“Anghofia
i byth y nosweth gorffennodd y rhyfel. Cerdded i lawr y ffordd
i Barry Island, a gweld – odd neb wedi tynnu y llenni. Odd
y llenni i gyd nôl. a och chi’n gweld pob teulu â’r
gole, achos och chi ddim fod i ddangos dim gole, neu odd yr A.R.P.
ar ‘ch gôl chi. Odd e’n hyfryd, gweld y teuluoedd.
Odd e’n wonderful, oedd.”
[Tâp 9681 Elisabeth (Beti) Lloyd, Dinbych,
Glyn Maelor ond o Lwytgoed ger Aberdâr yn wreiddiol ac yng
Ngholeg Hyfforddi y Barri ar y pryd]
“On i’n Gosen ar y pryd a dwi’n cofio …
y newydd wedi dod fod y rhyfel ar ben. A’r noson honno yn
hwyr felly oedd ‘na ffridd yno ac eithin ac ati wedi tyfu
arni a oeddan nhw wedi rhoi tân arni i gael ffordd o fynegi
…a dwi’n cofio hefyd bod adre a mynd efo Mam, oedd ‘na
gyfarfod gweddi ymlaen … i ddathlu mewn ffordd diwedd y rhyfel
ac yn gofyn inni yn ein tro ddewis emyn neu adnod … a dwi’n
cofio gofyn iddyn nhw ganu’r emyn ‘O nefol addfwyn oen,
sy’n llawer gwell na’r byd’.”
[Tâp 9556 Olwena Evans, Y Bontuchel, Glyn
Maelor]
“Dwi’n cofio diwrnod V.E. Day oeddan nhw’n galw
fo. Oeddan ni i gyd fel genod yn gwisgo red, white and blue i gyd
ac yn mynd mewn gangia rownd y lle i gyd yn gneud y conga reit rownd
y dre. Dyna be oedd yr hwyl.” [Tâp 9568, Môn]
Cofio’r bechgyn
yn dod adre o’r rhyfel a dyma bobl Llanerfyl yn gwneud swper
mawr yn y neuadd ac roedd y milwyr yn dod ag un gwestai efo nhw
…. Roedd fy Nain yn anghytuno yn ofnadwy efo’r swper
yma, ‘Ar ‘ch glinie ddylech chi fynd am eich bod chi
wedi dod adre o’r rhyfel’. … Roedd Erfyl Fychan
yn wr gwâdd ac wedi gwneud penillion :
‘Rhown groeso i’r bechgyn
Yn ôl i’w hen dud,
Mae calon wrth galon
Yn curo o hyd"
‘Eiriolwyd mewn gweddi
…….. ar eu rhan,
Mewn capel, ar aelwyd
Ac eglwys y llan …
Rhown ddiolch i Dduw
Am ddychwel y bechgyn
O’r rhyfel yn fyw.’”
[Tâp 9751 Dwynwen Jones, Llanerfyl, Maldwyn/Powys]
Daeth trigolion
Cemais, Môn allan yn dyrfa i groesawu gwr ifanc lleol, Hugh
Binney, gartre; “y pentra, babis, pawb yn eu dylo nhw …
roeddan nhw wedi agor top y car a clapio iddo fo”, yn ôl
un siaradwraig [Tâp 9364]. Roedd e wedi bod yng ngwersyll
Belsen ac roedd bron yn methu â cherdded yn ei wendid mawr.
Gosodwyd canhwyllau ym mhob ffenestr gan nad oedd goleuadau yn
y stryd. A’r cyfan yr oedd y truan eisiau oedd ‘paned
o de gan ei fam.
GWRANDEWCH
AR AGNES JONES, Tywyn, Meirionnydd [Tâp 9367] yn adrodd
ei hatgofion hi o ddiwedd y rhyfel ( VJ Day Awst 1946) wrth Sharon
Owen.
“O ie, un peth ges i dipyn o brofiad. On i’n
mynd i’r Steddfod Genedlaethol, Rhosllannerchrugog, cyn
i ni briodi odd hyn, ac yno y diwrnod hynny oeddan nhw’n
cyhoeddi bod y rhyfel drosodd yn Japan. A dwi’n cofio’n
iawn Elfed yn arwain ac yn stopio’r steddfod i gyhoeddi
hyn. A mi stopiwyd y steddfod am awr i ganu emyne. Odd hwnnw’n
brofiad mawr achos odd ’y mrawd yn digwydd bod yn Singapore
ar y pryd yn y Navy, ynde, a wedyn odd o’n brofiad mawr,
hwnnw dwi’n cofio.
L a, sut oeddach chi’n teimlo ar ôl clwad y newydd
yna?
Oedd o, Odd o’n ryddhâd mawr ofnadwy ’de...”
EDRYCHWCH AR Y DARLUN O’R PARTI I DDATHLU
BUDDUGOLIAETH YN SIAPAN [trwy garedigrwydd Jean Rees, Ystalyfera}
“Sô
ni isho rhyfal eto. Bobol mawr, dwi ’di gweld dwy, dwi’m
isho un eto.” [Tâp 9383 Ann Mary Williams,
ganwyd 1901, Rhosmeirch. Môn]