|
|
“On i lico’u
cyfarch nhw i ddangos `mod i â diddordeb yn `u hiaith nhw.
Ac yn gofyn i Mario odd acw be `dy ‘How are you today’
yn Italian. ‘Amore mia’ meddai yntau. A minnau mor
wirion, pan on nhw’n dwad, yr Italians druan, on i’n
dweud ‘Amore mia’ heb feddwl mai ‘I love you’
oedd y cyfieithiad!”
[Tâp 9115 Mari Wyn Jones, Y Parc, Y Bala,
Meirionnydd ]
“Mi oedd
`na Prisoners of War yn Pandy Tudur, odd `na ddau, un o’r
Black Forest, a’r llall o Ogledd yr Almaen, ac oeddan ni
wedi dod i nabod nhw. … A ffarmwr oedd Wili – William
– ac roedd yn digwydd bod yn aros efo bobol oedd yn gwbwl
…ddim yn casàu neb, - heddychwyr mawr, oedd y gwr,
a William oedd ei enw yntau hefyd.
A ma `na stori fod William yr Almaenwr yn deud wrth Wili, Pandy
Tudur :
‘For you and me Wili, there is no war, is there?’.
Ond odd e wedi cael ei gamdrin yn arw mewn rhai llefydd, on i’n
clywed.
Oeddan nhw’n dod acw i swper pan oedd Iona’n fabi
bach, ag oeddan nhw wrth `u bodd a mi’n rhoi bath i Iona…Odd
Wili wedi dweud :
‘Well, you know, she trusts us to come and see her little
girl.’
Wel, odd o’n ddim byd i mi, nac oedd. `Na’r argraff
fwyaf, fod yr Almaenwyr a ninnau ddim isho rhyfal, wir.”
[Tâp 9134 Catherine Hughes, Treffynnon,
Alun Dyfrdwy]
“A dwi’n cofio Wil ( ei chariad) yn dod â dau
yma … a fydda mam Wil yn câl y ddau Eidalwr yma, ‘Ma’n
nhw’n blant i rywun’, meddai,, a bydda hi’n cael
nhw yma un noson bob wsnos a mi fydda hi wedi gwneud pryd o fwyd
iddyn nhw. … oedd hi wedi gneud ar lai ei hun er mwyn rhannu”.
[Tâp 9306 Pegi Lloyd Williams, Blaenau Ffestiniog,
Meirionnydd]
GWRANDEWCH
ar Edna Stenger, Abergwaun [Tâp 8859 ]
yn sgwrsio gyda
Ruth Morgan am garu gyda Karl, Almaenwr a charcharor rhyfel, cyn
ei briodi yn 1949:
“Ar
ôl i’r rhyfel ‘bennu nawr wê’r Almaenwyr,
y prisoners of war byth rownd ffordd hyn yn gwitho ar y ffermydd.
A wê un - o’n i wedi ffansïo fe am amser, –
six-footer a pen o wallt gole – wena i’n nabod e,
wena i’n gwbod ‘i enw fe
( yna dechreuon nhw gwrdd â’i gilydd) …
Odd y teulu chi’n gwbod bo chi’n gweld e?
Dim ar y start, na wên. Ond fe ddeson i wbod.
A beth odd yr ymateb?
Wel, rhaid i ti gofio nawr bo Alun ‘y mrawd wedi câl
peder mlynedd yn yr army yn wmladd yn erbyn yr Almaenwyr a wedi
câl, wel, amser gwael. Ond unwaith ddeson nhw i nabod Karl
odd popeth yn olreit.
So faint o amser wedech chi gymerodd e iddyn nhw ddod i nabod
e ,i’r peth i gâl i dderbyn?
Cwpwl o fisodd ddweden i.
A odd pethe’n lletwhith yn yr amser ‘na?
O wê, itha lletwhith hefyd. (chwerthiniad)
Lot o gwmpo mâs ne beth?
Na wê ddim really. Dim ond byse well gyda nhw os bysen i’n
caru gyda ryw fachgen arall, os ych chi’n deall?
Ond dderbynion nhw fe?
O do, a meddwl y byd amdano oddi ar hynny, chmbod. …
Beth am agwedd pobol erill yn yr ardal – fel y teulu a’r
..?
Wel cymysgeth. Wêdd rhai yn ddigon bodlon – yn garedig
iawn. Wêdd rhai erill yn troi bant pan on nhw’n gweld
ni. Ond erbyn briodon ni wêdd pob un wedi dwad i dderbyn
e, chmbod. Briodon ni yn capel Pentowr a geson ni hanner can mlynedd
o hapusrwydd gyda’n gily’. Fuodd dim gwell gwr na
dim gwell tad yn y byd ‘ma. …
(Flwyddyn wedi iddyn nhw briodi aeth Edna a Karl i’r Almaen
i gwrdd â’i theulu yng nghyfraith)
Odd mam Karl, menyw fach, bitw fach odd hi, ond O! odd hi’n
annwyl. Amser y rhyfel, reit? wêdd hi wedi câl llythyr
o’r War Office nawr yn yr Almaen – bod ei ddou fab
hena hi wedi câl ‘u lladd mâs yn Rwsia a wedyn
odd hi wedi câl dou teligram arall bod Karl ar goll ‘presumed
dead’ a Robert ei frawd e ‘run peth. Ar un amser wêdd
hi’n meddwl bod hi wedi colli’r pedwar rocyn, ond
diolch i Dduw prisoner of war wêdd Karl a Robert. …
So, beth odd ‘u teimlade nhw tuag atoch chi, tuag at y ffaith
bo fe wedi priodi rhywun o Brydain a ?
Wel dim ond caredigrwydd weles i, dim arall.
Ar y start pan on ni’n caru wê crowd o grwts o Bencw,
on nhw yn mynd i ddawnso i’r church halls bob nos Sadwrn
‘run peth â ni a wêdd hi’n habit gyda
nhw i bwmpo mewn i ni – ti’n gwbod, shwt galla i weud,
yn bwrpasol ‘te, bwmps … Wê Karl wedi dachre
llenwi forms a phethe i ddod yn naturalised. O achos hynny wê
polisman yn dod lan shwrne’r mis jyst i siarad ‘da
fe abwti pethe, ti’n gwbod? a ddeson nhw’n ffrindie
mowr. Wel, un nosweth yn y ddawns wê’r plismon wrth
y drws a welodd e beth odd yn digwydd. Ac os câth bois come
up eriôd – Wel gâth rheini! Geson ni lonydd
ar ôl ‘ny.”
EDRYCHWCH AR Y DARLUN O BRIODAS ANGELINO AC ORLENA SATARETO yn 1951.
Daethai Angelino i weithio ar fferm Gwinnie Thomas, Abernant ger
Caerfyrddin o’r gwersyll carcharorion rhyfel yn Henllan. Roedd
ei ddarparwraig yn gwasanaethu ar fferm yn Llandysul ar y pryd.
Wedi iddynt briodi bu’r ddau yn byw yn y parlwr ar fferm Gwinnie
yn Tafarn Uchaf, nes iddynt gael eu hail blentyn. Roedden nhw wedi
cael eu fferm eu hunain erbyn hynny. Bellach maent yn ôl yn
byw yn yr Eidal.
GWRANDEWCH
ar hanes Maisie Nitsch, Llangadog [Tâp 8952 ] yn disgrifio
sut y priododd hi Fritz, carcharor rhyfel o’r Almaen yn
union wedi’r rhyfel. Roedd hi yn 19 oed ac yntau yn 23.
Mae’n dweud hefyd beth oedd wedi digwydd i deulu ei gwr
yn yr Almaen. Ond yn gyntaf, ble cwrddon nhw?
“Wel, odd e’n dod mâs o’r camp,
dâth e draw , chi’n gweld, i Caerfyrddin - i Llanddarog
– Camp hundred and two, 102. Wedyn delon nhw mâs i
camps fel Llandyfri a Llandeilo. Dâth e i Llandyfri. Wedyn
daethon nhw mâs yn ddyddiol wedyn, i witho mâs, chmbod,
ar y ffarm yntefe, a on nhw’n dod mâs ar y lori a
mynd nôl yn y nos, yntefe, a odd e byti hanner milltir o
ffarm ni, yntefe?. A wedyn odd y ffarmwr yn gweld bo fe’n
withwr da, yntefe, on nhw wedi appleio i gâl e i sefyll
miwn, yntefe? So, fel’ny, ‘na shwt gwrddes i â
fe. Odd gyda ni bachgen gyda ni hefyd yntefe, yn sefyll gyda ni.
Wedyn odd e’n dod draw … a wedyn … dechreues
i dysgu, moyn dysgu, German, yntefe. A on i wedi dysgu tamed bach
gyda bachgen ni, yntefe, Wili. A dyma Fritz yn dod i’r clos
(odd still dillad y prisoner ‘da nhw bryd hynny chi’n
gweld, on nhw’n gorffod gwisgo nhw)
Beth odd y dillad fel?
Gwyrdd a patshin diamond ar y cefen, chi’n gweld. A dâth
e miwn ar y beic, bicycle, miwn i clos ni, … a gwedes i
‘Guden Abend’, chi’n gweld. On i’n moyn
practiso’n German nawr. A gâs e shwt gyment o sioc
odd e jyst cwmpo off y beic. A wedyn odd e’n dod mwy amal
wedyn, chi’n gweld. … Odd pethe ddim rhy dda amser
on ni’n gweud bo ni’n moyn priodi yntefe, gan bod
pethe fel on nhw, yntefe, a fe still yn alien os gwedon nhw yntefe,
chmbod on nhw’n câl i cownto fel aliens yntefe? A
on nhw yn gorffod riporto i’r polis bo hyn a hyn yntefe,
‘chmbod odd e ar y llyfyr bach, odd e’n câl
‘i stampo, ‘chmbod. A fel’ny. Priodon ni yn
Registry Office yn Caerfyrddin.
A chmbod, beth odd barn ‘ch rhieni chmbod. Gaethoch chi
brobleme?
O, do, do, do, do – O jiw, jiw a ‘Nad wedi bod yn
Rhyfel Cyntaf a cwbwl yntefe. Wel, o dipyn i beth daethon nhw
rownd. …
O’dd tylwyth gyda fe nôl yn yr Almaen?
Wel, galla i weud wrthoch chi nawr, wel, odd e ddim yn gwbod ble
odd ‘i dylwyth e. Dâth y Russians miwn a gorffod iddyn
nhw fynd fel’na , gadel y cwbwl – anifeiled, popeth
odd yn y ty, a gorffod nhw fynd a dreifo’r da nawr , gwedwch
chi seis sir Gaerfyrddin, draw i’r border Russia, heb fwyd,
‘i fam a’i whâr a’i dwy anti. Dim bwyd.
Reit, wedi mynd â’r da draw a on nhw ddim yn gwbod
ble i fynd nawr – refugees – ddim yn gwbod ble odd
mynd. Achos odd y Russians, on nhw’n saethu bob dyn on nhw’n
gweld. Wedyn ar y ffordd nôl âth un o’i antis
e’n dost ar y ffordd. So âth hi miwn i ryw le ar ochor
yr hewl fan’ny a odd y Russians ‘na, odd hi wedi meddwl
câl help, dâth hi byth mâs. Odd hi siwr o fod
wedi marw man’ny, chi’n gweld. A wedyn, odd e ddim
yn gwbod hyn amser briodon ni na dim byd.
Ryw ddiwrnod dyma Fritz yn câl llythyr o’r Groes Goch
, odd ryw ddyn pwysig, odd yn byw yn ‘i bentre fe wedi bod
yn ffindio mâs beth odd wedi digwydd i’r bechgyn,
a ffindiodd e mâs bod Fritz yn byw ble rodd e nawr trwy’r
War Ministry … Achos amser odd e’n y rhyfel odd e
wedi cael ‘i capturo gyda y Russians un waith ond dâth
e’n rhydd. A bryd hynny halon nhw teligram iddi fam e i
ddweud ‘i fod e’n ‘missing believed dead’.
A odd hi ddim wedi clywed dim byd wedyn, bod e’n fyw ‘to
chmbod. A nawr ‘na shwt dechrews hi, odd ‘i fam e’n
fyw bryd hynny a wi’n falch bo hi wedi câl gwybodeth
bod e’n fyw yntefe a wedyn fel hyn dâth e i wbod beth
odd wedi digwydd iddyn nhw.
So buoch chi mâs ‘na o gwbwl?
Wel gweles ddim o’i fam achos yn yr Eastern Zone on nhw,
chmbod, odd y wal lan a popeth. … Chmbod on nhw wedi câl
‘u gwasgaru i bob man, chi’n gweld; do do , do do
a fel’ny odd hi, yntefe?”
Ar y llaw arall
bu dynion, yn dadau, meibion, gwyr a brodyr, o Gymru yn garcharorion
rhyfel tramor hefyd. GWRANDEWCH AR BETHAN ROBERTS,
Llangrannog, Ceredigion [Tâp 9775] yn dweud wrth Aures Jones
sut yr effeithiodd y pryder a’r gofid ar ei theulu hi
“…Chmbod, naethon ni ddim diodde effeth y
rhyfel gyment â hynny, dim ond yn bersonol fel teulu. Daliwyd
‘nhad a oedd ar y môr wrth gwrs yn Narvik, bron ar
ddachre’r rhyfel, yn mis Mawrth neu Ebrill 1940. Roedd e’n
llwytho’i long ym mhorthladd Narvik yn Norwy a mi ddôth
yr Almaenwyr i mewn ac fe ddaliwyd yr holl longe, odd nifer mawr
o longe o Bryden yna, odd e’n borthladd pwysig iawn i haearn
crai, odd e’n dod o Sweden a dyna’r porthladd odd
yr holl haearn crai yn mynd draw wedyn i Bryden ar gyfer, chmbod,
ymgyrch y rhyfel yntefe. A fe gafodd e’i ddal fan’ny
ac yna fe’u cymerwyd nhw yn garcharorion a fuodd e ‘na
am ryw fis, fe welodd e’r rhyfel, yr ymladd mawr fu yn y
porthladd. Ac yna, on nhw ddim yn, chi’n gweld, oherwydd
nad oedden nhw ddim yn filwyr fel y cyfryw, on nhw ddim yn siwr
iawn beth i neud â’r morwyr ‘ma nawr. A beth
naethon nhw odd neud iddyn nhw gerdded ar draws y ffin, ryw ddeg
cilometr ar hugen, gan ddilyn y rheilffordd, a miwn â nhw
i Sweden ac fe gymrodd Sweden nhw, oherwydd doedd Sweden ddim
yn rhan o’r rhyfel, chi’n gweld.(neutral) On nhw yn
wlad neutral a fuodd ‘nhad fan’ny am ddwy flynedd.
Mi fuodd e’n ffodus iawn, ymhen ychydig fisoedd fe gâth
e fynd i ffarm at deulu, fu’n garedig tu hwnt iddo fe, ffarm
odd yn bridio cadnoed ar gyfer gwneud cotie ffyr. Dwn i ddim ydych
chi’n cofio odd hi’n ffasiynol iawn pryn’ny
i wisgo rhyw lwynog, beth on nhw’n galw silver fox dros
ych … a dyna beth odd y fferm ‘ma. Ond O! fuon nhw
yn garedig.
Wel wedyn yn ystod yr amser ‘na, odd, odd Sweden yn dawel
bach yn cyflenwi rhyw bethe pwysig ar gyfer ymgyrch y rhyfel ym
Mhryden ond odd e’n hollol, hollol hush hush, chi’n
gwbod, ac odd ‘na bump llong yn barod nawr i fynd draw â
beth bynnag odd e i Bryden a on nhw ishe swyddogion. Odd ‘na
gaptenied Norwyeg, wi’n meddwl on nhw, yn mynd ar y llonge
‘ma, a wir i chi mi gaethon nhw ‘u dal a fe gafodd
‘nhad ‘i gymryd yn garcharor i’r Almaen a fuodd
e yn yr Almaen hyd ddiwedd y rhyfel.
Sut och chi a’ch mam yn dygymod … chi’n cofio?
Wel, dwy waith buodd e ar goll a beth odd yn rhyfedd iawn odd, yr
ail waith, wel, odd mam bron wedi rhoi fyny nawr, chi’n gwbod,
meddwl bod e wedi mynd a na fydde… a rhyw noson, rhyw brynhawn
, dyma hi’n gweld –, wi’n cofio o hyd, wi’n
gweld hi’n dod nawr ar y ffordd fan’na, Mrs Price Pwllheli
yn dod a ‘ma hi’n gweiddi ‘Sal, Sal’, wedodd
hi, ‘Wi wedi câl llythyr wrth Crannog’, (‘i
mab odd yn garcharor rhyfel yn yr Almaen) ‘Ma Tom yn fyw’,
medde hi – ‘nhad. A beth odd wedi digwydd odd ‘y
nhad wedi câl ‘i roi mewn man nag odd e ddim yn câl
cymysgu gyda neb, chmbod, achos a gweud y gwir fe odd – odd
e wedi chwythu, odd raid iddo fe chwythu’r llong, tynnu ryw
blwg, odd y llong wedi chwythu lan a suddo, fel bod yr Almaenwyr
ddim yn gweld beth odd ar y llong. … Beth odd e wedi neud
wedyn odd, odd e wedi câl tamed bach o bapur a phensil o rywle
ac wedi sgrifennu ar hwnnw yn Saesneg ‘Rhywun yma o Gymru,
o Sir Aberteifi, o Langrannog, a wnewch chi roi gwbod i ‘ngwraig?’
a rhoi cyfeiriad Mam. A wedi plygu hwn yn fach a wedyn odd e wedi
cadw tamed bach o bapur silver o rywle, neu tin bach ne rywbeth
a taflu hwnnw allan.
Odd e’n gallu gweld y carcharorion erill yn cerdded nôl
a mlân a pan odd y bobol odd yn edrych ar ‘i ôl
e tu allan yn edrych ffordd arall, taflu hwnna a gweiddi yn Saesneg
‘Pick that up’ a odd rhywun wedi codi hwnnw lan a ffindio
Crannog a fe wedi sgrifennu adre. A ‘na ffordd dâth
hi i wbod. Mewn wythnose wedyn gâth hi wbod yn swyddogol bod
e yn fyw ac yn yr Almaen.
Tua pa ddyddiad dâth y news hyn
Odd hyn yn rhyfedd iawn - dou ddiwrnod cyn y Gymanfa haf, Cymanfa
Bwnc yn yr haf ac odd mam, chi’n gweld, ddim wedi bod allan
lawer, odd hi ddim awydd mynd i unman ond odd hi wedi, chmbod, addo
i fi bydde hi’n dod i’r Gymanfa haf. A ‘na braf
odd câl mynd a gwbod bod Dad yn fyw. Fuodd e yna hyd diwedd
y rhyfel a’r Gwarchodlu Cymreig ddôth i’w ryddhau.”
nhw. |
|
|
©
Copyright / Hawlfraint Hanes Merched Cymru 2002. All Rights Reserved
/ Cedwir pob hawl.
|
|