Yn ôl Beti Williams, Llangwyllog, Môn [Tâp 9391] :
“(Roedd) ‘for the duration’ yn ymadrodd oedd yn cael ei ddefnyddio yng nghyd-destun yr Ail Ryfel Byd.”



“Dyma fi’n clywed bod y rhyfel wedi torri allan, mis Medi `39, a dwi’n cofio meddwl ‘Fydd y byd fyth `r’un fath eto;’ fel `sa ryw gwmwl du mawr dros pob peth. Ond mi ddaethon i ddygymod â fo …” [Tâp 9369 : Eirlys Jones, Y Ganllwyd, Meirionnydd]



“Sobor. Sobor iawn. Odd o fatha ’sa rywun wedi cael ergyd o rwla, chi’n gwbod. Bora dydd Sul odd hi, unarddeg o’r gloch y bora, a’r gwr yn dod adra o’r capel wedi bod yn gwasanaeth bora, a dyna news : ‘We are at war with Germany’, Chamberlain yn announcio fo. Wedyn, mi ddôth ’na faciwîs, yn do? Odd raid i rywun helpu a gneud. “ [Tâp 9710 : Gwladys May Roberts, Llanbedrycennin, Aberconwy]



“Dwi’n cofio’r diwrnod pan torrodd hi allan – diwrnod pen-blwydd `y mrawd, dydd Sul y trydydd o Fedi. Dwi’n cofio’n iawn. Mynd adra a gwrando ar y radio. Rhedag o’r capal adra. Cau’r capal cyn unarddeg - oeddan nhw’n deud bod y peth yn mynd i fod. Dwi’n cofio’n iawn Robin yn crïo, ‘Diwrnod `y mhen-blwydd i’, medda fo. A mynd i capal pnawn, mynd i lawr yr allt yn pnawn...a pawb yn crïo...Dwi’n cofio’n iawn pawb yn crïo ac yn canu. W, teimlad ofnadwy, eto doeddan ni’m yn gwbod be oedd yn mynd i fod. Deuddeg oed on i.” [Tâp 9414 : Lora Ann Roberts, Llanystumdwy, Dwyfor]



“Ma’ gin i go’ dwad pan dorrodd y rhyfal allan gynta, ag ar y ffordd i ty$ Nain a Nhaid odd chwaer ’y Mam yn byw, a dwi’n cofio deud wrthi bod ’na ryfal yn Lerpwl ’de? To’n i’m yn meddwl bod ’na ryfal yn Sir Fôn.” [Tâp 9418 :Gwynneth Rowlands, Benllech, Môn]



(yn sôn am anghytundeb rhwng ei thad a gwr busnes lleol, Davy John Arthur, ac nad oedd fawr o Gymraeg rhyngddyn nhw)
“Yn y nos, un noson, a oeddan ni wedi mynd i’r gwely … a dyma swn y tu allan – rhywun yn gweiddi, ‘Harri’, yng nghanol y nos. A dyma ‘nhad yn mynd i’r ffenest a dyma Davy John Arthur yn gweiddi, ‘Tyrd Harri bêch mewn munud’, medda fo, ‘mae’r Jeris ym Mallwyd!’ … A dyma’r ddau yn mynd efo’i gilydd i ymladd y Jeris a gadael ‘n mam a fi yn ein gwlâu yn ddiamddiffyn hollol.” [Tâp 9751: Dwynwen Jones, Llanerfyl, Powys]



“On i bron wyth mlwydd oed pan dorrodd y rhyfel allan. A dwi’n cofio dod nôl i ginio, on i’n dod gatre o ysgol Gorseinon i gâl cinio amser cinio, a cofio mam (odd hi ddim yn dda wrth gwrs) … yn gorwedd ar y soffa … yn y gegin ac yn llefen a newyddion y radio arno, a llefen a on i ddim yn gwbod pam odd hi’n llefen. Odd hi’n gweud bod rhyfel wedi torri allan. Ac wrth gwrs cafodd ‘mrawd hyna ‘i alw yn syth … ond ‘sdim rhyfedd odd mam yn llefen – on i ddim yn sylweddoli y tristwch fydde’n dod yntefe? … a beth odd e’n ei olygu ‘te …” [Tâp 8880 : E. Enid Penry, Gorseinon, Gorllewin Morgannwg]



Ac eto fel y dengys y DARLUN o GWRDDE MAWR, TALOG, Caerfyrddin, ym mis Medi 1939 ai rhai pethau yn eu blaenau fel arfer, dros dro beth bynnag. {trwy garedigrwydd Gwinnie Thomas, Caerfyddin}




GWRANDEWCH ar Mair Williams, Pump-hewl, Llanelli (Tâp 8814) yn disgrifio beth ddigwyddodd iddi hi pan dorrodd y rhyfel allan ym Medi 1939 :

“Torrodd rhyfel mâs ar ddydd Sul ac on i’n eighteen ar y dydd Mercher. Chi’n moyn gwbod rhywbeth bach diddorol ambyti hwnna ‘nawr te? Ymadawes i’r ysgol, a dim gwaith yn Llanelli o gwbwl. A dâth chwaer `y nhad, yr ifanca, chwaer ifanca `nhad, yr un odd wedi bod yn window dresser, dâth hi lawr am holiday i aros yn yr ardal. Odd hi’n byw yn Gillingham yn Kent.

A medde hi wrtha i, ‘Dere nôl gyda fi’, medde hi ‘ma digon o waith lan `co.’ So nôl es i gyda hi a ges i jobyn i witho yn Costing Office yn Short Brothers odd yn `neud yr Sunderland Flying Boats …a bues i’n gwitho fan`ny wedyn hyd nes bod y rhyfel yn torri mâs.

Ar y bore dydd Sul torrodd rhyfel mâs, ishte yn y capel ‘na on i ar ben yn hunan - odd hi ( ei ffrind - Ada) yn y côr. On i nôl yn gwt y gynulleidfa yn ishte ar ben yn hunan. Ath y seiren am unarddeg o’r gloch achos odd rhywun wedi gweld plane yn dod grôs y Channel neu rywle ac âth y seiren. Cerddes i mâs, odd pawb wedi diflannu, on i mewn ardal diarth, ond pwy ffindiodd fi ond y pregethwr - gweinidog y capel, Mr. Speller oedd ‘i enw e. (On nhw’n galw Mary arna i achos on nhw ffili gweud Mair, chwel) ‘O Mary’, medde fe, ‘you’re on your own’. A wedes i, ‘Yes, I shall go home now’.

‘Oh’ medde fe ‘You’d better not, you’d better go to an air raid shelter with me’. A ‘na ble bues i, fe a fi yn yr air raid shelter nes bod yr ‘All Clear’ yn mynd byti awr yn hwyrach. A dyna’n profiad i o dechre’r rhyfel.

Bore trannoth ces i lythyr wrth `nhad, a rwyn cofio’r geirie ‘nawr : ‘Dear Mair, war has been declared. Come home immediately. You are in a dangerous zone on the east coast. Pack up and come back. On no condition are you to join (on i dan twenty one, still under parent control).

Under no condition are you to join any women’s organization without my strict permission. Expect to see you tomorrow’. Reit! A ‘ma fi’n gweud wrth yn Anti, ‘O wel, mae e wedi gweud, (on i dan twenty one) - mae e wedi gweud, well i ti fynd’. Odd ddim arian i gael ‘da fi … gorfod i fi gael mentyg arian ‘da’n anti i ddod gatre; ‘a cofia bo ti’n hala fe nôl i fi.’ A ces i mentyg ‘i blazer hi - odd hi’n dywydd twym, y mis Medi ‘na.

Ces i mentyg ‘i blazer hi i wishgo i ddod gatre, achos odd ddim llawer o ddillad ’da fi yn hunan, dim ond school frocks odd i gal ‘da fi, a des i gatre. Ces i mentyg arian ‘da ‘nhad wedyn i prynu postal order i posto yr arian nôl iddi a talu’r postage a paco’i blazer hi i hala hi nôl iddi. Odd pishyn whech ‘da fi - chi’n gwbod beth yw pishyn whech? - beth yw e heddi? - braidd dim – six old pense. A mi caries i’r pishyn whech ‘na yn y mhoced am whech mis - on i’n gwbod os halen i fe, fydde dim byd i ga’l ‘da fi …


On i still mâs o waith ‘nawr … on nhw’n cymeryd interviews wedyn yn y Royal Ordnance Factory yn Pen-bre. Ces i interview fan’ny, ces i’n accepto, ces i jobyn a dechreues yn fan’ny wedyn yn January 2nd 1940 - dechreues i gwitho fan`ny …”

  
  

© Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved / Cedwir pob hawl.