’r
holl bethe ‘ma.”
Dogni
Bwyd: GWRANDEWCH AR MATTIE REECE, Pontardawe,
gorllewin Morgannwg, [Tâp 8879] yn egluro wrth Nest Davies
beth yn union oedd y rations bwyd a’r farchnad ddu :
“Chi’n sôn am amser rhyfel, allwch chi
sôn yn fwy am y rations? Fel odd ‘ch mam yn ymdopi
‘nawr â’r bwyd?
Wel, och chi’n câl dwy owns o fenyn yr un, a och chi’n
câl cwarter pownd o fargarîn, hanner pownd o siwgwr,
a fi’n cretu taw un wy … pan fydde wye’n dod
miwn, a cigmoch a cig … fi’n cretu och chi’n
câl gwerth dwy geinog neu grot o corned beef neu rywbeth,
chmbod. Ond on ni’n catw moch … a ffowls amser rhyfel
so odd hwnna’n ‘neud lot o wahanieth.
Wel ar y black market, chi’n gweld, odd popeth i gâl.
A jiw on nhw’n mynd â nw (moch) mewn ambiwlansys a
mewn hers a phopeth – mynd â moch … a wrth gwrs
odd menyn a popeth i gâl ar y farchnad ddu – odd e
gâl os och chi’n fodlon talu amdano fe.”
Bu Mareth Lewis {LLUN} o Lanelli [Tâp 8913
] yn dweud wrth Ruth Morgan amdani’n mynd adre i’w chartre
yng Ngwrtnewydd, Dyffryn Teifi adeg y rhyfel ac yna’n dychwelyd
i’w lodgings yn Llanelli :
“Chi’n cofio yn ystod y rhyfel, och chi’n mynd
gartre, och chi’n gweud. Och chi’n dod nôl â
unrhywbeth?
On ni’n dod nôl â menyn ffarm, ond on i ddim yn
gweld y menyn. Odd y fenyw on i’n byw gyda, odd hi a’r
teulu’n byta’r menyn i gyd. A on i’n dod â
ambell i ffowlyn, a beth arall? O wye, lot o wye.”
EDRYCHWCH hefyd ar GERDYN ADNABOD Mareth Lewis – roedd yn
rhaid i bawb gario un fel hyn gydol y rhyfel.
“Os oeddach
chi efo llyfr rations glas, hynny ydi os oeddach chi’n blentyn,
oeddach chi’n cael bananas ... Oeddach chi’n ciwio
am hyn, a chiwio am llall, a disgwyl yn y rhes nes oeddach chi’n
cael eich dogn.” [Tâp 9638 Môn]
“Wchi adeg rhyfel be’ oeddan ni’n gâl odd
condensed milk. Wedyn gwneud bechdan efo condensed milk...Oeddan
ni’n mynd i’r pictiwrs ar nos Wenar, odd ganddon ni
ddim cwpons i brynu petha da...wedyn mynd i ardd ’y Nhad ne’
Yncl John drws nesa a mynd â gwsberis efo ni i’w byta
yn y pictiwrs...” [Tâp 8976 Elen Evans,
Garndolbenmaen, Dwyfor]
“Doedd ’na’m llawar o ddewis. Bwyd cyffredin iawn
oedd yna. Dwi’n meddwl fuon ni fel teulu yn ffodus iawn bod
Mam yn gogyddes arbennig o dda, a bod hi’n medru gneud rhwbath
allan o ‘chydig, mewn ffordd.”
[ Tâp 9425 Beti Eurfron Hughes, Llanaelhaearn,
Dwyfor]
“Dwi’n cofio’r llyfr rations. Ryw lyfr lliw hufen
oedd o. … Ond ’da chi’n gweld, am bod gynnon ni
dwy neu dair buwch odd gynnon ni bob amsar lefrith. Odd Mam yn gneud
menyn. Odd gynnon ni ieir, wyau. Odd gynnon ni ardd...odd gynnon
ni bob amsar datws. Dwi’n cofio, odd gynnon ni rês o
gwsberis, mi odd gynnon ni goed eirin, mi odd gynnon ni gerllyg,
fala, mi odd gynnon ni bys yn tyfu yn ‘r ardd, cabaits. Oeddan
ni fatha bron iawn yn hunan-gynhaliol amsar honno ’de. Ar
wahân i ffrwythau fel orennau a ballu. Ond wrth gwrs, oeddan
ni’n gneud y mwya, amsar y rhyfal oeddan ni’n mynd o
gwmpas i hel hips – rosehips. Ag oeddan ni’n câl,
dwi’n meddwl, os dwi’n cofio’n iawn tua chwe cheiniog
y pwys …Odd Nain yn un dda ofnadwy efo ryw betha felly –
odd hi’n medru gneud syrap allan o hynny.” [Tâp
9396 Môn]
“A dwi’n cofio mynd i’r Food Office `ma, i nôl
y Cod Liver Oil a’r Orange Juice. Ac oeddan ni’n câl
Horlick’s Tablets yn ‘r ysgol, amsar chwara, i gadw’n
iach.” [Tâp 9180 Alun-Dyfrdwy].
EDRYCHWCH AR LUN YR YMGYRCH I HYRWYDDO IECHYD MAMAU
A BABANOD WEDI’R RHYFEL TRWY’R GWASANAETH BWYD MAETHLON,
CAERNARFON, 1951.
Yn eistedd yn y blaen y mae Miss Hobson, ymwelydd iechyd, Mrs Madoc
Jones, Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Bwyd Gwyrfai) a Miss H. Evans,
ymwelydd iechyd.(trwy garedigrwydd Gwyneth Edwards, Y Bermo)
A sut oedd ymdopi
ar adeg priodas yng nghanol y fath brinder?
“Yn adeg rhyfel nesh i briodi, nineteen forty two, ag oeddwn
i methu cael ffrwyth i neud ’y nghacan, a mi odd ’na
baker oeddan ni’n digwydd ’i nabod, a mi nâth
o neud jest un layer, a doedd ’na ddim icing sugar i’w
gael, ond os oedd gynnoch chi doeddach chi’m i fod i’w
iwsho fo. So mi nâth o neud chocolate icing drosti i gyd.”
[Tâp 9710 Gwladys May Roberts, Llanbedrycennin,
Aberconwy]
Ac am rai blynyddoedd wedi’r rhyfel parhaodd y dogni fel y
cofia Ann Roberts , Penybont-ar-Ogwr yn rhy dda [Tâp 9247
ganwyd Llanwddyn ac yn priodi ger Caernarfon]
“ … buodd rhaid i ni gael tystysgrif arbennig o’r
Swyddfa Bwyd i gael caniatâd i gael y pobydd yn Bangor i wneud
teisen (briodas) ...roedd hi’n dair teisen, un fawr ar y gwaelod,
un gymhedrol yn y canol ac un fach ar y top.”
Ac fe ddengys *LLUN CACEN BRIODAS Dilys Davies, Aberdâr [Tâp
9835] iddi hi lwyddo, yn 1949, er gwaetha’r dogni i ddathlu
mewn tipyn o steil:
“…
dâth hanner y stwff i `neud hi o Canada, on ni ffili câl.
Odd modrybion gyda fi mâs `na a on nhw’n hala icing
sugar a ground almonds, ie. A odd ffrind drws nesa, odd `i thad
hi â contacts, odd e’n gwitho yn y Post. Wel, cafodd
e tunie o gig, chmod, fel brisket beef neu rhywbeth fel `na, a
dim ond trwy lot o help `da nhw…A ceso i’r Frecwast
yn hall – odd lot o waith i Mam, ond ceso i Reception beautiful…
EDRYCHWCH AR FIL BRECWAST PRIODAS GWESTY’R
‘PRINCE OF WALES’ CAERNARFON 1947 – pan oedd dogni
yn dal yn ei rym.(trwy garedigrwydd Eirlys Williams , Deiniolen)
Cwpons dillad:
Yn ôl Jennie Iforian Jones, Porthaethwy,
Môn [Tâp 9808] ceid hyn a hyn o gwpons dillad mewn blwyddyn
ac roedd angen 7 ohonynt i brynu ffrog; 2 am bâr o sanau a
5 am bâr o esgidiau.
“… gorfod gwneud defnydd o betha. Ail-ddaffod petha
i wneud trowsus i’r hogia ne’ gôt fach allan o
hen gôt. Ac os oedd ganddoch chi rwbath wedi’i wau,
ail-ddaffod y gwau i gael pethau er’ill.” [Tâp
9200 Nancy Byrne, Nefyn, Dwyfor]
“Y neilons ’ma – o’dd rheini yn betha prin
ofnadwy, wchi. Dwi’n cofio cael rhai – rhai yn dod gynta
gan berthynas i Mam yn ‘Merica wchi, w, a meddwl mod i’n
‘it’.” [Tâp 9425 Beti Eurfron Hughes,
Llanaelhaearn, Dwyfor]
“Odd isho cwpons i bob peth ‘toedd? … pâr
o sana silk yn Woolworth am swllt …Ond doedd ‘na ddim
cwpons, nagoedd. Wedyn be oeddan ni’n neud oedd rhoi gravy
browning … ar ein coesa, wchi, a tynnu lein i fyny o ganol
ych sowdwl i fyny i dop ’ch coes i ddangos bod gynnoch chi
sanau fully-fashioned. Dillad dydd Sul oedd yn gneud dillad gyda’r
nos ‘te? Oeddan ni’n real frumps” [Tâp 9306
Pegi Lloyd Williams, Blaenau Ffestiniog, Meirionnydd]
A chofia Marlis Jones, Bro Cyfeiliog, Maldwyn/Powys
[Tâp 9611], ond o Fethesda yn wreiddiol, rwystredigaethau
y prinder dillad a bwyd Doedd dim bananas yn y siopau lleol ond
roedd rhai ffug yn hongian uwchben ac roedd y rhain ‘fel greal
sanctaidd allan o gyrraedd rhywun’. Ac o safbwynt gwau, doedd
dim modd cael edafedd iawn ond gellid cael yr hyn a elwid yn yarn
– rhyw ffug gotwm a oedd fel llinyn i’w wau.
Prinder dur:
Priododd Arfona (Vona) Jones, Gorseinon, gorllewin
Morgannwg, [Tâp 8882] yn 1939 a gweithiai ei gwr yng Nghwaith
Dur y Beaufort, Glyn Ebwy. Dechreuon nhw eu bywyd priodasol heb
cooker gan fod yr holl ddur wedi mynd at yr ‘ymdrech ryfel’.
Diwedd y dogni:
“Un peth diddorol am y ration – pan oedd o’n gorffen,
ymhell ar ôl y rhyfel...wedyn dyma nhw’n penderfynu
bod yn bryd i ni ddod oddiar y ddogn fferins, a dyma pobol yn mynd
yn hollol berserk drw’r wlad i gyd, wchi. Odd ’na ’m
un fferen ym Mhrydain i gyd, wchi. ’Aru pawb brynu bob dim
dan haul...Doedd ’na’m byd i’w gael. Am bythefnos,
oeddach chi’n methu cael dim byd o gwbwl. Oedden nhw’n
gorfod rhoi ni nôl ar ration.” [ Tâp 9318 Carys
Humphreys, Bangor] |
|
|
©
Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved
/ Cedwir pob hawl.
|
|